– Senedd Cymru ar 4 Rhagfyr 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar y cytundeb ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a'r datganiad gwleidyddol. Rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i gyflwyno'r cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM6889 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r Cytundeb Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol ar y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol y cytunwyd arnynt gan y Cyngor Ewropeaidd a Llywodraeth y DU, ond yn siomedig nad yw Cymru na’r Alban yn cael eu crybwyll yn unrhyw un o’r dogfennau.
2. Yn nodi’n benodol y trefniadau ar gyfer diogelu hawliau dinasyddion ac ar gyfer cyfnod pontio y mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau’n gyson drosto ac a fyddai’n osgoi’r canlyniad trychinebus lle na cheir cytundeb ym mis Mawrth 2019.
3. Yn nodi y bydd gan y Cynulliad gyfle arall i drafod y Cytundeb Ymadael wrth iddo ystyried a fydd yn rhoi ei gydsyniad deddfwriaethol ai peidio i Fil y Cytundeb Ymadael y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei gyflwyno.
4. Yn credu nad yw’r berthynas yn y dyfodol fel y’i rhagwelir gan y Datganiad Gwleidyddol yn bodloni’r model ar gyfer y berthynas rhwng y DU / EU yn y dyfodol a nodir yn Diogelu Dyfodol Cymru, sydd wedi cael ei gefnogi’n gyson gan y Cynulliad ac nad yw’n rhoi sicrwydd cadarn mewn perthynas â hawliau gweithwyr, hawliau dynol a deddfwriaeth yn ymwneud â chydraddoldeb yn y dyfodol.
5. Yn nodi bod llinellau coch Llywodraeth y DU wedi cyfyngu ar gwmpas y cytundeb dros dro y cytunwyd arno â’r UE ac yn credu y dylai Llywodraeth y DU ganolbwyntio’n hytrach ar ddiogelu perthynas hirdymor sy’n darparu fel bod modd cymryd rhan yn y farchnad sengl ac mewn undeb tollau, gan geisio ymestyn Erthygl 50 os bydd angen.
6. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU ddatgan yn awr ei bwriad i negodi ar y sail honno ac os yw’n methu â gwneud hynny, dylid naill ai cynnal Etholiad Cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus i benderfynu ar y telerau ar gyfer ymadawiad y DU, neu a ydy’n dymuno aros.
Diolch yn fawr, Llywydd. Brexit yn sicr yw'r her wleidyddol fwyaf difrifol i wynebu'r Deyrnas Unedig ers creu'r Cynulliad hwn ac mae'n her sydd wedi troi'n argyfwng llwyr o ganlyniad i'r ffordd ddi-glem a chynhennus y mae Llywodraeth bresennol y DU wedi rheoli hynny. Mae'r cynnig gerbron y Cynulliad yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru ar y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol, a pham nad yw'r rhain yn cyflawni'r math o Brexit a all sicrhau dyfodol Cymru.
Er mwyn osgoi amheuaeth, gadewch imi ddweud ar y dechrau fod y cytundeb sydd ger ein bron yn annerbyniol i Lywodraeth Cymru, ac yn un y credwn y dylid ei wrthod. Rwy'n gobeithio y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno â'r sefyllfa honno, fel nad oes unrhyw amheuaeth ymysg y rhai sy'n gyfrifol yn y pen draw am ddyfarnu ar y ddwy elfen o'r cytundeb y mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi dod iddo, y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol, ynghylch barn y Cynulliad hwn.
Llywydd, mae Senedd y DU ar fin cychwyn ar ei dadl pum diwrnod. Amserwyd ein trafodaethau y prynhawn yma'n fwriadol i sicrhau bod ystyriaeth y Cynulliad yn gallu dylanwadu ar bleidlais ystyrlon a fydd yn terfynu'r ddadl honno. Hefyd, mae angen i'r Cynulliad hwn ddylanwadu ar yr hyn sy'n digwydd os bydd Tŷ'r Cyffredin, fel yr ymddengys yn anochel bellach, yn gwrthod cytundeb y Prif Weinidog. Mae rhan olaf cynnig y Llywodraeth sydd gerbron y Cynulliad yn edrych tua'r dyfodol ac yn rhestru'r dewisiadau y credwn ni y dylid eu hystyried os mai dyna fydd yn digwydd.
Llywydd, rwyf eisiau bod yn glir ar y dechrau hefyd y byddai'r cyngor a roddodd Llywodraeth Cymru i bobl Cymru yn y cyfnod cyn refferendwm 2016 yr un fath os gofynnwyd inni roi cyngor heddiw. Ar sail yr holl dystiolaeth economaidd, byddai Cymru yn well yn aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd, ac nid yw ein ffyniant wedi ymwreiddio mor ddwfn nac wedi ei hannu mor eang fel y gallwn ni wirfoddoli i niweidio'n hunain yn economaidd. Eto i gyd, y ffaith yw bod Cymru a'r Deyrnas Unedig fel uned gyfan wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. A, Llywydd, ni waeth pa mor gryf yr ydym ni'n teimlo fel unigolion ar ddwy ochr y ddadl Brexit, nid hynny yw canolbwynt yr ystyriaeth y prynhawn yma. Yn hytrach, gofynnwyd inni ddod i'n casgliad ar y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol.
Dechreuaf gyda'r cytundeb ymadael, oherwydd mae'n amlwg iawn mai dyma'r mwyaf datblygedig o'r ddwy elfen, a hefyd yr agosaf o'r ddwy at safbwynt Llywodraeth Cymru. Yn wir, os cyferbynnaf y cytundeb ymadael â chynnwys 'Diogelu Dyfodol Cymru', y cytunwyd arno ar y cyd â Phlaid Cymru ym mis Ionawr 2017, ac araith Lancaster House Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn yr un mis, mae'n drawiadol faint yn union yn nes yw'r cytundeb at ein safbwynt ni nag un Mrs May. Mae'n cynnwys cyfres o amddiffyniadau ar gyfer hawliau dinasyddiaeth. Mae'n darparu ar gyfer cyfnod pontio, sydd mor hanfodol er mwyn osgoi dryswch aruthrol i'n heconomi, ac yn caniatáu ar gyfer ymestyn y cyfnod hwnnw os oes angen. Mae'n cynnwys ymrwymiad i dalu'n biliau. Mae'n cynnig alinio rheoleiddio ar gyfer nwyddau a chynnyrch amaethyddol. Mae hyd yn oed, wedi ei gladdu yn nyfnderoedd yr iaith ddryslyd, yn darparu ar gyfer undeb tollau. Ond, Llywydd, rhan o'r rheswm pam na allwn ni gefnogi'r cytundeb ymadael y prynhawn yma yw oherwydd yr union ddryswch hwnnw, oherwydd bod y cytundeb yn dangos, hyd yn oed ar y funud olaf hon, fod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn parhau'n amharod i egluro'n fanwl realiti ein sefyllfa. Yn hytrach, mae'n teithio o stiwdio deledu i stiwdio deledu yn ailadrodd mantras sy'n argyhoeddi neb ac, yn hytrach, yn llwyddo i berswadio pobl o safbwyntiau hollol gyferbyniol eu bod nhw yn unedig o leiaf yn hyn o beth—na wnân nhw gefnogi'r Prif Weinidog.
Felly, mae methiant y cytundeb ymadael yn wleidyddol yn ogystal ag yn ymarferol, ond mae gwendidau ymarferol gwirioneddol hefyd. Dyma dair ffordd yn unig y bydd y cytundeb ymadael yn methu â chyflawni canlyniad y gallai Llywodraeth Cymru ei gefnogi. Yn gyntaf, o ran cynifer o'r materion chwarae teg, disgrifiad technocratig o bethau sy'n wirioneddol bwysig i ddinasyddion Cymru, megis safonau amgylcheddol a hawliau gweithwyr, mae'r DU yn ymrwymedig dim ond i beidio â'u gwanhau—nid, mewn geiriau eraill, i geisio cael cyfatebiaeth i safonau esblygol Ewropeaidd. Rydym ni'n credu'n gryf, ac wedi dadlau'n gyson, os yw'r UE yn symud ymlaen mewn materion o'r fath, y dylai'r Deyrnas Unedig wneud hynny hefyd. Ni allwn ni ac ni fyddwn ni yn cefnogi unrhyw beth llai.
Yn ail, nid yw'r cytundeb yn ymdrin â materion y sector gwasanaethau, y rhan fwyaf o'n heconomi, a'r rhan y mae gan y DU warged clir mewn masnach gyda'r UE. Mae'n parhau i ddatgan bod y sector gwasanaethau ar wahân i nwyddau, gyda dim sicrwydd na fydd mynediad i farchnad sengl yr UE wedi ei gyfyngu'n ddifrifol. Mae'r cytundeb ymadael yn parhau i wahaniaethu mewn modd anymarferol rhwng nwyddau a gwasanaethau, a fydd yn niweidio busnesau Cymru, ac ni allwn ni ei gefnogi.
Ac yn drydydd, ac yn ymarferol, Llywydd, mae'r posibilrwydd o ffin ym Môr Iwerddon a fyddai'n cael ei rheoleiddio, gyda chanlyniadau anhysbys i berthynas economaidd Prydain Fawr gydag Ynys Iwerddon, yn parhau i fod yn faen tramgwydd i ni. Nawr, rydym ni'n derbyn y flaenoriaeth absoliwt o sicrhau nad yw ffin galed yn dychwelyd i Iwerddon, ond mae'r trefniadau wrth gefn, fel y maen nhw wedi eu llunio, yn parhau i beri pryder ac fe allan nhw fod yn niweidiol i Gymru.
Llywydd, gellid bod wedi lleddfu ein pryderon am y trefniadau wrth gefn yn gyfan gwbl drwy'r datganiad gwleidyddol y trof ato nawr. Gallai'r datganiad gwleidyddol fod wedi cynnwys ymrwymiad cadarn gan yr UE a'r DU i gael cyfuniad parhaol o undeb tollau a chyfranogiad llawn yn y farchnad sengl. Byddai hynny'n sicrhau na fyddai angen unrhyw rwystrau newydd rhwng unrhyw ran o'r DU a 27 aelod yr UE, sef yr ateb, wrth gwrs, a ddatblygwyd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Yn lle hynny, mae'r datganiad gwleidyddol yn amlwg yn methu â chynnwys ymrwymiadau cadarn o'r ddwy ochr i ddatblygu perthynas ar gyfer y dyfodol a fydd yn rhoi'r parhad mwyaf posibl i'n cysylltiadau economaidd gyda'r UE, yn gydnaws â pheidio â bod mwyach yn rhan o'i adeiladaeth wleidyddol. Yn hytrach, mae'n gybolfa o ddogfen a luniwyd ar gefn amlen sy'n ceisio efelychu peth o'r iaith a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU yn ei Phapur Gwyn, ond heb symud rhithyn o safbwynt yr UE na ellwch chi gael troed i mewn a throed allan o'r farchnad sengl.
Mae Llywodraeth y DU wedi gorfod cyfaddef nad oedd yn gallu darbwyllo'r UE i wneud ymrwymiadau i fasnachu rhwydd, ac mae'r ffaith werthfawr honno'n golygu ei bod yn anochel bod y datganiad gwleidyddol yn ein gadael gyda llawer llai o fynediad i farchnadoedd o'i gymharu â'r hyn y mae busnesau Cymru yn ei fwynhau heddiw.
Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet. Deallaf mai ffordd ddelfrydol Ysgrifennydd y Cabinet allan o'r cyfyngder presennol fyddai pleidlais o ddiffyg hyder ac etholiad cyffredinol ar ôl hynny. Os yw'r etholiad cyffredinol hwnnw'n digwydd, a fydd y Blaid Lafur yn ymrwymo i gynnig pleidlais i'r bobl?
Llywydd, rwy'n bwriadu dychwelyd at y gyfres honno o faterion ar ddiwedd yr hyn a ddywedaf, a byddaf yn gwneud fy ngorau i ymateb i rai o sylwadau'r Aelod bryd hynny—
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet—?
Rwyf wedi ateb y cwestiwn yn—
Fe gewch chi ddewis cymryd ymyriad ai peidio, Ysgrifennydd y Cabinet.
Llywydd, diolch yn fawr iawn. Clywais y cwestiwn y tro cyntaf; nid oes angen imi ei glywed yr ail waith. [Chwerthin.] Pa fath o sicrwydd y mae hynny yn ei roi—[Torri ar draws.] Pa fath o sicrwydd y mae datganiad gwleidyddol yn ei roi i gyflogwyr Cymru a gweithwyr Cymru, yn enwedig y rhai mewn diwydiannau sy'n ddibynnol ar gadwyni cyflenwi amser-benodol neu y mae eu model busnes yn seiliedig ar gynnwys gwasanaethau yn eu pecyn cynnig, bod, ar ddiwedd y cyfnod pontio, eu buddsoddiad a'u swyddi'n ddiogel.
Mae'r datganiad gwleidyddol yn cynnwys llai na thudalen am symudedd, Llywydd—y mater sylfaenol bwysig hwnnw i fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru ac i'n prifysgolion. Mae'n cadarnhau bod Llywodraeth bresennol y DU wedi penderfynu o'i phen a'i phastwn ei hun i roi terfyn ar yr hawliau rhyddid i symud presennol, ac ar yr un pryd, gyfyngu ar fynediad hollbwysig i sgiliau ar gyfer ein busnesau a gwasanaethau cyhoeddus, dileu hawliau dinasyddion Prydeinig i fyw a gweithio mewn rhannau eraill o Ewrop, a rhoi ergyd farwol i sicrhau mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl.
Llywydd, os oes gan y cytundeb ymadael ddiffygion difrifol, byddai angen ailysgrifennu'r datganiad gwleidyddol ar raddfa eang pe byddem ni fel Llywodraeth yn ystyried cefnogi ei gymeradwyo. Yn lle hynny, mae'r cynnig yr ydym ni wedi ei gyflwyno ger bron y Cynulliad y prynhawn yma yn ymateb yn ofalus ac yn glir i'r amgylchiadau bythol gyfnewidiol yr ydym ni ynddyn nhw. Mae'r ail welliant, a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, yn y bôn yn ymdrin â'r un agweddau â'n rhai ni. Prin yw'r agweddau ynddo y buasem yn wrthwynebus iddyn nhw, ac ni fyddwn yn ei wrthwynebu y prynhawn yma.
Gadewch imi droi yn awr at yr hyn a ddylai ddigwydd, os bydd Tŷ'r Cyffredin, fel y credwn y dylai, yn pleidleisio i wrthwynebu cytundeb y Prif Weinidog. Yn gyntaf oll, rydym ni'n gwrthod yn gyfan gwbl safbwynt y Prif Weinidog bod yn rhaid derbyn ei chytundeb hi neu beidio â chael un o gwbl. Yn ein barn ni, mae yna o leiaf dair ffordd gredadwy o ddatrys y sefyllfa. Yn gyntaf, nid yw'n amhosib o hyd y gallai'r Llywodraeth hon neu un arall negodi cytundeb gwahanol iawn, un sy'n bodloni chwe phrawf Llafur a'r manylion a amlinellir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Yna, fel pobl eraill, o Nicola Sturgeon i Arlene Foster, byddem yn ystyried cefnogi cytundeb newydd, wedi ei seilio'n amlwg ar gymryd rhan lawn yn y farchnad sengl ac undeb tollau. Gelwir y math hwn o Brexit heddiw wrth y term llaw-fer Norway plus, a fyddai'n rhoi'r sicrwydd hirdymor sydd ei angen ar ein busnesau a'n pobl.
Yn ail, Llywydd, erys y posibilrwydd o etholiad cyffredinol, fel y dywedodd Adam Price. Byddai etholiad cyffredinol yn rhoi mandad clir i Lywodraeth newydd ailnegodi, i gynnal ail bleidlais gyhoeddus neu, os cadarnheir barn eiriolwr cyffredinol yr UE heddiw, i ddiddymu hysbysiad Erthygl 50.
Ac, yn drydydd, wrth gwrs, dyna'r bleidlais gyhoeddus newydd ei hun. Rwyf eisiau ailadrodd sicrwydd clir Prif Weinidog Cymru y byddai'r Llywodraeth hon yn ymgyrchu'n frwd am bleidlais o'r fath, os na fydd etholiad cyffredinol nac ailnegodi, a bod yn rhaid i bleidlais o'r fath gael y dewis o aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd ar y papur pleidleisio. Ond, Llywydd, ni allwn ni gefnogi'r trydydd gwelliant sydd gerbron y Cynulliad, yr ymddengys ei fod yn galw am bleidlais y bobl dan unrhyw amgylchiadau, ac sy'n awgrymu mai dyna'r unig bosibilrwydd ar gyfer y dyfodol, pan nad yw hynny'n wir, yn amlwg.
Felly, Llywydd, i gloi, rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn anfon neges glir y prynhawn yma fod y cytundeb a negodwyd gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn annerbyniol. Mae'n methu â bodloni buddiannau sylfaenol Cymru a'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, a dylid ei wrthod.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf Neil Hamilton i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett. Neil Hamilton.
Gwelliant 1—Gareth Bennett
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod pobl wedi pleidleisio drwy fwyafrif ar 23 Mehefin 2016 heb unrhyw amwysedd, neu gyfyngiad, i adael yr UE, ac yn credu y dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru anrhydeddu ysbryd a llythyren y penderfyniad hwnnw.
2. Yn credu bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi rhwystro dymuniadau y 17.4 miliwn o bobl a bleidleisiodd i ymadael.
3. Yn credu bod cytundeb ymadael drafft Llywodraeth y DU yn ildiad, sy'n negyddu canlyniad y refferendwm yn sylweddol, gan gadw'r DU yn undeb tollau'r UE am gyfnod amhenodol ac, i bob pwrpas, yn y farchnad sengl, gan ein hamddifadu o unrhyw lais ffurfiol neu bleidlais ym mhenderfyniadau'r UE.
4. Yn galw ar y DU a Llywodraeth Cymru i gofleidio adfer sofraniaeth genedlaethol Prydain y tu allan i'r UE a'r cyfleoedd byd-eang i fasnachu â gweddill y byd.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cytuno, ond o safbwynt cwbl wahanol, â llawer o'r hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet newydd ei ddweud. Ond mae angen inni ddeall mai'r cefndir i hyn yw canlyniad y refferendwm a gynhaliwyd ddwy flynedd a hanner yn ôl. Heb unrhyw fath o amod, pleidleisiodd y bobl i adael yr UE. Wnaethon nhw ddim pleidleisio i roi mandad negodi i Lywodraeth y DU nac, yn wir, i gyflwyno canlyniadau'r trafodaethau hynny ger eu bron. Yr hyn nad yw'r cytundeb hwn yn ei wneud yw anrhydeddu'r bleidlais honno. Yn wir, mewn termau gwleidyddol, mae'n destun cywilydd cenedlaethol, yn ymostyngiad, sydd wedi rhoi popeth i'r Undeb Ewropeaidd, ac mewn gwirionedd, wedi rhoi dim byd i'r Deyrnas Unedig. Nid yw'n adfer rheolaeth o'n cyfreithiau, yn adfer rheolaeth o'n harian, nac yn adfer rheolaeth o'n ffiniau. Fel rwyf wedi dweud o'r blaen, nid oes unrhyw eglurhad rhesymegol i'r hyn y mae Theresa May wedi ei gyflawni, ac eithrio rhyw fath bwriadol o strategaeth ar ei rhan i danseilio hyn i gyd. Yn y ddwy flynedd a ganiatawyd dan Erthygl 50 i drafod cytundeb gyda'r UE, nid ydym wedi gwneud affliw o ddim i baratoi ar gyfer methiant y trafodaethau hynny. Canlyniad hynny yw bod gennym ni bellach ryw gybolfa o gytundeb, fel y'i gelwir, gyda'r UE, a dryll ar ein pen, yn dweud 'Hwn, neu dim byd.' Ac mae'r 'hwn' yn y bôn yn golygu nad ydym ni'n gadael yr UE mewn unrhyw fodd heblaw am yn ffurfiol.
Mae'r UE wedi cael popeth yr oedd yn ei ddymuno o'r trafodaethau hyn yn y cytundeb ymadael, sy'n rhwymol yn gyfreithiol. Mae popeth a allai fod ar y DU ei eisiau yn y datganiad gwleidyddol, nad yw'n rhwymol. Ac mae'r cyfnod pontio y cytunwyd arno, dan erthygl 32, yn ein cadw yn yr UE am gyfnod amhenodol, oherwydd dywed erthygl 32, yn y bôn, y bydd y cytundeb hwn yn dod i ben yn y flwyddyn 20XX . Felly, does dim ffordd y gallwn ni ryddhau ein hunain o'r cytundeb hwn heb gymeradwyaeth yr UE. Mae'n ein gadael â dim llais, dim pleidlais a dim feto yn yr UE. Mae Theresa May wedi cyflawni'r hyn y byddai unrhyw un wedi credu ar ddechrau'r broses hon oedd yn amhosib, sef cael canlyniad hyd yn oed yn waeth nag aros yn yr UE ei hun. Mae'n traddodi'r Deyrnas Unedig i gyfnod o burdan, pan fydd yn rhaid inni geisio gwneud iawn am ein pechodau gwrth-ffederal ar orchymyn yr UE, gan gyflawni dim byd yn ymarferol o adael yr UE. Mae'r negodi hwn wedi bod yn draed moch llwyr, a'r canlyniad gorau y gallwn ni ei ddisgwyl yn awr yw y caiff y cytundeb hwn, ar 29 Mawrth y flwyddyn nesaf, ei wrthod gan Dŷ'r Cyffredin ac y byddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid heb gytundeb, ond ar yr un telerau ag yr ydym ni'n ymdrin â gweddill y byd—telerau Sefydliad Masnach y Byd.
Unwaith y bydd protocol y cytundeb hwn mewn grym, mae'n eithaf amlwg na all y DU adael ac eithrio drwy benderfyniad ar y cyd gan y DU a'r UE. A pham fyddai'r UE eisiau ein rhoi mewn sefyllfa lle y gallem ni adael bryd hynny? Oherwydd byddan nhw wedi ein clymu i drefniant parhaol gyda nhw, lle mae ganddyn nhw fynediad am ddim i'n marchnadoedd ni— ac, wrth gwrs, yn gyfnewid, mae gennym ni fynediad am ddim i'w marchnadoedd nhw, ond mae'r anghydbwysedd mewn masnach yn £95 biliwn y flwyddyn o blaid yr UE—ond, ar y llaw arall, byddwn yn ildio ein hawl i negodi cytundebau masnach â gweddill y byd, sef un o fanteision mawr Brexit yn y lle cyntaf. Mae wyth deg pump y cant o'r economi fyd-eang y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, a gweddill y byd sy'n tyfu, tra bod yr UE yn aros yn ei hunfan. A chydag argyfwng arall i'r ewro yn yr arfaeth yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, yna bydd problemau economi Ewrop hyd yn oed yn fwy. Y cyfan y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi cytuno iddo yn y trafodaethau hyn yw gwneud ei gorau glas i negodi cytundeb masnach parhaol gyda ni. Ond pam fyddai hi eisiau gwneud hynny?
Amod o'r cytundeb pontio yw bod unrhyw drefniant masnach parhaol sydd gennym ni gyda'r UE yn seiliedig ar diriogaeth bresennol yr undeb tollau sengl. Felly, hyd yn oed pe gallem drefnu bargen â'r UE, byddai hynny ynddo'i hun yn ein hatal rhag llunio cytundebau â gweddill y byd, oherwydd elfen hanfodol o unrhyw gytundeb masnach rydd yw ei bod yn darparu ar gyfer masnach rydd rhwng nwyddau sy'n cael eu gwneud, neu eu cynhyrchu, yng ngwledydd y ddau endid sy'n llunio'r cytundeb. Ac wedyn mae yna reolau tarddiad sy'n berthnasol fel na all trydydd partïon osgoi telerau cytundebau masnach drwy gaffael eu nwyddau drwy diriogaeth y maen nhw'n mynd i mewn iddo heb y cyfyngiadau arferol, os nad oes un. Mae Erthygl 24 o'r cytundeb GATT yn ei gwneud yn ofynnol cael rheolau trefniadau tarddiad, lle cesglir gwybodaeth am darddiad y nwyddau sy'n tramwyo trwy diriogaeth. Felly o ganlyniad, ni fyddwn yn gallu bodloni unrhyw wlad arall yn y byd o ran tarddiad y nwyddau yr ydym ni'n eu gwerthu iddyn nhw. Ac mae hynny'n tanseilio'r union egwyddor y mae cytundebau masnach rydd yn seiliedig arni.
