– Senedd Cymru ar 4 Rhagfyr 2018.
Eitem 10 ar yr agenda heddiw yw'r ddadl ar y gyllideb ddrafft, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i gynnig y cynnig—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i agor y ddadl hon ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
Mae'r ddadl yn digwydd yn unol â phrotocol y cytunwyd arni gan y Cynulliad Cenedlaethol y llynedd. Dyma'r ail dro y byddwn wedi dilyn y weithdrefn hon, gan sicrhau bod proses y gyllideb yn adlewyrchu ein cyfrifoldebau cyllidol newydd. Fy nod yw ymdrin â thri phrif faes y prynhawn yma. Yn gyntaf, byddaf yn nodi rhywfaint o'r cyd-destun anochel y datblygwyd cyllideb ddrafft heddiw oddi mewn iddo. Yn ail, rwy'n gobeithio nodi cyfres o newidiadau y bwriadaf eu gwneud i'r gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ar 2 Hydref. Bydd y newidiadau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y gyllideb derfynol, a fydd yn cael ei gosod ar 18 Rhagfyr. Lle mae newidiadau i gynlluniau ar gyfer y flwyddyn gyfredol, adlewyrchir hynny yn yr ail gyllideb atodol ar gyfer 2018-19. Mae'r newidiadau i gynlluniau yn bennaf o ganlyniad i'r broses graffu sydd wedi dilyn ers i'r gyllideb ddrafft gael ei gosod yn gyntaf. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau eraill y Cynulliad am eu gwaith wrth graffu ar y gyllideb ddrafft ac am adroddiadau ac argymhellion sy'n darparu sylfaen ar gyfer y ddadl heddiw. Dirprwy Lywydd, fy nhrydydd bwriad fydd darparu ymateb cyntaf i'r broses graffu honno, gan ganolbwyntio'n benodol ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.
I ddechrau, felly, â’r cyd-destun, mae'r gyllideb hon yn garreg filltir arall ar ein taith ddatganoli. Am y tro cyntaf, mae'r gyllideb yn cynnwys refeniw a godir yn uniongyrchol o gyfraddau treth incwm Cymru. Bydd yr Aelodau’n gwybod, yn unol â maniffesto fy mhlaid, nad wyf i'n bwriadu cynyddu treth incwm yng Nghymru y flwyddyn nesaf. Yn ogystal â chyfraddau treth incwm Cymru, mae'r gyllideb yn adlewyrchu’r incwm a ddisgwylir o dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi. At ei gilydd, bydd gwerth dros £2 biliwn o’r refeniw a ddefnyddir y flwyddyn nesaf i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael ei godi o ganlyniad i benderfyniadau a wneir yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dirprwy Lywydd, mae’r gyllideb yn digwydd yn erbyn ymosodiadau deuol cyni cyllidol a Brexit. Fel y mae'r Aelodau'n ei wybod o'r ddadl a gynhaliwyd gennym yn gynharach y prynhawn yma, barn y Llywodraeth hon yw y bydd unrhyw fath o Brexit yn gadael pobl yng Nghymru yn waeth eu byd na phe bai aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd wedi parhau. Mewn Brexit 'dim cytundeb' trychinebus, gallai ein heconomi grebachu hyd at 10 y cant. Byddai’r goblygiadau byrdymor a hirdymor i gyllideb Cymru a'r cyllid sydd ar gael i wasanaethau cyhoeddus mewn sefyllfa o'r fath yn ddifrifol. Byddai’r ymosodiad hwnnw’n fwy niweidiol byth gan y byddai'n dod ar ben y niwed a wnaed gan wyth mlynedd o gyni cyllidol.
Mae’r Aelodau’n gwybod y ffeithiau, ond mae angen i aelodau’r wrthblaid swyddogol yn arbennig eu clywed eto. Pe bai ein cyllideb wedi cadw ei gwerth o 2010, pe na baem ni wedi cael ceiniog yn fwy mewn termau real, byddai gan y gyllideb sydd ger eich bron heddiw £850 miliwn yn fwy i’w fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen. Pe bai gwariant ar wasanaethau cyhoeddus ddim ond wedi cadw i fyny â'r twf yn yr economi ers 2010, heb gymryd cyfran fwy na’r hyn a etifeddodd David Cameron a George Osborne, yna y prynhawn yma, byddech chi'n trafod cyllideb â £4 biliwn ychwanegol i’w wario ar anghenion brys Cymru. Pe bai Llywodraeth y DU heddiw wedi llwyddo i gynnal y duedd tymor hwy mewn gwariant cyhoeddus, tuedd tymor hwy a gynhaliwyd gan lywodraethau o dan arweiniad Harold Macmillan, Edward Heath, Margaret Thatcher, John Major, yna byddai ein cyllideb tua £6 biliwn yn fwy nag ydyw mewn gwirionedd heddiw. Yn hytrach, Dirprwy Lywydd, mae gennym ni Ganghellor, Philip Hammond, a ddywedodd yn ei gyllideb ar 29 Hydref bod cyni cyllidol ar ben, cyn gadael, yn gywilyddus, y bobl fwyaf anghenus yn ymdopi ar fudd-daliadau tlodi, gyda’u hincwm wedi’i rewi neu'n gostwng am y drydedd flwyddyn yn olynol. Canghellor a ddywedodd y bod ei gyllideb yn un a fyddai'n rhyddhau buddsoddiad i ysgogi ffyniant yn y dyfodol, ac a roddodd £2.6 miliwn yn unig o gyfalaf ychwanegol i’r Cynulliad hwn wedyn i roi sylw i'r holl anghenion buddsoddi heb eu diwallu sydd gennym ni y flwyddyn nesaf. Dyma'r cyd-destun diosgoi y lluniwyd cyllideb heddiw ynddo, ac ni ddylai neb anghofio hynny, hyd yn oed os byddwn ni'n gweld, fel ymddangosiad blynyddol Scrooge adeg y Nadolig, y Ceidwadwyr yn tynnu’r llwch oddi ar eu gwelliant blynyddol i’r gyllideb, y byddwn ni'n ei wrthwynebu unwaith eto.
Dirprwy Lywydd, rwy’n troi at ail brif ran yr hyn yr wyf i eisiau ei roi ar gofnod y prynhawn yma: y newidiadau yr wyf i'n bwriadu eu gweld yn cael eu hadlewyrchu yn y gyllideb derfynol, i'w chyhoeddi yn ddiweddarach y mis yma. Ddechrau mis Hydref, fe'i gwnaed yn eglur gan y Prif Weinidog a minnau, pe bai unrhyw adnoddau pellach ar gael i ni dros yr hydref, y byddai cyllid pellach i lywodraeth leol yn flaenoriaeth allweddol. Rwy’n ddiolchgar i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am y trafodaethau manwl ac adeiladol ers mis Hydref, ac am y canlyniad y llwyddwyd i'w sicrhau gennym. Mae’r pecyn o fesurau ariannu ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol y flwyddyn nesaf yn cyrraedd cyfanswm o £141.5 miliwn. Mae hynny'n cynnwys setliad sydd o leiaf yn wastad o ran arian yn nhermau refeniw ar gyfer llywodraeth leol unwaith eto y flwyddyn nesaf—y drydedd flwyddyn yn olynol, Dirprwy Lywydd, pan rydym ni wedi gallu amddiffyn llywodraeth leol Cymru rhag toriadau arian parod.
Unwaith eto, byddaf yn dod o hyd i’r arian yn ganolog i bennu cyllid gwaelodol nawr na fydd yn is na -0.5 y cant, fel na fydd unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru yn wynebu gostyngiadau uwchben y lefel honno. A byddwn yn gallu rhoi hwb o £100 miliwn arall dros dair blynedd i’r cyllid cyfalaf sydd ar gael i awdurdodau lleol yng Nghymru, yn ychwanegol at yr ychwanegiadau at fuddsoddiad cyfalaf y llwyddais i'w cyhoeddi yn y gyllideb ar 2 Hydref.
Dirprwy Lywydd, rwy’n gwybod bod gan Aelodau ar draws y Siambr ddiddordeb mewn cymorth ar gyfer ardrethi a delir gan fusnesau bach. Mae tri chwarter o fusnesau eisoes yn derbyn cymorth gyda'r costau hyn gan y trethdalwr yma yng Nghymru. Yn ei gyllideb ar 29 Hydref, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys ei fod yn bwriadu cyflwyno cynllun rhyddhad ar gyfer y stryd fawr, cynllun, wrth gwrs, sydd wedi bod ar waith gennym ni yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Fodd bynnag, mae cyflwyno cynllun yn Lloegr yn arwain at swm canlyniadol i’r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Cadarnheais i'r Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf fy mod i'n bwriadu defnyddio’r swm canlyniadol llawn o £26 miliwn i gynorthwyo busnesau yng Nghymru y flwyddyn nesaf.
