2. Dadl ar y Cytundeb Ymadael â'r UE a'r Datganiad Gwleidyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 4 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 3:29, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae llawer ohonoch chi'n gofyn am bleidlais y bobl er eich bod yn gwybod bod pobl Cymru wedi pleidleisio dros adael. Sut gallwch chi fynd am ail bleidlais—pleidlais y bobl—pan nad yw'r bleidlais gyntaf wedi'i gweithredu eto? Yn ail, pe byddech chi'n cael ail refferendwm—pleidlais y bobl—gyda Chymru'n pleidleisio dros adael unwaith eto, a fyddech chi'n anrhydeddu'r canlyniad hwnnw?