Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Rwyf i yn credu bod cytundeb Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn un da, ac mae'n adlewyrchu'r sefyllfa a grewyd gan ganlyniad y refferendwm, sef 52 y cant o blaid gadael, 48 y cant o blaid aros. Mae'r sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd yn un â mymryn o wahaniaeth iddi: perthynas barhaus gydag Ewrop, ond wedi ymadael hefyd â'i strwythurau gwleidyddol. Rwy'n credu bod hynny'n adlewyrchiad teg o ble'r ydym ni fel pobl ar hyn o bryd.
Yn anad dim, caiff y perygl o Brexit afreolus ei ddileu. Mae hyn yn gyflawniad pwysig, ac mae'n glod i Lywodraeth y DU a'r UE y cyflawnwyd hynny. Mae'r sector busnes wedi croesawu'r cytundeb a'r datganiad gwleidyddol. Ysgrifennodd Dow Silicones UK ataf yr wythnos hon—rwy'n credu eu bod nhw wedi ysgrifennu at yr holl Aelodau. Byddai llawer ohonom ni wedi ymweld â'u gwaith yn y Barri; mae'n cyflogi 553 o bobl. Dyfynnaf o'u llythyr:
Mae cyhoeddiad y Llywodraeth o'r dadansoddiad economaidd hirdymor o adael yr Undeb Ewropeaidd yn nodi yn gwbl briodol y sector cemegol fel un o'r rhai sydd fwyaf mewn perygl os na cheir cytundeb.
Aiff ymlaen i ddweud:
Rydym yn cydnabod nad yw'r Cytundeb Ymadael na'r Datganiad Gwleidyddol yn berffaith. Fodd bynnag, os cawn nhw eu sicrhau, maen nhw yn sicrhau peth o'r pendantrwydd angenrheidiol sydd wir ei angen drwy'r cyfnod pontio, gan alluogi ein busnes i gynllunio penderfyniadau buddsoddi gyda mwy o hyder na fu'n wir dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf. Yn ystod y cyfnod pontio hwnnw bydd ein diwydiant hefyd yn gweithio gyda'r Llywodraeth i helpu i sicrhau'r berthynas fwyaf priodol gyda'r UE yn y dyfodol.
Rwy'n credu ei bod hi'n hen bryd bod gennym ni rywun yn darllen o'r sector busnes beth yw eu barn, ac fe ddylem ni ystyried hynny yn ofalus iawn.
Os gwrthodir cytundeb Mrs May mae dau bosibilrwydd yn amlwg yn dod i'r fei: Brexit 'dim cytundeb', y mae busnesau yn ei ofni'n fawr, fel yr wyf i newydd gyfeirio ato, neu ail refferendwm a allai achosi difrod mawr i'n diwylliant democrataidd. Ymddengys i mi nad yw ail refferendwm yn ffordd resymol o weithredu oni bai bod galw aruthrol a gweladwy am hynny, a beth bynnag y mae Adam Price a'i debyg yn ei gredu, nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd. Yn ail, mae disgwyliad ar gyfer canlyniad pendant, ac mae hynny'n golygu mwy na 60 y cant un ffordd neu'r llall, ac nid yw hynny yn sicr yn bodoli ar hyn o bryd. Ymddengys na fu fawr ddim newid o'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi ddwy flynedd yn ôl.
Fel arall, rwy'n credu mai'r peth mwyaf democrataidd i bobl fel fi oedd eisiau aros i'w wneud yw derbyn Brexit, rhoi cyfle iddo ddod i gytundeb terfynol, ac wedyn dechrau'r gwaith i ailymuno â'r UE, oherwydd rwyf yn credu bod hynny yn bendant er budd tymor hir inni. Mae'n hanfodol meddwl yn strategol ar gyfer y tymor hir. Bydd y prosiect yr wyf i wedi ei amlinellu, o ymadael ac yna dychwelyd, mae'n debyg yn cymryd cenhedlaeth, yn union fel mae ein helynt presennol wedi cymryd cenhedlaeth i ddatblygu. Mae'n rhaid inni ennill calonau'r rhai sydd o blaid gadael. Dyna'r peth mwyaf hanfodol i'r rhai sydd eisiau inni gael dyfodol yn yr UE ei gyflawni, ac nid ydym ni'n mynd i wneud hynny drwy geisio eu dilorni a dweud eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad y tro diwethaf ac y byddai'n well inni gael pleidlais arall tan iddyn nhw sylweddoli beth sy'n llesol iddyn nhw. Mae'n rhaid inni eu hysbrydoli â gweledigaeth newydd ar gyfer yr UE, ac mae angen i'r UE ddiwygio ei hun hefyd. Gadewch inni beidio ag anghofio pwysigrwydd y math hwnnw o adnewyddu democrataidd. A ydym ni'n gwbl ddall i'r protestiadau sy'n digwydd mewn gwladwriaethau Ewropeaidd o bob math ar hyn o bryd? Dewch ymlaen. Gadewch i ni ddarllen arwyddion ein hamseroedd, oherwydd maen nhw'n gweiddi'n uchel iawn arnom ni, ac yn y DU mae arnom ni hefyd angen adnewyddu ein diwylliant democrataidd.