Heddiw, Dirprwy Lywydd, gallaf fynd ymhellach i hysbysu'r Aelodau fy mod i'n bwriadu defnyddio’r rhan fwyaf o'r arian hwnnw i ddarparu datblygiad estynedig a mwy hael o gynllun presennol Cymru, gan gadw’r paramedrau sylfaenol, y cytunais arnynt ar y cychwyn gyda llefarydd cyllid Plaid Cymru ar y pryd. Rwy’n disgwyl bod mewn sefyllfa i gyhoeddi manylion llawn y cynllun yn fuan iawn. A, Dirprwy Lywydd, gan fy mod i'n cydnabod y gall unrhyw gynllun cenedlaethol adael rhai anomaleddau ar lefel leol, rwyf i hefyd yn bwriadu cynyddu’r cyllid i awdurdodau lleol ymhellach i hybu eu gallu i ymateb i anghenion penodol trethdalwyr yn eu hardaloedd drwy gyfrwng y cynllun rhyddhad ardrethi dewisol y mae awdurdodau lleol yn ei weithredu ym mhob rhan o Gymru.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, yn y rhan hon o'r hyn sydd gennyf i’w ddweud, i nodi elfen arall yn y cytundeb sydd gennym ni gyda Phlaid Cymru yn yr ail flwyddyn hon o’r cytundeb cyllideb dwy flynedd a sicrhawyd gennym ar becyn o fesurau y llynedd, lle'r ydym ni'n rhannu buddiannau polisi. Roedd cyllideb ddrafft 2 Hydref yn cynnwys £2.7 miliwn yn ychwanegol i uwchraddio dau wersyll yr Urdd yng Nglan-llyn a Llangrannog.
Heddiw, gallaf hysbysu'r Aelodau fy mod i'n bwriadu dyblu faint o gyllid cyfalaf sy'n cael ei neilltuo yng nghyllideb y flwyddyn nesaf i fwrw ymlaen â chanlyniadau astudiaethau dichonoldeb y cytunwyd arnynt rhwng ein dwy blaid, o £5 miliwn i £10 miliwn. Rwy’n gwneud hynny oherwydd y cynnydd a wnaed o ran llunio'r astudiaethau hynny. Yr wythnos diwethaf, rhoddodd y Gweinidog diwylliant y wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am yr astudiaethau dichonoldeb ar gyfer oriel celfyddyd gyfoes newydd i Gymru ac amgueddfa bêl-droed newydd. Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer archif genedlaethol i Gymru ar gael erbyn y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Mae ein dwy blaid eisiau i’r gwaith hwnnw allu cael ei wneud a bydd y cyfalaf ychwanegol sylweddol hwn, yr wyf i'n ei gyhoeddi y prynhawn yma, yn helpu i sicrhau bod hynny'n digwydd.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, i drydedd ran yr hyn yr wyf i'n mynd i’w ddweud yn y rhan hon o'r ddadl ac, yn benodol, i ddarparu ymateb rhagarweiniol i argymhellion y Pwyllgor Cyllid. Byddaf, wrth gwrs, yn darparu ymateb ysgrifenedig ffurfiol i'r pwyllgor cyn y bleidlais ar y gyllideb derfynol ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf. Y prynhawn yma, roeddwn i eisiau dweud ar unwaith fy mod i'n derbyn y cyntaf o argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cyllid y dylem ni gadw'r arfer presennol o broses gyllideb dau gam ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rwy’n bwriadu, hefyd, dilyn cyngor y pwyllgor o ran Cyllid a Thollau ei Mawrhydi a’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a byddaf yn falch o roi i'r pwyllgor unrhyw femorandwm cyd-ddealltwriaeth newydd o ran rhagolygon treth annibynnol fel y mae adroddiad y pwyllgor yn ei awgrymu.
Dirprwy Lywydd, rhoddwyd llawer o sylw yn ystod y broses graffu ar draws pwyllgorau’r Cynulliad i wariant ataliol. Rwy’n gobeithio bod y diffiniad o atal, y cytunwyd arno mewn ymgynghoriad â chyrff trydydd sector, Iechyd Cyhoeddus Cymru, y gwasanaeth tân ac eraill, wedi helpu yn rownd eleni, ac rwy’n edrych ymlaen at fireinio pellach arno mewn trafodaethau â’r pwyllgorau ac eraill. Yn sicr ni fwriedir mai dyma fydd y gair olaf ar y mater hwn, ac rwy’n hyderus y bydd y broses graffu yn caniatáu i ni fynd â’r diffiniad hwnnw ymhellach. Mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi cymryd diddordeb arbennig mewn atal, ochr yn ochr ag agweddau eraill ar y gyllideb, a diolchaf iddi hi a'i thîm am y cyngor a ddarparwyd ar gymhwysiad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i'r broses llunio cyllideb, ac felly i'r Pwyllgor Cyllid am eu cydnabyddiaeth o'r camau ychwanegol a gymerwyd eleni i wneud y newid diwylliannol angenrheidiol o fewn Llywodraeth Cymru i ymgorffori’r Ddeddf ym mhopeth a wnawn.
Llywydd, mae argymhelliad olaf y pwyllgor yn fy nychwelyd i le y dechreuais i'r ddadl hon y prynhawn yma, gan nodi'r angen am hyblygrwydd cyllidebol mewn ymateb i Brexit, ac wrth gwrs rwy’n cytuno â’r argymhelliad hwnnw. Gallai penderfyniadau a wneir yn yr ychydig wythnosau nesaf gael effaith ddwys a pharhaol ar yr adnoddau sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn i gyflawni'r cyfrifoldebau sydd wedi'u datganoli i Gymru. Mae'r ansicrwydd hwnnw wedi bod yn gwmwl dros holl broses y gyllideb eleni, hyd yn oed wrth i ni yn y Llywodraeth barhau i ymroi i wneud popeth a allwn i helpu ein gwasanaethau cyhoeddus ymateb i heriau gwirioneddol y presennol, gan gymryd camau i wella'r rhagolygon i ddinasyddion Cymru yn y dyfodol. Dyna mae’r gyllideb hon yn ei wneud, a gofynnaf i’r Aelodau ei chefnogi y prynhawn yma.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
Mi fydd Aelodau'n gwybod, wrth gwrs, fy mod i wedi cael fy mhenodi'n Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn gynharach y tymor yma, ac felly mae hwn wedi bod yn brofiad newydd i fi, ac mae craffu ar y gyllideb ddrafft wedi bod yn gyflwyniad diddorol iawn, gawn ni ddweud, i waith y Pwyllgor Cyllid.
Wrth gwrs, mi newidiwyd y ffordd y mae'r gyllideb ddrafft yn cael ei chraffu arni y llynedd, a dyma'r ail dro i'r Pwyllgor Cyllid gynnal gwaith craffu ar lefel uwch a strategol, gan edrych ar gynlluniau cyffredinol o ran gwariant a chodi refeniw. Fel rhan o'n gwaith craffu, fe wnaethon ni ystyried amseriad y gyllideb ddrafft, fel rŷm ni wedi clywed yn sylwadau agoriadol yr Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r pwyllgor yn cydnabod y gallai cyhoeddi cyllideb ddrafft Cymru cyn cyllideb y Deyrnas Unedig achosi anawsterau. Unwaith y mae cyllideb y Deyrnas Unedig yn cael ei chyhoeddi, gall arwain at newidiadau yn y dyraniadau rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, ac at fwy o newidiadau yn ystod y flwyddyn—in-year changes. Fodd bynnag, fe gytunwyd bod yr arfer presennol o gyhoeddi'r gyllideb ddrafft yng Nghymru cyn datganiad yr hydref gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn well er mwyn osgoi oedi yn y gwaith craffu. Rwy'n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn ein hargymhelliad ni, ond wrth gwrs mi fyddwn ni yn parhau i adolygu'r trefniadau wrth fynd yn ein blaenau.
Mae ein hadroddiad ni yn gwneud cyfres o argymhellion, a byddaf yn ymdrin yn fyr â rhai o'r rhai amlycaf yn fy nghyfraniad i'r ddadl yma y prynhawn yma. Dyma, wrth gwrs, y gyllideb ddrafft gyntaf ar ôl cyflwyno cyfraddau treth incwm Cymru, sy'n foment gyffrous a moment hanesyddol i ddatganoli. Fe glywon ni gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi am y gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau y byddan nhw'n barod erbyn 1 Ebrill, ac ar y cyfan, mae'n ymddangos bod y gwaith ar amser ac yn symud ymlaen yn dda. Erbyn hyn, dylai pawb sydd yma heddiw fod wedi derbyn llythyr yn rhoi gwybod iddyn nhw am eu statws fel trethdalwyr Cymreig, ond rŷm ni yn cydnabod ar yr un pryd, wrth gwrs, fod gan Gymru ffin ddeinamig, gyda thua 100,000 o bobl yn mudo yn ôl ac ymlaen bob blwyddyn. Felly, bydd monitro trethdalwr Cymru yn effeithiol yn hanfodol, ac rŷm ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn monitro'r cynnydd sy'n cael ei wneud yn y broses yna o nodi trethdalwyr Cymreig wrth inni fynd yn ein blaenau. Mi gafodd y pwyllgor sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet fod Llywodraeth Cymru yn talu am y gwaith yma, a'i fod e'n glir ynghylch y gwasanaeth a ddisgwylir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Roedd y pwnc o ragweld—'forecast-io'—refeniw treth yn y dyfodol hefyd yn peri pryder i'r pwyllgor. Yn yr Alban, wrth gwrs, rŷm ni wedi clywed sut roedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yr OBR, a Chomisiwn Cyllidol yr Alban wedi goramcangyfrif yr incwm o £700 miliwn a £500 miliwn, yn y drefn honno. Mi ofynnwyd i'r OBR a allai hyn ddigwydd yng Nghymru, ac fe ddywedwyd y bydd mwy yn cael ei ddysgu pan fydd y wybodaeth o'r arolwg cyntaf o incwm personol ar gael, tra dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthym ni fod y rhesymau dros y goramcangyfrif yn yr Alban yn parhau yn anhysbys.