Felly, os oes anghydfod ynglŷn ag ystyr y cytundebau y mae'r Llywodraeth yn eu cynnig, sut mae modd penderfynu ar hynny? Wel, bydd panel cymrodeddu yn cael ei sefydlu, ond, dan erthygl 174 y cytundeb ymadael, caiff anghydfod ei ddatrys yn y pen draw nid gan y panel cymrodeddu ei hun, ond gan Lys Cyfiawnder Ewrop. A chanlyniad hynny, mewn gwirionedd, yw y bydd rheolaeth ein cyfreithiau yn parhau i fod yn seiliedig ar fympwy Llys Cyfiawnder Ewrop. Dywed Carl Baudenbacher, a oedd yn Llywydd Llys Cyfiawnder Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop, EFTA, nad tribiwnlys cymrodeddu gwirioneddol yw hwn—y tu ôl iddo, mae Llys Cyfiawnder Ewrop yn penderfynu popeth. Ac mae hyn yn deillio o gytundeb yr Wcráin. Mae'n anghredadwy y byddai gwlad fel y DU, sef y wlad gyntaf i dderbyn llysoedd annibynnol, yn darostwng ei hun i hyn.
Felly, dyma wladwriaeth gaeth yng ngwir ystyr y gair, lle mae'n rhaid inni dderbyn y rheolau a'r rheoliadau y penderfynir arnyn nhw gan yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n rhaid i ni ufuddhau iddyn nhw. Nid oes gennym lais na phleidlais yn y ffordd y maent yn cael eu gwneud—[Torri ar draws.] Wnes i ddim dadlau—[Torri ar draws.] Na, na, dywedais—dadleuais o blaid Prydain sofran ac annibynnol, lle dylai ein cynrychiolwyr etholedig ein hunain lunio ein cyfreithiau, fel y gwnawn ni yn y fan hon, ac nad ydym ond yn derbyn rheolau drwy'r UE, sydd nid yn unig yn gallu cyfarwyddo ein telerau masnachu â nhw, ond hefyd ein rheolau masnachu â gweddill y byd. Mae hynny'n groes i Brexit—mae hynny'n groes i'r hyn y pleidleisiodd pobl o'i blaid ym mis Mehefin 2016.
Pan ymunwyd â'r farchnad gyffredin ym 1973, fe'i cyflwynwyd fel dim byd amgenach na bargen fasnach. Ni chafodd ei chyflwyno fel rhan o daith tuag at archwladwriaeth Ewropeaidd ganolog, ffederal, sef y daith yr ydym ni arni o hyd. Roedd Angela Merkel yn sôn dim ond bythefnos yn ôl am fyddin Ewropeaidd, ac mae hynny, wrth gwrs, yn bosibilrwydd peryglus iawn yn wir, ac mae gwrthwynebiad sylweddol ymysg y ffederalwyr i NATO fel sefydliad. Maen nhw eisiau bod yn un o brif gymeriadau llwyfan y byd. Mae hynny'n rhywbeth na allai fod yn dderbyniol, yn fy marn i, i Lywodraeth y Deyrnas Unedig byth, ond, yn y pen draw, ni fyddai gennym ni unrhyw reolaeth dros hynny.
Os ydym yn mynd i anrhydeddu canlyniad refferendwm Brexit, rydym yn mynd i orfod wynebu posibilrwydd yn awr sy'n fwy anodd nag y gallem fod wedi ei ddychmygu dwy flynedd yn ôl, ac yn wir, yn llawer mwy anodd nag yr oedd ei angen. Mae Theresa May wedi methu'n llwyr â manteisio ar y cyfleoedd euraid a oedd ganddi, sef, wrth gwrs, y diffyg masnach enfawr sydd gennym ni â'r UE, y £10 biliwn net y flwyddyn yr ydym ni wedi ei gyfrannu i gyllideb yr UE dros y 40 mlynedd diwethaf, a'n gallu i negodi cytundebau masnach â gweddill y byd. Pe byddai hi'n chwarae bridge, yna dewisodd chwarae'r dymi yn fwriadol yn y trafodaethau hyn, gan roi ei chardiau ar y bwrdd i eraill eu gweld, tra bod yr UE wedi chwarae'n ofalus. Yr hyn a wnaeth hi yn y cytundeb masnach hwn yw nid lluchio'r babi gyda'r brych, ond mewn gwirionedd lluchio'r babi a chadw'r brych.
Galwaf ar Steffan Lewis i gynnig gwelliannau 2 a 3 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Steffan Lewis.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Dileu pwyntiau 1-5 a rhoi yn eu lle:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gwrthod y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol am y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol a gytunwyd gan y Cyngor Ewropeaidd a Llywodraeth y DU.
Yn credu nad yw'r berthynas yn y dyfodol fel y’i rhagwelir gan y datganiad gwleidyddol yn mynd mor bell â’r model ar gyfer perthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol a nodwyd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', sy'n darparu gwarantau cadarn mewn perthynas â hawliau gweithwyr, hawliau dynol, deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dinasyddion.
Yn nodi bod dadansoddiad economaidd hirdymor Llywodraeth y DU yn rhagweld y bydd economi'r DU yn gwaethygu 3.9 y cant dros 15 mlynedd o dan y cytundeb ymadael a’r datganiad gwleidyddol presennol.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i geisio aelodaeth y DU o’r farchnad sengl Ewropeaidd a'r undeb tollau.
Yn galw am estyniad i’r broses ar gyfer erthygl 50.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le:
Yn galw am bleidlais y bobl ar y cytundeb terfynol rhwng y DU a'r UE, gan gynnwys opsiwn i'r DU barhau i fod yn aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd.
Diolch, Llywydd. Mae'n drueni mawr nad yw rhethreg Ysgrifennydd y Cabinet yn ei sylwadau agoriadol i'w gweld yn y cynnig, gan fod Plaid Cymru wedi gobeithio heddiw bod mewn sefyllfa lle y gallai gefnogi cynnig y Llywodraeth ynglŷn â'r cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol. Ond rwy'n siomedig felly nad yw'r consensws rhwng ein dwy blaid o adeg cyhoeddi 'Diogelu Dyfodol Cymru' wedi parhau. Roedd 'Diogelu Dyfodol Cymru' yn nodi telerau ac amodau Cymru, os mynnwch chi, o ran beth fyddai'n rhaid i gytundeb ymadael ei gynnwys er mwyn bod yn dderbyniol ac, wrth gwrs, mae'n egluro'n fanwl iawn y weledigaeth ar gyfer perthynas rhwng Cymru, y DU a'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Roedd yn galw am barhau i fod yn rhan o farchnad sengl ac undeb tollau'r UE ac am sicrwydd cadarn o ran hawliau gweithwyr, hawliau dynol, deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dinasyddion, ac mae cytundeb Theresa May ymhell o gyflawni'r rhain ym mhob ffordd.
Rwy'n arbennig o siomedig fodd bynnag nad yw cynnig y Llywodraeth, fel y'i cyflwynwyd, yn gwneud fawr mwy na nodi datblygiadau diweddar, yn hytrach nag awgrymu safbwynt penodol y dylai'r Cynulliad ei arddel ynglŷn â'r datblygiadau hynny eu hunain. Mae'r cynnig yn gwneud tri datganiad: bod y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol yn bodoli; bod cyfnod pontio yn ffurfio rhan o'r cytundeb ac y bydd hyn yn atal sefyllfa o 'ddim cytundeb'; ac y bydd y Cynulliad, yn y dyfodol, yn penderfynu a ddylem ni roi ein cydsyniad terfynol i Fil y cytundeb ymadael. Ond mae honiadau'r Llywodraeth bod y cyfnod pontio yn atal sefyllfa o 'ddim cytundeb' yn anghywir; dyw e ddim yn wir. Yr hyn sy'n osgoi sefyllfa o 'ddim cytundeb' yw cytundeb neu aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Tybed a oedd y cynnig i fod i ddweud bod y cyfnod pontio yn osgoi gadael heb unrhyw drefniadau, a fyddai, wrth gwrs, yn wir. Ond a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet cystal ag egluro beth yw meddylfryd y Llywodraeth ynglŷn â'r sylw hwn, oherwydd nid yw'n glir i mi, beth bynnag?
Mae'r Llywodraeth hefyd yn anghywir i nodi y bydd cyfle arall yn sicr ymhellach yn y dyfodol i'r Cynulliad bleidleisio ar y cytundeb ymadael. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn dibynnu ar natur Bil y Cytundeb Ymadael. Felly, nid oes dim i ddweud yn sicr nad hwn fydd ein hunig gyfle heddiw, y prynhawn yma, i bleidleisio ac i ddod i farn bendant un ffordd neu'r llall ar y cytundeb ymadael. A dyna pam fy mod i'n annog yr Aelodau heddiw i wneud mwy na dim ond nodi bodolaeth y cytundeb ymadael ac i ddweud yn blwmp ac yn blaen fod y Cynulliad Cenedlaethol yn ei wrthod. Fel arall, mae Cymru mewn peryg o fod yr unig ddeddfwrfa yn y DU gyfan i gynnig cymorth digwestiwn i'r cytundeb ymadael, er, fel y cyfeiria cynnig Llywodraeth Cymru ato'n benodol, nad oes sôn am Gymru unwaith yn y ddogfen 585 tudalen. Mae cynnig Llywodraeth Cymru wedyn yn mynd ymlaen i ddweud nad yw'r datganiad gwleidyddol yn cyflawni'r model perthynas ar gyfer y dyfodol sy'n cael ei ddisgrifio yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'.
Er nad yw'n glir, mae'n ymddangos i mi o'r geiriad y byddai'r Llywodraeth yn fodlon, mewn rhai amgylchiadau, i gydsynio i'r cytundeb ymadael os gwneir newidiadau i'r datganiad gwleidyddol. Ond, unwaith eto, nid ymddengys bod hynny'n cyd-fynd â'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddatganiadau agoriadol. Felly, a all egluro a wyf i, unwaith eto, wedi camddarllen y cynnig ynteu a fu newid barn, neu beth yn union yw'r sefyllfa? A oes amgylchiadau lle byddai'r cytundeb ymadael yn cael cymorth y Llywodraeth hon, ar yr amod y caiff y datganiad gwleidyddol ei newid? Barn Plaid Cymru yw nad oes unrhyw newid y gellir ei wneud i'r datganiad gwleidyddol a fyddai'n gwneud y cytundeb ymadael yn fwy derbyniol. Dyna'n union yw'r cytundeb ymadael. Mae'n tynnu Cymru o'r farchnad sengl, yn tynnu Cymru o'r undeb tollau, yn tynnu Cymru o raglenni'r UE, nid yw'n gwarantu hawliau gweithwyr, ac mae'n bosib iddo fod yn niweidiol iawn i economi Cymru.
Llywydd, mae gwelliant cyntaf Plaid Cymru yn disodli'r rhestr ffeithiau—neu ffeithiau tybiedig—ac yn eu lle yn rhoi cyfle i'r Cynulliad hwn fabwysiadu safbwynt clir os yw'n dewis gwneud hynny. Mae'n gwrthod y datganiad gwleidyddol a'r cytundeb ymadael oherwydd nad ydyn nhw'n cyflawni'r ymrwymiadau a nodir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i geisio aelodaeth o farchnad sengl yr UE ac undeb tollau'r UE, ac mae'n galw am estyniad i Erthygl 50. Gellid ymestyn Erthygl 50 er mwyn negodi trefniant Brexit gwahanol lle byddwn yn aros yn y farchnad sengl a'r undeb tollau yn barhaol. Pe byddem yn gwneud hynny, ni fyddai angen cael cyfnod pontio lle byddem ni y tu allan i'r UE, yn gorfod negodi cydberthynas hirdymor newydd o'r tu allan.
Rwy'n gwybod mai safbwynt Llafur y DU ynglŷn ag aelodaeth o'r farchnad sengl a'r undeb tollau yw y dylem ni adael y ddau ohonyn nhw a negodi bargen newydd, a dyna, wrth gwrs, yw safbwynt y Blaid Geidwadol hefyd. Felly, rwy'n deall efallai na fydd rhai Aelodau yn gallu cefnogi ein gwelliant cyntaf ar y sail honno. Ond rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau o ddifrif yn ystyried cefnogi ein hail welliant, sy'n un ar wahân, sy'n disodli pwynt 6 cynnig y Llywodraeth. Mae pwynt 6 cynnig y Llywodraeth yn galw am etholiad cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus, tra bod ein gwelliant ni yn dweud yn syml y dylid cael pleidlais y bobl a ddylai gynnwys y dewis i aros ar y papur pleidleisio. Yr wythnos diwethaf, dywedodd John McDonnell y byddai sicrhau etholiad cyffredinol yn anodd iawn, ac rwy'n cytuno ag ef. Mae'n anymarferol, ac ni fyddai'n rhoi canlyniad gwahanol i bobl yng Nghymru na ledled y Deyrnas Unedig oherwydd byddai'r ddwy blaid fwyaf blaenllaw yn yr etholiad cyffredinol hwnnw yn ymgyrchu i dynnu'r Deyrnas Unedig o'r farchnad sengl. Felly, byddai gennym ni'r un cyfyngder seneddol yn San Steffan ag sydd gennym ni dan y Llywodraeth dila hon yn awr. Erbyn hyn mae cefnogaeth gynyddol ym mhob plaid i gael pleidlais y bobl, ac mae llawer o hynny oherwydd yn syml na all y Senedd roi trefn ar hyn. Dim ond refferendwm o'r newydd all roi terfyn ar y cyfyngder gwleidyddol. Felly, rwy'n wirioneddol obeithio y bydd gwelliant i gael pleidlais y bobl yn cael mwyafrif trawsbleidiol yma heddiw.
Llywydd, yn awr ac yn y man, fel seneddwyr, gofynnir inni wrando ar ein cydwybod cyn bwrw pleidlais ar ddigwyddiadau a phenderfyniadau gwirioneddol hanesyddol. Mae fy nghydwybod i yn dweud wrthyf fod y cytundeb sy'n cael ei gynnig mor niweidiol i'r cymunedau y'n hetholwyd i'w cynrychioli fel nad yw'r cytundeb ymadael na'r datganiad gwleidyddol yn haeddu cefnogaeth y Senedd hon, ac na ddylid eu nodi ond eu gwrthod gan y Senedd hon. Rwy'n credu o ddifrif bod caniatáu i bobl benderfynu ar y ffordd ymlaen o'r fan hon yn ddemocrataidd gadarn a hefyd yn hanfodol er mwyn datrys yr anghytundeb gwleidyddol yn San Steffan. Felly, rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliannau Plaid Cymru fel bod ein Senedd mewn gwirionedd yn mynegi safbwynt ar y materion sylfaenol hyn, ac fel y gallwn ni hefyd gymeradwyo'n glir hawl y bobl i gael y gair olaf. Diolch yn fawr.
Llywydd, yn y refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd fe welwyd dadleuon angerddol a barn gref ar y ddwy ochr. Fe wnaeth y penderfyniad i aros arwain at safbwyntiau cyferbyniol mewn teuluoedd, cymunedau, pleidiau gwleidyddol, y Siambr hon ac, yn wir, y wlad. Pleidleisiodd pedwar deg saith a hanner y cant o'r etholwyr i aros tra pleidleisiodd 52.5 y cant i adael. A bydd pob unigolyn wedi bod â rhesymau gwahanol dros bleidleisio y ffordd a wnaeth. Ni fydd gwella'r rhaniadau hyn ac adeiladu dyfodol mwy disglair i Gymru a theulu'r Deyrnas Unedig yn hawdd. Mae dod i ganlyniad yn y trafodaethau hynny sy'n cael cymeradwyaeth 27 gwlad yr UE ac sy'n bodloni gofynion cyferbyniol y 33 miliwn o bleidleiswyr a gymerodd ran yn y refferendwm bron yn amhosib yn sicr. Ond nid swydd Theresa May yw bodloni'r ddwy ochr—y rhai a oedd eisiau gadael a'r rhai a oedd eisiau aros; mae'n ymwneud ag anrhydeddu canlyniad y refferendwm a sicrhau'r cytundeb gorau posib i Gymru a'r DU wrth inni gychwyn ar ddyfodol newydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
Rwy'n credu y bydd y cytundeb a negodwyd gan Lywodraeth y DU yn anrhydeddu canlyniad y refferendwm. Bydd yn ailgyflwyno rheolaeth dros ein ffiniau ac yn rhoi terfyn ar y rhyddid i symud. Bydd yn dychwelyd sofraniaeth i Senedd y Deyrnas Unedig. Bydd yn amddiffyn swyddi, yn galluogi'r DU i sicrhau cytundeb masnach rydd gyda'r UE ac yn galluogi'r DU i lunio cytundebau masnach â gwledydd ledled y byd. Bydd yn galluogi Llywodraethau'r DU i fuddsoddi'n briodol yn ein gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol gan na fyddwn ni bellach yn anfon cyfraniadau sylweddol at yr UE. Byddwn yn gallu parhau i gydweithio'n agos â'n cymdogion yn yr UE yn y frwydr yn erbyn troseddu a therfysgaeth. Ac mae'n gytundeb sy'n diogelu nid yn unig urddas y DU, ond sy'n ei gryfhau gyda mwy o bwerau yn y pen draw yn cael eu trosglwyddo i'r llywodraethau datganoledig, gan gynnwys yma yng Nghymru.
Nawr, fel pob trafodaeth, mae'n gyfaddawd. Felly rwy'n sylweddoli na fydd ar yr un pryd yn bodloni'r Brecsitwyr caled a'r arhoswyr selog. Ond rwy'n credu ei fod yn gytundeb a all uno'r bobl hynny sy'n parchu canlyniad y refferendwm. Fel cyfaddawd, efallai nad yw'r cytundeb yn berffaith, ond yn sicr mae'n well na'r dewisiadau eraill o ddim cytundeb neu ddim Brexit o gwbl. Os na lwyddwn ni i sicrhau cytundeb gyda'r UE—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Mewn munud. Os methwn ni â sicrhau cytundeb â'r UE, byddwn yn gadael heb gytundeb ym mis Mawrth 2019, gan fygwth anhrefn i'n heconomi. Mae arweinwyr busnes eisoes wedi rhybuddio mai'r rhwystr mwyaf i dwf economaidd ar hyn o bryd yw ansicrwydd oherwydd Brexit. Byddai sefyllfa o 'ddim cytundeb' yn gwneud dim ond gwaethygu'r ansicrwydd, sy'n bygwth buddsoddiad, swyddi ac incwm teuluoedd sy'n gweithio'n galed. Ac nid busnesau mawr fyddai'n dioddef fwyaf, ond busnesau bach a chanolig, cyflenwyr cwmnïau mwy o faint, gweithgynhyrchwyr bach sy'n allforio nwyddau gyda gweithwyr medrus ar enillion cyfartalog; gellid peryglu eu swyddi.
Caergybi yw'r porthladd cludo nwyddau ail prysuraf yn y DU, gyda cherbydau'n gallu gyrru ar ac oddi ar longau yn rhwydd, ac fe allai 'dim cytundeb' beryglu llif rhwydd y traffig drwy feysydd awyr a phorthladdoedd y DU, gan gynnwys Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro.
Ildiaf i arweinydd Plaid Cymru.
Rwy'n ddiolchgar iawn iddo. Ai ei farn ef yw y bydd Cymru'n well ei byd, o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol, pe bai'n aros yn yr Undeb Ewropeaidd os yw cytundeb y Llywodraeth yn ennill y dydd?
Mae'n bwysig ein bod ni'n anrhydeddu canlyniad y refferendwm, ac rwy'n credu y bydd y cytundeb hwn yn parchu—[Torri ar draws.] Llywydd, bydd y cytundeb hwn yn parchu canlyniad y refferendwm, ac, ar yr un pryd, bydd yn caniatáu i'n busnesau barhau i fasnachu gyda'r UE.
Nawr, mae economi Cymru yn fwy dibynnol na rhannau eraill o'r DU ar allforion i'r Undeb Ewropeaidd. Mae angen sicrwydd ar y busnesau hyn er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae angen sicrwydd ar y ffermwyr hefyd ar gyfer dyfodol eu diwydiant wedi inni adael yr UE. Dywedodd John Davies, Llywydd NFU Cymru, pan gyfarfu â Phrif Weinidog y Deyrnas Uned yn y Ffair Aeaf, ei fod yn cymeradwyo'r ffaith fod y cytundeb y mae hi wedi dod iddo mor agos â phosib at yr amodau masnach rydd a di-rwystr ar gyfer cynnyrch bwyd ac amaethyddol y buon nhw'n lobïo ar eu cyfer dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Yn wir, mae Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, wedi dweud hefyd fod y cytundeb ymadael y cytunodd y Cabinet a'r UE arno yn cynnwys bron 600 o dudalennau o fanylion yr hyn fyddai'n digwydd yn ystod cyfnod o 21 mis, a bod y tudalennau hynny yn cynnwys sawl gwarant bwysig ar gyfer amaethyddiaeth a diwydiannau eraill.
Felly, mae'n amlwg bod yr undebau ffermio yn croesawu'r cytundeb hwn fel cam ymlaen i amddiffyn ein diwydiant amaethyddol.
Y dewis amgen i'r cytundeb hwn yw dim Brexit o gwbl. Mae uwch gynrychiolwyr yr Undeb Ewropeaidd wedi ei gwneud hi'n gwbl glir mai hwn yw'r cytundeb sy'n cael ei gynnig ac na chaiff unrhyw gytundeb arall ei negodi rhwng nawr a diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Dyma beth —
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Na wnaf.
Doeddwn i ddim yn credu y byddech yn fodlon.
Dyma beth mae'r UE wedi dweud dro ar ôl tro, ac roedd Brexit, mewn sawl ffordd, yn bleidlais yn erbyn y sefydliad gwleidyddol yn San Steffan a Bae Caerdydd cymaint ag ym Mrwsel. Byddai hi'n weithred beryglus iawn i'r sefydliad hwnnw ymateb i'r bleidlais honno gan anwybyddu ewyllys y bobl yn llwyr, ac, wrth inni ddynesu at 29 Mawrth 2019, mae'r cloc yn tician a dyma'r unig gytundeb sydd ar gynnig.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf, wna i ddim.
Yr unig ddau ddewis: naill ai gamblo gyda swyddi'r bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli neu anwybyddu eu penderfyniad i adael.
Llywydd, mae'r cynnig hwn gan Lywodraeth Cymru yn dweud wrthych chi bopeth y mae angen i chi ei wybod. Does dim ond rhaid i chi ddarllen y pum gair olaf:
pa un a yw'n dymuno aros.
Gofynnwyd i Gymru ar 23 Mehefin 2016 pa un a yw'n dymuno aros ac roedd dyfarniad pobl Cymru yn glir. Gyda bron iawn i 72 y cant yn pleidleisio, bron ddwywaith y nifer a bleidleisiodd yn etholiadau diwethaf y Cynulliad, pleidleisiodd dros 850,000 o bleidleiswyr Cymru i adael—y bleidlais boblogaidd fwyaf ar gyfer unrhyw beth mewn dros 20 mlynedd. Pleidleisiodd dau ar bymtheg o 22 o ardaloedd cyngor Cymru i adael ac, ar wahân i Aelodau sy'n cynrychioli Caerdydd a Bro Morgannwg, mae pob Aelod Cynulliad Llafur yn cynrychioli etholaeth neu ranbarth a bleidleisiodd i adael. Mae dros hanner y grŵp Plaid Cymru yn cynrychioli ardal sydd wedi pleidleisio i adael. O ran ein haelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol, pleidleisiodd Powys i adael. Eto, heddiw, ymddengys i mi fod yr Aelodau hyn yn ceisio tanseilio democratiaeth drwy geisio—[Torri ar draws.]
Ni allaf glywed arweinydd yr wrthblaid.
Nid ydych chi'n colli llawer.
Rwyf eisiau clywed arweinydd yr wrthblaid.
