Part of the debate – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Dyma beth mae'r UE wedi dweud dro ar ôl tro, ac roedd Brexit, mewn sawl ffordd, yn bleidlais yn erbyn y sefydliad gwleidyddol yn San Steffan a Bae Caerdydd cymaint ag ym Mrwsel. Byddai hi'n weithred beryglus iawn i'r sefydliad hwnnw ymateb i'r bleidlais honno gan anwybyddu ewyllys y bobl yn llwyr, ac, wrth inni ddynesu at 29 Mawrth 2019, mae'r cloc yn tician a dyma'r unig gytundeb sydd ar gynnig.