Er ein bod ni wedi cael sicrwydd gan yr Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn gweithio gyda'i gymheiriaid yn yr Alban i ddysgu o'r hyn sydd wedi digwydd yno, ac er ein bod yn cydnabod bod y fframwaith cyllidol yn darparu amddiffyniad i ni yn y flwyddyn gyntaf, mae angen i'r gwaith yma gael ei wneud yn iawn ac yn dda, neu, wrth gwrs, mi fydd goblygiadau difrifol amlwg i ni yng Nghymru o'i beidio â'i gael yn iawn.
Y llynedd, fe ddywedodd yr OBR wrth y pwyllgor fod amseriad cyllideb Cymru yng nghyswllt datganiad yr hydref Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn 'heriol'. Wel, bydd yr OBR nawr yn rhoi amcan ffurfiol o refeniw treth yng Nghymru, ac mae'r pwyllgor yn cydnabod y manteision o gael yr OBR i wneud hyn, ond rŷm ni yn parhau ychydig yn bryderus. Rŷm ni'n credu ei bod yn hollbwysig bod y gwaith o nodi trethdalwyr ac o gynnal rhagolygon treth yn cael ei wneud yn drylwyr i Gymru, ac rŷm ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr holl waith a wneir gan yr OBR a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cael yr un flaenoriaeth â'r gwaith maen nhw'n ei wneud yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig.
Y llynedd, craffodd y Pwyllgor Cyllid ar y rhagolygon treth, ac mi wnaed argymhellion mewn perthynas â darparu data penodol i Gymru. Fe gawsom ni dystiolaeth eto eleni ynghylch y mater yma. Er bod y pwyllgor yn cydnabod bod goblygiadau o ran adnoddau i lunio data ychwanegol, wrth i'r amser fynd heibio, rŷm ni yn credu bod cael gwell data penodol i Gymru yn hanfodol er mwyn bod yn sail gref i benderfyniadau ar bolisi treth ac i ragolygon treth Cymru.
Wrth ystyried y gyllideb ddrafft hon a'r blaenoriaethu sy'n cael eu hamlinellu ynddi, mi roedd y pwyllgor yn ymwybodol, wrth gwrs, fel rŷm ni wedi clywed yn y sylwadau agoriadol, fod y gyllideb wedi cael ei llunio yng nghyd-destun 10 mlynedd o gyfyngiadau ar wariant cyhoeddus, gyda phwysau amlwg o gyfeiriad y gwasanaeth iechyd, sy'n galw'n barhaus am ragor o adnoddau. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor hefyd yn cydnabod yr effaith sy'n dod o flaenoriaethu'r prif grŵp gwariant—y MEG—iechyd yn barhaus dros bortffolios eraill. Fe awgrymodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru y dylid ond dyrannu rhagor o arian i'r maes iechyd ar yr amod mai ar gyfer gweithgareddau ataliol roedd hynny, a bod arian yn cael ei wario mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill. Mae'r pwyllgor yn credu bod yr awgrym hwn yn un defnyddiol, ac rŷm ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried hyn.
Fe roddodd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol dystiolaeth ynghylch y cysylltiadau yn y gyllideb ddrafft â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd, wrth gwrs. Roedd y comisiynydd o'r farn bod cynnydd yn cael ei wneud ond bod angen rhagor o newid er mwyn sicrhau bod y Ddeddf yn rhan annatod o ddiwylliant Llywodraeth Cymru. Rŷm ni wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu mor llawn â phosibl â'r comisiynydd i greu'r newid diwylliannol yma rŷm ni am ei weld, a'r newid diwylliannol y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet gyfeirio ato yn gynharach.
Fe arweiniodd adborth gan randdeiliaid, a'r pryderon niferus a fynegodd pwyllgorau'r Cynulliad ynghylch ansawdd asesiadau effaith, at fabwysiadu dull trawsbynciol newydd o graffu ar y gyllideb eleni. Fe gyfarfu'r Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y cyd yn ystod y cylch cyllideb hwn er mwyn craffu ar ddull Llywodraeth Cymru o asesu effaith ei chyllideb ar blant, ar genedlaethau'r dyfodol ac ar gydraddoldeb. Mae'r tri phwyllgor wedi cytuno i ystyried y dystiolaeth a gasglwyd yn y sesiwn benodol honno, ac i adrodd ar y cyd yn y flwyddyn newydd, gyda'r bwriad, wrth gwrs, o ddylanwadu, gobeithio, ar gyllidebau yn y dyfodol.
Eleni, fe gafodd y gwaith o graffu ar y gyllideb ei osod yn erbyn diffiniad hirddisgwyliedig o wariant ataliol, fel y clywsom ni gynnau, ac fe glywsom fod y diffiniad yma wedi'i lunio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. Fodd bynnag, ni welsom dystiolaeth helaeth bod dyraniadau'n cael eu hystyried yn sgil y diffiniad, ac mae'n ymddangos bod penderfyniadau gwariant yn dal, yn rhy aml o lawer, yn cael eu gwneud ar eu pennau eu hunain.
Mae'r pwyllgor o'r farn bod gwariant ataliol effeithiol yn gofyn am ddull integredig, ac y bydd yn cymryd amser i gynnwys gwariant ataliol o fewn proses y gyllideb. Rŷm ni'n derbyn hynny. Rŷm ni hefyd yn cydnabod y bydd y diffiniad o wariant ataliol yn cael ei ddiweddaru yng ngoleuni profiad, ac mae'r pwyllgor yn edrych ymlaen at weld gwelliannau yn y modd y mae'r dyraniadau yn y gyllideb yn cysylltu â'r diffiniad o wariant ataliol mewn cyllidebau yn y dyfodol.
Nawr, fe glywodd y pwyllgor dystiolaeth gadarnhaol ynghylch y cynllun gweithredu ar yr economi. Fodd bynnag, nododd tystiolaeth hefyd ei bod yn anodd nodi gwariant ar feysydd penodol o fewn tablau'r gyllideb, a'i bod yn anodd alinio polisïau o fewn y gyllideb. Mae'r pwyllgor o'r farn y dylai'r gyllideb fod yn fwy eglur, felly, gan sicrhau mwy o dryloywder i alluogi rhanddeiliad i briodoli buddsoddiad yn y cynllun gweithredu ar yr economi i'r tablau yn y gyllideb. Byddai'r pwyllgor hefyd yn hoffi gweld ystyriaeth bellach i sut y gellir blaenoriaethu'r gwaith o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol ledled Cymru wrth wneud penderfyniadau mewn perthynas â buddsoddi mewn seilwaith.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'r cyllid canlyniadol a fydd yn deillio o gynllun rhyddhad ardrethi busnes y Deyrnas Unedig yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi Cymru. Ac rŷm ni wedi clywed ychydig mwy o fanylion yn fan hyn y prynhawn yma, ac mi fyddwn ni'n edrych ymlaen, wrth gwrs, i gael y manylion yna yn llawn, maes o law.
Roedd yr ansicrwydd parhaus o amgylch Brexit yn golygu, wrth gwrs, ei bod hi'n anodd craffu'n effeithiol ar gynlluniau penodol y Llywodraeth i ymateb i Brexit. Roedd y dystiolaeth a gawsom ni yn dangos pryder nid yn unig am gynlluniau cyllido ond ynghylch materion ehangach, megis trefniadau gofal iechyd a sefydlogrwydd economaidd, ac rŷm ni yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ystyried y materion yma. Nawr, mi ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod angen hyblygrwydd i ymateb i Brexit, ac mi gefnogodd y pwyllgor y dull yma. Fodd bynnag, byddem ni hefyd yn awyddus i weld manylion ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i Brexit yn y gyllideb atodol gyntaf y flwyddyn nesaf, wrth gwrs.
Eleni, mi fu'r pwyllgor yn elwa o gyngor arbenigol Dr Ed Poole o Ganolfan Llywodraethiant Cymru. Ac yn ddiddorol, fe roddodd Dr Poole hefyd dystiolaeth i'r pwyllgor ar y gyllideb ddrafft. Nawr, mae hon yn rôl ddeuol eithaf anarferol, ond i fi, mae hyn yn dangos hefyd, wrth gwrs, fod angen inni ehangu argaeledd arbenigwyr cyllid ledled Cymru. Wrth i ddatganoli cyllidol ddatblygu, mae angen inni sicrhau bod gennym ni gymdeithas ddinesig sy'n barod i gymryd rhan yn y broses ac, wrth gwrs, sy'n abl i wneud hynny.