Diolch, Llywydd. Yr unig beth sydd wedi bod yn fwy poblogaidd na'r mandad ar gyfer Brexit ymhlith yr etholwyr yw pleidlais boblogaidd Cymru dros Tony Blair a Llafur newydd yn 1997. Wrth gwrs, ni fydd Aelodau yn synnu fy mod i'n siomedig iawn gyda chanlyniad yr etholiad hwnnw yn 1997, ond roeddwn i'n parchu mandad dros 800,000 o bleidleiswyr yng Nghymru ac yn sicr nid oeddwn i'n galw am ail-gynnal yr etholiad hwnnw oherwydd fy mod i'n anghytuno â'r canlyniad. Yr eironi, wrth gwrs, yw bod gan Brexit fwy o ddilysrwydd a mwy o fandad gan y cyhoedd na'r Llywodraeth Cymru hon, sydd, mae'n ymddangos i mi, yn ceisio ei wyrdroi. Ysbrydolwyd llawer o'r rhai a bleidleisiodd i adael gan ymdeimlad eu bod yn cael eu rheoli yn rhannol gan sefydliad methedig, pell, di-ddeall nad oedd yn gwrando arnyn nhw. A yw hynny'n swnio'n gyfarwydd i'r Llywodraeth hon yng Nghymru? Byddai gofyn am refferendwm arall i wrthdroi'r canlyniad cyntaf nid yn unig yn mynd â ni'n ôl i'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi ar y cychwyn, ond byddai'n bradychu'r 17 miliwn a bleidleisiodd i adael. Byddai'n anwybyddu ewyllys pleidleiswyr ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, y Rhondda, Wrecsam, Casnewydd ac Abertawe. Ac, os yw'r refferendwm newydd yn gwrthdroi'r cyntaf, yna a ddylem ni gael y gorau o dri neu hyd yn oed gorau o bump i wneud yn siŵr?
Mae cynnig Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud y dylid canolbwyntio yn hytrach ar sicrhau perthynas hirdymor sy'n rhoi cyfle i fod yn rhan o'r farchnad sengl ac undeb tollau. Ond, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru'n gwybod yn iawn y bydd negodi ein perthynas yn y dyfodol gyda'r UE yn digwydd ar ôl mis Mawrth y flwyddyn nesaf ac y byddai ymestyn cyfnod erthygl 50 yn niweidio ein heconomi, gan ddod â mwy o ansicrwydd a gadael busnesau a chyflogwyr yn nhir neb.
Byddai ceisio cael etholiad cyffredinol yn awr yn hunanfaldod gwleidyddol ar adeg pan fo'n gwlad angen i'w harweinyddiaeth sicrhau perthynas ein gwlad yn y dyfodol gyda gweddill y byd. Yn hytrach na cheisio tanseilio canlyniad y refferendwm, dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r cytundeb gorau posibl i ffermwyr Cymru, i fanteisio ar fuddsoddiad posibl a sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran ymchwil a datblygu ac i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael i fusnesau Cymru i helpu i wneud Cymru yn wlad fwy ffyniannus.
Llywydd, roedd refferendwm Brexit yn ddi-os yn gynhennus. Os bydd yr anghydfod a'r ansicrwydd yma'n parhau heb wneud dim i'w unioni, mae'n bygwth ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus; mae perygl iddo dynnu ein sylw oddi ar y materion bara menyn o wasanaethau cyhoeddus sydd o bwys i'r bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli. Mae'r bobl wedi llefaru—pleidleisiodd pobl Cymru i adael. Mae'n amser bellach i wleidyddion uno ar y cyfarwyddyd hwnnw, i anrhydeddu canlyniad y refferendwm, i ddod â phwerau yn ôl o Frwsel i San Steffan ac i Gaerdydd, ac i gyflawni addewid a photensial Brexit. Mae angen i ni roi terfyn ar yr anghydfod a'r ansicrwydd, ac mae angen i ni greu dyfodol newydd, mwy disglair i Gymru ac i'r Deyrnas Unedig.
A gaf i fod yn glir o'r cychwyn cyntaf y byddaf yn pleidleisio o blaid gwelliant 3 yn enw Rhun ap Iorwerth, a bod y grŵp Llafur wedi fy ymryddhau i wneud hynny?
Llywydd, ni fyddaf yn pleidleisio i gymeradwyo Brexit Mrs May mewn unrhyw fodd. Fel llawer yn y Siambr hon, rwy'n cynrychioli rhai o'r bobl dlotaf ym Mhrydain, a wna i ddim pleidleisio dros unrhyw beth sy'n eu gwneud yn dlotach, a dyna mae pob un ohonom ni'n ei wybod y bydd y Brexit yma neu unrhyw un arall yn ei wneud. Mae'n ddewis unigol i bob un ohonom ni, ond yn y bôn, mae'n benderfyniad moesol sylfaenol. Nid wyf yn credu bod unrhyw un yma, hyd yn oed y bobl yr wyf yn anghytuno â nhw am gymaint o bethau, wedi penderfynu bod yn rhan o wleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus i wneud pobl yn waeth eu byd. Ond os byddwn ni'n pleidleisio i gymeradwyo Brexit, dyna'n union beth y byddwn ni'n ei wneud. Efallai y bydd rhai Aelodau yn anghytuno. Dyna'u hawl, ac rwy'n eu parchu nhw yn llawer mwy nag unrhyw un sy'n dweud bod yn rhaid inni bleidleisio dros Brexit oherwydd y refferendwm blaenorol. Nid oes unrhyw bleidlais yn dileu ein cyfrifoldeb moesol, ac fe ddylem ni gofio hynny a bod yn ddewr—nawr yn fwy nag erioed.
Llywydd, roedd y ddadl ynglŷn â Brexit yn llawn dewisiadau ffug, dewisiadau ffug sy'n amlach na pheidio yn dod i olau dydd pan ei bod hi'n rhy hwyr i wneud unrhyw beth am yr anwiredd y maen nhw'n seiliedig arno: anwireddau fel, 'fe ddylem ni bleidleisio dros Brexit i roi £350 miliwn yr wythnos i'r GIG; anwiredd fel yr honiad y byddai aros yn yr UE yn rhoi ein ffiniau ar gyrion Syria ac Irac; anwireddau fel y syniad bod ganddom ni'r llaw uchaf yn y negodiadau, ac y byddai cael cytundeb da y peth hawddaf yn y byd. Roedd pob un o'r rhai hynny yn honiadau gwag a wnaed gan bobl a ddylai, ac mewn llawer o achosion a oedd yn gwybod yn well. Heddiw, mae gennym ni un arall, bod yn rhaid inni dderbyn cytundeb y Prif Weinidog, neu fel arall rydym ni'n syllu dros y dibyn ar Brexit 'dim cytundeb'. Felly, gadewch imi ei gwneud hi'n glir: os oedd y dewis erioed rhwng Brexit Mrs May a Brexit 'dim cytundeb', mae'r adeg honno wedi mynd heibio. Y dewis heddiw yw rhwng pa bynnag fath o gytundeb Brexit truenus y mae ciwed Llywodraeth y DU, UKIP, a'r grŵp ymchwil Ewropeaidd wedi penderfynu uno y tu ôl iddo, ac, yn hytrach, aros yn aelodau llawn o'r Undeb Ewropeaidd: aelodau llawn gyda'n holl hawliau; aelodau llawn gyda llais, pleidlais a feto; aelodau llawn gyda dylanwad y gall ac y dylai gwlad fel y Deyrnas Unedig ei gael, yn hytrach na chael ein darostwng i rywle lle mae angen erfyn am friwsion o fwrdd Donald Trump. Pleidlais y bobl yw'r ffordd i ddatrys hyn, ac rwy'n credu y daw hynny. Fel carreg fawr sydd wedi bod yn rholio i lawr gryn bellter o ben y mynydd, rydym ni'n dal heb fod yn gallu ei weld, ond erbyn hyn gall bawb glywed ei sŵn.
A hoffai'r Aelod atgoffa'r Cynulliad sut y pleidleisiodd ei hetholaeth hi?
Ie. Rwy'n gwbl ymwybodol o hynny, ond rwyf hefyd yn ymwybodol iawn nad yw democratiaeth yn rhywbeth cyfyngedig sy'n rhewi mewn amser, ac mae fy etholwyr yn poeni am y dyfodol sy'n eu hwynebu gyda'r cytundeb hwn.
Fel gwladgarwr, na fu ofn arnaf erioed bod yn Gymraes ac yn Brydeinwraig, ac sy'n eithriadol o falch o'r ddau, byddaf yn dadlau yn yr ymgyrch sydd ar ddod ar gyfer yr unig ddewis sy'n iawn ar gyfer ein pobl, boed yng Nghymoedd Gwent, rhesi tai Caerdydd neu ffermydd Ceredigion—i aros. I aros yn wlad nerthol nad yw'n ofni ei lle yn y byd, i aros yn falch o'n gwerthoedd o ryngwladoldeb a bod yn agored, i aros yn driw i'n hymdeimlad o'n hunan fel man lle mae pobl yn bwysicach nag y bydd ideoleg fyth. Hynny yw fy Nghymru i, fy Nheyrnas Unedig i, a dyna beth fyddaf i yn ei amddiffyn gyda fy mhleidlais. Rwy'n annog pawb yn y Siambr hon i ymuno â'i gilydd i wneud safiad gyda'r bobl yn erbyn y llanast hwn o Brexit.
Wyddoch chi, mae'n syndod i mi sut mae arweinydd y Blaid Geidwadol bellach yn gwisgo dillad ei blaid ym maneri y bobl, wyddoch chi. Mae'r blaid hon sydd bron bob amser ers y Ddeddf ddiwygio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi pleidleisio yn erbyn ymestyn y bleidlais yn awr, mae'n debyg—. Fe wnaethon nhw bleidleisio yn erbyn ymestyn y bleidlais i fenywod, ac yn wir i bob oedolyn gwrywaidd yn 1918. Nawr, maen nhw'n hawlio mai nhw yw plaid y bobl. Wel, fe ddywedaf i hyn, nad yw'r bobl wedi'u darbwyllo ronyn gan hynny. Edrychwch, pan roedd y Siartwyr yn gorymdeithio o blaid democratiaeth, beth oedd y chweched peth yr oedden nhw'n ei fynnu, yr un nad yw byth wedi ei wireddu? Y peth yna oedd Senedd flynyddol. Oherwydd, roedden nhw'n dweud, bod gan y bobl yr hawl i newid eu meddwl. I ddyfynnu'r economegydd John Maynard Keynes, pan ofynnwyd iddo ynglŷn â newid ei feddwl:
Pan fydd y ffeithiau'n newid, rwy'n newid fy meddwl. Beth ydych chi'n ei wneud...?
Gall pobl weld yn glir y canlyniadau economaidd a chymdeithasol y bydd eich polisi yn esgor arnyn nhw os caniateir i'ch Llywodraeth gario'r dydd. Ac nid wyf i, nac eraill yn y lle hwn, yn mynd i ganiatáu i hynny ddigwydd. A dyma'r alwad i'r lle hwn bellach, ynte? Roeddem ni'n trafod eiliadau yn ôl, yn araith ardderchog Lynne Neagle, yr alwad i ni wneud safiad, wyddoch chi? Mae Seneddau yn ymwneud â safbwyntiau. Mae'n rhaid inni osod ein baner a phenderfynu ble'r ydym ni. Ar yr adeg hon, mae un o'r penderfyniadau mwyaf, un o'r penderfyniadau mwyaf sylweddol a gaiff ei wneud yn yr ynysoedd hyn, a fydd yn bwrw ei gysgod am ddegawdau, yn galw am inni fod yn glir ac yn ddiamwys. Mae'n galw am inni wneud safiad dros y bobl, ac am iddyn nhw beidio â chael y math hwn o ddryswch economaidd wedi ei wthio i lawr eu corn gyddfau. Yr hyn yr ydym ni'n gofyn amdano yw democratiaeth, i bobl wneud y penderfyniad, gan na wnaeth yr un ohonyn nhw bleidleisio—[Torri ar draws.] Ni wnaeth yr un ohonyn nhw bleidleisio dros y polisi hwn y mae eich Llywodraeth yn awr yn ei gynnig.
Ildiaf i'r Aelod.
Pleidleisiodd y bobl i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw'r Aelod yn cytuno â sut y pleidleisiodd y bobl, felly mae'n ceisio ei wyrdroi, ac yn wahanol i'r Siartwyr, a oedd yn disgwyl i'r Senedd flynyddol gael ei sefydlu cyn iddyn nhw gael eu trechu, mae eisiau anwybyddu'r hyn a benderfynodd y bobl.
Rwy'n gofyn am y gwrthwyneb i hynny. Rwy'n gofyn i'r bobl fwrw eu barn ar bolisi na chafodd erioed ei roi ger eu bron, oherwydd nad oedd hyd yn oed y mymryn lleiaf o wybodaeth ar gael iddyn nhw o ran beth yr ydych chi'n ei gynnig mewn gwirionedd. A beth am y bobl 16 a 17 mlwydd oed nad oedd pleidlais ganddyn nhw bryd hynny, y bydd y penderfyniad hwn yn effeithio'n fwy ar eu dyfodol, oherwydd eu dyfodol nhw yr ydym ni'n sôn amdano? Onid oes ganddyn nhw'r hawl i bleidleisio? Onid ydyn nhw'n bobl hefyd? Ac a wnewch chi eu hamddifadu nhw o'r cyfle i gael gwrandawiad i'w llais ar y penderfyniad mwyaf y mae eu cenhedlaeth nhw yn ei wynebu?
Trof yn awr—[Torri ar draws.] Ildiaf i'r Aelod.
Mae'r Aelod yn cyflwyno dadl huawdl dros gael ail refferendwm, ond a oedd ef o blaid y refferendwm cyntaf? Ac os ydym ni'n cynnal ail refferendwm, pam na ddylem ni gael trydydd, pedwerydd, pumed, ac ati yn flynyddol?
Wel, edrychwch, wyddoch chi, rwyf erioed wedi bod o'r farn y dylai hyn fod wedi bod yn broses dau gam. Galwais, o fewn, rwy'n credu, 36 awr, am ail refferendwm. Felly, rwyf wedi bod yn gyson ynglŷn â hyn, oherwydd dylai fod erioed wedi bod yn broses dau gam, oherwydd yr achos o hyd oedd bod y realiti gwirioneddol—nid ungyrn Brexit amhosibl, anymarferol, ffantasïol, ond y cynnig Brexit gwirioneddol, na fyddid byth wedi ei gyflwyno yn y refferendwm cyntaf. Nid oedd yn llu o wahanol bosibiliadau. Bellach mae gennym ni gynnig pendant, neu beth bynnag a ddaw o'r llanast sydd yn San Steffan ar hyn o bryd; dylid cyflwyno hynny wedyn i'r bobl. Rydych chi eich hun yn gwrthwynebu'r cytundeb hwn hefyd. Siawns mai'r ffordd o ddatrys y sefyllfa amhosibl hon yw mynd yn ôl at y bobl a gofyn am eu barn derfynol.
Apeliaf at yr Aelodau ar y meinciau Llafur. Mae angen eglurder arnom ni ar hyn o bryd. Y broblem gyda safbwynt y Llywodraeth yw, fel y dywedodd Jeremy Corbyn:
rhestr amwys o ddewisiadau yw hyn, nid cynllun ar gyfer y dyfodol.
Sylwebaeth yw hyn, nid polisi mewn gwirionedd. Nid yw'n ddigon i ddweud, 'Wel, os nad etholiad cyffredinol, os nad ailnegodi, yna efallai pleidlais gyhoeddus.' Nid dyna sydd ei angen ar yr adeg hon. Mae angen i'r Llywodraeth ymateb i'r hyn sy'n digwydd. Mae gennym ni gyfle hanesyddol. Mae yn ein dwylo ni. Nid yw'n ddigon dweud 'naill ai/neu'. Ac apeliaf ar yr Aelodau Llafur ar y meinciau cefn, oherwydd, yn amlwg, nid oes llawer o obaith; mae safbwynt y Llywodraeth yn derfynol, yn anffodus.
Rydym ni wedi ceisio, gyda llaw,cael cytundeb trawsbleidiol. Rwyf i wedi bod yn ceisio yn San Steffan. Bydd mynd ati yn y modd hwnnw yn gosod y sylfeini ar gyfer llwyddiant, os gweithiwn ni gyda'n gilydd. Ni fu hynny'n bosibl yma, ac mae hynny'n dristwch mawr. Yn Senedd yr Alban, aeth Llywodraeth yr Alban ati mewn ffordd wahanol. Fe aethon nhw at y gwrthbleidiau, ac fe wnaethon nhw lwyddo i greu cynghrair trawsbleidiol ynghylch y mater hwn, gan gynnwys y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Lafur a'r Gwyrddion. Dyna'r math o weithredu sydd ei angen arnom ni. Dyna'r math o weithredu yr ydym ni'n ceisio ei adeiladu yn San Steffan: cynghrair yn erbyn anhrefn. Yn anffodus, mae gennym ni gynnig nad yw'n plesio neb, ac yn anffodus ni allwn gefnogi'r cynnig fel y mae ar hyn o bryd. Ond mae cyfle yma i Aelodau Llafur gefnogi—y cyfle, cyfle hanesyddol, i dynnu’r cortyn argyfwng ar y trên sy'n rhuthro ac yn ein harwain ni dros ymyl y dibyn. Gadewch inni weithio gyda'n gilydd, mynnu pleidlais i'r bobl, sefyll gyda'n gilydd a phrofi gwerth y Senedd hon.
Rwyf i yn credu bod cytundeb Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn un da, ac mae'n adlewyrchu'r sefyllfa a grewyd gan ganlyniad y refferendwm, sef 52 y cant o blaid gadael, 48 y cant o blaid aros. Mae'r sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd yn un â mymryn o wahaniaeth iddi: perthynas barhaus gydag Ewrop, ond wedi ymadael hefyd â'i strwythurau gwleidyddol. Rwy'n credu bod hynny'n adlewyrchiad teg o ble'r ydym ni fel pobl ar hyn o bryd.
Yn anad dim, caiff y perygl o Brexit afreolus ei ddileu. Mae hyn yn gyflawniad pwysig, ac mae'n glod i Lywodraeth y DU a'r UE y cyflawnwyd hynny. Mae'r sector busnes wedi croesawu'r cytundeb a'r datganiad gwleidyddol. Ysgrifennodd Dow Silicones UK ataf yr wythnos hon—rwy'n credu eu bod nhw wedi ysgrifennu at yr holl Aelodau. Byddai llawer ohonom ni wedi ymweld â'u gwaith yn y Barri; mae'n cyflogi 553 o bobl. Dyfynnaf o'u llythyr:
Mae cyhoeddiad y Llywodraeth o'r dadansoddiad economaidd hirdymor o adael yr Undeb Ewropeaidd yn nodi yn gwbl briodol y sector cemegol fel un o'r rhai sydd fwyaf mewn perygl os na cheir cytundeb.
Aiff ymlaen i ddweud:
Rydym yn cydnabod nad yw'r Cytundeb Ymadael na'r Datganiad Gwleidyddol yn berffaith. Fodd bynnag, os cawn nhw eu sicrhau, maen nhw yn sicrhau peth o'r pendantrwydd angenrheidiol sydd wir ei angen drwy'r cyfnod pontio, gan alluogi ein busnes i gynllunio penderfyniadau buddsoddi gyda mwy o hyder na fu'n wir dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf. Yn ystod y cyfnod pontio hwnnw bydd ein diwydiant hefyd yn gweithio gyda'r Llywodraeth i helpu i sicrhau'r berthynas fwyaf priodol gyda'r UE yn y dyfodol.
Rwy'n credu ei bod hi'n hen bryd bod gennym ni rywun yn darllen o'r sector busnes beth yw eu barn, ac fe ddylem ni ystyried hynny yn ofalus iawn.
Os gwrthodir cytundeb Mrs May mae dau bosibilrwydd yn amlwg yn dod i'r fei: Brexit 'dim cytundeb', y mae busnesau yn ei ofni'n fawr, fel yr wyf i newydd gyfeirio ato, neu ail refferendwm a allai achosi difrod mawr i'n diwylliant democrataidd. Ymddengys i mi nad yw ail refferendwm yn ffordd resymol o weithredu oni bai bod galw aruthrol a gweladwy am hynny, a beth bynnag y mae Adam Price a'i debyg yn ei gredu, nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd. Yn ail, mae disgwyliad ar gyfer canlyniad pendant, ac mae hynny'n golygu mwy na 60 y cant un ffordd neu'r llall, ac nid yw hynny yn sicr yn bodoli ar hyn o bryd. Ymddengys na fu fawr ddim newid o'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi ddwy flynedd yn ôl.
Fel arall, rwy'n credu mai'r peth mwyaf democrataidd i bobl fel fi oedd eisiau aros i'w wneud yw derbyn Brexit, rhoi cyfle iddo ddod i gytundeb terfynol, ac wedyn dechrau'r gwaith i ailymuno â'r UE, oherwydd rwyf yn credu bod hynny yn bendant er budd tymor hir inni. Mae'n hanfodol meddwl yn strategol ar gyfer y tymor hir. Bydd y prosiect yr wyf i wedi ei amlinellu, o ymadael ac yna dychwelyd, mae'n debyg yn cymryd cenhedlaeth, yn union fel mae ein helynt presennol wedi cymryd cenhedlaeth i ddatblygu. Mae'n rhaid inni ennill calonau'r rhai sydd o blaid gadael. Dyna'r peth mwyaf hanfodol i'r rhai sydd eisiau inni gael dyfodol yn yr UE ei gyflawni, ac nid ydym ni'n mynd i wneud hynny drwy geisio eu dilorni a dweud eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad y tro diwethaf ac y byddai'n well inni gael pleidlais arall tan iddyn nhw sylweddoli beth sy'n llesol iddyn nhw. Mae'n rhaid inni eu hysbrydoli â gweledigaeth newydd ar gyfer yr UE, ac mae angen i'r UE ddiwygio ei hun hefyd. Gadewch inni beidio ag anghofio pwysigrwydd y math hwnnw o adnewyddu democrataidd. A ydym ni'n gwbl ddall i'r protestiadau sy'n digwydd mewn gwladwriaethau Ewropeaidd o bob math ar hyn o bryd? Dewch ymlaen. Gadewch i ni ddarllen arwyddion ein hamseroedd, oherwydd maen nhw'n gweiddi'n uchel iawn arnom ni, ac yn y DU mae arnom ni hefyd angen adnewyddu ein diwylliant democrataidd.
Rwy'n credu, mwy na thebyg, mai dyma oedd rhan fwyaf syfrdanol yr holl brofiad Brexit, i sylweddoli'n sydyn beth mae llawer o'n dinasyddion yn ei feddwl ohonom ni i gyd ym mhob un o'r pleidiau gwleidyddol sefydledig. Mae'n amlwg bod angen inni fod yn decach gyda dinasyddion am bob math o resymau. Mae'r contract cymdeithasol a ddatblygwyd ar ôl yr ail ryfel byd yn wannach ac, mewn mannau, mae wedi dadfeilio. Mae angen inni feddwl am fersiwn newydd o hynny i ennill teyrngarwch pob un o'n dinasyddion a gwneud iddyn nhw deimlo bod ganddyn nhw le gwirioneddol yn ein bywyd a'n ffyniant cenedlaethol.
Mae angen inni fod yn decach â gwledydd cartref yr Undeb. Bydd hyn yn un o brofion mwyaf Brexit—sut ydym ni'n cynnal cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU ac ymdrin â'r pwysau hynny. Dylai'r sefyllfa yn yr Alban, lle gwnaethon nhw bleidleisio mor gadarn i aros, fod yn rhybudd cadarn i'r holl unoliaethwyr sydd eisiau gweld y Deyrnas Unedig yn parhau gyda'i gilydd. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni'r Ceidwadwyr ei gofio—rydym ninnau hefyd yn blaid unoliaethol—a dylid mesur y dewisiadau amrywiol sy'n ein hwynebu yn unol â sut y maen nhw'n effeithio ar yr Undeb cyfan yn ogystal â sut y gallan nhw effeithio ar amrywiol fersiynau o ba mor bur yw polisi penodol.
Mae angen cysylltiad agosach rhwng dinasyddion a gwleidyddion—mae hynny'n amlwg yn bwysig ledled y byd democrataidd gorllewinol, ond mae'n wirioneddol pwyso arnom ni bellach. Os ydym ni'n gwyrdroi Brexit drwy fwyafrif bach, byddwn yn fwy rhanedig fyth nag yr ydym ni heddiw. Pam? Wel, yn wahanol i'r bobl sydd eisiau aros heddiw, byddai'r rhai sydd eisiau gadael yn colli pob gobaith a ffydd y gall system wleidyddol y DU wireddu eu dymuniadau hyd yn oed ar y mater mwyaf sylfaenol hwn. O leiaf mae gennym ni sydd eisiau aros y cyfle i ddychwelyd at y mater hwn a gweithio ar gyfer ymgais i ailymuno â'r UE yn y dyfodol.
