Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Er ein bod ni wedi cael sicrwydd gan yr Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn gweithio gyda'i gymheiriaid yn yr Alban i ddysgu o'r hyn sydd wedi digwydd yno, ac er ein bod yn cydnabod bod y fframwaith cyllidol yn darparu amddiffyniad i ni yn y flwyddyn gyntaf, mae angen i'r gwaith yma gael ei wneud yn iawn ac yn dda, neu, wrth gwrs, mi fydd goblygiadau difrifol amlwg i ni yng Nghymru o'i beidio â'i gael yn iawn.
Y llynedd, fe ddywedodd yr OBR wrth y pwyllgor fod amseriad cyllideb Cymru yng nghyswllt datganiad yr hydref Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn 'heriol'. Wel, bydd yr OBR nawr yn rhoi amcan ffurfiol o refeniw treth yng Nghymru, ac mae'r pwyllgor yn cydnabod y manteision o gael yr OBR i wneud hyn, ond rŷm ni yn parhau ychydig yn bryderus. Rŷm ni'n credu ei bod yn hollbwysig bod y gwaith o nodi trethdalwyr ac o gynnal rhagolygon treth yn cael ei wneud yn drylwyr i Gymru, ac rŷm ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr holl waith a wneir gan yr OBR a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cael yr un flaenoriaeth â'r gwaith maen nhw'n ei wneud yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig.
Y llynedd, craffodd y Pwyllgor Cyllid ar y rhagolygon treth, ac mi wnaed argymhellion mewn perthynas â darparu data penodol i Gymru. Fe gawsom ni dystiolaeth eto eleni ynghylch y mater yma. Er bod y pwyllgor yn cydnabod bod goblygiadau o ran adnoddau i lunio data ychwanegol, wrth i'r amser fynd heibio, rŷm ni yn credu bod cael gwell data penodol i Gymru yn hanfodol er mwyn bod yn sail gref i benderfyniadau ar bolisi treth ac i ragolygon treth Cymru.
Wrth ystyried y gyllideb ddrafft hon a'r blaenoriaethu sy'n cael eu hamlinellu ynddi, mi roedd y pwyllgor yn ymwybodol, wrth gwrs, fel rŷm ni wedi clywed yn y sylwadau agoriadol, fod y gyllideb wedi cael ei llunio yng nghyd-destun 10 mlynedd o gyfyngiadau ar wariant cyhoeddus, gyda phwysau amlwg o gyfeiriad y gwasanaeth iechyd, sy'n galw'n barhaus am ragor o adnoddau. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor hefyd yn cydnabod yr effaith sy'n dod o flaenoriaethu'r prif grŵp gwariant—y MEG—iechyd yn barhaus dros bortffolios eraill. Fe awgrymodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru y dylid ond dyrannu rhagor o arian i'r maes iechyd ar yr amod mai ar gyfer gweithgareddau ataliol roedd hynny, a bod arian yn cael ei wario mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill. Mae'r pwyllgor yn credu bod yr awgrym hwn yn un defnyddiol, ac rŷm ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried hyn.
Fe roddodd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol dystiolaeth ynghylch y cysylltiadau yn y gyllideb ddrafft â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd, wrth gwrs. Roedd y comisiynydd o'r farn bod cynnydd yn cael ei wneud ond bod angen rhagor o newid er mwyn sicrhau bod y Ddeddf yn rhan annatod o ddiwylliant Llywodraeth Cymru. Rŷm ni wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu mor llawn â phosibl â'r comisiynydd i greu'r newid diwylliannol yma rŷm ni am ei weld, a'r newid diwylliannol y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet gyfeirio ato yn gynharach.
Fe arweiniodd adborth gan randdeiliaid, a'r pryderon niferus a fynegodd pwyllgorau'r Cynulliad ynghylch ansawdd asesiadau effaith, at fabwysiadu dull trawsbynciol newydd o graffu ar y gyllideb eleni. Fe gyfarfu'r Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y cyd yn ystod y cylch cyllideb hwn er mwyn craffu ar ddull Llywodraeth Cymru o asesu effaith ei chyllideb ar blant, ar genedlaethau'r dyfodol ac ar gydraddoldeb. Mae'r tri phwyllgor wedi cytuno i ystyried y dystiolaeth a gasglwyd yn y sesiwn benodol honno, ac i adrodd ar y cyd yn y flwyddyn newydd, gyda'r bwriad, wrth gwrs, o ddylanwadu, gobeithio, ar gyllidebau yn y dyfodol.
