2. Dadl ar y Cytundeb Ymadael â'r UE a'r Datganiad Gwleidyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 4 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:42, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae'n drueni mawr nad yw rhethreg Ysgrifennydd y Cabinet yn ei sylwadau agoriadol i'w gweld yn y cynnig, gan fod Plaid Cymru wedi gobeithio heddiw bod mewn sefyllfa lle y gallai gefnogi cynnig y Llywodraeth ynglŷn â'r cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol. Ond rwy'n siomedig felly nad yw'r consensws rhwng ein dwy blaid o adeg cyhoeddi 'Diogelu Dyfodol Cymru' wedi parhau. Roedd 'Diogelu Dyfodol Cymru' yn nodi telerau ac amodau Cymru, os mynnwch chi, o ran beth fyddai'n rhaid i gytundeb ymadael ei gynnwys er mwyn bod yn dderbyniol ac, wrth gwrs, mae'n egluro'n fanwl iawn y weledigaeth ar gyfer perthynas rhwng Cymru, y DU a'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Roedd yn galw am barhau i fod yn rhan o farchnad sengl ac undeb tollau'r UE ac am sicrwydd cadarn o ran hawliau gweithwyr, hawliau dynol, deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dinasyddion, ac mae cytundeb Theresa May ymhell o gyflawni'r rhain ym mhob ffordd.  

Rwy'n arbennig o siomedig fodd bynnag nad yw cynnig y Llywodraeth, fel y'i cyflwynwyd, yn gwneud fawr mwy na nodi datblygiadau diweddar, yn hytrach nag awgrymu safbwynt penodol y dylai'r Cynulliad ei arddel ynglŷn â'r datblygiadau hynny eu hunain. Mae'r cynnig yn gwneud tri datganiad: bod y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol yn bodoli; bod cyfnod pontio yn ffurfio rhan o'r cytundeb ac y bydd hyn yn atal sefyllfa o 'ddim cytundeb'; ac y bydd y Cynulliad, yn y dyfodol, yn penderfynu a ddylem ni roi ein cydsyniad terfynol i Fil y cytundeb ymadael. Ond mae honiadau'r Llywodraeth bod y cyfnod pontio yn atal sefyllfa o 'ddim cytundeb' yn anghywir; dyw e ddim yn wir. Yr hyn sy'n osgoi sefyllfa o 'ddim cytundeb' yw cytundeb neu aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Tybed a oedd y cynnig i fod i ddweud bod y cyfnod pontio yn osgoi gadael heb unrhyw drefniadau, a fyddai, wrth gwrs, yn wir. Ond a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet cystal ag egluro beth yw meddylfryd y Llywodraeth ynglŷn â'r sylw hwn, oherwydd nid yw'n glir i mi, beth bynnag?

Mae'r Llywodraeth hefyd yn anghywir i nodi y bydd cyfle arall yn sicr ymhellach yn y dyfodol i'r Cynulliad bleidleisio ar y cytundeb ymadael. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn dibynnu ar natur Bil y Cytundeb Ymadael. Felly, nid oes dim i ddweud yn sicr nad hwn fydd ein hunig gyfle heddiw, y prynhawn yma, i bleidleisio ac i ddod i farn bendant un ffordd neu'r llall ar y cytundeb ymadael. A dyna pam fy mod i'n annog yr Aelodau heddiw i wneud mwy na dim ond nodi bodolaeth y cytundeb ymadael ac i ddweud yn blwmp ac yn blaen fod y Cynulliad Cenedlaethol yn ei wrthod. Fel arall, mae Cymru mewn peryg o fod yr unig ddeddfwrfa yn y DU gyfan i gynnig cymorth digwestiwn i'r cytundeb ymadael, er, fel y cyfeiria cynnig Llywodraeth Cymru ato'n benodol, nad oes sôn am Gymru unwaith yn y ddogfen 585 tudalen. Mae cynnig Llywodraeth Cymru wedyn yn mynd ymlaen i ddweud nad yw'r datganiad gwleidyddol yn cyflawni'r model perthynas ar gyfer y dyfodol sy'n cael ei ddisgrifio yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'.

Er nad yw'n glir, mae'n ymddangos i mi o'r geiriad y byddai'r Llywodraeth yn fodlon, mewn rhai amgylchiadau, i gydsynio i'r cytundeb ymadael os gwneir newidiadau i'r datganiad gwleidyddol. Ond, unwaith eto, nid ymddengys bod hynny'n cyd-fynd â'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddatganiadau agoriadol. Felly, a all egluro a wyf i, unwaith eto, wedi camddarllen y cynnig ynteu a fu newid barn, neu beth yn union yw'r sefyllfa? A oes amgylchiadau lle byddai'r cytundeb ymadael yn cael cymorth y Llywodraeth hon, ar yr amod y caiff y datganiad gwleidyddol ei newid? Barn Plaid Cymru yw nad oes unrhyw newid y gellir ei wneud i'r datganiad gwleidyddol a fyddai'n gwneud y cytundeb ymadael yn fwy derbyniol. Dyna'n union yw'r cytundeb ymadael. Mae'n tynnu Cymru o'r farchnad sengl, yn tynnu Cymru o'r undeb tollau, yn tynnu Cymru o raglenni'r UE, nid yw'n gwarantu hawliau gweithwyr, ac mae'n bosib iddo fod yn niweidiol iawn i economi Cymru.