Bydd hyd yn oed yr ymgais honno i wrthdroi canlyniad y refferendwm yn sigo'r ffydd sydd gan lawer yn ein diwylliant democrataidd. Rwyf yn rhybuddio Aelodau Llafur eich bod mewn perygl o weld pobl yn cefnu'n llwyr arnoch chi yn y Cymoedd os ewch yn ôl atyn nhw—ac roedd sylwadau Lynne yn rymus iawn. Ond edrychwch ar y Blaid Ryddfrydol rhwng 1918 a 1923 i weld beth all ddigwydd a pha mor gyflym y gall ddigwydd. Mewn llawer o wledydd democrataidd gorllewinol mae'r rhai sydd fwyaf difreintiedig yn pleidleisio dros bleidiau canol-dde. Maen nhw wastad wedi gwneud hynny mewn niferoedd mawr yng Ngweriniaeth Iwerddon. Edrychwch beth sydd wedi digwydd yn Ohio, Pennsylvania, taleithiau'r de. Faint o Ddemocratiaid sydd wedi eu hethol dros Orllewin Virginia ar hyn o bryd? Dyma'r math o beth a allai eich wynebu.
A dywedaf wrth fy nghyd-Geidwadwyr nad ydyn nhw'n mynd i gefnogi cytundeb Mrs May y byddem ni mewn perygl o golli cefnogaeth ar y dde os byddwn ni'n gorfodi refferendwm arall. Ac mae'n debyg y byddem ni'n gweld rhyw fath o genedlaetholdeb Seisnig croch yn datblygu a fyddai'n tanseilio llawer o'n pleidlais graidd hefyd.
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Rwyf yn dod at y diwedd, ond rwy'n fodlon derbyn yr—.
Yn syml iawn, a yw'n cytuno nad ydych chi'n curo'r dde eithafol drwy ei foddio?
Wel, fel Ceidwadwr Rhyddfrydol, rwy'n credu mai dyna fu cenhadaeth fy mywyd hyd yn hyn, felly yn sicr rwyf i yn cytuno â chi. Ond fe wn i mewn democratiaeth, bod yn rhaid i chi dderbyn penderfyniad yr ydych yn wirioneddol anghytuno ag ef gyda chwerwder—dyna yw ystyr democratiaeth. Nid yw'n ymwneud â'i chael hi'n hawdd bob amser neu golli am bum mlynedd ac yna eich plaid chi'n mynd yn ôl i mewn—mae'n digwydd bob yn ail. Mae'n golygu, weithiau, bod yn rhaid i chi dderbyn penderfyniad yr ydych yn llwyr anghytuno ag ef. Mae mor syml â hynny.
Cawsom bleidlais. Rydym ni'n gwybod rheolau'r refferendwm. Rwy'n credu eu bod nhw'n ddiffygiol iawn, ond cawson nhw gefnogaeth unfrydol bron ar draws pob plaid wleidyddol, gan gynnwys y Democratiaid Rhyddfrydol. Nawr yw'r amser i dderbyn y realiti ein bod yn gadael yr UE, pa mor anodd bynnag yw hynny i'r rhai ohonom ni sy'n gweld Ewrop mor hanfodol i'n ffyniant cenedlaethol. Mae angen inni symud ymlaen, ac yna gallwn fynd yn ôl i mewn.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon fel aelod o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol am y flwyddyn ddiwethaf a Chadeirydd Rhwydwaith Menywod yn Ewrop (Cymru). Ac fe fyddwch yn ymwybodol o waith ein pwyllgor yn paratoi ar gyfer Brexit, gan gynnwys yr adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf am barodrwydd y sector gofal iechyd a meddyginiaethau yng Nghymru. Mae cael gafael ar feddyginiaethau yn peri pryder penodol. Cododd ein hadroddiad bryderon penodol yn cynnwys y cyflenwad parhaus o feddyginiaethau, trefniadau ar gyfer gofal iechyd cyfatebol, a rhagolygon brawychus yn ymwneud â'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar ôl Brexit. Dim ond un enghraifft yn unig yw hon o dystiolaeth annibynnol yr ydym wedi ei chymryd i ddatgelu pryderon ynghylch effeithiau andwyol Brexit. Ac fel yr argymhellwyd gennym ni yn yr adroddiad, mae angen inni gynnal rheoleiddio cydweithredol parhaus rhwng yr UE a'r DU o ran cael gafael ar feddyginiaethau ac ymchwil clinigol ar ôl Brexit. A fyddai hyn yn cael ei gyflawni drwy'r cytundeb ymadael? Mae angen i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gael gwybod.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi siarad am effeithiau economaidd pob sefyllfa Brexit yn union fel y mae Trysorlys ei Mawrhydi a Banc Lloegr, gan ei gwneud hi'n gwbl glir bod pob sefyllfa Brexit yn cynnwys niwed economaidd a achosir gennym ni ein hunain gyda 'dim cytundeb' yn llawer mwy niweidiol nag eraill. Fel y dywedodd Mark Carney, mae unrhyw fath o Brexit yn sicr o wneud y wlad yn dlotach. Hefyd, cefais lythyr, fel y cafodd David, oddi wrth y cwmni mawr hwnnw yn y Barri sydd â gweithlu mawr, yn tynnu sylw at y gweithgarwch enfawr—i'w dyfynnu nhw—o ran allforion a mewnforion, cymhlethdod y cadwyni cyflenwi a chroesfannau ffiniau niferus, gydag unrhyw darfu yn effeithio ar y potensial ar gyfer buddsoddiad a masnach yn y dyfodol. Rwy'n gefnogwr brwd o Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru 'Diogelu Dyfodol Cymru', sy'n ei gwneud yn glir bod angen inni gael mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl a chyfranogiad yn yr undeb tollau er mwyn amddiffyn cwmnïau fel hyn yn fy etholaeth i. Nid yw'n glir y byddai'r cytundeb ymadael yn sicrhau hyn.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod fy mod i'n arbennig o bryderus ynghylch effaith y cytundeb ymadael ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 27 Tachwedd, bu cynnal amddiffyniadau cymdeithasol ac amgylcheddol, gan gynnwys hawliau gweithwyr, yn un o chwe blaenoriaeth Llywodraeth Cymru, a nodir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Yn ei ddatganiad yr wythnos diwethaf, cyfeirioddd y Prif Weinidog at y methiant i ymrwymo'r DU i gyfochri blaengar yn hytrach na threfniadau di-atchweliadol gyda safonau'r UE a hawliau, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma, o ran yr amgylchedd a'r farchnad lafur. Nid yw rhwymedigaethau di-atchweliad yn ddigon da. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn credu'n gryf y dylai'r DU ymrwymo i berthynas ddeinamig, i gamu ymlaen ac nid sefyll yn yr unfan, yn hytrach na di-atchweliad o safbwynt cydraddoldeb a hawliau dynol. Felly, rwy'n llwyr gefnogi pwynt 4 cynnig Llywodraeth Cymru ar y cytundeb ymadael, sy'n:
methu â darparu sicrwydd cadarn o ran hawliau gweithwyr yn y dyfodol, hawliau dynol a deddfwriaethau cydraddoldebau.
Yn yr haf, deuthum â grŵp o sefydliadau cydraddoldeb a mudiadau menywod ynghyd i drafod effaith Brexit ar fenywod yng Nghymru. Cafodd gefnogaeth eang fel rhwydwaith anffurfiol i fenywod sy'n awyddus i'w lleisiau gael eu clywed pan fo penderfyniadau'n cael eu gwneud ynghylch Brexit. Dyna pam yr wyf i'n parhau i ganolbwyntio ar effeithiau ar gydraddoldeb yn y pwyllgor materion allanol.
Yn olaf, Llywydd, mae ein hetholwyr ni eisiau gwybod beth yw ein safbwynt ni heddiw ynglŷn â Brexit. Maen nhw'n gwybod fy mod i wedi pleidleisio i aros. Rwyf i'n barod am etholiad cyffredinol os bydd y bleidlais yn cael ei cholli yr wythnos nesaf, ac rwyf i hefyd yn barod am ail refferendwm. Dyna fyddai prawf mwyaf ein bywydau gwleidyddol, ond fe fyddai'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli yn cael cam pe na byddem ni'n sefyll drostynt a gyda nhw nawr. Rwyf i yn cytuno â David Melding bod hyn yn ymwneud â gweledigaeth newydd y byddai'n rhaid i ni ei rhannu a'i thrafod â phobl ar garreg y drws, ond rwyf i yn credu bod pwynt 6 cynnig Llywodraeth Cymru yn cwmpasu hyn.
Yn yr un modd ag Aelodau eraill y Cynulliad, rwyf innau wedi cael nifer o negeseuon yn ystod y dyddiau diwethaf, ac mae llawer wedi codi pryderon mawr ynghylch y dyfodol y bydd Brexit yn ei greu ac yn galw am ail refferendwm. Ysgrifennodd etholwr a oedd yn poeni'n fawr i ddweud ei bod wedi dychryn oherwydd sefyllfa'r wlad, gyda Llywodraeth y DU wedi'i rhannu a diwydiant a'r gymdeithas gyfan yn ansicr iawn. Roedd un arall, mam-gu 87 oed wedi dychryn yn ofnadwy wrth feddwl am y dyfodol trychinebus y bydd Brexit yn debygol o'i olygu. Llywydd, nid yw'r cytundeb presennol yn bodloni chwe blaenoriaeth 'Diogelu Dyfodol Cymru'; Nid yw'n mynd yn ddigon pell ac rwyf yn ei wrthwynebu. Dylai Llywodraeth y DU gofleidio'r berthynas gyda'r UE yn y dyfodol fel sy'n cael ei nodi yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Mae'n rhaid inni gymryd cyfrifoldeb yn y Senedd hon wrth i bethau ddatblygu, i chwarae ein rhan i ddiogelu Cymru, ein heconomi a'n pobl.
Ar yr adeg dyngedfennol hon yn ein hanes, mae gennym ni ddyletswydd i ddangos arweiniad. O'm safbwynt i, ac ar y meinciau hyn, mae hynny'n golygu gwrthod cytundeb ymadael Theresa May; mae'n golygu ymestyn Erthygl 50; mae'n golygu aros yn y farchnad sengl; mae'n golygu aros yn yr undeb tollau; ac mae'n golygu gwthio am bleidlais y bobl, gan gynnwys y dewis i aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Dyna beth yw gwelliannau Plaid Cymru ac rwy'n eich annog chi i gyd i bleidleisio o'u plaid, oherwydd y llanastr yr ydym ni ynddo.
Dwy flynedd ers y refferendwm Brexit, bellach mae realiti yr hyn y mae Brexit yn ei olygu mewn gwirionedd yn dechrau dod yn gliriach. Mae Brexit yn golygu Brexit—neu frecwast, yn gofiadwy, ar un adeg. Ond, mewn gwirionedd, mae Brexit yn golygu y bydd yr economi'n cael ergyd fawr. Mae Brexit yn golygu busnesau o dan bwysau. Mae Brexit yn golygu bod dyfodol busnes rhyngwladol allweddol yng Nghymru yn amheus iawn. Mae Brexit yn golygu bod prisiau ar y stryd fawr yn codi. Mae Brexit yn golygu storio nwyddau, storio meddyginiaethau. Mae Brexit yn golygu, 'Pa ddyfodol sydd i ffermio yng Nghymru?' Mae Brexit yn golygu bod prifysgolion yn colli arian ymchwil. Mae Brexit yn golygu na all myfyrwyr fod yn rhan o Erasmus +, Horizon 2020 a dysgu arloesol Ewropeaidd tebyg. Dyna mae Brexit yn ei olygu.
A hefyd, mae'r ymgyrch ymadael yn destun ymchwiliad ynghylch cyllido anghyfreithlon posibl, a allai fod yn dwyll etholiadol. Mae'r cytundeb arfaethedig yn waeth na bod yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae 'Dim cytundeb' yn waeth na bod yn yr Undeb Ewropeaidd. Nid oes unrhyw ucheldiroedd Brexit heulog. Dywedwyd celwydd wrth y bobl yn 2016. Nid oes sefyllfa lle bydd yr economi yn gwella. Nid oes unrhyw — [Torri ar draws.]
Roeddech yn dweud bod celwydd wedi ei ddweud wrth bobl yn 2016. Beth am y celwyddau a aeth â ni i Ewrop? A ydyn nhw'n ddim byd iddyn nhw? Ni fyddem ni byth yn ildio ein sofraniaeth seneddol. Byddem ni'n cadw'r hawliau llawn dros ein pysgota i gyd. Ni fyddai gofyn inni ymuno â'r arian sengl. Byddai llysoedd Prydain yn cael yr oruchafiaeth. Dyma'r celwyddau a aeth â ni i Ewrop, David, a chefais fy nhwyllo ganddyn nhw oherwydd fe bleidleisiais i o blaid cytundeb masnach rydd gyda'r Undeb Ewropeaidd. Mae wedi newid i rywbeth hollol wahanol i hynny. Ni ddywedwyd wrthym ni erioed mai dyna oedd yn mynd i ddigwydd. Felly, pwy sydd wedi dweud y celwyddau? Nid y bobl sy'n ceisio cael pobl i ddod allan o Ewrop; ond y rhai hynny a ddywedodd gelwyddau er mwyn mynd â ni i mewn i Ewrop.
Gallaf gofio bws mawr coch: £350 miliwn yr wythnos ar gyfer y GIG. Dyna un celwydd enfawr, a chyfaddefodd Nigel Farage hynny ar ddiwrnod y bleidlais. Am ymgyrchu cywilyddus. Bydd David Cameron yn cael ei nodi fel un o Brif Weinidogion gwaethaf y DU erioed. Cofiwch chi, mae'n faes llawn iawn. [Chwerthin.] Nid oes cytundeb sy'n well na'r un sydd gennym ni ar hyn o bryd fel aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. Mae pleidlais Llafur o ddiffyg hyder a sbarduno etholiad cyffredinol yn rhywbeth cwbl amherthnasol i dynnu sylw hefyd, gan fod Llafur yr yn mor rhanedig ynghylch Ewrop.
Yn y Siambr hon bythefnos yn ôl, wrth gyhoeddi cael gwared â'r hyn yr wyf i'n dal i'w galw'n Ddeddf dilyniant, ac ildio pwerau drwy gyfrwng cytundeb rhynglywodraethol anstatudol, dywedodd Llafur yn y fan yma eu bod yn ymddiried yn llwyr yn llywodraeth San Steffan ac yn ei pharchu, gan ddweud hefyd y ceir parch tuag at Gymru a'u bod yn ymddiried yng Nghymru, er gwaethaf yr holl dystiolaeth i'r gwrthwyneb, a phrofiad Ysgrifennydd y Cabinet ei hun wrth gael ei gwthio i'r cyrion. Nawr, os gwrthodir cytundeb gwael Theresa May, bydd Llafur eisiau pleidlais o ddiffyg hyder mewn Llywodraeth, yr oedden nhw, dim ond pythefnos yn ôl, yn ymddiried yn llwyr ynddi hi ac yn ei pharchu, gyda phwerau ifanc Cymru yn cael eu hildio yn hapus heb feddwl ddwywaith.
Felly, rydym ni'n wynebu dewis rhwng cytundeb gwael, 'dim cytundeb' neu etholiad cyffredinol dibwrpas. Siaradodd y bobl yn 2016—do, fe wnaethant. Dywedwyd celwydd wrth y bobl yn 2016. Mae pobl yn haeddu ail gyfle i bleidleisio pan ddaw difrifoldeb llawn y llanastr y mae'r DU wedi ei greu i'w hunan wedi dod yn gwbl glir i bawb. Ac mae'n amlwg ei fod y tu hwnt i grebwyll gwleidyddiaeth i ddatrys y llanastr hwn. Pleidleisiwch dros bleidlais y bobl, a'r dewis—[Torri ar draws.] Mandy, mor gwrtais.
Mae llawer ohonoch chi'n gofyn am bleidlais y bobl er eich bod yn gwybod bod pobl Cymru wedi pleidleisio dros adael. Sut gallwch chi fynd am ail bleidlais—pleidlais y bobl—pan nad yw'r bleidlais gyntaf wedi'i gweithredu eto? Yn ail, pe byddech chi'n cael ail refferendwm—pleidlais y bobl—gyda Chymru'n pleidleisio dros adael unwaith eto, a fyddech chi'n anrhydeddu'r canlyniad hwnnw?
Mae'r ffeithiau wedi dod yn glir. Rydym ni'n anrhydeddu canlyniadau. Roedd David Melding yn dweud ein bod wedi sefyll mewn etholiadau, rhai ohonom ni, wedi colli mewn etholiadau—rwyf i wedi colli mwy o etholiadau nac yr wyf i wedi eu hennill. Wrth gwrs, rwy'n parchu'r canlyniad heb gwyno a dweud fy mod yn fethiant trist—rwy'n codi, cael gwared â'r llwch, a sefyll eto—yn debyg i'r hyn y byddai David Melding yn ei wneud, heb amheuaeth. Ond o ran pleidlais y bobl, mae'r ffeithiau wedi newid. Mae'r ffeithiau, mewn gwirionedd, wedi dod yn glir. Dywedwyd celwydd wrth y bobl. Maen nhw'n haeddu cael pleidlais ar y ffeithiau fel y cânt eu cyflwyno nawr, a'r ffaith na all San Steffan ddatrys hyn. Nid oes cytundeb gwell wrth adael. Mae'n amlwg bod unrhyw gytundeb a geir gan San Steffan yn waeth na bod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Felly, dyna pam yr wyf i'n annog pobl i bleidleisio dros bleidlais y bobl a'r dewis i aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Diolch yn fawr.
Mae gan y Prif Weinidog y dasg erchyll o gymodi llawer o wahaniaeth barn a blaenoriaethau, ac ar yr un pryd ceisio anrhydeddu canlyniad y refferendwm, cyflwyno cytundeb masnach rydd cynhwysfawr, beiddgar ac uchelgeisiol newydd, diogelu swyddi a diogelwch pobl, a chynnal uniondeb ein Teyrnas Unedig. Fel y dywedodd yr Ysgrifennydd dros fasnach ryngwladol yr haf hwn, roedd yn rhaid cyfaddawdu, ond roedd Brexit wedi'i gefnogi gan 17.4 miliwn, a chafodd deddfwriaeth i weithredu'r penderfyniad hwnnw ei chymeradwyo gan Aelodau Seneddol. Mae'n destun gofid bod rhai ar ddwy ochr y ddadl nawr yn hybu sefyllfaoedd sefyllfa waethaf yn unig, yn hytrach na myfyrio ynghylch potensial y cytundeb ymadael i gyflawni canlyniad y refferendwm ac unwaith eto ein galluogi ni i reoli ein ffiniau, ein cyfreithiau, ein harian a masnach ddwyochrog, gan gyflawni hefyd berthynas gyda'r UE a fydd yn fuddiol i'r naill ochr a'r llall yn y dyfodol.
Bron i ddwy flynedd yn ôl, fe wnaeth y rhai o blaid ac yn erbyn Brexit ar Bwyllgor Deddfwriaeth Ychwanegol a Materion Allanol y Cynulliad uno i alw am gyfnod pontio ar ôl Brexit ar ôl casglu tystiolaeth fanwl. Gan ddyfynnu Mr Drakeford ei hun, roedd ein hadroddiad ym mis Ionawr 2017 yn datgan na ddylid bod ochr dibyn yn rhan o aelodaeth y DU o'r UE. Mae cymhlethdod negodiadau Erthygl 50 yn golygu y byddant yn anochel yn canolbwyntio ar sut y bydd y DU yn rhyddhau ei hun o'r trefniadau presennol. Bydd yn rhaid datblygu cysylltiadau gyda'r Undeb Ewropeaidd a gweddill y byd yn y dyfodol a'u cytuno dros gyfnod llawer hwy. Trefniadau pontio sydd yn parhau mor agos â phosibl at y sefyllfa bresennol fydd yn darparu'r platfform mwyaf sefydlog ar gyfer negodi yn y dyfodol yn union fel y mae'r cytundeb hwn yn ei wneud.
Roedd ein hadroddiad ym mis Awst 2017 yn cynnwys; dywedodd y Gymdeithas Cludo Nwyddau ar y ffyrdd wrthym ni efallai y byddai trefniadau pontio yn angenrheidiol er mwyn sicrhau effeithlonrwydd y gadwyn gyflenwi ar gyfer y DU a'r UE; tynnodd y Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau gymhariaeth â'r dull fesul cam i gysoni tariffau pan ymunodd y DU â'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd, ac roedd yn dadlau efallai y byddai angen cytuno ar broses fesul cam tebyg ar gyfer Brexit. Yn yr un modd, rhybuddiodd y Gymdeithas Cludo Nwyddau ar y ffyrdd y gallai diffyg trefniadau pontio, neu ganlyniad sy'n arwain at ddim cytundeb, gael canlyniadau negyddol difrifol i borthladdoedd Cymru. Felly, mae negodiadau wedi dilyn proses fesul cam a oedd yn hysbys ac wedi ei deall ac wedi ei chytuno o'r cychwyn cyntaf, ond mae rhai yn dewis camddarlunio hyn fel gwastraffu amser.
Mae'n rhaid i negodiadau yn y dyfodol ddilyn y cloc gwleidyddol, gydag etholiadau'r UE yn 2019. A hyd yn oed pan fydd perthynas fanwl y dyfodol wedi ei chymeradwyo, bydd angen amser i sefydlu trefniadau tollau a masnach newydd. Fis Rhagfyr diwethaf, cytunodd y Cyngor Ewropeaidd bod cynnydd digonol wedi'i gyflawni yn ystod cam 1 negodiadau Brexit. Ar sail hynny, mabwysiadwyd y canllawiau drafft i symud i ail gam y negodiadau, pan ddechreuodd y ddau barti drafodaethau ar gyfnod pontio a'r fframwaith ar gyfer y berthynas yn y dyfodol. Cytunodd y DU a'r UE ar y cyfnod pontio a fydd yn arwain at y DU yn ymadael yn drefnus ym mis Mawrth. Ym mis Mai, derbyniodd Gweinidogion y DU pan y cytunir ar y berthynas â'r UE yn y dyfodol, yna fe fyddai'n rhaid cael cyfnod estynedig o aelodaeth o'r undeb tollau ar gyfer y DU gyfan tra bo technoleg yn cael ei datblygu i fonitro'r ffin rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon heb osod adeiledd mwy parhaol.
Mae rhai felly yn dewis defnyddio'r hyn a gytunwyd ac a dderbyniwyd saith ac wyth mis yn ôl fel esgus dros wrthwynebu'r cytundeb ymadael nawr. Mae'r testun cyfreithiol yn glir: bod y ddau barti eisiau osgoi defnyddio'r ôl-stop ac na all Erthygl 50 sefydlu perthynas barhaol. Ac mae'r UE ei hun wedi ei gwneud hi'n glir iawn nad yw eisiau i'r DU ar ôl Brexit aros yn yr undeb tollau estynedig a bod yn aelod o'r farchnad sengl. Fodd bynnag, fe welwn nawr anhrefn gwrthun ymhlith ASau Llafur yn y gogledd wrth iddyn nhw ddatgan y byddan nhw'n pleidleisio yn erbyn y cytundeb ymadael oherwydd y byddai'r DU yn parhau i fod yn ddarostyngedig i reolau'r UE am gyfnod y tu hwnt i'n haelodaeth, pan, o'r cychwyn, galwodd Papur Gwyn Brexit Llafur Cymru ar y cyd â Phlaid Cymru i'r DU barhau'n atebol i'r rheolau hyn am byth. Felly, hyd yn oed yng Nghymru, mae'n ymddangos na all y Blaid Lafur ganu o'r un llyfr emynau.