I gloi, felly, mi hoffwn i ddiolch i bawb a gyfrannodd yn ystod pob cam o'r broses graffu yma: aelodau'r pwyllgor wrth gwrs, y clercod a'r tîm ymchwil, a hefyd y rhai a ddaeth i'r digwyddiad rhanddeiliad, ac i'r rhai a gyflwynodd dystiolaeth ffurfiol. Rŷm ni'n ddiolchgar iawn am waith ein holl randdeiliaid wrth ein helpu ni i lunio ein canfyddiadau, ac rydw i'n edrych ymlaen at glywed ymhellach, neu weld ymhellach, ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad ni pan ddaw'r amser. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig a galwaf ar Darren Millar i gyflwyno'r gwelliant. Darren Millar.
Diolch, Llywydd, ac a gaf i gynnig y gwelliant, a gyflwynwyd yn fy enw i?
Dechreuodd Ysgrifennydd y Cabinet ei araith drwy gyfeirio at gyd-destun y gyllideb hon a’r cyd-destun y bu'n rhaid iddo ei llunio ynddo. Cyfeiriodd lawer at gyni cyllidol a'r heriau y bu'n rhaid i Lywodraeth y DU eu hwynebu, ac, o ganlyniad, y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru eu hwynebu o ganlyniad i'r pwysau ar gyllid cyhoeddus, ond ni chyfeiriodd ar unrhyw adeg at y ffaith mai’r rheswm pam roeddem ni’n gorfod ymdopi â chyni cyllidol yn y blynyddoedd diwethaf oedd o ganlyniad i gyflwr trychinebus cyllid cyhoeddus a adawyd gan Gordon Brown ac Alistair Darling yn ystod cyfnod y Llywodraeth Lafur.
Nawr, gadewch i mi roi ychydig mwy o fanylion i chi am y cyd-destun y lluniwyd y gyllideb hon ynddo, oherwydd er eich bod chi wedi clywed bod cyni cyllidol yn parhau, ni allai dim fod yn bellach o'r gwirionedd. Mae gan Lywodraeth Cymru gyllideb o dros £16 biliwn y flwyddyn nesaf. Dyna’r gyllideb fwyaf erioed, y gyllideb fwyaf y mae Llywodraeth Cymru erioed wedi ei derbyn, ac mewn gwirionedd bydd y gyllideb wedi cynyddu dros gyfnod yr adolygiad o wariant, uwchlaw chwyddiant, rhwng 2015 a 2020.
Eleni yw'r gyllideb fwyaf yn hanes datganoli, ac mae'r trefniadau ariannu presennol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn golygu bod Cymru yn cael £1.20 i’w wario yma ar gyfer pob punt sy'n cael ei gwario ar faes datganoledig yn Lloegr. Ar ben hynny, mae’r penderfyniadau gwariant diweddar a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn ei gyllideb hydref yn golygu bod cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru yn mynd i gynyddu £550 miliwn—dros £0.5 biliwn erbyn 2021. Ac yn ogystal â’r arian ychwanegol hwnnw, mae Llywodraeth y DU yn diddymu tollau pontydd Hafren, a disgwylir i hynny roi hwb o £100 miliwn y flwyddyn i economi Cymru bob blwyddyn. Mae eisoes wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad bargen twf y canolbarth, ac mae wedi addo, yn wahanol i Lywodraeth Cymru, £120 miliwn ar gyfer bargen twf y gogledd, ac rwy’n meddwl ei bod hi'n hen bryd i chi roi eich llaw yn eich poced i roi rhywfaint o arian ar y bwrdd hefyd.
Felly, mae gennych chi gyllideb sy'n cynyddu gan San Steffan ac mae gennych chi hyblygrwydd newydd o ran y pwerau trethu a ddatganolwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU a dyna, rwy’n credu, yw’r cyd-destun yr ydych chi'n llunio eich cyllideb ynddo ac rwy’n credu ei fod yn rhoi cyfle i chi—[Torri ar draws.]—i wneud pethau'n wahanol. Rwy’n hapus i dderbyn ymyriad.
A ydych chi'n derbyn neu’n credu nad yw’r gyllideb nawr 5 y cant yn is nag ydoedd yn 2010-11? Onid ydych chi’n cytuno â hynny?
Rwy’n cytuno mai hon yw’r gyllideb fwyaf a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru erioed.
Nid yw hynny'n ateb fy nghwestiwn—
Dyna'r sefyllfa.
Nawr, o fis Ebrill, fel rydym ni wedi ei glywed eisoes, bydd gan Lywodraeth Cymru ysgogiadau treth newydd—mwy o ysgogiadau treth nag erioed o'r blaen i gynhyrchu rhywfaint o gyfoeth i economi Cymru, ond yn hytrach na bachu ar y cyfle y mae’r ysgogiadau treth hynny’n ei gynrychioli, i roi hwb i’n heconomi, mae Llywodraeth Cymru wedi ildio i demtasiwn draddodiadol Llafur o drethu a gwario. Gadewch i ni gymryd yr ardreth newydd o 6 y cant, er enghraifft, yr ydych chi’n ei gorfodi ar werthiannau tir masnachol gwerth dros £1 filiwn—cam y dywedodd syrfewyr siartredig Cymru oedd, ac rwy’n dyfynnu, yn 'wallgof'. Rhybuddiwyd gannddynt, ac rwy’n dyfynnu, y byddai'n gwneud Cymru yn lle llai deniadol yn fasnachol i fuddsoddi ynddo ac y byddai’n niweidio'r economi. Dyna'r math o ideoleg trethu a gwario gosbol y byddech chi'n ei disgwyl gan blaid sydd, dro ar ôl tro, wedi gwneud llanastr llwyr o'n cyllid cyhoeddus. Gallai'r gyllideb hon fod wedi helpu i ddatrys y pryderon hynny a helpu i ddenu mwy o fusnesau i adleoli i Gymru, ond nid yw wedi gwneud hynny; oherwydd yn hytrach, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi eu hanwybyddu nhw. Nid dyma'r math o sosialaeth unfed ganrif ar hugain yr ydych chi'n honni eich bod yn ei gynrychioli; dyma'r math o sosialaeth sy’n atal cyfleoedd, yn dal Cymru yn ôl ac yn tagu cyfleoedd bywyd y genhedlaeth nesaf.
A beth am yr ysgogiadau treth eraill hyn sydd ar gael i chi? Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi eich rhybuddio, yn gwbl briodol, am godi treth incwm Cymru, gan ddweud y ddylai fod yn ddewis olaf ac nid ymateb cyntaf. Ac rwy’n falch iawn o weld, yn eich cyllideb, nad oes unrhyw gynigion ar hyn o bryd i gynyddu trethi incwm Cymru. Ond, wrth gwrs, yr hyn na wnaethoch chi roi sicrwydd yn ei gylch yw na fyddant yn cynyddu yn y dyfodol—dim ond am y flwyddyn ariannol nesaf yr ydych chi wedi sôn.
Rydych chi'n aelod o blaid a ymrwymodd ei hun mewn maniffesto cyn etholiadau Cynulliad 2016 nad oeddech chi'n mynd i gynyddu treth incwm. A wnewch chi roi'r ymrwymiad hwnnw i ni yn bersonol yma eto heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet? Dim ond cyfran fach o drethdalwyr cyfradd uwch ac ychwanegol y DU sydd gennym ni ac rwy’n meddwl ei bod hi'n hynod debygol y byddai’r unigolion hynod symudol hyn yn adleoli o Gymru, gan arwain at golli refeniw i goffrau Cymru a chan arwain hefyd at fuddsoddiad gan yr unigolion hynny yn mynd i fannau eraill. Ac mae’n wir, wrth gwrs, am drethi eraill hefyd.
Rwy’n falch iawn o glywed eich bod chi wedi cael sgwrs, o’r diwedd, am yr angen i wneud rhywbeth ychwanegol am ardrethi busnes, oherwydd, fel y gwyddom, ar hyn o bryd, mae gennym ni'r gyfundrefn ardrethi busnes leiaf deniadol yn y Deyrnas Unedig, o ganlyniad i'r sefyllfa bresennol gyda’r lluosydd.
Rwy’n edrych ymlaen—rydych chi wedi dangos tipyn o goes i ni o ran eich cynlluniau i ddefnyddio swm canlyniadol o £26 miliwn yr ydych chi wedi ei gael gan Lywodraeth y DU i gynorthwyo'r sefyllfa gydag ardrethi busnes, ond nid ydych chi wedi rhoi mwy o fanylion i ni am hynny, a hoffwn glywed rhagor o fanylion yn eich ymateb i'r ddadl heddiw.
