2. Dadl ar y Cytundeb Ymadael â'r UE a'r Datganiad Gwleidyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 4 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:53, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n bwysig ein bod ni'n anrhydeddu canlyniad y refferendwm, ac rwy'n credu y bydd y cytundeb hwn yn parchu—[Torri ar draws.] Llywydd, bydd y cytundeb hwn yn parchu canlyniad y refferendwm, ac, ar yr un pryd, bydd yn caniatáu i'n busnesau barhau i fasnachu gyda'r UE.

Nawr, mae economi Cymru yn fwy dibynnol na rhannau eraill o'r DU ar allforion i'r Undeb Ewropeaidd. Mae angen sicrwydd ar y busnesau hyn er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae angen sicrwydd ar y ffermwyr hefyd ar gyfer dyfodol eu diwydiant wedi inni adael yr UE.  Dywedodd John Davies, Llywydd NFU Cymru, pan gyfarfu â Phrif Weinidog y Deyrnas Uned yn y Ffair Aeaf, ei fod yn cymeradwyo'r ffaith fod y cytundeb y mae hi wedi dod iddo mor agos â phosib at yr amodau masnach rydd a di-rwystr ar gyfer cynnyrch bwyd ac amaethyddol y buon nhw'n lobïo ar eu cyfer dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Yn wir, mae Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, wedi dweud hefyd fod y cytundeb ymadael y cytunodd y Cabinet a'r UE arno yn cynnwys bron 600 o dudalennau o fanylion yr hyn fyddai'n digwydd yn ystod cyfnod o 21 mis, a bod y tudalennau hynny yn cynnwys sawl gwarant bwysig ar gyfer amaethyddiaeth a diwydiannau eraill.

Felly, mae'n amlwg bod yr undebau ffermio yn croesawu'r cytundeb hwn fel cam ymlaen i  amddiffyn ein diwydiant amaethyddol.

Y dewis amgen i'r cytundeb hwn yw dim Brexit o gwbl. Mae uwch gynrychiolwyr yr Undeb Ewropeaidd wedi ei gwneud hi'n gwbl glir mai hwn yw'r cytundeb sy'n cael ei gynnig ac na chaiff unrhyw gytundeb arall ei negodi rhwng nawr a diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Dyma beth —