Pleidleisiodd Cymru dros adael yr Undeb Ewropeaidd, nid y Deyrnas Unedig, ond eto mae Plaid Cymru yn ceisio cadw Cymru yn yr UE, a'i llusgo allan o'r DU, er gwaethaf y ffaith mai'r DU yw marchnad sengl fwyaf Cymru o bell ffordd. Mae Plaid Cymru'n cwyno nad yw Cymru yn cael ei chrybwyll yn y cytundeb ymadael, ond nid yw'r Alban ychwaith, na Lloegr ac eithrio Banc Lloegr. Yr unig refferenda yn yr UE i'w cynnal am yr ail dro yw'r refferenda cytuniad yn Nenmarc ac Iwerddon, a aeth yn erbyn yr UE. Fe niweidwyd hyder y cyhoedd, difethwyd enw da'r UE. Nid ydym ni eisiau gweld y math hwnnw o weithgarwch yn cael ei ailadrodd yma. Mae'r arian a roddir i'r UE gan y DU ddwywaith yr arian y mae'n ei gael yn ôl. Bydd hyn yn cael ei gadw yn y DU yn y dyfodol, ac rydym ni i gyd yn cydnabod y dylai Cymru gael yr un cwantwm o gyllid ag y mae'n ei gael nawr.
Fel y dywedodd Paul Davies, pan gyfarfu â Llywydd NFU Cymru â'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf yn ffair aeaf y Sioe Frenhinol:
Yn ystod y cyfarfod cadarnhaol hwn, cymeradwyais y ffaith bod y cytundeb y mae hi wedi cytuno arno mor agos â phosibl at yr amodau masnach rydd a llyfn ar gyfer amaeth a chynnyrch bwyd y buom ni'n lobïo yn eu cylch dros y ddwy flynedd diwethaf.
A gall y DU hefyd negodi cytundebau masnach â thrydydd gwledydd, yn barod i'w gweithredu ar ôl y cyfnod pontio. Yn uwchgynhadledd y G20 yr wythnos diwethaf, trafododd y Prif Weinidog â nifer o wledydd—gyda Japan yn edrych ymlaen at drafod aelodaeth posibl y DU o'r cytundeb cynhwysfawr a blaengar ar gyfer partneriaeth traws-Gefnfor Tawel. Dim chwaraewyr bach yn y fan honno.
Felly, yn hytrach na gwrthod y cytundeb hwn, a chreu ansicrwydd a pheryglu swyddi a buddsoddiad, gadewch inni fod yn ddigon mawr i gamu tuag at Gymru sy'n edrych allan, yn y DU fyd-eang, drwy gydnabod y dadleuon a gyflwynwyd gan Paul Davies, a chydnabod bod hyn yn gyfaddawd i bob un ohonom. Roeddwn i o blaid gadael, roeddd David o blaid aros, ond rydym ni'n cydnabod, heb gyfaddawdu, y bydd y Deyrnas Unedig gyfan—yn enwedig Cymru—yn cael ei niweidio'n enbyd. Diolch.
Y prynhawn yma, fe roddaf i fy nghyfraniad mewn dwy ran, a bydd y rhan gyntaf yn seiliedig ar fy swyddogaeth fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth Ychwanegol a Materion Allanol. Ac rwyf yn falch ein bod ni eisoes wedi cael sylwadau gan Jane Hutt a Mark Isherwood, yn myfyrio ynghylch rhywfaint o'r gwaith yr ydym ni wedi ei wneud ers inni gael ein sefydlu, yn dilyn refferendwm 2016, gyda'r bwriad o ystyried y goblygiadau i Gymru ar ôl gadael yr UE. Ers hynny, rydym ni wedi ceisio ystyried y goblygiadau ar draws ystod eang o sectorau, a phan yr oeddem yn ystyried ei fod yn angenrheidiol, fe wnaethom ni geisio dylanwadu ar y broses Brexit, yn Llundain ac ym Mrwsel, a sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed cymaint â phosibl. A cheisiaf gyflwyno'r rhan hon o'm cyfraniad mor gytbwys â phosibl, gan adlewyrchu gwaith y pwyllgor.
Rydym ni wedi treulio dwy flynedd a hanner yn casglu'r dystiolaeth hon—ni wnaethom ni hyn dros gyfnod byr yn unig—felly roeddem ni'n gallu ymateb yn gyflym i'r cytundeb ymadael, a'r datganiad gwleidyddol, a'r dadansoddiad o hynny, a daethom ar draws saith maes eang. Ac rydym ni wedi cyhoeddi adroddiad, yr wyf yn gobeithio bod Aelodau wedi cael cyfle i'w astudio. Saith maes: economi a masnach yr UE; porthladdoedd a thrafnidiaeth; amaethyddiaeth, bwyd a physgodfeydd; ynni a'r amgylchedd; gofal iechyd; cydraddoldeb a hawliau dynol; trefniadau sefydliadol—i gyd yn hanfodol i ddyfodol Cymru. Ac fe lwyddom ni hefyd, yn y cyfnod byr hwnnw, i gael arbenigedd ymgynghorydd allanol—Dr Tobias Lock o Ysgol y Gyfraith Caeredin—a ddarparodd ddadansoddiad cyfreithiol o'r cytundeb ymadael a'i oblygiadau. Dyna pam y mae hi'n bwysig eich bod chi’n darllen y papur hwnnw—nid ein barn ni sydd ynddo, mae'n farn allanol, heb unrhyw ragfarn o gwbl, ac mae'n hollbwysig i'r ddadl hon. Hoffwn i hefyd gofnodi, Llywydd, waith rhagorol staff Comisiwn y Cynulliad, yn paratoi, mewn cyfnod byr, y gwaith yr ydym ni wedi llwyddo i'w ddarllen. Oherwydd rydych chi wedi cael 10 diwrnod ers cyhoeddi'r cytundeb drafft a'r datganiad gwleidyddol drafft, a chafodd y gwaith hwn ei lunio gan y staff, ac mae'n waith aruthrol. Felly, os gwelwch yn dda, rwy'n credu y dylid eu cydnabod am y gwaith hwnnw.
Llywydd, gan gyfeirio at y saith maes polisi, mae ein dadansoddiad yn awgrymu, yn y tymor byr o leiaf, y bydd y cytundeb yn cynnig sefydlogrwydd mawr ei angen ar gyfer economi Cymru—adlewyrchwyd hynny mewn rhai o'r sylwadau—oherwydd trefniadau'r cyfnod pontio yr ydym ni i gyd wedi eu derbyn a'u cydnabod. Fodd bynnag, amlygodd Mark Isherwodd hefyd yr amserlenni sy'n ein hwynebu yn ystod y cyfnod pontio hwnnw—ail-etholiadau Senedd Ewrop, Comisiwn newydd i'w benodi, ac os ydym ni eisiau estyniad—i'w wneud erbyn 1 Gorffennaf. Felly, y realiti yw na fyddwch chi'n dechrau trafodaethau tan tua mis Hydref, ac y mae'n rhaid ichi, erbyn 1 Gorffennaf, benderfynu ynghylch y Cytundeb Masnach Rydd sef pa un a ydych chi eisiau ymestyn y cyfnod pontio ai peidio. Mae pawb yn gwybod na chewch chi gytundeb mewn 10 mis. Felly, y realiti yw y byddwn ni naill ai'n ceisio cael estyniad neu fynd i'r ôl-stop. Dyna'r gwirionedd. Nawr, bydd yn rhaid inni dderbyn hynny, er y nododd Neil Hamilton 'XX', fe ŵyr pob un ohonom ni mai 2020 neu 2022 ydyw—dyna'r dyddiadau a ddyfynnwyd i ni. Felly, dyna'r dyddiadau a ddyfynnwyd i ni, dyna'r dyddiadau y gwyddom amdanyn nhw, oherwydd y mae'n dweud blwyddyn neu ddwy, ac mae'n dweud 2020. Byddwn yn parhau i weithredu o dan y deddfau presennol. Felly, mae gan fusnesau y sicrwydd hwnnw. Byddan nhw'n gweithio fel y maen nhw heddiw. Gallwn gynnig canlyniad llawer llai cythryblus i economi Cymru na'r canlyniad pe byddai'r DU wedi methu â chyrraedd unrhyw fath o gytundeb. Fodd bynnag, gadewch inni beidio ag anghofio rhywbeth arall: yn ystod y cyfnod pontio hwnnw, rydym ni wedi colli ein holl lwybrau ffurfiol o ddylanwad dros gyfraith yr UE a'n cynrychiolaeth ddemocrataidd yn yr UE. Bydd ein ASEau wedi mynd. Ni fydd gennym reolaeth dros unrhyw un o'r agweddau hyn bellach. Byddwn ni wedi colli ein lle ar Bwyllgor y Rhanbarthau, byddwn ni wedi colli ein lle ar bwyllgorau eraill—rydym ni'n colli ein dylanwad.
A'r ôl-stop—gadewch inni beidio ag anghofio'r ôl-stop yn dod i rym, ac mae hynny'n rhan o'r cytundeb, i osgoi ffin galed. Nid oes unrhyw un ohonom ni eisiau ffin galed rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon, ond bydd o bosibl, a mwy na thebyg, yn dod os na allwn i gael cytundeb erbyn 1 Ionawr 2021, ac yna mae'n edrych yn waeth ar Gymru, oherwydd fe fydd gennym ni gyfochri rheoleiddiol i lawr Môr Iwerddon a bydd yn rhaid inni ymdrin â hynny. Rydym ni bob amser wedi amlygu materion ynghylch porthladdoedd a symud nwyddau o ganlyniad i hynny. A bydd anghymesuredd y setliadau datganoli hefyd yn dod yn fwy amlwg gan godi cwestiynau ynghylch dynameg y pŵer rhwng cenhedloedd y DU o safbwynt rheoli marchnad gyffredin y DU. Gyda llaw, nid ydym ni wedi cael unrhyw gyfeiriad at farchnad gyffredin y DU ar ôl Brexit ychwaith, felly beth fydd ein sefyllfa ni? Maen nhw wedi canolbwyntio ar ddatganiad gwleidyddol yr UE yn unig. Felly, beth yw'r datganiad gwleidyddol ynghylch dyfodol y DU a'r gwledydd yn y DU?
Felly, gan symud ymlaen at y datganiad gwleidyddol, mae'n glir bod y Llywodraeth yn dyheu am sefyllfa pryd y byddwn ni y tu allan i'r farchnad sengl a'r undeb tollau, ond heb sicrwydd. Rydych chi'n sôn am sicrwydd ar gyfer 2020, ar gyfer y cyfnod pontio—nid oes sicrwydd ar ôl 2020. Nid ydym yn gwybod beth fydd y sefyllfa, nid ydym yn gwybod a fydd ochr y dibyn yn ein hwynebu ar 31 Rhagfyr 2020, ai peidio. Mae'n drychinebus.
Llywydd, fe ddywedais i fy mod i eisiau rhoi fy safbwynt meinciau cefn ynghylch hyn, oherwydd ei bod hi'n bwysig i mi gael y cyfle i siarad, nid yn unig yn rhinwedd fy swyddogaeth fel Cadeirydd, ond fel aelod o'r Cynulliad hwn. A bydd gweddill fy nghyfraniad o'r safbwynt hwnnw. Rwy'n parchu teyrngarwch Paul Davies, Mark Isherwood a David Melding i'w plaid. Ond rydym ni mewn sefyllfa o drafod cytundeb gwael oherwydd na all Llywodraeth Dorïaidd y DU hon gytuno ar yr hyn y mae hi eisiau ei gyflawni. Dechreuwyd gyda'r term 'Mae Brexit yn golygu Brexit'. Oes rhywun wedi canfod ystyr hyn? [Chwerthin.] Nid wyf i wedi llwyddo. Ac mae'n diweddu gyda'r sefyllfa drychinebus 'Mae Brexit yn golygu aros mewn undeb tollau heb lais'. Dyna'r sefyllfa—methiant llwyr ar ôl dwy flynedd o negodi trychinebus.
Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet mewn gwirionedd wedi mynegi eisoes y myfyrdod cryf ar y cytundeb ymadael, felly ni fyddaf yn ailadrodd hynny. Ond o ran y datganiad gwleidyddol, mae hefyd yn amlwg mai ôl-ystyriaeth mewn gwirionedd yw hwn. Dywedodd Mark Isherwood eu bod mewn sefyllfa ym mis Rhagfyr y llynedd i ddechrau siarad am y dyfodol, oherwydd eu bod nhw wedi cytuno ar rai rhannau eisoes. Daeth mis Mai i'n rhan, roedden nhw mewn sefyllfa o allu. Ôl-ystyriaeth, yw hyn, nid perthynas â'r UE ar gyfer y dyfodol. Rhestr o ddymuniadau oedd y chwe thudalen cychwynnol. Mewn wythnos cafodd ei chwyddo i 26 o dudalennau ac nid yw'n rhoi unrhyw ffydd i ni y bydd yn sicrhau'r economi na dyfodol busnesau yng Nghymru.
Hefyd, amlygodd Ysgrifennydd y Cabinet y gwendidau o gael cyfwerthedd mewn hawliau gweithwyr—defnyddiaf y gair 'cyfwerthedd', oherwydd bod Llywodraeth y DU yn hoffi'r gair 'cyfwerthedd' yn fawr—deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol. Nid ydyn nhw yno, dim ond 'dim atchweliad'. Dyna beth y mae'n ei ddweud. Nid yw'n dweud, 'byddwn yn mynd bob yn gam gyda'n cydweithwyr yn Ewrop.'
Llywydd, rwy'n credu ei bod yn bwysig, gan fod gennym ni gytundeb ar y bwrdd, i fyfyrio ynghylch un peth: mae Prif Weinidog y DU wedi cychwyn ymdrech i'n swyno ni. Mae hi'n mynd o amgylch y wlad yn ceisio darbwyllo'r cyhoedd i argyhoeddi ei ASau gwrthryfelgar hi i'w gefnogi. Wel, os yw hi eisiau i'r cyhoedd ei gefnogi, dylai fynd at y cyhoedd. Mor syml â hynny. Dylai fynd at y cyhoedd a gofyn i'r cyhoedd a ydyn nhw'n cytuno â'r cytundeb hwn ai peidio. Nawr ai pleidlais y bobl yw hynny? Ai pleidlais gyhoeddus yw hynny? Ewch at y cyhoedd. Ai etholiad cyffredinol yw hynny? Ewch at y cyhoedd. Nawr, rwyf mewn gwirionedd yn cydnabod geiriad gwelliant 3 Plaid Cymru, ond er y byddai hwnnw'n dileu pwynt 6 cynnig y Llywodraeth rwy'n credu ei fod yn cynnig yr un egwyddor: ewch at y cyhoedd y naill ffordd neu'r llall—etholiad cyffredinol neu bleidlais y bobl. Dyna'r hyn mae'n ei gynnig. A dyna beth yr ydym ni eisiau ei wneud.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Wrth gwrs, roeddwn yn aros amdano. Gwnaf, wrth gwrs y gwnaf.
Rwy'n parchu'r ffaith fod yr Aelod yn ymdrin â'r mater hwn o ddifrif, ond oni fyddai'n derbyn mai'r rheswm pam yr ydym ni'n cael y ddadl hon yw ein bod eisiau anfon neges at y Senedd arall honno, a fydd, mewn mater o ddyddiau, yn pleidleisio ar gyfres o welliannau ar bynciau penodol? Ni fydd y gwelliant a gyflwynir yn dweud 'naill ai/neu'—naill ai etholiad cyffredinol neu bleidlais y bobl. Bydd gwelliant ar bleidlais y bobl yn unig, ac nid yw'n glir, yn seiliedig ar gynnig y Llywodraeth, beth fydd safbwynt y Senedd hon, oni bai ei bod yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru.
Rwy'n derbyn y pwynt y mae'n ceisio ei wneud—wyddoch chi, a ydych chi eisiau gwneud pwynt penodol neu a ydych chi eisiau dweud mewn gwirionedd, 'Wel, mewn gwirionedd, mae dewisiadau i gael safbwynt y cyhoedd ar hyn', ac rwy'n credu bod pwynt 6 yn cynnig y dewisiadau hynny? Fodd bynnag, rwyf yn mynd i rannu barn fy nghyd-Aelodau sef fy mod yn amau'n fawr a fydd y Prif Weinidog yn derbyn unrhyw un o'r dewisiadau, oherwydd ei bod hi'n gwybod y bydd hi'n colli hynny hefyd.
Llywydd, fe hoffwn orffen drwy ddweud hyn: mae'r cytundeb yn wael; mae'n methu â diogelu economi Cymru; bydd yn creu dirywiad o 3.9 y cant yn ein heconomi—mae hyd yn oed ffigurau Llywodraeth y DU yn dweud hynny—a hynny heb inni ystyried y bydd yr effaith ar Gymru yn waeth oherwydd ein sectorau gweithgynhyrchu a diwylliannol; ac nid yw'n rhoi sicrwydd hirdymor i fusnesau nac i'n dinasyddion. Mae'n rhaid i'n Haelodau Seneddol a fydd yn pleidleisio, fod yn glir nad ydym ni'n derbyn y cytundeb hwn.
Mae'n bleser gen i siarad heddiw ar welliannau Plaid Cymru ac o blaid gwelliannau Plaid Cymru, wrth gwrs, a hynny ar ran etholaeth Arfon, un o'r etholaethau a oedd mwyaf cadarn ei chefnogaeth dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd, gyda dros 60 y cant wedi pleidleisio i aros. Yn ôl arolwg barn diweddar, mi fyddai 71 y cant o bobl Arfon, erbyn hyn, yn bwrw pleidlais dros aros petai pleidlais arall—a'r unig ffordd allan o'r llanast yma ydy pleidlais arall, pleidlais y bobl. Nid oes yna ddim pwrpas cael etholiad cyffredinol. Ni fyddai Jeremy Corbyn yn ymgyrchu dros aros yn y farchnad sengl. Felly, mwy o lanast, mwy o ansicrwydd fyddai'n dilyn petai o'n ennill. Felly, da chi—chi ar feinciau Llafur sy'n gwybod hynny yn eich calonnau—cefnogwch gwelliant 3 Plaid Cymru. Dyna pam yr ydym ni wedi ei gyflwyno fo yma heddiw yma.
Mae pobl Arfon wedi dod i'r casgliad mai aros yn y farchnad sengl a'r undeb dollau yw'r ateb gorau o bell ffordd i bawb sydd yn byw yno. Felly, ar eu rhan nhw y prynhawn yma, rydw i yn datgan fy mod yn gwrthod cytundeb ymadael Theresa May. Mae'r ddadl economaidd yn glir. Mae sedd Arfon yn rhan o ranbarth gorllewin Cymru a'r Cymoedd. Mae cynnych domestig gros yn isel, ac o'r herwydd mae'n derbyn arian o'r Undeb Ewropeaidd—yn debyg i dde Sbaen, Portiwgal a chyn-wledydd comiwnyddol Ewrop. Mae Arfon hefyd yn derbyn arian INTERREG er mwyn hyrwyddo cysylltiadau efo Gweriniaeth Iwerddon, ac mae yna gryn bryder yn lleol am y diffyg manylder syfrdanol ynglŷn â beth a ddaw yn lle'r ffynonellau ariannol yna i'r dyfodol.
Mae Prifysgol Bangor ac Ysbyty Gwynedd yn etholaeth Arfon, ac mae gan y ddau sefydliad nifer sylweddol o staff sydd o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd, a myfyrwyr hefyd ym Mangor, wrth gwrs, yn y brifysgol. Un o gyflogwyr sector preifat mwyaf Arfon yw cwmni Almaeneg sy'n gweithio ym maes technoleg feddygol. Mae Arfon yn ganolfan cynhyrchu rhaglenni teledu sy'n cydweithio â darlledwyr eraill yr Undeb Ewropeaidd. Ac Arfon yw un o'r ardaloedd lle mae'r iaith Gymraeg gryfaf, gydag 85 y cant o bobl ifanc wedi cael budd o ddarpariaeth addysgol ddwyieithog. Mae siarad dwy, tair, pedair iaith yn normal yn yr Undeb Ewropeaidd, ar lefel swyddogol, cymdeithasol a diwylliannol, sy'n rhoi hyder inni y bydd y Gymraeg yn goroesi o fewn y cyd-destun Ewropeaidd. Y tu allan i'r undeb honno, mae'r dyfodol yn llai gobeithiol. Dyna, yn rhannol, sy'n esbonio'r gefnogaeth sylweddol sydd yn Arfon dros aros. Mae cynnal hawliau pobl, a chynnal deddfwriaeth cydraddoldeb, yn allweddol i hynny hefyd.
Dyma droi at ail rhan fy sylwadau y prynhawn yma. Mae'n fraint i mi gael cydweithio ag Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, sy'n rhan o dîm gweithgar a hynod effeithiol Plaid Cymru yn Llundain. Mae Cymru'n lwcus o'r pedwar sy'n brwydro dros ein gwlad yng nghoridorau grym Llundain. Mae Hywel wedi cymryd rhan lawn yn y drafodaeth ar Brexit, wedi cyflwyno nifer o welliannau i Fil ymadael yr Undeb Ewropeaidd, ac wedi cyfrannu'n eiddgar fel aelod o'r pwyllgor dethol ar ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae o, a Phlaid Cymru, wedi bod yn gyfan gwbl gyson yn erbyn tynnu allan cyn y refferendwm ac o blaid aros yn y farchnad sengl a'r undeb dollau, a dyna pam yr aeth Hywel, gydag eraill, i gymryd rhan mewn achos yn y Llys Ewropeaidd yn ddiweddar.
Heddiw, fe ddaeth cadarnhad dros yr hyn y mae Plaid Cymru wedi bod yn ei ddadlau: mae uwch-gynghorydd y Llys Ewropeaidd dros Gyfiawnder wedi dweud heddiw ei fod o'r farn y gall y Deyrnas Unedig ddiddymu erthygl 50 ac aros yn yr Undeb Ewropeaidd heb yr angen am ganiatâd gweddill gwledydd yr undeb, ac mae hyn yn groes i'r hyn y mae Mrs May wedi bod yn ei ddweud. Mae hyn, yn fy marn i, yn newid y gêm yn sylweddol, ac yn galluogi'r Llywodraeth—nid Senedd San Steffan—i ddiddymu'r broses os ydyn nhw am osgoi Brexit heb ddêl, neu os bydd pleidlais y bobl yn dangos bod y farn gyhoeddus wedi newid ers 2016. Mae disgwyl cadarnhad o hyn yn y Llys Ewropeaidd cyn y Nadolig, a coeliwch chi fi, fe all hyn fod o arwyddocâd sylweddol i fy etholwyr i yn Arfon, i bobl Cymru, ac i ddyfodol y genedl. Felly, heddiw, rydw i yn gofyn i chi ymuno â ni yn y meinciau hyn i anfon neges hollol eglur o'r Senedd genedlaethol yma. Felly, rydw i'n gofyn i chi gefnogi gwelliannau Plaid Cymru.
Agorodd Ysgrifennydd y Cabinet y ddadl hon drwy ddweud ein bod ni'n pleidleisio cyn Tŷ’r Cyffredin, ei fod eisiau dylanwadu ar ASau, bod Llywodraeth Cymru yn credu y dylai Tŷ'r Cyffredin bleidleisio yn erbyn y cytundeb ymadael, a gorffennodd drwy ddweud ei fod yn gobeithio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn anfon neges glir bod y cytundeb ymadael yn annerbyniol ac y dylid ei wrthod. Geiriau sy'n ysbrydoli, ond nid ydyn nhw'n cael eu hadlewyrchu yn ei gynnig, ac fe dynnodd Steffan Lewis sylw at hyn, ac mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod innau yn yr un benbleth hefyd. Nid wyf yn deall o gwbl beth, Ysgrifennydd y Cabinet, ydych chi, na eich tîm o Weinidogion Cymru na—heblaw bwrw eu llid at yr etholwyr am beidio â chytuno â nhw—y mae Aelodau meinciau cefn ar ochr Llafur eisiau ei gyflawni drwy'r cynnig hwn heddiw. Mae'n nodi'r cytundeb ymadael a dyna'i gyd. Mae'n nodi un neu ddwy ran benodol, llai dadleuol ohono; yna mae'n nodi y bydd gennym ni gyfle pellach i drafod y cytundeb ymadael, mae'n debyg, pan fyddwn ni'n rhoi cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil cytundeb ymadael, ac eto mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn mynd ymlaen i ddweud ei bod hi'n anochel y bydd Tŷ'r Cyffredin yn pleidleisio yn erbyn y cytundeb ymadael, ac rwy'n credu y gŵyr pob un ohonom ni yn y ddadl hon, sy'n ei gwneud hi'n swrrealaidd braidd, bod Tŷ'r Cyffredin yn mynd i bleidleisio yn erbyn y cytundeb ymadael hwn ac yn mynd i wneud hynny gyda mwyafrif sylweddol iawn.