Welwch chi, rydym ni’r Ceidwadwyr yn gwybod pan fyddwch chi'n cynorthwyo busnesau, rydych chi mewn gwirionedd yn helpu i ysgogi’r holl economi ac yn helpu i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus gan mai busnesau preifat sy'n creu’r cyfoeth, sy’n talu’r trethi, sy’n cyflogi pobl sydd hefyd yn talu eu trethi, a’r trethi hynny sy’n talu am y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym ni'n eu mwynhau yng Nghymru, a’r staff sy'n gweithio ynddynt.
Felly, mae'r gyllideb hon yn siom mewn sawl ffordd, yn enwedig i fusnesau Cymru. Mae hefyd yn siom, wrth gwrs, i brynwyr tro cyntaf. Prin iawn y mae'n ei wneud i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai, y gwaith adeiladu tai sydd ei angen arnom ni ac y cyfeiriwyd ato yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw. Nid yw'n gwneud llawer iawn yn fwy o ran helpu pobl i gael eu troed ar yr ysgol dai chwaith. A gallech chi fod wedi cymryd camau pellach i gynorthwyo pobl drwy estyniadau i’r lwfans o ran y dreth trafodiadau tir er mwyn helpu pobl i ymuno â'r ysgol dai. Ond wnaethoch chi ddim. Wnaethoch chi ddim. Mae'n gyfle arall a gollwyd.
I droi at y GIG, rydym ni wedi croesawu’r buddsoddiad ychwanegol y mae eich Llywodraeth wedi ei wneud yn y gwasanaeth iechyd gwladol, ond mae’n rhaid i mi ddweud ei fod yn rhy ychydig yn rhy hwyr braidd. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod gan Gymru yr anrhydedd o fod â'r unig Lywodraeth erioed yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig sydd wedi torri cyllideb gwasanaeth iechyd gwladol. Ac mae etifeddiaeth eich toriadau llym mewn gweinyddiaeth flaenorol i gyllideb y GIG yn fyw gyda ni heddiw, oherwydd o ganlyniad i'r toriadau hynny—[Torri ar draws.] Roeddech chi’n sôn am sut y mae cyllidebau yn newid dros gyfnod os byddant yn cyd-fynd â chwyddiant. Wel, gadewch i mi ddweud wrthych chi, pe na baech chi wedi torri cyllideb y gwasanaeth iechyd gwladol yn y flwyddyn y gwnaethoch chi dorri’r gyllideb honno, gyda chefnogaeth Plaid Cymru dylwn ychwanegu, byddai cyllideb y gwasanaeth iechyd gwladol—pe baech chi wedi cadw i fyny â’r cynnydd mewn gwariant yn Lloegr—£1 biliwn yn iachach heddiw yng Nghymru nag y mae ar hyn o bryd. Oherwydd y gwir yw, dros y chwe blynedd diwethaf, bod y gyllideb wedi cynyddu fwy na dwywaith mor gyflym o ran y gwasanaeth iechyd yn Lloegr ag y mae wedi ei wneud yng Nghymru, ac mae'n eglur iawn—[Torri ar draws.] Mae'n eglur iawn—ffeithiau yw’r rhain. Nid ydych chi'n hoffi'r ffeithiau—[Torri ar draws.] Nid ydych chi'n hoffi'r ffeithiau—[Torri ar draws.] Nid ydych chi'n hoffi'r ffeithiau, ond dyna'r gwir. Mae'n eglur iawn mai’r Blaid Geidwadol hon sy’n hyrwyddo’r gwasanaeth iechyd gwladol, nid y Blaid Lafur yma yng Nghymru. Byddaf yn hapus i dderbyn yr ymyriad.
Hoffwn i ddweud: a ydych chi'n gresynu’r pleidleisiau a wnaethoch yr wythnos diwethaf a'r wythnos cynt pan roeddech chi'n gofyn am fwy o arian ar gyfer addysg bellach a mwy o arian ar gyfer llywodraeth leol, er mai dim ond o'r gwasanaeth iechyd y gallai hwnnw fod wedi dod?
Rydym ni'n hapus i hyrwyddo anghenion ein gwasanaeth iechyd gwladol ac i ymgyrchu am fwy o arian. Efallai eich bod chi’n hoffi amddiffyn torri cyllideb y gwasanaeth iechyd gwladol. Dydw i ddim.
Nawr, roeddwn i'n falch o glywed eich cyfeiriadau at yr angen i gymryd golwg ar y ffordd yr ydym ni'n buddsoddi mewn gwariant ataliol, oherwydd rydym ni'n gwybod nad dim ond mater o gyllid ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol yw hyn, mae hefyd yn ymwneud â chyllid i’r gwasanaethau hynny sy'n atal pobl rhag gorfod defnyddio’r gwasanaeth iechyd gwladol hefyd. Ac rwy’n falch eich bod chi wedi gwrando ar alwadau comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i roi ystyriaeth fwy difrifol i'r sefyllfa honno, oherwydd rydym ni'n gwybod bod ein cynghorau yn arbennig yn wynebu pwysau ychwanegol sylweddol. Mae’r ddemograffeg yn eu hardaloedd yn newid, a cheir mwy o alw am ofal cymdeithasol. Ac eto rydym ni'n dal i’ch gweld chi’n torri arian. Rydych chi'n sôn am gyllideb wastad. Y gwir yw bod cyllidebau llawer o awdurdodau lleol yn lleihau’n sylweddol o ganlyniad—[Torri ar draws.]—o ganlyniad i’ch cyllideb.
Ac mae’r toriadau hynny hefyd yn effeithio ar ein hysgolion. Mae cyllid i ysgolion yng Nghymru, fel y gwyddom eisoes, yn ôl Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri/Undeb yr Athrawesau, £678 y disgybl y flwyddyn yn is na dros y ffin yn Lloegr, ac mae hynny er eich bod chi'n cael—[Torri ar draws.]—20 y cant yn ychwanegol ar ben bob punt—[Torri ar draws.]—sy'n cael ei gwario yno. Peidiwch â dadlau gyda mi. Dadleuwch gyda Chymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau—[Torri ar draws.] Mae penderfyniadau Llywodraeth Cymru i dorri pethau fel y grant gwella addysg eleni a'r flwyddyn nesaf yn siŵr o ehangu'r bwlch hwnnw.
Nawr, mae hon yn gyllideb, yr ydych chi wedi ei chyflwyno i'r tŷ hwn, sy'n gwneud toriadau mewn termau real unwaith eto i'r gyllideb addysg, a bydd ysgolion yn derbyn £12 miliwn yn llai y flwyddyn nesaf nag yn y flwyddyn ariannol bresennol. Rydym ni eisoes yn gwybod bod 40 y cant o ysgolion eisoes yn gweithredu gyda diffyg yn y gyllideb, ac mae’n edrych yn debygol mai dim ond cynyddu wnaiff y ffigur hwnnw. A yw’n unrhyw syndod bod Estyn wedi dod i'r casgliad heddiw bod gan hanner ein hysgolion uwchradd ddiffygion? A yw'n unrhyw syndod, pan fo ysgolion yn wynebu pwysau o'r fath? Ac mae hyn yn dod gan Lywodraeth yr addawodd ei Phrif Weinidog i gynyddu buddsoddiad yn ein hysgolion pan ddaeth yn Brif Weinidog yn ôl yn 2009. Y gwir yw mai’r oll y mae wedi ei wneud yw torri, torri a thorri o ran eu cyllideb. Yn wir, rydym ni wedi cael toriadau termau real o bron i 8 y cant i'r gwariant cyllidebol gros ar gyfer addysg o 2010-11 hyd yma. Sefyllfa gwbl warthus.
Gallwn ddweud mwy, ond mae'r cloc yn tician—[Torri ar draws.]
Na. Mae angen i chi ddirwyn eich sylwadau i ben.
A dweud y gwir, fel sydd wedi digwydd mewn blynyddoedd blaenorol, mae manylion y gyllideb mor annelwig ac anodd eu datod a’u dadansoddi ei bod hi’n anodd iawn gwybod pa erchyllterau eraill sydd o dan yr wyneb.
Felly, i gloi, mae'r gyllideb hon yn gyfle a gollwyd i Gymru. Mae gennym ni'r lefelau uchaf erioed o gyllid, cynnydd i'r cyllidebau sy’n dod i Lywodraeth Lafur Cymru, a gallent fod wedi manteisio ar y cyfle i gefnogi busnesau, i fuddsoddi yn y genhedlaeth nesaf ac i wneud mwy i gynorthwyo'r rhai sydd mewn angen. Ond yn lle hynny, mae gennym ni gyllideb ger ein bron sy’n mynd i rwystro busnesau, sy’n torri cyllid i'n hysgolion ac sy’n methu â buddsoddi yn y gwasanaethau ataliol sydd eu hangen ar bobl agored i niwed. Mae'n gyllideb gan Lywodraeth sydd, ar ôl 20 mlynedd, wedi rhedeg allan o stêm a rhedeg allan o syniadau. Byddwn yn pleidleisio yn ei herbyn, ac rydym ni'n gobeithio y bydd eraill yn gwneud hynny hefyd.
