2. Dadl ar y Cytundeb Ymadael â'r UE a'r Datganiad Gwleidyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 4 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:10, 4 Rhagfyr 2018

Mae Caergybi yn agosach at Ddulyn nag ydy o at Lerpwl. Dim ond rhyw hanner milltir sydd ynddi hi, ond yn nhermau masnach mae'n llawer pwysicach, wrth gwrs. Mi ges i fy magu yna ac roeddwn i'n teimlo yr oeddwn i'n cael fy magu mewn frontier Ewropeaidd. Rydw i'n cofio picio draw i Dún Laoghaire am gyrri ar nos Sadwrn, a phenwythnosau lu draw yn Nulyn. Ond gymaint o hwyl ag oedd y cyswllt yna, wrth gwrs, mae'r manteision o gael y cyswllt agos yna yn rhedeg yn llawer dyfnach na'r nosweithiau hynny draw yn yr ynys werdd.

Mae'r hyn yr ydym ni'n ei drafod heddiw—y cytundeb ymadael yma—yn wahanol iawn, iawn i'r hyn a gafodd ei addo nôl yn 2016. Mae'r ffaith ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt yma rŵan yn dangos i fi'r camgymeriad, os ydych chi am fod yn garedig, neu'r twyll, fel y byddwn i yn ei weld o, o beidio â bod wedi cynnig cynllun i bobl cyn y refferendwm, oherwydd rŵan yr ydym ni'n darganfod y gwirionedd o geisio tynnu ein hunain oddi wrth berthynas sydd wedi gweithio mor ffafriol inni drwy gydol fy mywyd i. Rydw i'n Ewropead balch, wastad wedi bod, oherwydd fel cenedlaetholwr a rhyngwladolwr Cymreig, rydw i eisiau i Gymru fod yn rhan o rwydweithiau ehangach. Felly, rydw i'n hapus iawn i gadarnhau'r hyn a oedd Gareth Bennett yn ei ddweud: mae gwledydd bach, annibynnol fel Cymru yn elwa o fod yn rhan o rwydweithiau rhyngwladol, ac rydw i eisiau i Gymru annibynnol fod yn rhan o rwydweithiau Prydeinig ac Ewropeaidd yn y dyfodol ar gyfer fy mhlant i a'u plant nhw.

Nid rhyw rwydweithiau haniaethol ydy'r rhain. Maen nhw'n rhwydweithiau go iawn sy'n cael effaith go iawn. Rydw i wedi crybwyll Caergybi yn barod. Nid oes dim angen i fi sôn am bwysigrwydd y porthladd hwnnw yng nghyd-destun economi Ynys Môn, ond wrth gwrs mae yn groesiad cwbl, cwbl hanfodol o ran y berthynas rhwng Prydain a'r Undeb Ewropeaidd: yr ail borthladd roll-on, roll-off prysuraf yn ynysoedd Prydain, yn ail i Dover, ac mae'r traffig masnach drwy Gaergybi wedi cynyddu 694 y cant ers i'r farchnad sengl Ewropeaidd gael ei chreu. Mae symudedd rhwydd masnach drwy Gaergybi yn gwbl hanfodol i iechyd economaidd y porthladd a'r dref honno, ac nid oes angen inni ddychmygu'r effaith a fyddai ymadawiad caled o'r Undeb Ewropeaidd yn ei gael. Wrth gwrs, nid oes gennym ni ddim sicrwydd dan yr hyn sy'n cael ei gynnig yn y cytundeb ar hyn o bryd. Oes, mae yna sôn am gytundeb backstop, a fydd yna ddim llawer o newid am y tro, ac yn y blaen. Ond nid ydw i'n fodlon cymryd y risg efo'r math yna o ansicrwydd. Rydym ni'n gwybod y byddai ffin galed yn niweidiol iawn, ond yn barod rydym ni'n gwybod bod yna ferries go iawn—nid syniadau, nid bygythiadau, ond ferries go iawn—yn cael eu hadeiladu i wneud y croesiad yn uniongyrchol o Gaergybi i gyfandir Ewrop.

Gadewch imi droi at amaethyddiaeth, mor bwysig i Fôn yn economaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol, yn ieithyddol. Rydym ni eisoes yn gweld effaith Brexit cyn inni adael, a hynny yn ffurf yr ymgynghoriad 'Brexit a'n tir', sy'n paratoi'r ffordd at gael gwared â thaliadau uniongyrchol i ffermydd teuluol, i ffermydd yn gyffredinol. Wedyn, mae bygythiad i farchnadoedd ein ffermwyr ni, sy'n dal yn gwbl ansicr. Ydynt, mae'r undebau amaethyddol yn dweud efallai bod y cytundeb yma yn well na dim cytundeb, a'r ansicrwydd llwyr y byddai hynny yn cynrychioli, ond mae yna le, wrth gwrs, i stopio'r holl broses, a dyna'r unig beth a allai gynnig rhyw fath o sicrwydd i ffermwyr.