Eleni, fe gafodd y gwaith o graffu ar y gyllideb ei osod yn erbyn diffiniad hirddisgwyliedig o wariant ataliol, fel y clywsom ni gynnau, ac fe glywsom fod y diffiniad yma wedi'i lunio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. Fodd bynnag, ni welsom dystiolaeth helaeth bod dyraniadau'n cael eu hystyried yn sgil y diffiniad, ac mae'n ymddangos bod penderfyniadau gwariant yn dal, yn rhy aml o lawer, yn cael eu gwneud ar eu pennau eu hunain.
Mae'r pwyllgor o'r farn bod gwariant ataliol effeithiol yn gofyn am ddull integredig, ac y bydd yn cymryd amser i gynnwys gwariant ataliol o fewn proses y gyllideb. Rŷm ni'n derbyn hynny. Rŷm ni hefyd yn cydnabod y bydd y diffiniad o wariant ataliol yn cael ei ddiweddaru yng ngoleuni profiad, ac mae'r pwyllgor yn edrych ymlaen at weld gwelliannau yn y modd y mae'r dyraniadau yn y gyllideb yn cysylltu â'r diffiniad o wariant ataliol mewn cyllidebau yn y dyfodol.
Nawr, fe glywodd y pwyllgor dystiolaeth gadarnhaol ynghylch y cynllun gweithredu ar yr economi. Fodd bynnag, nododd tystiolaeth hefyd ei bod yn anodd nodi gwariant ar feysydd penodol o fewn tablau'r gyllideb, a'i bod yn anodd alinio polisïau o fewn y gyllideb. Mae'r pwyllgor o'r farn y dylai'r gyllideb fod yn fwy eglur, felly, gan sicrhau mwy o dryloywder i alluogi rhanddeiliad i briodoli buddsoddiad yn y cynllun gweithredu ar yr economi i'r tablau yn y gyllideb. Byddai'r pwyllgor hefyd yn hoffi gweld ystyriaeth bellach i sut y gellir blaenoriaethu'r gwaith o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol ledled Cymru wrth wneud penderfyniadau mewn perthynas â buddsoddi mewn seilwaith.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'r cyllid canlyniadol a fydd yn deillio o gynllun rhyddhad ardrethi busnes y Deyrnas Unedig yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi Cymru. Ac rŷm ni wedi clywed ychydig mwy o fanylion yn fan hyn y prynhawn yma, ac mi fyddwn ni'n edrych ymlaen, wrth gwrs, i gael y manylion yna yn llawn, maes o law.
Roedd yr ansicrwydd parhaus o amgylch Brexit yn golygu, wrth gwrs, ei bod hi'n anodd craffu'n effeithiol ar gynlluniau penodol y Llywodraeth i ymateb i Brexit. Roedd y dystiolaeth a gawsom ni yn dangos pryder nid yn unig am gynlluniau cyllido ond ynghylch materion ehangach, megis trefniadau gofal iechyd a sefydlogrwydd economaidd, ac rŷm ni yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ystyried y materion yma. Nawr, mi ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod angen hyblygrwydd i ymateb i Brexit, ac mi gefnogodd y pwyllgor y dull yma. Fodd bynnag, byddem ni hefyd yn awyddus i weld manylion ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i Brexit yn y gyllideb atodol gyntaf y flwyddyn nesaf, wrth gwrs.
Eleni, mi fu'r pwyllgor yn elwa o gyngor arbenigol Dr Ed Poole o Ganolfan Llywodraethiant Cymru. Ac yn ddiddorol, fe roddodd Dr Poole hefyd dystiolaeth i'r pwyllgor ar y gyllideb ddrafft. Nawr, mae hon yn rôl ddeuol eithaf anarferol, ond i fi, mae hyn yn dangos hefyd, wrth gwrs, fod angen inni ehangu argaeledd arbenigwyr cyllid ledled Cymru. Wrth i ddatganoli cyllidol ddatblygu, mae angen inni sicrhau bod gennym ni gymdeithas ddinesig sy'n barod i gymryd rhan yn y broses ac, wrth gwrs, sy'n abl i wneud hynny.
I gloi, felly, mi hoffwn i ddiolch i bawb a gyfrannodd yn ystod pob cam o'r broses graffu yma: aelodau'r pwyllgor wrth gwrs, y clercod a'r tîm ymchwil, a hefyd y rhai a ddaeth i'r digwyddiad rhanddeiliad, ac i'r rhai a gyflwynodd dystiolaeth ffurfiol. Rŷm ni'n ddiolchgar iawn am waith ein holl randdeiliaid wrth ein helpu ni i lunio ein canfyddiadau, ac rydw i'n edrych ymlaen at glywed ymhellach, neu weld ymhellach, ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad ni pan ddaw'r amser. Diolch.