Mae hon yn gyllideb gyni. Ddwywaith, gall pob un ohonom ni weld effaith agenda cyni cyllidol Llywodraeth Dorïaidd y DU, sydd wedi lleihau grym gwario cyffredinol Llywodraeth Cymru yn sylweddol, ac ni wnaiff dim o fwg a drychau Darren Millar guddio realiti’r Llywodraeth Dorïaidd ddidrugaredd honno yn San Steffan. Ond yr ergyd ddwbl yn y gyllideb hon, wrth gwrs, yw’r ffaith bod Llafur wedi gwneud penderfyniadau gwleidyddol yma sy'n dyfnhau effaith toriadau hirdymor Llywodraeth y DU, yn enwedig yng nghyd-destun dyraniadau cyllideb llywodraeth leol. A hyn yng nghyd-destun cynnydd, a dweud y gwir, i gyfanswm y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Nawr, do, bu newid bach ers cyhoeddi’r gyllideb ddrafft gyntaf, gyda dyraniad symiau canlyniadol newydd o gyllideb y DU sy’n llacio rhyw fymryn ar y gafael haearnaidd ar gynghorau Cymru, ond mae'n dal i fod yn afael haearnaidd, serch hynny, ac roedd y gyllideb hon yn gyfle i roi adnoddau o'r newydd i wasanaethau lleol a allai arwain at fanteision i wasanaethau cyhoeddus yn ehangach, ac rwy’n gresynu na fanteisiwyd ar y cyfle hwnnw.
Wrth gwrs, mae gan y Llywodraeth hon fwyafrif, nawr, felly mae ein pwerau ni, fel gwrthbleidiau, yn gyfyngedig. Dyna'r gwir amdani; nid ydym ni mewn sefyllfa yn gyfunol i bleidleisio yn ei herbyn, ac nid yw’r ffordd yr ydym ni’n pleidleisio ar y meinciau hyn yn effeithio, yn anffodus, ar allu cyffredinol y Llywodraeth i basio ei chyllideb. Rydym wedi ein rhwymo, â chytundeb cyllideb sydd ar fin dod i ben, i ymatal heddiw, ond er ein bod ni o’r farn bod cytundeb cyllideb yn rhywbeth difrifol iawn yn wir, mae'n rhaid i mi ddweud ein bod ni o dan bwysau sylweddol, gan gynnwys gan gyd-Aelodau Llafur y Gweinidog cyllid, i bleidleisio yn erbyn. Ond fy ngobaith yw, yn ysbryd y ddeialog gadarnhaol a gafwyd rhwng y Gweinidog cyllid a mi a'm rhagflaenwyr, fel llefarwyr cyllid Plaid Cymru—a diolchaf iddo am y ffordd aeddfed ac adeiladol y mae trafodaethau wedi cael eu cynnal—y bydd yn rhoi ystyriaeth bellach rhwng nawr a chyhoeddi'r gyllideb derfynol i roi cyfle i lywodraeth leol. Ni allwn barhau â’r toriadau termau real sy'n effeithio'n uniongyrchol ar wariant ar addysg ac ar wasanaethau cymdeithasol, gan arwain at effeithiau anuniongyrchol niweidiol ar gyllidebau iechyd. Nid oes gennych chi lawer o hyblygrwydd—rwy’n deall hynny—ond mae hynny’n golygu yw bod yn rhaid i unrhyw hyblygrwydd sydd gennych chi gael ei ddefnyddio yn fanwl gywir, ac, yn anffodus, mae gwasanaethau lleol yn cael ergyd galed, fel y mae pethau.
Nid dim ond Aelodau Plaid Cymru sydd wedi bod yn datgan pryder am fethiant y Llywodraeth i gydnabod y pwysau ar lywodraeth leol. Mi glywsom ni Barbara Jones, dirprwy arweinydd cyngor Caerffili, yn ddiweddar yn dweud na allwn ni bellach roi’r bai i gyd ar y Llywodraeth Dorïaidd yn Llundain. Mae'n ei brifo i ddweud, fel sosialydd pybyr, nad yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn deg â nhw. Dyna’r farn ar draws llywodraeth leol yng Nghymru. Nid mater o gwyno ac nid mater o wneud gofynion afresymol ydy hyn gan gynghorwyr. Ni allwn ni eu diystyru nhw, fel y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol, yn cymharu cynghorwyr i Oliver Twist. Nid ydy hynny’n dderbyniol. Gofalu am eu hetholwyr, am bobl ar hyd a lled Cymru, y mae ein cynghorwyr ni ledled y wlad. Mater ydy hyn o sylweddoli goblygiadau go iawn ein gallu ni i ddarparu gwasanaethau sylfaenol i’n cymunedau. A llymder Llafur, fel rydw i'n ei egluro, ydy hyn y tro yma.
Ond mae’r gyllideb yma hefyd rydw i'n meddwl yn adlewyrchu’r problemau ehangach yn y Llywodraeth a’i methiant i feddwl a gweithredu’n holistaidd pan mae’n dod at benderfyniadau cyllideb a methu â gweithredu’n ddigon ataliol. Mae torri arian o wasanaethau ataliol hanfodol llywodraeth leol wrth gwrs yn mynd i gynyddu’r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd ni. Rydym ni’n gweld hyn yn ymateb coleg brenhinol y meddygon teulu i’r gyllideb hefyd, sy’n nodi’r pwysau aruthrol sydd ar wasanaethau gofal sylfaenol, wedyn, oherwydd diffyg cynllunio hirdymor a diffyg buddsoddiad mewn gwasanaethau ataliol. Mae angen newid y ffordd rydym ni’n cynllunio cyllidebau ar draws pob maes a sut maen nhw’n dod at ei gilydd. Mae angen mwy o uchelgais, golwg hirdymor a chydweithio rhwng gwahanol lefelau o lywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus. Ac mae angen hefyd yn sicr—mi fyddwn ni’n dymuno y gallwn ni gefnogi hynny—lawer mwy o ffocws drwy'r gyllideb ar daclo tlodi. Mi ddywedodd Victoria Winckler o'r Bevan Foundation wrth y Pwyllgor Cyllid ei bod hi'n methu â gweld strategaeth wrth-dlodi wedi ei gwreiddio yn ddigon dwfn yn y gyllideb yma. Yn ei geiriau hi:
'Mae angen iddo gael ei ymgorffori yn y blaenoriaethau a'i ymgorffori yn y pwyslais.'
Dydy o ddim, meddai hi.
Addysg bellach, wedyn—bythefnos yn ôl, mi bleidleisiodd y Senedd o blaid cynyddu'r arian sydd ar gael i addysg bellach. Mae angen i'r Llywodraeth barchu ewyllys y Senedd mewn penderfyniadau fel hyn. Dyna oedd fy neges i at yr Ysgrifennydd Cabinet mewn llythyr yn dilyn y bleidlais honno. Rydw i wedi derbyn ymateb ddoe yn nodi bod arian ychwanegol tuag at gyflogau yn benodol ond nid wyf i'n credu bod hynny'n ddigon nac yn adlewyrchu ysbryd y bleidlais yna bythefnos yn ôl. Felly, mi hoffwn i ofyn iddo fo, felly: beth ydy bwriad y Llywodraeth i weithredu yn glir ar y bleidlais honno a faint o arian ychwanegol all addysg bellach ei ddisgwyl?
Mae yna gytundeb wedi bod gennym ni—mae cytundeb ddwy flynedd ar hyn o bryd, a hwn ydy'r tro olaf y bydd Plaid Cymru yn cydweithio â'r Llywodraeth ar gyllideb yn y Cynulliad yma, rydw i'n siŵr, felly mi hoffwn i fachu ar y cyfle yma i adlewyrchu dipyn ar y cytundebau hynny. Rydym ni'n falch iawn o'r hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni drwy'r cytundebau—£0.5 biliwn o ymrwymiadau ariannol tuag at ein blaenoriaethau o'n maniffesto ni yn 2016, mwy nag y mae unrhyw wrthblaid yn y Cynulliad erioed wedi ei sicrhau. Mae'n cynnwys £40 miliwn yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Mae'n golygu bod addysg feddygol yn cael ei chyflwyno ym Mangor o'r flwyddyn nesaf. Mae yna fwy o gefnogaeth i fusnesau Cymru baratoi ar gyfer Brexit. Mae yna arian sylweddol i wersylloedd yr Urdd, diolch i gytundeb Plaid Cymru hefyd. Ac rydw i'n falch o glywed cadarnhad y prynhawn yma o ragor o arian cyfalaf i ddatblygu cynlluniau am amgueddfa bêl-droed ac oriel gelf fodern, a oedd yn destun astudiaethau dichonoldeb drwy ein cytundeb ar y gyllideb. Dyma ydy delifro fel gwrthblaid, dyna ydy bod yn gyfrifol, dyna ydy ystyr gweithio mewn ffordd aeddfed er mwyn sicrhau gwelliannau i fywydau pobl bob dydd—y bobl yr ydym ni yn eu cynrychioli. Ond, fel rydw i'n ei ddweud, cyllideb Llafur ydy hi, a Llafur fydd yn penderfynu a ydy'n cael ei phasio fel ag y mae ai peidio erbyn hyn.