Wedyn mae'r holl naratif Brexit. Nid dim ond tanseilio Ewrop ydy'r nod yn fan hyn—nid oes gennyf ddim amheuaeth am hynny—ond Prydeineiddio a dad-Gymreigio. Mi welsom ni beth ddigwyddodd yn y Sioe Frenhinol: bwyd Cymru'n cael ei frandio fel bwyd Prydeinig. Yr wythnos yma mi welais i luniau o gig oen Cymreig yn cael ei werthu efo label jac yr undeb yn archfarchnad Morrisons—rhywbeth na fyddai wedi cael ei wneud o'r blaen. Mae prif weithredwr Hybu Cig Cymru wedi cyfeirio at astudiaeth sy'n dangos bod y brand Cymreig yn llawer mwy effeithiol ac yn gryfach brand na'r brand Prydeinig wrth werthu i farchnadoedd Ffrainc, marchnadoedd fel yr Almaen hefyd, a'r Eidal rydw i'n credu.

Ac nid dim ond cig rydw i'n sôn amdano yn y fan hyn. Mae 97 y cant o'r cregyn gleision o'r Fenai yn mynd i farchnadoedd Undeb Ewropeaidd ac maen nhw'n gorfod cyrraedd o fewn oriau aur o fod wedi cael eu tynnu o'r môr. Dyna'r bygythiad iddyn nhw. A halen: mae Halen Môn—halen gorau'r byd heb amheuaeth—yn falch iawn o fod yn gynnyrch Cymreig ac Ewropeaidd ac wedi manteisio yn helaeth o gael statws Ewropeaidd gwarchodedig. 

Mae yna gymaint mwy y gallwn i gyfeirio ato o ran perthynas Môn â’r Undeb Ewropeaidd. SEACAMS, yr adran o Brifysgol Bangor sy'n arloeswyr ym maes technoleg yn ymwneud â’r môr, sy’n cyfrannu llawer at faes ynni môr ac wedi manteisio'n fawr iawn ar arian Ewropeaidd. Orbital, cwmni arall o'r Alban yr wythnos yma'n arwyddo cytundeb efo parth ynni Morlais, ac Orbital wedi derbyn arian sylweddol o dan gynllun Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd. 

Mi wnaf i dynnu at y terfyn—mae'r cloc yn mynd. Pobl ifanc Môn ydy'r garfan arall rydw i'n bryderus yn eu cylch nhw. Y cyfleon sy'n cael eu cau: cyfleon mewn addysg; cyfleon i weithio. Mae'r ymfalchïo yma mewn cau symudedd rhydd o bobl unwaith ac am byth yn rhywbeth sydd yn wrthun i fi fel tad i dri o blant, sy'n gweld y byd fel eu hiard gefn ac yn gweld y cyfleon sy'n dod o fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd. Ac a ydych chi'n gwybod beth? Mae pobl ifanc yn deall. Rydym ni'n gwybod bod cymaint o bobl ifanc—cymaint â 70 y cant neu fwy o'r rhai rhwng 18 a 24—wedi pleidleisio i aros yn Undeb Ewropeaidd. Ac rydym ni'n fodlon aberthu eu dyfodol nhw yn enw rhyw fath o ddemocratiaeth perverse, sy'n ymwrthod â rhoi pleidlais unwaith eto i bobl.

Mae yna ddau reswm pam rydw i'n cefnogi rhoi pleidlais i bobl eto: un, onid ydy hi'n werth gwneud penderfyniad ar sail tystiolaeth go iawn, ac felly edrych ar beth yn union ydy rhwystr adael yr Undeb Ewropeaidd? A dau: onid ydy hi'n bwysig bod democratiaeth yn rhywbeth sydd mor gyfoes â phosibl? Dyna pam y mae etholiadau'n cael eu cynnal bob ychydig o flynyddoedd, oherwydd mae pobl yn newid eu meddyliau. A'r rheswm maen nhw'n colli ffydd mewn un blaid wleidyddol neu mewn syniad o bosibl, ydy oherwydd eu bod nhw'n gweld tystiolaeth ac yn newid eu meddwl. Mae'r dystiolaeth wedi newid. Mae'r dystiolaeth yn glir o'n blaenau ni. Gadewch i ni fesur yn gyfoes a dangos ein bod ni fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddifrifol ynglŷn â democratiaeth heddiw—nid democratiaeth yn seiliedig ar gelwydd ychydig o flynyddoedd yn ôl.