Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Ie, wir. O ran yr un yna, yn amlwg, nid oes gennym unrhyw reolaeth uniongyrchol dros yr Arolygiaeth Gynllunio, sy'n sefydliad ar wahân i Lywodraeth Cymru sy'n gweithredu ar ei rhan. Fodd bynnag, fe fyddwn ni, o bryd i'w gilydd, yn cyhoeddi canllawiau a dogfennau polisi ar ddeall y materion, ac rwyf i wedi cael sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch pa un a yw hi'n fuddiol gwneud hynny ar gyfer trefi prifysgol. Rwyf yn sicr yn rhannu ei bryder ynghylch hynny gan gynnwys gorfodi unrhyw bolisi dwysedd y byddai unrhyw awdurdod lleol yn bwriadu ei sefydlu a'r effaith y byddai hynny'n ei gael ar apeliadau dilynol.
O ran Virgin Media, gadawodd y grŵp cyntaf o staff a oedd yn cael eu diswyddo y cwmni fis Tachwedd, fyl y gwn y mae'n gwybod yn iawn. Mae dau gyfnod wedi eu cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd. Mae ein tîm cymorth lleoli wedi cymryd y cyfrifoldeb o ddarparu staff â mynediad i bartneriaid allweddol y tasglu ar y safle, gan gynnwys Gyrfa Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau a chyflogwyr lleol. Mae fforwm canolfannau cyswllt Cymru yn bartner allweddol yn ein tasglu a drefnodd ffeiriau swyddi ar y safle Virgin Media fis Hydref; daeth hyn â chyflogwyr sy'n recriwtio i'r safle yn ogystal â darparu cyngor gyrfaol ar gyfer yr aelodau staff hynny sy'n chwilio am waith arall. Mae'n rhy gynnar i mi roi manylion penodol am y rhai sydd wedi sicrhau cyflogaeth arall yn llwyddiannus o ganlyniad i'r ffeiriau swyddi, ond rydym yn cynnal ffeiriau swyddi eraill i gyd-fynd â'r grwpiau staff ychwanegol a fydd yn gadael y cwmni y flwyddyn nesaf. Felly, mae ein cyfraniad yn parhau er mwyn gwneud yn siŵr bod pob aelod o'r staff sy'n cael ei effeithio gan hyn yn cael y canlyniad gorau posibl.