Rydym ni'n symud i gyfnod newydd rŵan, wrth gwrs, yn ein hanes fel cenedl, yn hanes datganoli. Mae datganoli pwerau trethi, yn hollol gywir, yn mynd i arwain at fwy o sgriwtini a sgriwtini mwy manwl o'n prosesau a'r penderfyniadau cyllidol sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru. Nid corff gwariant yn unig ydy'r Llywodraeth bellach, ac mi ydym ni'n esblygu i gyfnod lle bydd y balans o dderbyniadau i goffrau Cymru yn cael ei gydbwyso a'i gyd-sgriwtineiddio, os liciwch chi, ochr yn ochr â'r penderfyniadau gwario. Fel yna y mae hi i fod, ond mae'n golygu cyfrifoldeb dwys iawn ar ysgwyddau'r Ysgrifennydd cyllid, a dyna pam fod cael y cydbwysedd yn iawn a chael y blaenoriaethau’n iawn mor bwysig, a dyna pam y siom am y setliad llywodraeth leol drafft yn benodol, a pham yr apêl am ail ystyried, hyd yn oed ar yr unfed awr ar ddeg.
Mae yna rai trethi wrth gwrs wedi cael eu datganoli yn barod. Mae'n deg i ddweud, rydw i'n meddwl, am ein gwaith ni yn y Pwyllgor Cyllid, ei bod hi i raddau helaeth yn gynnar i asesu'r effaith y mae'r trethi newydd hynny yn ei chael ar ein pŵer gwario ni a phŵer gwariant Llywodraeth Cymru ar y penderfyniadau y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd. Mi fydd cymryd cyfrifoldeb, wrth gwrs, am gyfran y cyfraddau treth incwm yn gam allweddol a sylweddol pellach ymlaen. Mae o'n gam rydw i a'm phlaid wedi ei gefnogi yn hir. Mae yna elfennau o risg, wrth gwrs, fel y mae'r Alban wedi'i brofi yn ddiweddar, ond nid oes gen i amheuaeth y bydd y cymhelliad yno rŵan i'r Lywodraeth arloesi a chodi'r bar o ran targedau perfformiad economaidd, codi'r bar o ran yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei gyflawni drwy ei gyllideb. Mae hefyd yn glir nad y Llywodraeth Lafur fydd y rhai i ddelifro yr uchelgais angenrheidiol honno.
Diolch i'r Gweinidog Cyllid am gyflwyno'r ddadl am y gyllideb heddiw. Wrth gwrs, rydym ni'n cytuno â rhai agweddau ar gyllideb ddrafft y Llywodraeth. Mae’r newyddion a gawsom—. Dywedodd Mark Drakeford heddiw y bydd y swm llawn o’r cyllid canlyniadol o gynllun rhyddhad y stryd fawr Llywodraeth y DU—y bydd y swm llawn yn cael ei wario yng Nghymru. Mae hynny'n newyddion i'w groesawu. Er, fel yr ychwanegodd Darren Millar yn ei gyfraniad, bydd angen mwy o fanylion arnom ni am hynny.
Y cytundeb gyda Plaid—unwaith eto, gwnaeth Mark Drakeford y pwynt hwn, y mae Rhun newydd gyfeirio ato. Ceir astudiaethau dichonoldeb ar ddau brosiect diddorol ac addawol—yr amgueddfa bêl-droed genedlaethol a’r oriel celfyddyd fodern. Wrth gwrs, mae’n ddigon posibl y gallem ni gefnogi’r cynlluniau hynny; maen nhw'n swnio’n hynod addawol. Unwaith eto, byddwn yn cymryd golwg ar y manylion wrth i ni symud ymlaen.
Ymlaen at bwyntiau ehangach, rydym ni'n symud mwy a mwy erbyn hyn i sefyllfa lle mae gwariant ar iechyd yn llyncu bron i hanner cyllideb Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, iechyd yw’r prif faes gwariant ac mae’n un sy’n destun graddau helaeth o bryder cyhoeddus. Y broblem yw bod gwariant ar iechyd yn chwyddo ar lefel uwch na gwariant cyffredinol y Llywodraeth, ac yn amlwg, ni all hynny barhau am byth; nid yw’n gynaliadwy. Felly, ar ryw adeg, mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol o'r pwyntiau a wnaed gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn y gorffennol, a gefnogir erbyn hyn gan lawer o bobl eraill o wahanol bleidiau gwleidyddol, a throi at wariant ataliol mwy effeithiol, a fydd yn arbed arian i ni yn yr hirdymor. Mae'n beth da bod diffiniad a gytunir erbyn hyn o beth yw gwariant ataliol mewn gwirionedd, ond, wrth gwrs, mae hwn yn dal i fod yn fater cymhleth. Rydym ni wedi clywed bod y diffiniad yn agored i newid. Mae angen monitro’r holl sefyllfa, ac rydym ni'n gobeithio y bydd y mater hirdymor yn dechrau cael sylw nawr o leiaf. Ond rydym ni'n mynd i fod eisiau gweld dull trawsbynciol gan Lywodraeth Cymru a bydd angen i ni fonitro hyn yn ofalus yn y dyfodol i weld a oes cydymffurfiad â'r egwyddor gwariant ataliol ym mlynyddoedd y dyfodol.
Yn gyffredinol, rydym ni'n gweld pethau da ynddi, fel y dywedais, er ei bod yn ymddangos bod llawer o besimistiaeth. Dywedodd Mark Drakeford bod y gyllideb wedi cael ei llunio o dan ddau gysgod cyni cyllidol a Brexit. Byddai’n well gen i beidio â sôn gormod am y meysydd hynny gan eu bod nhw bob amser yn cael llawer o sylw gan bleidiau eraill ac rydym ni wedi cael dadl Brexit eisoes heddiw. Cyfeiriodd Darren Millar at erchyllterau o dan yr wyneb. Does bosibl bod pethau mor ddrwg â hynny—efallai fod rhaid i ni sirioli rywfaint.
Yn gyffredinol, rydym ni'n gwrthwynebu cyllideb ddrafft y Llywodraeth ac yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr. Diolch yn fawr iawn.
Wrth baratoi fy neges Nadolig i'm hetholwyr yr wythnos yma, roeddwn i'n falch o sôn am y cynnydd i lywodraeth leol a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet ar 20 Tachwedd, a ddaeth fel newyddion da i awdurdodau lleol Cymru, gan sicrhau pecyn ychwanegol o £141.5 miliwn mewn refeniw a chyfalaf dros y tair blynedd nesaf. Ac mae’r cynnydd i'r gyllideb ddrafft yn sicrhau’r dyraniadau ychwanegol hyn o gyllid lle mae eu hangen fwyaf, lle y darperir ein gwasanaethau cyhoeddus mewn llywodraeth leol, er gwaethaf y toriadau dwfn a diangen i'n cyllideb gan Lywodraeth y DU dros yr wyth mlynedd diwethaf, a'r golled o £850 miliwn i’n gwasanaethau cyhoeddus o ganlyniad, gyda'n cyllideb 5 y cant yn is mewn termau real. Felly, does ryfedd fy mod i wedi croesawu llythyr yn fy mhapur lleol The Barry Gem gan etholwr yn y Barri gyda phennawd i arweinydd y cyngor roi’r gorau i wadu realiti gwleidyddol. Roedd fy etholwr wedi darllen llythyr gan arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, sydd o dan reolaeth y Ceidwadwyr, yn gofyn am fwy o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Ysgrifennodd fy etholwr, 'A yw’r Cynghorydd Thomas yn gwybod pa blaid wleidyddol y mae'n aelod ohoni ac o ble y mae amddifadu ariannol gwasanaethau lleol yn cael ei gyfeirio yn y pen draw?'
Gwnaed canlyniadau cyni cyllidol yn eglur gan adroddwr y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol a hawliau dynol, yr Athro Philip Alston, gan nodi ffeithiau moel y naw mlynedd ddiwethaf o doriadau a chyni. Meddai:
Mae niwed yn cael ei wneud i adeiladwaith cymdeithas Prydain, i’r ymdeimlad o gymuned...ni fydd unlle i bobl yn y grwpiau incwm is fynd cyn bo hir.
Cyfeiriodd at ddiflaniad canolfannau chwaraeon, mannau hamdden, tir cyhoeddus, llyfrgelloedd a chlybiau ieuenctid. Croesawyd yr Athro Alston i Gymru gennym ac rydym ni'n derbyn ei ganfyddiad. Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol sydd wedi gorfod lliniaru rhag cyni.