Felly, beth nesaf? Mae'n ymddangos, o ran y Blaid Lafur, ac rwy'n credu, o ran Llywodraeth Cymru, bod elfen o gambl yma, oherwydd drwy bleidleisio yn erbyn y cytundeb ymadael—o leiaf yn Nhŷ’r Cyffredin, tra byddwn ni ddim ond yn ei nodi yma—y bydd hynny, rywsut yn arwain at etholiad cyffredinol neu at bleidlais y bobl, fel y'i gelwir, er gwaethaf y ffaith ein bod ni wedi cael pleidlais y bobl nad ydyn nhw eisiau ei gweithredu. Yr hyn na allaf i ei weld yw sut y mae hynny'n mynd i ddigwydd. Dywed John McDonnell na fydd etholiad cyffredinol ac nid yw hynny'n mynd i weithio, ac yna sut maen nhw'n mynd i gael y bleidlais y bobl hon fel y'i gelwir? Mae angen deddfwriaeth ar gyfer refferendwm, ac mae ar y ddeddfwriaeth angen a) amser y Llywodraeth a (b) cynnig arian, y mae'n rhaid i'r Llywodraeth a neb arall ei gynnig. Felly, sut, o gofio nad ydyn nhw'n mynd i gael yr etholiad cyffredinol hwn, y byddan nhw wedyn yn cael y bleidlais y bobl hon fel y'i gelwir? Ac nid wyf i'n gwybod yr ateb i hynny. Mae'n bosibl bod Jeremy Corbyn yn hapus i gymryd y gambl honno, oherwydd ei fod ef yn fodlon gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Efallai fod hynny'n wir.
Cyfarfûm â Jeremy Corbyn am y tro cyntaf yn y lobi 'na'; roeddem ymysg yr 13 AS a oedd yn pleidleisio yn erbyn sefydlu'r Gwasanaeth Gweithredu Allanol Ewropeaidd, a chyfarfûm ag ef ar sawl achlysur wedi hynny ar amryw o faterion yr UE lle'r oeddem o'r un farn. Gobeithio ei fod yn dal i fod o'r un farn, oherwydd yn fy marn i, pan bleidleisir yn erbyn y cytundeb ymadael hwn yn Nhŷ'r Cyffredin, nid wyf yn derbyn mai'r dewis arall yw dim cytundeb. Bydd, fe fydd rheolau masnachu Sefydliad Masnach y Byd, ond ni fyddwn yn rhoi pwyslais gormodol ar hynny; rwy'n derbyn nad ydyn nhw'n caniatáu masnach ddidrafferth yn llawn, a bod rhai problemau a materion yn ymwneud â nhw, ond nid yw ffin galed yng Ngogledd Iwerddon yn un ohonyn nhw. Ond yr hyn a gawn fydd cyfres o gytundebau sectoraidd i liniaru materion penodol sy'n codi ac i wneud ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd yn ddidrafferth er budd y ddwy ochr. Efallai na fyddan nhw'n cael eu galw'n gytundebau ymadael, nid yw'n glir a allan nhw basio'r bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin, ond bydd yna gytundebau o ryw fath, a byddwn, rwy'n hyderus, wedyn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Nawr, mewn rhai meysydd o'r cytundeb ymadael hwn—dydw i ddim eisiau defnyddio dull gwahanol i'r ddadl gymharol gydsyniol yr ydym wedi ei chael, o leiaf ar y meinciau hyn hyd yma, ac mae gennyf barch mawr at y safbwynt a fynegwyd gan David Melding, a siaradodd yn angerddol o blaid yr Undeb Ewropeaidd. Ond mae'n deall, pan gewch refferendwm a phan fyddwch yn addo gweithredu'r canlyniad, pan bleidleisiodd y rhan fwyaf o ASau, gan gynnwys y rhan fwyaf o ASau Llafur, i sbarduno erthygl 50, ac nad oedd y cynnig hwnnw na'r refferendwm ei hun yn dweud, 'yn amodol ar fodolaeth cytundeb penodol y byddwn yn ei hoffi yn ddiweddarach gyda'r Undeb Ewropeaidd', yna yr hyn y mae'n rhaid ichi ei wneud yw gweithredu'r canlyniad hwnnw. Mae'n iawn dweud, 'Mae gennych etholiad arall', ond, cyn cynnal etholiad arall, mae pobl sy'n cael eu hethol yn yr etholiad hwnnw yn mynd i'r ddeddfwrfa ac yn deddfu am dymor; felly mae canlyniad yr etholiad yn cael ei barchu. Canlyniad y refferendwm hwn oedd gadael, ac mae angen inni adael. Byddai'n well gennyf pe byddem yn gadael gyda chytundeb; byddai'n well gennyf pe byddai hynny gyda chytundeb gwell na'r un hwn. Ond, mewn rhai meysydd, mae'r cytundeb o ran rhyddid i symud—mae'n darparu ar gyfer rhoi terfyn ar y rhyddid i symud—a hefyd, ar ôl y cyfnod pontio, a allai, yn anffodus, gael ei ymestyn, byddai'n darparu wedyn ar gyfer llai o arian, o leiaf, ac nid symiau mawr o arian mae'n debyg, yn parhau i fynd at yr Undeb Ewropeaidd. Felly, yn yr ystyr honno, mae rhai pethau cadarnhaol. Ond, i mi, mae'r pethau negyddol yn trechu, sef yn bennaf, na fedrwn ni ei adael. O leiaf gyda'r Undeb Ewropeaidd, ceir erthygl 50. Gyda hyn, ni allwn ei adael heb gytundeb rhyw gorff arall, ac nid wyf yn credu, fel Teyrnas Unedig sofran, y dylem ni fod yn rhoi ein hunain yn y sefyllfa honno.
A hefyd o ran masnach. Nawr, roedd rhywfaint o ddadlau yn y refferendwm ynghylch a ddylem adael y farchnad sengl, a chredaf fod yr ymgyrchwyr 'gadael' yn glir y dylem, ac yn enwedig Michael Gove. Ni chafwyd yr un ddadl am yr undeb tollau, oherwydd cymerwyd yn ganiataol y byddem yn gadael yr undeb tollau—yr undeb tollau oedd prosiect sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r dadleuon o blaid yr undeb tollau yn wannach o lawer na'r dadleuon ynghylch y farchnad sengl. Rydym yn talu llawer mwy mewn tollau tramor na gwledydd eraill yr UE oherwydd ein bod yn mewnforio mwy o'r tu allan, ac, yn fras, mae'r tollau tramor hyn yn niweidio pobl dlawd, mewn gwledydd eraill na allant werthu i ni ychwaith, ac yma oherwydd bod y bobl dlawd, fel cyfran, yn gwario mwy o'u hincwm ar y nwyddau y codir y tariffau arnynt. Os ydym yn aros mewn undeb tollau, fel y cynigir yn y cytundeb ymadael hwn, ac yn sicr gyda'r ôl-stop, yna bydd yr Undeb Ewropeaidd yn penderfynu ar ein polisi masnach heb inni gael unrhyw lais ynddo. Byddant yn gallu defnyddio ein marchnad yn y DU a mynd at drydedd wlad a dweud, 'Hei, rhowch ostyngiad inni ar eich tariffau ar gyfer allforwyr yr UE, ac, os gwnewch chi, fel bonws, fe rown ni fynediad i chi i farchnad y DU ar delerau gwell.' Eto, yn gyfnewid, ni fydd yn rhaid i'r marchnadoedd hynny agor eu gwledydd i allforwyr yn y DU. Nid yw'r annhegwch hwnnw yn gwneud unrhyw synnwyr. Mae'n beth hynod anneniadol i'w wneud, ac rwyf mewn penbleth ei bod yn ymddangos nad yw Aelodau Llafur yn Nhŷ'r Cyffredin, nac o bosibl yn y fan hon, yn deall hynny.
Y farchnad sengl yn erbyn yr undeb tollau—efallai y bydd gan bobl yn y fan hon farn wahanol, ond yn San Steffan, efallai nad ydyn nhw'n hoffi'r syniad ei bod yn farchnad, ac y byddai'n well ganddyn nhw pe byddai'n undeb. Ond, mewn gwirionedd, os feddyliwch chi am y peth, o egwyddorion cyntaf, mae'r syniad o fod mewn undeb tollau, lle nad oes gennych chi unrhyw bŵer ac y gellir ei ddefnyddio gan eraill yn eu negodi masnach, yn un hynod anneniadol. Dyna beth a gynigir inni yn yr ôl-stop ac ni allwn ei adael heb gytundeb rhywun arall. Felly, am y rhesymau hynny, rwy'n gwrthwynebu'r cytundeb ymadael hwn, ond croesawaf dôn y ddadl a gawsom ar y meinciau Ceidwadol. Ac am resymau nad wyf yn eu llwyr ddeall, mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn hynod o bwysig inni anfon neges ein bod yn erbyn y cytundeb ymadael heb, yn wir, roi'r cyfle inni yn y cynnig i wneud hynny. Edrychaf ymlaen at wrthwynebu eu cynnig, yn ogystal â'r gwelliannau.
Mae'n iawn bod y Siambr hon yn cynrychioli barn gref ac angerddol iawn y bobl yr ydym yn eu cynrychioli. Dydyn nhw ddim yn haeddu dim llai, ond maen nhw hefyd yn haeddu llawer mwy, wrth inni nesáu at y cyfnod mwyaf allweddol i'n dinasyddion a'n heconomi.
Mae'r cytundeb a negodwyd gan Theresa May yn ddrwg i Brydain, mae'n ddrwg i Gymru ac mae'n ddrwg i Islwyn. Caiff ei ailadrodd yn aml y dyddiau hyn fod gwleidyddiaeth gyfoes mor anrhagweladwy, wel, gadewch imi roi dwy ffaith i'r Siambr sydd yn glir. Mae'r cyhoedd yng Nghymru wedi blino'n lân ar Brexit a'r ffordd y mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi trin y mater yn anfedrus, o Cameron i Boris ac i May. Mae'r rhan fwyaf o'r Aelodau Seneddol o bob ochr i Balas San Steffan yn gwrthwynebu cynlluniau Brexit Theresa May. Felly, sut yn y pen draw y cafodd Llywodraeth Dorïaidd y DU gytundeb sy'n plesio neb o gwbl? Nid yn aml y byddaf yn dyfynnu gwleidyddion Torïaidd yn y lle hwn, ac rwy'n siŵr y bydd Mark Isherwood yn maddau imi os dechreuaf weiddi, ond mae'n rhaid imi ddyfynnu Michael Heseltine yn gywir, sef y bachgen o Abertawe a ddaeth, fel y gwyddoch chi, yn Ddirprwy Brif Weinidog Torïaidd y DU, a gafodd ei gyfweld ar raglen Sunday Politics Wales dros y penwythnos. Pan ofynnwyd iddo pa gyngor fyddai'n ei roi i'r Prif Weinidog cryf a sefydlog, dywedodd
Allwch chi ddim disgwyl newid eich meddwl ynglŷn â’r mater pwysicaf yng ngwleidyddiaeth adeg heddwch yn ystod fy mywyd a chadw hygrededd wrth sôn am ddod â’r wlad at ei gilydd.
Mae Michael Heseltine, y dyn a ddymchwelodd Thatcher, yn mynd at wraidd y mater, yn fy marn i.
A ydych chi'n cofio cyfraniad Theresa May, fel Ysgrifennydd Cartref, i refferendwm Brexit 2016, oherwydd, â bod yn onest, dydw i ddim? Gwyddom fod Theresa May, mewn enw, wedi ymgyrchu o blaid 'aros', ac mae'n debyg y gwyddom o etholiad cyffredinol 2017 nad yw'r Prif Weinidog, hyd yn oed ar ei gorau, yn ymgyrchydd naturiol, felly, does dim syndod ein bod ni yn y sefyllfa hon â May wrth y llyw? Hyd yn oed ar ôl ymadawiadau cyflym Cameron ac Osborne o'r trafferthion, rwyf bron yn teimlo trueni drosti, ond dydw i ddim.
Mewn cyferbyniad, mae'r Blaid Lafur wedi bod yn glir drwy gydol y negodiadau bod yn rhaid i'r cytundeb fodloni ein prawf ar gyfer Brexit swyddi yn gyntaf. Mae Jeremy Corbyn a Keir Starmer, mewn gwirionedd, wedi bod yn glir iawn, iawn y byddai'n rhaid i unrhyw gytundeb gynnwys undeb tollau parhaol, a'r DU yn cael dweud ei dweud ynghylch cytundebau masnach yn y dyfodol, cytundeb marchnad sengl cryf a gwarantau ar hawliau gweithwyr a mesurau diogelu ar gyfer defnyddwyr a'r amgylchedd.
Fel democrat, rwyf i'n parchu penderfyniad y bobl yn 2016, a dyna pam yr wyf wedi cefnogi'r broses negodi gyda'r Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, ni wnaf sefyll yn segur a chaniatáu i bobl Islwyn ddioddef rhagor yn economaidd, oherwydd y Torïaid yn Lloegr, sydd â ffantasi iwtopaidd Fictoraidd o greu economi treth isel heb lawer o reoleiddio, hyd yn oed ar ôl y cwymp diwethaf, a gefnogwyd yn fedrus gan araith Mansion House Osborne. Ar gyfer y bobl dosbarth gweithiol yr wyf i'n eu cynrychioli, gwn pa fath o economi y mae hynny'n ei olygu—trallod wrth i'r bobl gyfoethog fynd yn gyfoethocach a'r tlawd fynd yn dlotach, wrth iddyn nhw barhau i roi manteision treth i bobl gyfoethog ac erlyn ac erlid y tlawd. Gofynnwch i'r Cenhedloedd Unedig.
Felly, mae'r neges oddi wrth gymunedau Islwyn yn groch ac yn glir i'r Prif Weinidog, 'Os bydd Tŷ'r Cyffredin yn trechu eich cytundeb honedig yn y bleidlais ar 11 Rhagfyr, gwnewch y peth anrhydeddus: diddymwch Senedd y DU a galw etholiad cyffredinol.' Crisialwyd hyn gan Michael Heseltine pan ofynnwyd iddo pa gyngor ymarferol y byddai'n ei gynnig i'r Prif Weinidog, a dyfynnaf,
Mae'n rhaid ichi symud o'r neilltu, mae'r cyfan drosodd.
A chefnogaf y cynnig a gynigiwyd gan Julie James AC. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl hon inni heddiw ar Brexit. Diolch hefyd i David Melding, a wnaeth lawer o bwyntiau perthnasol, yn fy marn i—mae'n gwneud hynny'n aml. Nawr, os gallaf edrych yn gyntaf ar eiriad cynnig y Llywodraeth, mae'n nodi bod Llywodraeth Cymru
'yn siomedig nad yw Cymru na’r Alban yn cael eu crybwyll' yn y cytundeb ymadael na'r datganiad gwleidyddol ar y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol. Diwedd y dyfyniad. Nawr, pam mae angen i Gymru a'r Alban gael eu crybwyll? Maen nhw'n ranbarthau o'r DU. Roedd y bleidlais yn bleidlais i'r DU yn ei chyfanrwydd, ac, fel y gwyddom, pleidleisiodd y DU i adael. Beth bynnag yw ein barn ni—[Torri ar draws.] Beth bynnag yw ein barn ni am y cytundeb Brexit arfaethedig, siawns y gallwn ni gytuno mai'r DU yw'r genedl-wladwriaeth sy'n negodi'n briodol dan yr amgylchiadau hyn. Nid yw polisi tramor yn fater datganoledig. Mewn termau cyfansoddiadol, felly, dydy Brexit yn ddim i'w wneud â Chymru na'r Alban. A beth bynnag, os yw'r Llywodraeth mewn gwirionedd yn dymuno—[Torri ar draws.] Na, wna'i ddim. Os yw'r Llywodraeth mewn gwirionedd yn dymuno pwysleisio'r pwynt hwn, yna mae'n wynebu ffaith eithaf mawr ac anghyfleus bod Cymru wedi pleidleisio i adael—fel y gwnaeth y DU yn ei chyfanrwydd.
Mae cynnig y Llywodraeth wedyn yn sôn am hawliau dinasyddion, sef hawliau dinasyddion yr UE, i raddau helaeth. Byddwn yn gofyn y cwestiwn canlynol: a yw Llywodraeth y DU yn rhedeg y DU er budd dinasyddion Prydain neu er budd dinasyddion yr UE nad ydynt yn Brydeinwyr? Yn amlwg, mae hawliau pobl Prydain yn hollbwysig yma. Mae hawliau tramorwyr ym mhell i lawr y rhestr, ac roedd y bleidlais i adael ei hun, yn rhannol, yn ddatganiad o'r ffaith honno gan bobl Prydain.
Nawr, a gaf i edrych ar fater hawliau gweithwyr? Drwy adael yr UE heb gytundeb, ac ar yr un pryd dod a symudiad rhydd o lafur rhad o'r UE i'r DU i ben, byddech chi mewn gwirionedd yn cael yr effaith fwyaf o blaid hawliau gweithwyr yng Nghymru ers 30 mlynedd. Felly, fe fyddech chi'n disgwyl i'r Blaid Lafur fod o blaid hynny, ond na; mae Llafur Cymru yn dymuno caniatáu i fusnesau mawr barhau i lenwi'r farchnad swyddi â llafur rhad wedi'i fewnforio o'r UE. Effaith gyffredinol hyn yw gwthio cyflogau i lawr, gostwng amodau gweithio, ac atal diwydiant rhag buddsoddi yn hyfforddiant a datblygiad gweithwyr. Byddai hyn yn cynyddu cynhyrchiant, oherwydd problem go iawn diwydiant Prydain yw'r bwlch cynhyrchiant, y gellid rhoi sylw rhannol o leiaf iddo drwy roi terfyn ar symudiad rhydd pobl. Ond, wrth gwrs, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo ei hun i fusnesau mawr ac i lafur rhad o dramor, ac yn dal, mae gan Llafur Cymru—neu a ddylwn i eu galw yn 'llafur rhad'?—yr hyfdra i siarad yn y cynnig di-werth hwn heddiw am hawliau gweithwyr. Dyma neges i'r Blaid Lafur rhad gan dosbarth gweithiol Cymru: calliwch.
Ymadrodd olaf o gynnig y Blaid Lafur:
'naill ai cynnal Etholiad Cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus'.
Etholiad cyffredinol wedi'i brwydro ar ba sail? Beth ddywedodd maniffesto Llafur y DU y tro diwethaf y cawsom etholiad cyffredinol? Roedd o blaid parchu canlyniad y refferendwm a gadael yr Undeb Ewropeaidd. A yw polisi Plaid Lafur y DU wedi newid ers hynny? Wel, pwy all ddweud? Wrth gwrs, yr elfen drasigomedi yn hyn i gyd yw bod gennym Brif Weinidog yn y fan yma—er nad yw e' yma heddiw—sy'n dweud y drefn wrth y rhai sy'n dymuno gadael am beidio â bod ag unrhyw gynllun, ac mae'n awgrymu bod ganddo ef un, ond mae gan ei arweinydd ei Blaid ei hun yn San Steffan, Jeremy Corbyn, safbwynt polisi ar Brexit nad yw neb yn ei ddeall, hyd yn oed. Beth yw safbwynt Corbyn? A yw wedi newid? Ni ŵyr neb. Mae Llafur yn jôc llwyr ar Brexit.
Nawr, beth y mae Plaid yn ei ddweud yn eu gwelliannau? Wel, maen nhw'n galw yn benodol am bleidlais i'r bobl—yr ymadrodd rhyfedd hwnnw, 'pleidlais y bobl'. Beth mae'n ei olygu? Beth maen nhw'n meddwl y cawsom ni yn 2016 —pleidlais i fwncïod? Beth yw'r pwynt o gael pleidlais arall i'r bobl—fel ei gelwir—os nad ydych chi'n mynd i gymryd unrhyw sylw o'r hyn a ddigwyddodd yn yr un cyntaf? Felly, a gawn ni gymryd gwelliannau Plaid Cymru a'u rhoi nhw lle y maen nhw'n perthyn, sef yn y bin hefyd? [Torri ar draws.] Na. Beth sy'n cymell Plaid yn y fan yma yw eu hamcanion sectyddol eu hunain—[Torri ar draws.] Iawn, Mark, ewch chi.
Tybed a oes modd iddo hefyd ymdrin â'i welliant ei hun, sy'n dweud y bydd y DU yn aros yn y farchnad sengl, i bob pwrpas. Onid i Ogledd Iwerddon y byddai hynny, mewn gwirionedd, yn digwydd? Ac yna mae'n dweud bod Llywodraeth y DU wedi amharu ar Brexit. Mewn gwirionedd, hyd yn hyn, rydym yn mynd i adael ar 29 Mawrth, ac rwy'n gobeithio ac yn credu y bydd hynny'n dal i ddigwydd, ac onid yw e'n cytuno â hynny?
Diolch ichi, Mark, a diolch am eich cyfraniad yn gynharach. Ond rwy'n ei chael yn anodd cytuno bod y Llywodraeth yn paratoi i adael pan nad oes gennym ni ddyddiad gadael bellach. Mae gennym ni 29 Rhagfyr 20XX—nid oes gennym ni ddyddiad gadael o gwbl bellach. Rydym mewn sefyllfa hyd yn oed yn waeth nag yr oeddem pan ddechreuasom. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, na, rydych wedi cael eich cyfle nawr, diolch.
A allwn ni gymryd—? Rwyf wedi gwneud y darn hwnnw; rwyf wedi colli fy lle nawr. Yr hyn sy'n cymell Plaid yma yw eu hamcanion sectyddol eu hunain. Mae Plaid eisiau annibyniaeth i Gymru—[Torri ar draws.] Roeddwn i'n defnyddio eich jôc chi o bythefnos yn ôl. Mae Plaid eisiau annibyniaeth i Gymru o fewn blanced gysur yr UE. Felly nid yw'r DU yn gadael yr UE yn gwneud dim i helpu eu hachos nhw. Does dim pwynt i Lafur a Phlaid Cymru alw am refferendwm arall, oherwydd dydyn nhw ddim eisiau parchu canlyniad yr un cyntaf. Roedd Paul Davies yn iawn ar y pwynt hwn. Mae pobl y DU wedi siarad. Mae pobl Cymru eisoes wedi siarad. Heddiw, mae Llafur a Phlaid Cymru yn dangos eu dirmyg llwyr tuag at ddemocratiaeth, a'u dirmyg tuag at ddeallusrwydd pobl Prydain. Diolch yn fawr iawn.
Mae Caergybi yn agosach at Ddulyn nag ydy o at Lerpwl. Dim ond rhyw hanner milltir sydd ynddi hi, ond yn nhermau masnach mae'n llawer pwysicach, wrth gwrs. Mi ges i fy magu yna ac roeddwn i'n teimlo yr oeddwn i'n cael fy magu mewn frontier Ewropeaidd. Rydw i'n cofio picio draw i Dún Laoghaire am gyrri ar nos Sadwrn, a phenwythnosau lu draw yn Nulyn. Ond gymaint o hwyl ag oedd y cyswllt yna, wrth gwrs, mae'r manteision o gael y cyswllt agos yna yn rhedeg yn llawer dyfnach na'r nosweithiau hynny draw yn yr ynys werdd.
Mae'r hyn yr ydym ni'n ei drafod heddiw—y cytundeb ymadael yma—yn wahanol iawn, iawn i'r hyn a gafodd ei addo nôl yn 2016. Mae'r ffaith ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt yma rŵan yn dangos i fi'r camgymeriad, os ydych chi am fod yn garedig, neu'r twyll, fel y byddwn i yn ei weld o, o beidio â bod wedi cynnig cynllun i bobl cyn y refferendwm, oherwydd rŵan yr ydym ni'n darganfod y gwirionedd o geisio tynnu ein hunain oddi wrth berthynas sydd wedi gweithio mor ffafriol inni drwy gydol fy mywyd i. Rydw i'n Ewropead balch, wastad wedi bod, oherwydd fel cenedlaetholwr a rhyngwladolwr Cymreig, rydw i eisiau i Gymru fod yn rhan o rwydweithiau ehangach. Felly, rydw i'n hapus iawn i gadarnhau'r hyn a oedd Gareth Bennett yn ei ddweud: mae gwledydd bach, annibynnol fel Cymru yn elwa o fod yn rhan o rwydweithiau rhyngwladol, ac rydw i eisiau i Gymru annibynnol fod yn rhan o rwydweithiau Prydeinig ac Ewropeaidd yn y dyfodol ar gyfer fy mhlant i a'u plant nhw.
