Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Hoffwn wneud dau gais am ddatganiadau Llywodraeth Cymru. Mae'r cyntaf yn un y mae arweinydd y tŷ wedi hen arfer fy nghlywed i'n gofyn amdano, ond nid wyf yn ymddiheuro am barhau i wneud hynny gan ei fod yn hynod o bwysig i'm hetholwyr i a'i rhai hithau, a hynny yw diweddariad ar golledion swyddi Virgin Media a chefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sy'n colli eu swyddi, ac rydym yn dod yn agos iawn at yr amser pan fydd pawb yn colli eu swyddi.
Yr ail yw datganiad Llywodraeth Cymru ar yr Arolygiaeth Gynllunio, gan gynnwys arolygwyr cynllunio sy'n rhoi caniatâd i amlfeddiannu tai sy'n mynd yn groes i ddymuniadau'r cyngor a'r bobl leol. Rwyf yn siŵr bod hynny'n rhywbeth y mae arweinydd y tŷ yn gwybod llawer amdano. Ac os dywedaf Brynmill, wel, tenantiaid St Thomas a Port yw tenantiaid newydd Brynmill bellach. Fel y gwyddoch, nid wyf yn credu bod swyddogaeth ar gyfer arolygydd cynllunio mewn democratiaeth. Y cynghorau ddylai benderfynu, a dylai ymgeisydd sy'n anhapus fynd i adolygiad barnwrol. Credaf fod cael rhywun nad yw'n gwybod dim am yr ardal i ddod i mewn i wneud penderfyniadau yn cael effaith drychinebus ar fywydau unigolion; mae'n wrth-ddemocrataidd, ac yn sicr, mae'n achosi problemau enfawr yn fy ardal i, ac fel y gwn, yn y gorffennol, yn eich ardal chithau.