2. Dadl ar y Cytundeb Ymadael â'r UE a'r Datganiad Gwleidyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 4 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 4:29, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy'n credu ein bod ni i gyd braidd yn gynhyrfus bod yr Aelod wedi cyrraedd ei uchafbwynt ar y pwynt hwnnw. Roedd yn sicr yn edrych felly o'r lle yr oeddwn i'n eistedd. [Chwerthin.] Mae'r Aelod newydd ddweud y bydd y DU yn rhydd i fasnachu â gweddill y byd. Ar hyn o bryd, rwy'n dal i glywed pobl sy'n cefnogi Brexit ar y radio yn dweud wrthyf mai ein gwlad fasnachu fwyaf yw'r Unol Daleithiau. Sut ar y ddaear y mae bod yn yr Undeb Ewropeaidd yn ein rhwystro rhag masnachu gyda gweddill y byd?