Llywydd, mae gwelliant cyntaf Plaid Cymru yn disodli'r rhestr ffeithiau—neu ffeithiau tybiedig—ac yn eu lle yn rhoi cyfle i'r Cynulliad hwn fabwysiadu safbwynt clir os yw'n dewis gwneud hynny. Mae'n gwrthod y datganiad gwleidyddol a'r cytundeb ymadael oherwydd nad ydyn nhw'n cyflawni'r ymrwymiadau a nodir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i geisio aelodaeth o farchnad sengl yr UE ac undeb tollau'r UE, ac mae'n galw am estyniad i Erthygl 50. Gellid ymestyn Erthygl 50 er mwyn negodi trefniant Brexit gwahanol lle byddwn yn aros yn y farchnad sengl a'r undeb tollau yn barhaol. Pe byddem yn gwneud hynny, ni fyddai angen cael cyfnod pontio lle byddem ni y tu allan i'r UE, yn gorfod negodi cydberthynas hirdymor newydd o'r tu allan.

Rwy'n gwybod mai safbwynt Llafur y DU ynglŷn ag aelodaeth o'r farchnad sengl a'r undeb tollau yw y dylem ni adael y ddau ohonyn nhw a negodi bargen newydd, a dyna, wrth gwrs, yw safbwynt y Blaid Geidwadol hefyd. Felly, rwy'n deall efallai na fydd rhai Aelodau yn gallu cefnogi ein gwelliant cyntaf ar y sail honno. Ond rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau o ddifrif yn ystyried cefnogi ein hail welliant, sy'n un ar wahân, sy'n disodli pwynt 6 cynnig y Llywodraeth. Mae pwynt 6 cynnig y Llywodraeth yn galw am etholiad cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus, tra bod ein gwelliant ni yn dweud yn syml y dylid cael pleidlais y bobl a ddylai gynnwys y dewis i aros ar y papur pleidleisio. Yr wythnos diwethaf, dywedodd John McDonnell y byddai sicrhau etholiad cyffredinol yn anodd iawn, ac rwy'n cytuno ag ef. Mae'n anymarferol, ac ni fyddai'n rhoi canlyniad gwahanol i bobl yng Nghymru na ledled y Deyrnas Unedig oherwydd byddai'r ddwy blaid fwyaf blaenllaw yn yr etholiad cyffredinol hwnnw yn ymgyrchu i dynnu'r Deyrnas Unedig o'r farchnad sengl. Felly, byddai gennym ni'r un cyfyngder seneddol yn San Steffan ag sydd gennym ni dan y Llywodraeth dila hon yn awr. Erbyn hyn mae cefnogaeth gynyddol ym mhob plaid i gael pleidlais y bobl, ac mae llawer o hynny oherwydd yn syml na all y Senedd roi trefn ar hyn. Dim ond refferendwm o'r newydd all roi terfyn ar y cyfyngder gwleidyddol. Felly, rwy'n wirioneddol obeithio y bydd gwelliant i gael pleidlais y bobl yn cael mwyafrif trawsbleidiol yma heddiw.

Llywydd, yn awr ac yn y man, fel seneddwyr, gofynnir inni wrando ar ein cydwybod cyn bwrw pleidlais ar ddigwyddiadau a phenderfyniadau gwirioneddol hanesyddol. Mae fy nghydwybod i yn dweud wrthyf fod y cytundeb sy'n cael ei gynnig mor niweidiol i'r cymunedau y'n hetholwyd i'w cynrychioli fel nad yw'r cytundeb ymadael na'r datganiad gwleidyddol yn haeddu cefnogaeth y Senedd hon, ac na ddylid eu nodi ond eu gwrthod gan y Senedd hon. Rwy'n credu o ddifrif bod caniatáu i bobl benderfynu ar y ffordd ymlaen o'r fan hon yn ddemocrataidd gadarn a hefyd yn hanfodol er mwyn datrys yr anghytundeb gwleidyddol yn San Steffan. Felly, rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliannau Plaid Cymru fel bod ein Senedd mewn gwirionedd yn mynegi safbwynt ar y materion sylfaenol hyn, ac fel y gallwn ni hefyd gymeradwyo'n glir hawl y bobl i gael y gair olaf. Diolch yn fawr.