Part of the debate – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Llywydd, diolch yn fawr iawn. Clywais y cwestiwn y tro cyntaf; nid oes angen imi ei glywed yr ail waith. [Chwerthin.] Pa fath o sicrwydd y mae hynny yn ei roi—[Torri ar draws.] Pa fath o sicrwydd y mae datganiad gwleidyddol yn ei roi i gyflogwyr Cymru a gweithwyr Cymru, yn enwedig y rhai mewn diwydiannau sy'n ddibynnol ar gadwyni cyflenwi amser-benodol neu y mae eu model busnes yn seiliedig ar gynnwys gwasanaethau yn eu pecyn cynnig, bod, ar ddiwedd y cyfnod pontio, eu buddsoddiad a'u swyddi'n ddiogel.
Mae'r datganiad gwleidyddol yn cynnwys llai na thudalen am symudedd, Llywydd—y mater sylfaenol bwysig hwnnw i fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru ac i'n prifysgolion. Mae'n cadarnhau bod Llywodraeth bresennol y DU wedi penderfynu o'i phen a'i phastwn ei hun i roi terfyn ar yr hawliau rhyddid i symud presennol, ac ar yr un pryd, gyfyngu ar fynediad hollbwysig i sgiliau ar gyfer ein busnesau a gwasanaethau cyhoeddus, dileu hawliau dinasyddion Prydeinig i fyw a gweithio mewn rhannau eraill o Ewrop, a rhoi ergyd farwol i sicrhau mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl.
Llywydd, os oes gan y cytundeb ymadael ddiffygion difrifol, byddai angen ailysgrifennu'r datganiad gwleidyddol ar raddfa eang pe byddem ni fel Llywodraeth yn ystyried cefnogi ei gymeradwyo. Yn lle hynny, mae'r cynnig yr ydym ni wedi ei gyflwyno ger bron y Cynulliad y prynhawn yma yn ymateb yn ofalus ac yn glir i'r amgylchiadau bythol gyfnewidiol yr ydym ni ynddyn nhw. Mae'r ail welliant, a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, yn y bôn yn ymdrin â'r un agweddau â'n rhai ni. Prin yw'r agweddau ynddo y buasem yn wrthwynebus iddyn nhw, ac ni fyddwn yn ei wrthwynebu y prynhawn yma.
Gadewch imi droi yn awr at yr hyn a ddylai ddigwydd, os bydd Tŷ'r Cyffredin, fel y credwn y dylai, yn pleidleisio i wrthwynebu cytundeb y Prif Weinidog. Yn gyntaf oll, rydym ni'n gwrthod yn gyfan gwbl safbwynt y Prif Weinidog bod yn rhaid derbyn ei chytundeb hi neu beidio â chael un o gwbl. Yn ein barn ni, mae yna o leiaf dair ffordd gredadwy o ddatrys y sefyllfa. Yn gyntaf, nid yw'n amhosib o hyd y gallai'r Llywodraeth hon neu un arall negodi cytundeb gwahanol iawn, un sy'n bodloni chwe phrawf Llafur a'r manylion a amlinellir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Yna, fel pobl eraill, o Nicola Sturgeon i Arlene Foster, byddem yn ystyried cefnogi cytundeb newydd, wedi ei seilio'n amlwg ar gymryd rhan lawn yn y farchnad sengl ac undeb tollau. Gelwir y math hwn o Brexit heddiw wrth y term llaw-fer Norway plus, a fyddai'n rhoi'r sicrwydd hirdymor sydd ei angen ar ein busnesau a'n pobl.
Yn ail, Llywydd, erys y posibilrwydd o etholiad cyffredinol, fel y dywedodd Adam Price. Byddai etholiad cyffredinol yn rhoi mandad clir i Lywodraeth newydd ailnegodi, i gynnal ail bleidlais gyhoeddus neu, os cadarnheir barn eiriolwr cyffredinol yr UE heddiw, i ddiddymu hysbysiad Erthygl 50.
Ac, yn drydydd, wrth gwrs, dyna'r bleidlais gyhoeddus newydd ei hun. Rwyf eisiau ailadrodd sicrwydd clir Prif Weinidog Cymru y byddai'r Llywodraeth hon yn ymgyrchu'n frwd am bleidlais o'r fath, os na fydd etholiad cyffredinol nac ailnegodi, a bod yn rhaid i bleidlais o'r fath gael y dewis o aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd ar y papur pleidleisio. Ond, Llywydd, ni allwn ni gefnogi'r trydydd gwelliant sydd gerbron y Cynulliad, yr ymddengys ei fod yn galw am bleidlais y bobl dan unrhyw amgylchiadau, ac sy'n awgrymu mai dyna'r unig bosibilrwydd ar gyfer y dyfodol, pan nad yw hynny'n wir, yn amlwg.
Felly, Llywydd, i gloi, rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn anfon neges glir y prynhawn yma fod y cytundeb a negodwyd gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn annerbyniol. Mae'n methu â bodloni buddiannau sylfaenol Cymru a'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, a dylid ei wrthod.