Nid rhyw rwydweithiau haniaethol ydy'r rhain. Maen nhw'n rhwydweithiau go iawn sy'n cael effaith go iawn. Rydw i wedi crybwyll Caergybi yn barod. Nid oes dim angen i fi sôn am bwysigrwydd y porthladd hwnnw yng nghyd-destun economi Ynys Môn, ond wrth gwrs mae yn groesiad cwbl, cwbl hanfodol o ran y berthynas rhwng Prydain a'r Undeb Ewropeaidd: yr ail borthladd roll-on, roll-off prysuraf yn ynysoedd Prydain, yn ail i Dover, ac mae'r traffig masnach drwy Gaergybi wedi cynyddu 694 y cant ers i'r farchnad sengl Ewropeaidd gael ei chreu. Mae symudedd rhwydd masnach drwy Gaergybi yn gwbl hanfodol i iechyd economaidd y porthladd a'r dref honno, ac nid oes angen inni ddychmygu'r effaith a fyddai ymadawiad caled o'r Undeb Ewropeaidd yn ei gael. Wrth gwrs, nid oes gennym ni ddim sicrwydd dan yr hyn sy'n cael ei gynnig yn y cytundeb ar hyn o bryd. Oes, mae yna sôn am gytundeb backstop, a fydd yna ddim llawer o newid am y tro, ac yn y blaen. Ond nid ydw i'n fodlon cymryd y risg efo'r math yna o ansicrwydd. Rydym ni'n gwybod y byddai ffin galed yn niweidiol iawn, ond yn barod rydym ni'n gwybod bod yna ferries go iawn—nid syniadau, nid bygythiadau, ond ferries go iawn—yn cael eu hadeiladu i wneud y croesiad yn uniongyrchol o Gaergybi i gyfandir Ewrop.
Gadewch imi droi at amaethyddiaeth, mor bwysig i Fôn yn economaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol, yn ieithyddol. Rydym ni eisoes yn gweld effaith Brexit cyn inni adael, a hynny yn ffurf yr ymgynghoriad 'Brexit a'n tir', sy'n paratoi'r ffordd at gael gwared â thaliadau uniongyrchol i ffermydd teuluol, i ffermydd yn gyffredinol. Wedyn, mae bygythiad i farchnadoedd ein ffermwyr ni, sy'n dal yn gwbl ansicr. Ydynt, mae'r undebau amaethyddol yn dweud efallai bod y cytundeb yma yn well na dim cytundeb, a'r ansicrwydd llwyr y byddai hynny yn cynrychioli, ond mae yna le, wrth gwrs, i stopio'r holl broses, a dyna'r unig beth a allai gynnig rhyw fath o sicrwydd i ffermwyr.
Wedyn mae'r holl naratif Brexit. Nid dim ond tanseilio Ewrop ydy'r nod yn fan hyn—nid oes gennyf ddim amheuaeth am hynny—ond Prydeineiddio a dad-Gymreigio. Mi welsom ni beth ddigwyddodd yn y Sioe Frenhinol: bwyd Cymru'n cael ei frandio fel bwyd Prydeinig. Yr wythnos yma mi welais i luniau o gig oen Cymreig yn cael ei werthu efo label jac yr undeb yn archfarchnad Morrisons—rhywbeth na fyddai wedi cael ei wneud o'r blaen. Mae prif weithredwr Hybu Cig Cymru wedi cyfeirio at astudiaeth sy'n dangos bod y brand Cymreig yn llawer mwy effeithiol ac yn gryfach brand na'r brand Prydeinig wrth werthu i farchnadoedd Ffrainc, marchnadoedd fel yr Almaen hefyd, a'r Eidal rydw i'n credu.
Ac nid dim ond cig rydw i'n sôn amdano yn y fan hyn. Mae 97 y cant o'r cregyn gleision o'r Fenai yn mynd i farchnadoedd Undeb Ewropeaidd ac maen nhw'n gorfod cyrraedd o fewn oriau aur o fod wedi cael eu tynnu o'r môr. Dyna'r bygythiad iddyn nhw. A halen: mae Halen Môn—halen gorau'r byd heb amheuaeth—yn falch iawn o fod yn gynnyrch Cymreig ac Ewropeaidd ac wedi manteisio yn helaeth o gael statws Ewropeaidd gwarchodedig.
Mae yna gymaint mwy y gallwn i gyfeirio ato o ran perthynas Môn â’r Undeb Ewropeaidd. SEACAMS, yr adran o Brifysgol Bangor sy'n arloeswyr ym maes technoleg yn ymwneud â’r môr, sy’n cyfrannu llawer at faes ynni môr ac wedi manteisio'n fawr iawn ar arian Ewropeaidd. Orbital, cwmni arall o'r Alban yr wythnos yma'n arwyddo cytundeb efo parth ynni Morlais, ac Orbital wedi derbyn arian sylweddol o dan gynllun Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd.
Mi wnaf i dynnu at y terfyn—mae'r cloc yn mynd. Pobl ifanc Môn ydy'r garfan arall rydw i'n bryderus yn eu cylch nhw. Y cyfleon sy'n cael eu cau: cyfleon mewn addysg; cyfleon i weithio. Mae'r ymfalchïo yma mewn cau symudedd rhydd o bobl unwaith ac am byth yn rhywbeth sydd yn wrthun i fi fel tad i dri o blant, sy'n gweld y byd fel eu hiard gefn ac yn gweld y cyfleon sy'n dod o fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd. Ac a ydych chi'n gwybod beth? Mae pobl ifanc yn deall. Rydym ni'n gwybod bod cymaint o bobl ifanc—cymaint â 70 y cant neu fwy o'r rhai rhwng 18 a 24—wedi pleidleisio i aros yn Undeb Ewropeaidd. Ac rydym ni'n fodlon aberthu eu dyfodol nhw yn enw rhyw fath o ddemocratiaeth perverse, sy'n ymwrthod â rhoi pleidlais unwaith eto i bobl.
Mae yna ddau reswm pam rydw i'n cefnogi rhoi pleidlais i bobl eto: un, onid ydy hi'n werth gwneud penderfyniad ar sail tystiolaeth go iawn, ac felly edrych ar beth yn union ydy rhwystr adael yr Undeb Ewropeaidd? A dau: onid ydy hi'n bwysig bod democratiaeth yn rhywbeth sydd mor gyfoes â phosibl? Dyna pam y mae etholiadau'n cael eu cynnal bob ychydig o flynyddoedd, oherwydd mae pobl yn newid eu meddyliau. A'r rheswm maen nhw'n colli ffydd mewn un blaid wleidyddol neu mewn syniad o bosibl, ydy oherwydd eu bod nhw'n gweld tystiolaeth ac yn newid eu meddwl. Mae'r dystiolaeth wedi newid. Mae'r dystiolaeth yn glir o'n blaenau ni. Gadewch i ni fesur yn gyfoes a dangos ein bod ni fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddifrifol ynglŷn â democratiaeth heddiw—nid democratiaeth yn seiliedig ar gelwydd ychydig o flynyddoedd yn ôl.
Rwy'n codi i siarad gyda chysyniad aelodau fy ngrŵp i gydnabod fy ngalwad cyson am Bleidlais y Bobl, a byddaf, felly, yn cefnogi gwelliant 3.
A'r hyn yr wyf i eisiau ei ddweud yn y fan yma yw—. Rwy'n mynd i ddyfynnu gwleidydd y byddwn fel arfer yn gyndyn o'i ddyfynnu, ac mae'r gwleidydd hwnnw wedi sôn am y pethau anhysbys sy'n hysbys a'r pethau hysbys sy'n anhysbys. A, dyna, yn fy marn i, yw'r sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw o ran yr holl sefyllfa Brexit hon. Mae gennym ni fwy o bethau anhysbys sy'n anhysbys nag erioed o'r blaen. A gŵyr pob un ohonom ni fod yr ychydig ddyddiau a'r wythnosau nesaf yn hollbwysig, ond mae'r dewisiadau cyfreithiol, gwleidyddol, a chyfansoddiadol yn gwbl anhysbys. Felly, credaf ei bod yn ddyletswydd ar wleidyddion i leisio eu barn a'u bwriad ac i fod yn onest am yr hyn sydd orau ar gyfer Prydain ac sydd orau ar gyfer Cymru, yn eu barn nhw. A dyna pam y byddaf yn cefnogi gwelliant 3. Byddaf yn galw am bleidlais y bobl ar y cytundeb terfynol rhwng y DU a'r UE, gan gynnwys dewis i'r DU aros yn aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Byddaf hefyd yn cefnogi hynny ar ran y bobl ifanc na chafodd gyfle o gwbl i bleidleisio oherwydd nad oedden nhw yn ddigon hen i bleidleisio eto, ond fe wnaethon nhw fynegi eu barn a'u dymuniad i'w dyfodol fod yn ddiogel heb y grym hwnnw.
Rwy'n credu ac yn deall yn iawn ac yn parchu'r bleidlais a gafwyd, ond gadewch inni fod yn gwbl glir ynghylch y bleidlais a gafwyd. Yn gyntaf, cawsom refferendwm, a hwn oedd y refferendwm a oedd i fod, ac a sefydlwyd gan blaid, i ddatrys a rhoi terfyn ar ei dadl fewnol ynghylch bod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. Roedd y Prif Weinidog ar y pryd mor ffyddiog ei fod yn mynd i gael y bleidlais i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, mewn gwirionedd, fel na wnaeth drafferthu i wneud unrhyw waith o gwbl i hyrwyddo'r syniad hwnnw. Pan ddeffrodd o'r diwedd, roedd hi'n rhy hwyr. Pan gollodd ef y gambl fwyaf a gafodd y wlad hon erioed, fe adawodd. Gadawodd y wlad i edrych ar ôl ei hun. A phan wnaeth y celwyddau sydd bellach yn dod i'r amlwg ddarbwyllo pobl i bleidleisio i adael, digwyddodd yn union yr un peth ar yr ochr arall. Mae Farage wedi gadael y wlad. I ble yr aeth ef? Yr Almaen. Dyna ble y mae wedi mynd.
Felly, gadewch inni fod yn glir ynghylch beth sydd wedi digwydd yn y fan yma. Gadewch i ni fod yn glir ynghylch beth yr oedd pobl yn ei gredu yr oeddent, mewn gwirionedd, yn pleidleisio drosto—a'r bysiau hynny. Rydym ni i gyd wedi gweld y celwyddau yn addurno'r bysiau hynny. Ni fydd dim ohonyn nhw'n cael eu cyflawni. Ni fydd dim ohonyn nhw'n cael eu cyflawni. Felly, pan fyddwn ni'n gwybod beth y mae pobl wedi pleidleisio o'i blaid mewn gwirionedd, pan fyddwn ni'n gwybod beth yw hynny, yna beth am fynd yn ôl at y bobl, os oes gennych chi gymaint o ffydd—gallaf eich clywed chi'n gweiddi draw yn y fan yna. Os oes gennych chi gymaint o ffydd bod pobl yn mynd i gefnogi'r realiti, yna rhowch gyfle iddyn nhw wneud hynny. Oherwydd dyna beth y mae pobl yn ei wneud. [Torri ar draws.] Na wnaf, ni wnaf ildio. Rwyf wedi clywed digon gennych chi, oherwydd roeddech chi'n rhan o'r broses honno sydd wedi ein harwain ni i'r sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw.
Rydyn ni i gyd yn mynd i fod yn well ein byd, ydym ni? Dywedwch chi hynny wrth y bobl ifanc na fydd o bosibl yn cael cymryd rhan mewn cyfnewid gwybodaeth ar gyfer y dyfodol, i ddysgu beth sydd ar gael allan yno y tu hwnt i ffiniau y DU. Ewch â hynny at y bobl yr oeddwn i'n siarad â nhw sydd yn falch iawn—ac mae Cymru yn hynod o falch o fod yn bartner blaenllaw yn y gwaith o arloesi ym maes meddyginiaethau. Dywedwch chi hynny wrth y meddygon a oedd yn erfyn arnaf pan yr oeddwn mewn digwyddiad y dydd o'r blaen, nad ydym yn taflu hynny i gyd i ffwrdd. Dywedwch hynny wrth y gweithwyr na roddwyd eu hawliau iddynt yn y wlad hon. Nid wyf i'n gwybod faint ohonoch chi sy'n deall mewn gwirionedd nad oedd gan weithwyr rhan-amser unrhyw hawliau o gwbl i dâl gwyliau—wn i ddim faint ohonoch chi sy'n gwybod hynny—ond rwy'n gwybod un peth: roedd fy mam yn gwybod hynny, hyd nes iddi lwyddo i'w gael pan benderfynodd y Llywodraeth Lafur weithredu'r newid hwnnw yma. Felly, mae angen i chi ddeffro pan eich bod chi'n sôn am yr hawliau. Mae'n rhaid ichi ddeffro pan fyddwch chi'n meddwl am y canlyniadau.
A beth am hawliau dynol? Rydym ni'n ei glywed o'r ochr draw yn y fan yna, 'Peidiwch â gadael iddyn nhw gael hawliau', ond fe ddywedaf i un peth wrthych chi nawr, pan fyddwch chi'n tynnu hawliau oddi ar bobl, rydych chi'n tynnu eich hawliau eich hun, a dydych chi ddim yn gwybod pa hawliau sydd eu hangen arnoch chi hyd nes y byddwch chi eu hangen. Dydych chi ddim yn gwybod pa amddiffyniad sydd ei angen arnoch chi tan eich bod yn y sefyllfa honno. Rwyf wedi alaru braidd hefyd o glywed am ddileu hawliau dynol fel pe byddech chi'n gallu eu caniatáu i rai pobl rywsut ac nid i bobl eraill. Rwy'n clywed hynny drwy'r amser. Os oes unrhyw un yn credu mewn gwirionedd nad oes bylchau rhwng y statws presennol sydd gennym ni nawr a'r bil hawliau, rwy'n awgrymu eu bod nhw'n wyliadwrus o'r bwlch, oherwydd rwy'n bryderus iawn bod pobl yn mynd i ddisgyn drwyddo.
Felly, rwy'n amlwg yn dymuno ei roi yn ôl i'r bobl. Rwyf eisiau iddyn nhw gael cyfle, fel eu bod yn deall yn llwyr beth fydd hyn yn ei olygu iddyn nhw—nid y celwyddau a'r ensyniadau yr ydym ni wedi eu clywed, ond y gwir ddewis o'r hyn y maen nhw'n gadael eu hunain yn agored iddo—rwy'n credu y gallwn ni i gyd gytuno a symud ymlaen wedyn, ac o leiaf rhoi cyfle gwirioneddol i bobl ddweud, 'Nawr ein bod ni'n gwybod beth y gwnaethom ni bleidleisio drosto, rydym ni bellach wedi gwneud ein dewis.'
Ar ôl gwrando ar gynifer o areithiau da, nid wyf yn credu y bydd gen i lawer i'w ddweud, ond y ffaith yw, rwyf am ddweud ychydig o bethau.
Pan ddigwyddodd yr etholiad cyntaf—datganoli ar gyfer y Siambr hon yn 1997—dim ond 6,721 oedd y mwyafrif ac rydym ni yma, ac roedd y mwyafrif o blaid y DU yn gadael Ewrop yn 1,269,501. Felly, mewn gwirionedd, roedd mwyafrif clir i bobl adael Ewrop. Does dim dadl. Cyfarfûm â llawer o bobl cyn mis Mai 2016, a chyfarfûm â llawer o etholwyr, gan gynnwys rhai o gymunedau ffermio. Ni allaf esbonio yn y Siambr hon yr iaith a ddefnyddiwyd ganddyn nhw pan euthum i farchnad Rhaglan i gwrdd â chymaint o ffermwyr, ac roedd cynifer ohonyn nhw yn wrth-Ewrop. Cyfarfûm â llawer o athrawon, llawer o feddygon, llawer o yrwyr tacsi, llawer o siopwyr—mae yna restr hir, Llywydd. Roedden nhw, mewn gwirionedd, yn llwyr yn erbyn Ewrop. Wn i ddim pam, ond gallaf roi'r bai ar un neu ddau o bobl—un ohonyn nhw ar yr ochr yna i'r Siambr a'r llall yw ein cyfryngau.
Mae'n debyg eich bod wedi anghofio beth ddigwyddodd ar y BBC ac ITV, y sianelau yr oedd pobl yn eu gwylio, yn eu gweld ac yn cytuno â nhw. Nid ydym ni'n sôn am yr ardaloedd hynny lle yr arweiniwyd pobl i gyfeiriad gwahanol. Mae Brexit yn golygu bod pobl yn y refferendwm hwnnw yn 2016 wedi pleidleisio i ddod â'n haelodaeth o'r UE i ben a chreu swyddogaeth newydd ar gyfer ein gwlad yn y byd. Mae angen inni gyflawni Brexit yn awr sy'n parchu penderfyniad pobl Prydain; Brexit sy'n golygu ein bod unwaith eto yn rheoli ein ffiniau ein hunain, ein cyfraith a'n harian; a Brexit sy'n ein gosod ar lwybr tuag at gwell dyfodol y tu allan i'r UE fel gwlad sy'n masnachu'n fyd-eang sy'n gyfrifol am ein tynged ein hunain, gan fanteisio ar y cyfle i fasnachu â rhai o'r economïau sy'n tyfu gyflymaf a'r rhai mwyaf dynamig ledled y byd. Peidiwch â diystyru Prydain Fawr. Roeddem ni cyn 1973, heb Ewrop, yn Brydain fawr, ac mae gennym yr enw. Mae mwy na 200 o wledydd ledled y byd, a 27—[Torri ar draws.] Mike, ewch ymlaen.
Os oedd pethau mor dda yn 1973, pam wnaeth y Prif Weinidogion yn 1959 a 1973 i gyd geisio ymuno â'r Undeb Ewropeaidd?
Mike, fe wnaethoch chi anghofio'r 1960au cyffrous. Mae'n debyg na wnaethoch chi fwynhau'r adeg pan oedd Prydain Fawr mewn gwirionedd yn arwain ar bopeth, ac roedden nhw'n arwain y byd ym mhob agwedd ar fywyd. [Torri ar draws.] Arhoswch funud. Byddwn ni'n rheoli, ar ôl Brexit, Llywydd, byddwn ni'n rheoli ein ffiniau ein hunain a'r rhyddid i symud, unwaith ac am byth. Nid Brexit yw hynny. Rydym ni'n diogelu ein swyddi yn y wlad hon, boed hynny yng Nghymru, Iwerddon, Gogledd Iwerddon, yr Alban neu yn Lloegr. Byddwn ni'n rheoli popeth. Ni fyddwn bellach yn anfon symiau enfawr—. Soniwyd am arian—bydd £300 miliwn yr wythnos yn cael ei atal. A byddwn ni mwy na thebyg yn defnyddio'r arian hwnnw ar gyfer ein gwasanaethau cymdeithasol yn y fan yma, neu feysydd eraill. Bydd ein Llywodraeth yn ei ddefnyddio, a byddwn ni'n gallu masnachu'n rhydd o gwmpas y byd gyda TWA. Y peth yw: dim ond 27 o wledydd sydd yn Ewrop, nid 200 o wledydd. Felly, cofiwch: byddwn ni'n tyfu'n fwy. [Torri ar draws.]
Dawn Bowden.
Diolch ichi, Lywydd. A gaf i—
Rwyf newydd ildio.
O mae'n ddrwg gen i. Mae'n ddrwg gen i. Roeddwn i'n meddwl mai dyna oedd eich a'ch diweddglo. Mae'n ddrwg gen i, Mohammad Asghar. Ildio i Steffan Lewis.
Diolch, Llywydd. Rwy'n credu ein bod ni i gyd braidd yn gynhyrfus bod yr Aelod wedi cyrraedd ei uchafbwynt ar y pwynt hwnnw. Roedd yn sicr yn edrych felly o'r lle yr oeddwn i'n eistedd. [Chwerthin.] Mae'r Aelod newydd ddweud y bydd y DU yn rhydd i fasnachu â gweddill y byd. Ar hyn o bryd, rwy'n dal i glywed pobl sy'n cefnogi Brexit ar y radio yn dweud wrthyf mai ein gwlad fasnachu fwyaf yw'r Unol Daleithiau. Sut ar y ddaear y mae bod yn yr Undeb Ewropeaidd yn ein rhwystro rhag masnachu gyda gweddill y byd?
Gwrandewch: arhoswch tan Brexit ar 29 Mawrth y flwyddyn nesaf. Byddwn ni'n masnachu gyda Tsieina a gwledydd eraill—Japan ac eraill, Brasil. Peidiwch ag anghofio—rydych chi'n sôn am gig oen Cymru. Mae gennym ni'r nwyddau gorau—dŵr Cymru, hyd yn oed, y gallwn ni ei werthu i Arabiaid. Rydych chi'n anghofio'r meysydd hyn. Edrychwch—[Torri ar draws.] Ewch ymlaen.
Fel newyddiadurwr, euthum unwaith gyda chyn-Brif Weinidog ar daith fasnach i Tsieina, oherwydd bod busnesau Cymru eisoes yn gwneud busnes â gwledydd ar hyd a lled y byd, yn ogystal â bod yn rhan o farchnad sengl gwbl agored a thryloyw o dros 0.5 biliwn o bobl.
Rwy'n falch o wybod hynny, ond pan euthum i yno 10 mlynedd yn ôl, fi ac arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, Ieuan—gofynnwch iddo—ydych chi'n gwybod beth ddywedodd y Tsieiniaid wrthym ni? 'Beth yw Cymru? Ble mae Cymru?' Rwy'n falch bod y Siambr hon wedi hyrwyddo ein rhan ni o'r byd. Mae Llundain wedi hyrwyddo Cymru, ac rydym ni yn awr—. A pheidiwch ag anghofio bod dros biliwn o boblogaeth yno, ac rydym ni fel pentref bach iddyn nhw, a bydd y masnachu a wnânt hwy gyda'r Deyrnas Unedig, nid Cymru yn unig. Cofiwch hyn. Ac mae gan Gymru gyfle—peidiwch ag anghofio hynny. Byddwn ni'n cadw ein hunain yn ddiogel—[Torri ar draws.] Byddwn ni'n ddiogel yn erbyn troseddu a therfysgaeth, peidiwch ag anghofio, ar ôl y Brexit hwn. Mae pobl yn aros yn Ffrainc ac ym mhob man, yn croesi Ewrop gyfan i ddod i'r wlad hon. Pam? Oherwydd—[Torri ar draws.] Na, na, na, na. Oherwydd bod pobl fel chi—'Dewch yma, peidiwch â gwneud dim, a byddwn ni'n dal i'ch talu chi.' Nid dyna'r ffordd iawn o wneud pethau. Mae'n rhaid i'r bobl iawn ddod i mewn. Mae'n rhaid i bobl ddod yma yn y ffordd iawn. A hefyd mae'r refferendwm yn golygu—yn ein hiaith ni rydym yn dweud—[Torri ar draws.] Yn ein hiaith ni—fe wnaf gyfieithu mewn munud: Zaban-e-khalk ko nikara khuda samjho. Mae'n golygu, yn iaith India: 'Pan fydd pobl yn siarad, gair Duw yw hwnnw.' Felly, cofiwch hyn: pan benderfynodd pobl ar Brexit, mae'n rhaid, rhaid i chi gytuno iddo—. Rydym ni i gyd yma fel Aelodau etholedig, oherwydd pa un a wnaethom ni ei ennill drwy un bleidlais neu 1,000 o bleidleisiau, rydych chi wedi'ch ethol. Mae'n rhaid i chi barchu Brexit. Nid oes unrhyw ffordd allan.
A gwrandewch—[Torri ar draws.] A gwrandewch ar yr hyn y mae eich arweinydd yn ei ddweud. Ef—Mr Corbyn—[Torri ar draws.] Mr Corbyn—ef ei hun—a ydych chi'n gwybod beth ddywedodd ef? Nid yw'n gweithredu er budd Brexit. Dywedodd ei fod yn gwrthwynebu'r cytundeb cyn iddo hyd yn oed ei ddarllen. Dyna eich arweinydd. A hefyd addawodd Jeremy Corbyn y byddai'n parchu penderfyniad y wlad i adael, ond mae bellach wedi agor y drws i ail-gynnal y refferendwm, a fydd yn mynd â phob un ohonom ni yn ôl i'r sefyllfa wreiddiol. Felly, mae ansicrwydd a hefyd ansicrwydd a rhaniad os gwrandawn ni ar Jeremy Corbyn. Hynny yw, Llywydd—. Mae ein Prif Weinidog, mewn gwirionedd—rwy'n dymuno hir oes iddi, a phopeth—mae hi bron cystal neu'n well na Jeanne D'Arc. Bydd hi'n gwneud gwaith gwell ar ran y Deyrnas Unedig, ac mae hi yn ei wneud, ac rydych chi'n anghofio hynny.