Rwy'n credu, mwy na thebyg, mai dyma oedd rhan fwyaf syfrdanol yr holl brofiad Brexit, i sylweddoli'n sydyn beth mae llawer o'n dinasyddion yn ei feddwl ohonom ni i gyd ym mhob un o'r pleidiau gwleidyddol sefydledig. Mae'n amlwg bod angen inni fod yn decach gyda dinasyddion am bob math o resymau. Mae'r contract cymdeithasol a ddatblygwyd ar ôl yr ail ryfel byd yn wannach ac, mewn mannau, mae wedi dadfeilio. Mae angen inni feddwl am fersiwn newydd o hynny i ennill teyrngarwch pob un o'n dinasyddion a gwneud iddyn nhw deimlo bod ganddyn nhw le gwirioneddol yn ein bywyd a'n ffyniant cenedlaethol.
Mae angen inni fod yn decach â gwledydd cartref yr Undeb. Bydd hyn yn un o brofion mwyaf Brexit—sut ydym ni'n cynnal cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU ac ymdrin â'r pwysau hynny. Dylai'r sefyllfa yn yr Alban, lle gwnaethon nhw bleidleisio mor gadarn i aros, fod yn rhybudd cadarn i'r holl unoliaethwyr sydd eisiau gweld y Deyrnas Unedig yn parhau gyda'i gilydd. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni'r Ceidwadwyr ei gofio—rydym ninnau hefyd yn blaid unoliaethol—a dylid mesur y dewisiadau amrywiol sy'n ein hwynebu yn unol â sut y maen nhw'n effeithio ar yr Undeb cyfan yn ogystal â sut y gallan nhw effeithio ar amrywiol fersiynau o ba mor bur yw polisi penodol.
Mae angen cysylltiad agosach rhwng dinasyddion a gwleidyddion—mae hynny'n amlwg yn bwysig ledled y byd democrataidd gorllewinol, ond mae'n wirioneddol pwyso arnom ni bellach. Os ydym ni'n gwyrdroi Brexit drwy fwyafrif bach, byddwn yn fwy rhanedig fyth nag yr ydym ni heddiw. Pam? Wel, yn wahanol i'r bobl sydd eisiau aros heddiw, byddai'r rhai sydd eisiau gadael yn colli pob gobaith a ffydd y gall system wleidyddol y DU wireddu eu dymuniadau hyd yn oed ar y mater mwyaf sylfaenol hwn. O leiaf mae gennym ni sydd eisiau aros y cyfle i ddychwelyd at y mater hwn a gweithio ar gyfer ymgais i ailymuno â'r UE yn y dyfodol.
Bydd hyd yn oed yr ymgais honno i wrthdroi canlyniad y refferendwm yn sigo'r ffydd sydd gan lawer yn ein diwylliant democrataidd. Rwyf yn rhybuddio Aelodau Llafur eich bod mewn perygl o weld pobl yn cefnu'n llwyr arnoch chi yn y Cymoedd os ewch yn ôl atyn nhw—ac roedd sylwadau Lynne yn rymus iawn. Ond edrychwch ar y Blaid Ryddfrydol rhwng 1918 a 1923 i weld beth all ddigwydd a pha mor gyflym y gall ddigwydd. Mewn llawer o wledydd democrataidd gorllewinol mae'r rhai sydd fwyaf difreintiedig yn pleidleisio dros bleidiau canol-dde. Maen nhw wastad wedi gwneud hynny mewn niferoedd mawr yng Ngweriniaeth Iwerddon. Edrychwch beth sydd wedi digwydd yn Ohio, Pennsylvania, taleithiau'r de. Faint o Ddemocratiaid sydd wedi eu hethol dros Orllewin Virginia ar hyn o bryd? Dyma'r math o beth a allai eich wynebu.
A dywedaf wrth fy nghyd-Geidwadwyr nad ydyn nhw'n mynd i gefnogi cytundeb Mrs May y byddem ni mewn perygl o golli cefnogaeth ar y dde os byddwn ni'n gorfodi refferendwm arall. Ac mae'n debyg y byddem ni'n gweld rhyw fath o genedlaetholdeb Seisnig croch yn datblygu a fyddai'n tanseilio llawer o'n pleidlais graidd hefyd.