2. Dadl ar y Cytundeb Ymadael â'r UE a'r Datganiad Gwleidyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 4 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:19, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon fel aelod o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol am y flwyddyn ddiwethaf a Chadeirydd Rhwydwaith Menywod yn Ewrop (Cymru). Ac fe fyddwch yn ymwybodol o waith ein pwyllgor yn paratoi ar gyfer Brexit, gan gynnwys yr adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf am barodrwydd y sector gofal iechyd a meddyginiaethau yng Nghymru. Mae cael gafael ar feddyginiaethau yn peri pryder penodol. Cododd ein hadroddiad bryderon penodol yn cynnwys y cyflenwad parhaus o feddyginiaethau, trefniadau ar gyfer gofal iechyd cyfatebol, a rhagolygon brawychus yn ymwneud â'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar ôl Brexit. Dim ond un enghraifft yn unig yw hon o dystiolaeth annibynnol yr ydym wedi ei chymryd i ddatgelu pryderon ynghylch effeithiau andwyol Brexit. Ac fel yr argymhellwyd gennym ni yn yr adroddiad, mae angen inni gynnal rheoleiddio cydweithredol parhaus rhwng yr UE a'r DU o ran cael gafael ar feddyginiaethau ac ymchwil clinigol ar ôl Brexit. A fyddai hyn yn cael ei gyflawni drwy'r cytundeb ymadael? Mae angen i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gael gwybod.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi siarad am effeithiau economaidd pob sefyllfa Brexit yn union fel y mae Trysorlys ei Mawrhydi a Banc Lloegr, gan ei gwneud hi'n gwbl glir bod pob sefyllfa Brexit yn cynnwys niwed economaidd a achosir gennym ni ein hunain gyda 'dim cytundeb' yn llawer mwy niweidiol nag eraill. Fel y dywedodd Mark Carney, mae unrhyw fath o Brexit yn sicr o wneud y wlad yn dlotach. Hefyd, cefais lythyr, fel y cafodd David, oddi wrth y cwmni mawr hwnnw yn y Barri sydd â gweithlu mawr, yn tynnu sylw at y gweithgarwch enfawr—i'w dyfynnu nhw—o ran allforion a mewnforion, cymhlethdod y cadwyni cyflenwi a chroesfannau ffiniau niferus, gydag unrhyw darfu yn effeithio ar y potensial ar gyfer buddsoddiad a masnach yn y dyfodol. Rwy'n gefnogwr brwd o Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru 'Diogelu Dyfodol Cymru', sy'n ei gwneud yn glir bod angen inni gael mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl a chyfranogiad yn yr undeb tollau er mwyn amddiffyn cwmnïau fel hyn yn fy etholaeth i. Nid yw'n glir y byddai'r cytundeb ymadael yn sicrhau hyn.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod fy mod i'n arbennig o bryderus ynghylch effaith y cytundeb ymadael ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 27 Tachwedd, bu cynnal amddiffyniadau cymdeithasol ac amgylcheddol, gan gynnwys hawliau gweithwyr, yn un o chwe blaenoriaeth Llywodraeth Cymru, a nodir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Yn ei ddatganiad yr wythnos diwethaf, cyfeirioddd y Prif Weinidog at y methiant i ymrwymo'r DU i gyfochri blaengar yn hytrach na threfniadau di-atchweliadol gyda safonau'r UE a hawliau, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma, o ran yr amgylchedd a'r farchnad lafur. Nid yw rhwymedigaethau di-atchweliad yn ddigon da. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn credu'n gryf y dylai'r DU ymrwymo i berthynas ddeinamig, i gamu ymlaen ac nid sefyll yn yr unfan, yn hytrach na di-atchweliad o safbwynt cydraddoldeb a hawliau dynol. Felly, rwy'n llwyr gefnogi pwynt 4 cynnig Llywodraeth Cymru ar y cytundeb ymadael, sy'n:

methu â darparu sicrwydd cadarn o ran hawliau gweithwyr yn y dyfodol, hawliau dynol a deddfwriaethau cydraddoldebau.

Yn yr haf, deuthum â grŵp o sefydliadau cydraddoldeb a mudiadau menywod ynghyd i drafod effaith Brexit ar fenywod yng Nghymru. Cafodd gefnogaeth eang fel rhwydwaith anffurfiol i fenywod sy'n awyddus i'w lleisiau gael eu clywed pan fo penderfyniadau'n cael eu gwneud ynghylch Brexit. Dyna pam yr wyf i'n parhau i ganolbwyntio ar effeithiau ar gydraddoldeb yn y pwyllgor materion allanol.

Yn olaf, Llywydd, mae ein hetholwyr ni eisiau gwybod beth yw ein safbwynt ni heddiw ynglŷn â Brexit. Maen nhw'n gwybod fy mod i wedi pleidleisio i aros. Rwyf i'n barod am etholiad cyffredinol os bydd y bleidlais yn cael ei cholli yr wythnos nesaf, ac rwyf i hefyd yn barod am ail refferendwm. Dyna fyddai prawf mwyaf ein bywydau gwleidyddol, ond fe fyddai'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli yn cael cam pe na byddem ni'n sefyll drostynt a gyda nhw nawr. Rwyf i yn cytuno â David Melding bod hyn yn ymwneud â gweledigaeth newydd y byddai'n rhaid i ni ei rhannu a'i thrafod â phobl ar garreg y drws, ond rwyf i yn credu bod pwynt 6 cynnig Llywodraeth Cymru yn cwmpasu hyn.

Yn yr un modd ag Aelodau eraill y Cynulliad, rwyf innau wedi cael nifer o negeseuon yn ystod y dyddiau diwethaf, ac mae llawer wedi codi pryderon mawr ynghylch y dyfodol y bydd Brexit yn ei greu ac yn galw am ail refferendwm. Ysgrifennodd etholwr a oedd yn poeni'n fawr i ddweud ei bod wedi dychryn oherwydd sefyllfa'r wlad, gyda Llywodraeth y DU wedi'i rhannu a diwydiant a'r gymdeithas gyfan yn ansicr iawn. Roedd un arall, mam-gu 87 oed wedi dychryn yn ofnadwy wrth feddwl am y dyfodol trychinebus y bydd Brexit yn debygol o'i olygu. Llywydd, nid yw'r cytundeb presennol yn bodloni chwe blaenoriaeth 'Diogelu Dyfodol Cymru'; Nid yw'n mynd yn ddigon pell ac rwyf yn ei wrthwynebu. Dylai Llywodraeth y DU gofleidio'r berthynas gyda'r UE yn y dyfodol fel sy'n cael ei nodi yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Mae'n rhaid inni gymryd cyfrifoldeb yn y Senedd hon wrth i bethau ddatblygu, i chwarae ein rhan i ddiogelu Cymru, ein heconomi a'n pobl.