Part of the debate – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Unwaith y bydd protocol y cytundeb hwn mewn grym, mae'n eithaf amlwg na all y DU adael ac eithrio drwy benderfyniad ar y cyd gan y DU a'r UE. A pham fyddai'r UE eisiau ein rhoi mewn sefyllfa lle y gallem ni adael bryd hynny? Oherwydd byddan nhw wedi ein clymu i drefniant parhaol gyda nhw, lle mae ganddyn nhw fynediad am ddim i'n marchnadoedd ni— ac, wrth gwrs, yn gyfnewid, mae gennym ni fynediad am ddim i'w marchnadoedd nhw, ond mae'r anghydbwysedd mewn masnach yn £95 biliwn y flwyddyn o blaid yr UE—ond, ar y llaw arall, byddwn yn ildio ein hawl i negodi cytundebau masnach â gweddill y byd, sef un o fanteision mawr Brexit yn y lle cyntaf. Mae wyth deg pump y cant o'r economi fyd-eang y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, a gweddill y byd sy'n tyfu, tra bod yr UE yn aros yn ei hunfan. A chydag argyfwng arall i'r ewro yn yr arfaeth yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, yna bydd problemau economi Ewrop hyd yn oed yn fwy. Y cyfan y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi cytuno iddo yn y trafodaethau hyn yw gwneud ei gorau glas i negodi cytundeb masnach parhaol gyda ni. Ond pam fyddai hi eisiau gwneud hynny?
Amod o'r cytundeb pontio yw bod unrhyw drefniant masnach parhaol sydd gennym ni gyda'r UE yn seiliedig ar diriogaeth bresennol yr undeb tollau sengl. Felly, hyd yn oed pe gallem drefnu bargen â'r UE, byddai hynny ynddo'i hun yn ein hatal rhag llunio cytundebau â gweddill y byd, oherwydd elfen hanfodol o unrhyw gytundeb masnach rydd yw ei bod yn darparu ar gyfer masnach rydd rhwng nwyddau sy'n cael eu gwneud, neu eu cynhyrchu, yng ngwledydd y ddau endid sy'n llunio'r cytundeb. Ac wedyn mae yna reolau tarddiad sy'n berthnasol fel na all trydydd partïon osgoi telerau cytundebau masnach drwy gaffael eu nwyddau drwy diriogaeth y maen nhw'n mynd i mewn iddo heb y cyfyngiadau arferol, os nad oes un. Mae Erthygl 24 o'r cytundeb GATT yn ei gwneud yn ofynnol cael rheolau trefniadau tarddiad, lle cesglir gwybodaeth am darddiad y nwyddau sy'n tramwyo trwy diriogaeth. Felly o ganlyniad, ni fyddwn yn gallu bodloni unrhyw wlad arall yn y byd o ran tarddiad y nwyddau yr ydym ni'n eu gwerthu iddyn nhw. Ac mae hynny'n tanseilio'r union egwyddor y mae cytundebau masnach rydd yn seiliedig arni.
Felly, os oes anghydfod ynglŷn ag ystyr y cytundebau y mae'r Llywodraeth yn eu cynnig, sut mae modd penderfynu ar hynny? Wel, bydd panel cymrodeddu yn cael ei sefydlu, ond, dan erthygl 174 y cytundeb ymadael, caiff anghydfod ei ddatrys yn y pen draw nid gan y panel cymrodeddu ei hun, ond gan Lys Cyfiawnder Ewrop. A chanlyniad hynny, mewn gwirionedd, yw y bydd rheolaeth ein cyfreithiau yn parhau i fod yn seiliedig ar fympwy Llys Cyfiawnder Ewrop. Dywed Carl Baudenbacher, a oedd yn Llywydd Llys Cyfiawnder Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop, EFTA, nad tribiwnlys cymrodeddu gwirioneddol yw hwn—y tu ôl iddo, mae Llys Cyfiawnder Ewrop yn penderfynu popeth. Ac mae hyn yn deillio o gytundeb yr Wcráin. Mae'n anghredadwy y byddai gwlad fel y DU, sef y wlad gyntaf i dderbyn llysoedd annibynnol, yn darostwng ei hun i hyn.
Felly, dyma wladwriaeth gaeth yng ngwir ystyr y gair, lle mae'n rhaid inni dderbyn y rheolau a'r rheoliadau y penderfynir arnyn nhw gan yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n rhaid i ni ufuddhau iddyn nhw. Nid oes gennym lais na phleidlais yn y ffordd y maent yn cael eu gwneud—[Torri ar draws.] Wnes i ddim dadlau—[Torri ar draws.] Na, na, dywedais—dadleuais o blaid Prydain sofran ac annibynnol, lle dylai ein cynrychiolwyr etholedig ein hunain lunio ein cyfreithiau, fel y gwnawn ni yn y fan hon, ac nad ydym ond yn derbyn rheolau drwy'r UE, sydd nid yn unig yn gallu cyfarwyddo ein telerau masnachu â nhw, ond hefyd ein rheolau masnachu â gweddill y byd. Mae hynny'n groes i Brexit—mae hynny'n groes i'r hyn y pleidleisiodd pobl o'i blaid ym mis Mehefin 2016.
Pan ymunwyd â'r farchnad gyffredin ym 1973, fe'i cyflwynwyd fel dim byd amgenach na bargen fasnach. Ni chafodd ei chyflwyno fel rhan o daith tuag at archwladwriaeth Ewropeaidd ganolog, ffederal, sef y daith yr ydym ni arni o hyd. Roedd Angela Merkel yn sôn dim ond bythefnos yn ôl am fyddin Ewropeaidd, ac mae hynny, wrth gwrs, yn bosibilrwydd peryglus iawn yn wir, ac mae gwrthwynebiad sylweddol ymysg y ffederalwyr i NATO fel sefydliad. Maen nhw eisiau bod yn un o brif gymeriadau llwyfan y byd. Mae hynny'n rhywbeth na allai fod yn dderbyniol, yn fy marn i, i Lywodraeth y Deyrnas Unedig byth, ond, yn y pen draw, ni fyddai gennym ni unrhyw reolaeth dros hynny.
Os ydym yn mynd i anrhydeddu canlyniad refferendwm Brexit, rydym yn mynd i orfod wynebu posibilrwydd yn awr sy'n fwy anodd nag y gallem fod wedi ei ddychmygu dwy flynedd yn ôl, ac yn wir, yn llawer mwy anodd nag yr oedd ei angen. Mae Theresa May wedi methu'n llwyr â manteisio ar y cyfleoedd euraid a oedd ganddi, sef, wrth gwrs, y diffyg masnach enfawr sydd gennym ni â'r UE, y £10 biliwn net y flwyddyn yr ydym ni wedi ei gyfrannu i gyllideb yr UE dros y 40 mlynedd diwethaf, a'n gallu i negodi cytundebau masnach â gweddill y byd. Pe byddai hi'n chwarae bridge, yna dewisodd chwarae'r dymi yn fwriadol yn y trafodaethau hyn, gan roi ei chardiau ar y bwrdd i eraill eu gweld, tra bod yr UE wedi chwarae'n ofalus. Yr hyn a wnaeth hi yn y cytundeb masnach hwn yw nid lluchio'r babi gyda'r brych, ond mewn gwirionedd lluchio'r babi a chadw'r brych.