Rydym ni wedi llwyddo i gael cytundeb. Rydym ni wedi llwyddo i gael cytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd i gyflawni'r refferendwm, cytundeb y gall y wlad uno y tu ôl iddo. Dylai un Senedd fod yn ôl. Hefyd, byddwn yn rheoli popeth ein hunain—pob maes gwleidyddol a busnesau y bydd Prydain yn eu rheoli. Yr economi—byddaf yn dod at hyn. Rydym ni wedi cyflawni—[Torri ar draws.] Rydym ni wedi cyflawni ymrwymiad i ddarparu dadansoddiad priodol i'r Senedd drwy asesiad gwrthrychol cadarn ynghylch sut y gallai ymadael â'r UE effeithio ar economi sector y DU fesul gwlad a rhanbarth yn yr hirdymor. Dengys y dadansoddiad hwn mai ein cytundeb ni yw'r cytundeb gorau sydd ar gael ar gyfer swyddi, ein heconomi, ac mae'n caniatáu i ni anrhydeddu'r refferendwm a gwireddu cyfle Brexit.
Llywydd, ein diweithdra, ein cyflogau, ein—[Torri ar draws.]
Na. mae amser yr Aelod eisoes wedi dod i ben. Nid yw'n derbyn ymyriad.
Yn y bôn—. Rwyf ar yr ychydig linellau olaf nawr. Mae'r economi hon yn mynd i dyfu. Brexit yw'r unig ateb. Yr hyn y mae Theresa May wedi'i roi ar ddu a gwyn—darllenwch ef os gwelwch yn dda. Mae hynny er budd y genedl ac er budd ein cenhedlaeth nesaf. Mae'r bleidlais y bobl hon, rwy'n credu, yn lol ac na fydd yn digwydd, oherwydd ein bod ni eisoes wedi cael un, felly does dim angen cynnal a chymeradwyo un arall. Ni fyddai terfyn ar hynny. Felly, byddwn yn ddiolchgar os gwnewch chi—. Byddwn ni, beth bynnag, yn gwrthwynebu'r rhain i gyd, ond diolch yn fawr iawn am wrando.
Wel, diolch ichi, Llywydd, ac ar ôl yr araith honno, rwy'n mynd i newid fy mhleidlais. [Chwerthin.]
Beth bynnag, a gaf i fod yn glir o'r cychwyn? Mae'r cytundeb presennol hwn—mae'n siomedig iawn, nid yw'n ddigon da. Mae'n aneglur, mae'n peryglu ein diogelwch a'n sicrwydd ni, ac mae'n rhoi ein heconomi mewn perygl. Nawr, treuliais lawer o flynyddoedd yn negodwr, ac yn yr amser hwnnw, rwyf wedi gweld llawer o 'gynigion terfynol' fel y'i gelwir nhw, ond roeddwn i bob amser yn canfod pan fo Aelodau'n dweud nad yw'r cytundeb terfynol yn ddigon da, rydych chi'n mynd yn ôl ac yn trafod ychydig mwy, ac yn y pen draw rydym ni'n cael cytundeb terfynol, onid ydym ni? Felly, dyna rydych chi'n ei wneud. Nawr, rwy'n gwybod hefyd y bydd pobl yn dweud, 'Wel, mae amser yn brin', ac 'O le gawn ni'r amser hwn i fynd yn ôl i drafod eto?', oherwydd dydw i ddim ychwaith yn credu bod 'dim cytundeb' yn unrhyw fath o ddewis realistig, ac mae'r cloc yn tician. Felly, o ble daw'r amser? Wel, yn y Siambr hon, rai misoedd yn ôl, gofynais a oedd hi'n bryd oedi'r cloc. Roeddwn i'n grediniol bod hynny'n angenrheidiol bryd hynny. Ac rwyf hyd yn oed yn fwy crediniol o hynny'n awr. Ac mae'r cyngor cyfreithiol—y credaf i Siân Gwenllian ei grybwyll yn gynharach—yr ymddengys fod gan Lywodraeth y DU bellach, yn dangos nad oes dim i rwystro gofyn am hyn. Felly, dylem ni wneud hynny, a dylem ni ganiatáu mwy o amser i'r trafodaethau hynny barhau oherwydd mae Brexit yn faes newydd i bawb, gan gynnwys 27 gwlad yr UE, ac mae'r materion sydd yn y fantol yn rhy fawr i'w rhuthro. Felly, cyn inni gychwyn ar y daith, gadewch i ni o leiaf geisio cytuno ar y map sy'n mynd i'n harwain i'r gyrchfan newydd hon.
Nawr, Llywydd, rwyf wedi credu erioed fod ein sefyllfa yn yr UE yn rhywbeth i fod yn falch ohono—ein gallu i lywio a dylanwadu ar y farchnad a pholisïau cyfandir mawr Ewrop. Roedd gennym ni statws ac roedd gennym ni barch. Rydym ni bellach yn cael ein diraddio i statws sylwebydd ac arsylwr. Nawr, rwyf wastad wedi bod—fel y dywedodd pobl eraill—yn falch o fod yn Ewropeaidd. Rwyf eisiau aros yn yr UE. Rwy'n falch o ddweud fy mod i wedi ymgyrchu'n frwd i ni aros yn yr Undeb Ewropeaidd oherwydd, fel sosialydd, i mi, roedd bod yn rhan o'r UE yn bodloni fy nyheadau o gyfunoliaeth egnïol, rhannu adnoddau, gweithio gyda'n gilydd, osgoi ynysiaeth, a hefyd dyna pam yr wyf yn ymrwymedig i Deyrnas Unedig, oherwydd rwy'n credu ein bod ni bob amser yn gryfach gyda'n gilydd.
Ond wedi clywed cyfraniad Neil Hamilton yn gynharach a'r achwyn am ein sefyllfa a bod y cytundeb gwael sydd gennym ni o'n blaenau yn waeth nag aros, ni allaf ond myfyrio ar yr hyn a ddaeth â ni i'r sefyllfa hon, ac rwy'n mynd i ailadrodd rhai o'r pethau a dywedodd Joyce Watson. Yr hyn a ddaeth â ni i'r sefyllfa hon oedd y rhaniadau gwleidyddol ledled Ewrop sydd wedi bod yn wendid i'r Blaid Geidwadol am fwy na 40 mlynedd. Gwnaeth y rhaniad mewnol hwnnw arwain David Cameron i roi buddiannau'r Blaid Dorïaidd uwchlaw buddiannau ehangach y genedl hon. Gorfodwyd ef i addo refferendwm nad oedd ei angen arnom ni, i dawelu'r Ewroamheuwyr digyfaddawd yn y Blaid Dorïaidd. Hunan-les y Torïaid a ddaeth â ni i'r sefyllfa hon yr ydym ynddi yn awr. [Torri ar draws. Na. Mae'n rhaid iddo fyw gyda hynny am weddill ei oes, ac fel y dywedodd Dai Lloyd yn hollol gywir, bydd David Cameron, o ganlyniad i hyn, heb amheuaeth, yn cael ei gofnodi mewn hanes fel Prif Weinidog gwaethaf ein hoes: y dyn a roddodd fuddiannau gwleidyddol ei blaid ei hun cyn buddiannau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol y genedl gyfan. Cywilydd arno, a chywilydd ar y Blaid Geidwadol am ganiatáu i hynny ddigwydd.
Ond er gwaethaf fy holl amheuon, dicter a thristwch o ran yr hyn sydd wedi ein harwain i'r sefyllfa hon, rwyf wedi ceisio parchu canlyniad y refferendwm hwn, ac er fy mod i'n cofio Nigel Farage yn dweud pe byddai'r bleidlais wedi bod 52 i 48 i'r gwrthwyneb, nid dyna fyddai diwedd pethau. Wel, rwy'n dweud wrthych chi, gymrodyr: nid dyma ddiwedd pethau. Roeddwn i wedi gobeithio y tu hwnt i bob gobaith y byddai'r DU wedi gallu negodi cytundeb sy'n helpu i osgoi'r trychineb yr wyf i o'r farn ar hyn o bryd, heb unrhyw amheuaeth, sy'n dod i'n cyfeiriad. Ond nid yw'r cytundeb ymadael hwn yn gytundeb o'r fath. Rydym ni wedi clywed hyn o'r blaen, rwy'n gwybod, ond mae'n werth ei ailadrodd—mae cwmnïau yn fy etholaeth i sy'n rhannu fy ofnau. Cwmnïau sydd â threfniadau masnachu sydd wedi'u hymwreiddio'n ddwfn gyda'r UE, cwmnïau y mae ansicrwydd Brexit eisoes yn amharu arnyn nhw, cwmnïau sy'n dibynnu ar fasnach di-dariff ar gyfer eu busnes yn y dyfodol a chadw swyddi yn yr economi leol. Nid ydyn nhw'n cael eu calonogi gan unrhyw beth yr ydym ni wedi'i weld, ac rwy'n wirioneddol ofni os gwnawn ni hyn yn anghywir, mai hon fydd y weithred fwyaf o hunan-niwed y mae unrhyw genedl erioed wedi'i hachosi i'w hun. A'n plant ni fydd yn gorfod byw gyda chanlyniadau hynny, a'r bobl dlotaf yn ein cymdeithas fydd yn talu'r pris mwyaf amdano. Ac fel cynrychiolydd etholedig, ni allaf bleidleisio dros y canlyniad hwnnw. Fel cynrychiolydd etholedig, y peth hawsaf i mi ei wneud yw pleidleisio o blaid y dewis poblyddol. Y peth anoddaf i'w wneud yw pleidleisio o blaid y dewis cywir.
Llywydd, am eiliad, gadewch imi fyfyrio hefyd ar fater sydd bob amser wedi bod yn agos at fy nghalon, sef hawliau gweithwyr—hawliau gweithwyr sydd wedi'u sefydlu gennym ni drwy'r Undeb Ewropeaidd dros flynyddoedd lawer; hawliau gweithwyr, yn seiliedig ar ddeddfwriaeth Ewropeaidd, sy'n ymgorffori'r egwyddor ardderchog honno bod anaf i un yn anaf i bawb, sydd wedi lliniaru rhai o eithafion gwaethaf ymosodiadau'r Torïaid ar hawliau gweithwyr yn y wlad hon. A na, Gareth Bennett, nid gweithwyr mudol yr UE sy'n gostwng cyflogau, cyflogwyr diegwyddor sy'n gwneud hynny, ac mae ein methiant ni i ymdrin â hynny wedi bod yn warth cenedlaethol. Felly, rwyf wedi darllen gyda diddordeb yr wybodaeth am safonau llafur yn y cytundeb ymadael, a wyddoch chi beth? Mae'n annigonol yn hynny o beth hefyd. Nid yw'n rhoi'r sicrwydd sydd ei angen i osgoi yr hyn y gellid ei ddisgrifio ar ei orau fel ras i'r gwaelod. Yn amlwg, bydd llawer yn seilio eu hofnau ar gyfer y dyfodol ar golli mynediad at y farchnad sengl, ac, heb amheuaeth, mae hynny'n ystyriaeth enfawr yn y ddadl hon, ac yn un sy'n peri pryder mawr i mi, hefyd, am y rhesymau yr wyf wedi sôn amdanyn nhw eisoes. Ond rwyf yr un mor bryderus ynglŷn â cholli ein lle ymysg polisïau cymdeithasol yr UE, oherwydd, siawns mai ein nod yw bod sefydlogrwydd economaidd a chynnydd cymdeithasol yn gysylltiedig â'i gilydd. Ac rwy'n mynd i ddyfynnu un cwmni cyfreithiol undeb llafur a allai fod yn gyfarwydd i un neu ddau o bobl yn y Siambr hon, ac maen nhw wedi dweud ei bod hi'n gwbl glir, felly, y bydd yr ymrwymiadau o ran sicrhau nad oes llacio ar safonau llafur ac o ran cydymffurfio â rhwymedigaethau Siarter Cymdeithasol Ewrop a Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn aneffeithiol.
Felly, nid oes unrhyw sicrwydd yn y cytundeb hwn ynglŷn â chymaint o agweddau ar ein bywydau yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw ar gyfer ein ffyniant a'n diogelwch yn y dyfodol, ac mae distawrwydd byddarol yn y datganiad gwleidyddol am amddiffyn hawliau gweithwyr. I mi, nid yw hynny'n bodloni'r prawf a osodwyd naill ai yn y cytundeb ymadael na'r datganiad gwleidyddol. Felly, mae ein swyddogaeth ni heddiw yn glir: a ydym ni, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn rhoi ein cydsyniad i'r cynllun ymadael presennol? A fy ateb i yw 'nac ydym'. Nawr ein bod yn gwybod maint y ffolineb hwn, mae'n rhaid i bobl gael y cyfle i bleidleisio eto ac i benderfynu ai'r cytundeb a gynigir nawr yw'r hyn y gwnaethon nhw bleidleisio o'i blaid, mewn gwirionedd. Ac mae'n rhaid imi ddweud, Paul, yn groes i'r hyn yr oeddech chi'n ei ddweud yn gynharach, mae'r holl arwyddion nawr yn awgrymu nad yw pobl Cymru bellach yn cefnogi Brexit oherwydd eu bod bellach yn gwybod beth y mae'n ei olygu—nawr eu bod nhw'n gwybod yn union beth sydd ar gynnig, maen nhw wedi newid eu meddwl.
Gobeithio y caiff hynny ei wneud drwy etholiad cyffredinol oherwydd dydw i ddim eisiau inni newid cyfeiriad ar yr UE yn unig, rwyf eisiau inni newid cyfeiriad ar lu o bolisïau cartref. Mae cynnig y Llywodraeth yn cynnwys yr alwad hollbwysig honno am etholiad cyffredinol, a dyna pam y bydd yn cael fy nghefnogaeth i a dyna pam na allaf gefnogi cyfyngiadau gwelliant Plaid Cymru. Ond, rywsut, ar ôl y camgyfrifiad trychinebus ar adeg yr etholiad diwethaf i'r Torïaid, dydw i ddim yn meddwl y byddan nhw'n gwneud yr un camgymeriad eto, a dydw i ddim yn credu y bydd y tyrcwn penodol hyn yn pleidleisio dros Nadolig cynnar. Ond mae'n rhaid i bobl gael dweud eu dweud, felly os bydd y Torïaid yn rhedeg i ffwrdd o etholiad cyffredinol arall, yna mae'n rhaid cynnal pleidlais gyhoeddus sy'n penderfynu ein dyfodol. Diolch.
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl. Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf fi ddweud gair o ddiolch i bob un o’r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl ac i ymddiheuro achos nid oes digon o amser gyda fi i ymateb i bob un? Beth rydw i'n mynd i'w wneud yw trio tynnu rhai o'r themâu mas o'r ddadl, sydd wedi bod yn eang, yn ddifrifol ac, fel rŷm ni wedi clywed, yn fywiog hefyd.
Llywydd, mae yna bum thema yr hoffwn i ganolbwyntio arnyn nhw yn nadl y prynhawn yma cyn troi at yr hyn a ddywedodd y pleidiau unigol. A gaf i ddechrau drwy gyfeirio at y sylw a wnaeth Paul Davies yn gynnar iawn yn y ddadl ac yr ymatebodd Rhun ap Iorwerth a Joyce Watson ill dau iddo? Mae'n bwynt pwysig iawn, sydd yn ymwneud â pha mor gynhennus mae'r ddadl a'r tensiynau rhwng y cenedlaethau y mae wedi esgor arnyn nhw a'r rhwymedigaeth y dylai unrhyw un ohonom ni sy'n rhan o fywyd cyhoeddus ein gwlad ei deimlo o ran iachau'r rhaniadau hynny a mynd i'r afael â'r ddadl hon gydag iaith ac ymagwedd sy'n gyfle i iachau, yn hytrach na gwaethygu'r holltau cynhennus y mae'r holl fater hwn wedi eu hagor.
Ail thema y credaf y gallwch chi ei chlywed ym mhopeth a ddywedwyd y prynhawn yma yw cymhlethdod—pa mor gyflym y diflannodd yr addewidion a roddwyd inni ar y dechrau ynglŷn â pha mor hawdd y byddai hyn i gyd, oherwydd, bob tro y byddwch chi'n ymchwilio i'r broses o wahanu oddi wrth berthynas y buom ni'n rhan ohoni am 40 mlynedd, y cymhlethdod o wneud hynny. Ac mae hynny wedi bod yn thema mewn sawl cyfraniad y prynhawn yma.
Yn sicr, mewn trydedd thema, fe wnaeth llawer iawn o Aelodau, ac nid yn annisgwyl, aelodau'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol—yn enwedig Jane Hutt a Dai Rees, ei Gadeirydd—dynnu sylw at ddifrifoldeb yr hyn sydd yn y fantol yn yr holl drafodaeth hon a'r cytundeb y gofynnir inni ddod i farn arno: llif meddyginiaethau i'r Deyrnas Unedig, yr effaith ar gadwyni cyflenwi, ar y rhagolygon ar gyfer twf economaidd, yr effaith ar gydraddoldeb—boed hynny o ran hawliau gweithwyr, fel y dywedodd Dawn Bowden, neu effaith ar fenywod, fel y cyfeiriodd Jane Hutt ato—ar borthladdoedd, ar ynni, ar yr amgylchedd, ar ein safle, ein diogelwch a'n parch yn y byd. Mae'r materion hynny i gyd yn y fantol yn y ddadl hon.
Ac mae cyd-destun ehangach iddo y tu hwnt i'n haelodaeth uniongyrchol a'r cytundeb, y cyfeiriodd Siân Gwenllian ato—ein haelodaeth o INTERREG, ein haelodaeth o Ewrop Greadigol, y rhwydweithiau eraill hynny yr ydym ni wedi elwa cymaint arnyn nhw ac wedi cyfrannu cymaint atyn nhw fel gwlad yn ystod ein hamser yn yr Undeb Ewropeaidd—ac, y tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd, y pwynt a wnaeth David Rees a David Melding ill dau ynglŷn â dyfodol y Deyrnas Unedig ei hun y tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd hefyd. Mae'r rhain yn faterion hynod bwysig, ac mae'r ddadl eang hon wedi cyfeirio at bob un ohonyn nhw. Ond, yn y pen draw, Llywydd, yr hyn yr ydym ni'n pleidleisio arno yw mynegiant o farn y Cynulliad Cenedlaethol hwn cyn trafodaeth ystyrlon yn Nhŷ'r Cyffredin ar y cytundeb y mae Mrs May wedi ei gytuno, y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol.
Dywedodd Neil Hamilton, o ran UKIP, y byddai'r cytundeb yn cael ei wrthod am resymau gwahanol iawn i'r holl rai eraill sydd wedi'u gwyntyllu yn y Siambr. Ar ran y Ceidwadwyr, clywais Paul Davies yn gwneud ei orau, yn fy marn i, i gyflwyno'r achos dros gytundeb Mrs May. Dechreuais feddwl tybed pam nad oedd wedi cyflwyno gwelliant fel y gallai ei blaid bleidleisio dros y sefyllfa honno, ond, wrth gwrs, sylweddolais yn fuan pam na wnaeth hynny: oherwydd, gan fod Paul wedi dweud bod hyn yn gyfaddawd y gallwn ni i gyd uno ynglŷn ag ef, clywais David Melding yn dweud y byddai'n brwydro am genhedlaeth i'w wyrdroi a Mark Reckless yn cyfeirio at y ffaith ei bod hi'n anochel y cai ei wrthod. Felly, mae'n debyg ein bod ni'n gwybod pam nad oedd unrhyw welliant i'r cynnig gan y Ceidwadwyr.
Y ddau bwynt yr oedd dadl Paul Davies ar ei gwannaf, yn fy marn i, oedd wrth iddo geisio dweud fod hyn yn ddewis rhwng dau beth, sef cytundeb Mrs May neu ddim cytundeb o gwbl. Ni allai hyd yn oed ateb cwestiwn syml Adam Price o ba un a fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu y byddai Cymru yn well ei byd. Ac rwy'n dweud o ddifrif mai'r ddadl yr ydym ni wedi ei chlywed yn y Siambr bod gofyn am ailystyried y mater difrifol iawn hwn rywsut yn tanseilio democratiaeth—dyna'r ddadl wannaf ohonyn nhw i gyd. Rwy'n cytuno â Dai Lloyd ar hyn. Rwyf wedi treulio oes yn pleidleisio dros achosion lle cefais fy nhrechu. A yw hynny'n golygu fy mod i'n dweud, 'Wel, felly, mae democratiaeth wedi gwneud ei benderfyniad ac ni allaf leisio fy marn byth eto dros yr achos yna'? Wel, wrth gwrs nad ydw i, oherwydd, os ydych chi mewn gwirionedd yn ddemocrat, yna rydych chi'n deall bod y dadleuon yno bob amser i'w dadlau ac i'w dadlau drachefn.
A wnaiff yr Ysgrifennydd ildio ar y pwynt hwn? Onid gwirionedd y mater yw nad ydym ni wedi gweithredu'r canlyniad, ac oni wnaeth ef wrando ar David Melding a'r hyn a ddywedodd ef? Pa bynnag mor gryf yr ydych chi o blaid 'aros' neu'r UE, yn gyntaf oll, mae'n rhaid ichi wneud yr hyn a ddywedodd y refferendwm, sef gadael.
Wel, fe wnes i wrando'n ofalus ar yr hyn a ddywedodd David Melding, wrth gwrs, ac fe wnaeth ef bwynt pwysig iawn, sef, fel democrat, bod yn rhaid i chi dderbyn penderfyniadau yr ydych chi'n anghytuno'n llwyr â nhw weithiau. Ond nid wyf i erioed wedi gweld rheol, Llywydd, sy'n dweud bod yn rhaid i chi aros am genhedlaeth cyn ymladd y frwydr dda honno eilwaith, ac nid wyf yn cytuno—nid wyf yn cytuno o gwbl—â dadl sy'n dweud bod yn rhaid i chi weithredu trychineb cyn y gallwch chi geisio ei osgoi. Os ydych chi'n credu, os ydych chi'n credu—. Ac wrth gwrs mae gan bobl ddaliadau gwahanol, ond, os ydych chi'n credu o ddifrif y bydd hyn yn drychineb i'n gwlad, yna wrth gwrs, nid ydych chi'n mynd i ddweud, 'Gadewch inni gael y trychineb yn gyntaf ac yna byddwn yn dadlau yn ei erbyn. 'Wrth gwrs eich bod chi'n mynd i geisio osgoi'r trychineb yn y lle cyntaf, ac, mewn sawl ffordd, dyna beth sy'n gwahanu rhannau o'r Blaid Geidwadol yma y prynhawn yma oddi wrth Blaid Cymru a'r Blaid Lafur. Roeddwn i'n meddwl bod yn rhaid i Blaid Cymru ymdrechu'n eithaf caled, Dirprwy Lywydd, i ddod o hyd i wahaniaethau rhwng yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud yn ein cynnig ni a'r hyn y maen nhw wedi ei ddweud yn y ddadl. Rydym ni'n cytuno ar yr hanfodion yn y fan yma, ac fe ddywedaf eto mai wrth anfon y neges fwyaf unedig ag y gallwn y byddwn fwyaf pwerus a dylanwadol fel sefydliad.
Dyma eglurder i chi. Dyma'r hyn y mae ein cynnig yn bwriadu ei gyfleu. Dywedais hynny wrth agor y ddadl—fy mod i'n gobeithio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn anfon neges glir y prynhawn yma bod y cynnig a gyflwynwyd yn annerbyniol. Mae hynny'n glir i chi, rwyf yn gobeithio. Mae'n annerbyniol. Mae'n methu â bodloni buddiannau sylfaenol Cymru a'r DU yn ei chyfanrwydd a dylid ei wrthod. Mae gennym ni gyfle y prynhawn yma i anfon yr union neges honno i Lywodraeth y DU. Gobeithiaf y byddwn yn gwneud ein gorau i'w hanfon hi gyda'n gilydd.
Diolch. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly byddwn yn gohirio pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.