Yn 2010, ar ôl y gyllideb frys, fel y'i galwyd—cyllideb gyntaf honno y Llywodraeth glymblaid honno, pan roeddwn i'n Weinidog cyllid—fe'n cyfeiriwyd i wneud toriadau i refeniw a chyfalaf. Gwnaethom wrthod gwneud y toriadau hynny. Rwy’n cofio siarad am ddarparu amddiffyniad rhag y toriadau hynny. Doedden ni ddim yn gwybod y byddem ni dal yn y sefyllfa honno wyth mlynedd yn ddiweddarach, ac yn wynebu dewisiadau anoddach byth i gynnal a chryfhau’r amddiffyniad hwnnw. Yr wythnos yma, mae gennym ni fwy o dystiolaeth eto o effaith andwyol cyni cyllidol gan Sefydliad Joseph Rowntree, a ganfu fod un rhan o dair o blant mewn ystafell ddosbarth arferol o 30 yn byw mewn tlodi erbyn hyn, gan na all mwy o rieni gael deupen llinyn ynghyd. Felly, rwyf i hefyd yn croesawu’r ymrwymiad hanfodol yn y gyllideb ddrafft hon i ddyblu’r grant amddifadedd disgyblion i ariannu prydau ysgol am ddim i 3,000 yn fwy o ddisgyblion, £200 miliwn ar gyfer cynllun budd-dal y dreth gyngor, a ddiddymwyd yn Lloegr, i liniaru rhag y toriadau, i drechu tlodi. Ac rwy’n croesawu'r camau a gymerwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau cyllid tecach drwy'r fframwaith cyllidol, a'r defnydd o'n cronfa wrth gefn yng Nghymru a’ch ymrwymiad parhaus i'n GIG Cymru. Rydych chi wedi defnyddio'r holl arfau ac ysgogiadau sydd ar gael i chi.
Nawr, ymwelais â Stryd Fawr y Bont-faen ar Ddydd Sadwrn Busnesau Bach—y Bont-faen oedd y seren newydd yng Ngwobrau Stryd Fawr Prydain yn ddiweddar—a dywedais wrth gadeirydd y siambr fasnach, Kate Thomas, bod Llywodraeth Cymru yn dyrannu £26 miliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes ychwanegol yn ogystal â'r rhyddhad ardrethi wedi'i dargedu ar gyfer Cymru yn unig a’r rhyddhad trosiannol a gyhoeddwyd y llynedd. Ac rwy’n edrych ymlaen at drafod gyda hi y cyhoeddiad yr ydych chi wedi ei wneud y prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet, ynghylch ehangu’r cynllun rhyddhad ardrethi pwrpasol hwnnw wedi'i dargedu yng Nghymru ar gyfer strydoedd mawr. Ond rwyf i hefyd yn canmol Kate am ei gwaith ar y stryd fawr fel fferyllfa gymunedol, gan ddarparu gwasanaethau hanfodol i'r boblogaeth leol o bob modd a phob amgylchiad. Cymerais y cyfle ddydd Sadwrn, fel yr wyf i heddiw, i ganmol Llywodraeth Cymru am gadw ein presgripsiynau am ddim, ein brecwastau am ddim, ein tocynnau bws am ddim, gan helpu i ddiwallu anghenion pawb a lleihau'r bwlch anghydraddoldeb sy’n ehangu yn y DU, ond sy’n cael sylw yma yng Nghymru.
Felly, Ysgrifennydd Cabinet, byddaf yn cefnogi’r gyllideb ddrafft a diolchaf i chi am arfer eich ewyllys a'ch penderfyniad gwleidyddol i liniaru, darparu amddiffyniad a defnyddio ein pwerau trethu newydd yn effeithiol ac yn gyfrifol. Ac a gaf i fanteisio ar y cyfle heddiw i dynnu sylw at astudiaeth gan Brifysgol Caergrawnt, sy'n dangos bod toriadau cyni ddwywaith mor ddwfn yn Lloegr ag yng ngweddill Prydain? Canfu astudiaeth Caergrawnt fod pwerau datganoledig wedi caniatáu i Lywodraethau Cymru a’r Alban liniaru'r toriadau llymaf a ddioddefwyd mewn rhannau o Loegr lle ceir amddifadedd lluosog. Efallai ei bod hi'n bryd i ni gofio’r llinell o gân Catatonia yn 1999 'International Velvet', lle canodd Cerys Matthews, 'Every day when I wake up I thank the Lord I'm Welsh.' Dywedodd ar y pryd:
Gobeithio erbyn hyn bod pobl yn sylweddoli bod Cymru yn llawn talent a’n bod ni’n bobl wych ag ymenyddiau enfawr.
Felly, mae angen i ni barhau ein gwyliadwraeth i amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus, i drechu tlodi, ac i wneud yr hyn a allwn gyda’n pwerau, ein hewyllys gwleidyddol a’n hymenyddiau, i barhau i wneud hynny'n realiti. Dyna yr wyf i'n ei gredu y bydd y gyllideb ddrafft hon yn ei gyflawni.
Rwyf eisiau sôn am dai, a chredaf ei bod yn brofiad eithaf sobreiddiol i edrych ar yr hanes yn mynd yn ôl dros yr 20 neu 25 mlynedd diwethaf. Nid wyf eisiau gwneud araith arbennig o bleidiol. Rwyf eisiau inni ystyried sut y gallwn ni feithrin consensws newydd, ac, yn ffodus, mae gennym ni lawer o hyblygrwydd wrth wella'r system gynllunio, addasu rhywfaint o'n gwariant, ond gallai llawer o'r hyn y mae angen inni ei wneud ddod drwy'r cap sy'n cael ei godi ar bwerau benthyca awdurdodau lleol a dulliau hyblyg eraill y bydd gennym. Dull cyfalaf, yn sicr, y mae angen inni ei ddefnyddio, yn ogystal â sicrhau bod gennym ni system gynllunio fwy effeithlon.
A chredaf hefyd, ar ôl y ddadl y prynhawn yma ar Brexit, ei bod yn briodol inni edrych ar rywbeth sy'n mynd at wraidd yr economi sylfaenol, mewn gwirionedd. Mae adeiladu tai yn rhywbeth a all ein huno ni i gyd, siawns, o ran ei werth cymdeithasol, y daioni economaidd a hybir, y sgiliau y mae angen inni eu datblygu ar gyfer ein pobl ifanc, gan roi cyfleoedd a swyddi da iawn. Ac mae llawer o'r gweithgarwch economaidd y mae'n ei gynhyrchu yn aros mewn cymunedau lleol.
A gaf i ddweud yn gyntaf oll, pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ennill yr etholiad, a gaiff ei gyhoeddi cyn bo hir—? Mae wedi cymryd naw mis i gyrraedd mor bell â hyn, ond rwy'n meddwl, dros y diwrnod neu ddau nesaf, byddwn ni mewn gwirionedd yn clywed y canlyniad. Ond gwn, pe byddai'n ennill ac yn esgyn i swydd bwysig ac uchel y Prif Weinidog, y byddai'n creu swydd Cabinet ar gyfer Ysgrifennydd tai. A chroesawaf hyn, oherwydd credaf fod hynny'n wirioneddol bwysig. Ac a gaf i annog bod hon yn swydd tai a chynllunio, oherwydd credaf fod hynny'n gamweithredol iawn ar hyn o bryd, y ffordd y mae'r portffolios hynny wedi'u rhannu? Felly, byddai hynny'n fan cychwyn; nid oes amheuaeth am hynny. Byddai hynny'n anfon arwydd pwerus iawn i bob un o'n rhanddeiliaid allan yn fan yna.
Ond rwy'n credu bod angen i bob plaid weld pwysigrwydd tai o'r newydd. Ar ôl y rhyfel, roedd tai ac iechyd yn cyd-fynd â'i gilydd, mewn gwirionedd, fel y ddau achos cymdeithasol mawr. A dyna'r math o flaenoriaeth y mae angen inni weld tai yn ei gael unwaith eto, a byddwn yn dechrau ailddatblygu rhywfaint o'r ffydd, rwy'n credu, sydd ei angen ar y genhedlaeth iau yn eu system wleidyddol, oherwydd, ar hyn o bryd, mae meysydd allweddol lle nad yw'n eu gwasanaethu'n dda.
Gadewch imi fynd drwy'r ffigurau. Mae'n rhaid imi ddweud nad yw'r hanes yn Lloegr wedi bod yn wych ychwaith; rwy'n credu bod yn rhaid cyfaddef hynny. Mae problem go iawn wedi bod gennym ni yn y Deyrnas Unedig ers y 1990au ynghylch nifer y cartrefi yr ydym yn eu hadeiladu o gymharu â'n tuedd hanesyddol. Nid ydym ni bellach ond yn adeiladu rhyw 6,000 o gartrefi'r flwyddyn; roedd tuedd hanesyddol o rhwng 10,000 a 12,000 yng Nghymru ers yr ail ryfel byd. Felly, rydym ni'n adeiladu prin hanner ein tuedd hanesyddol. Tuedd hanesyddol yw honno; nid dyna y mae angen i ni ei adeiladu ar hyn o bryd. Mae angen inni fynd y tu hwnt i'r duedd hanesyddol, o leiaf am gyfnod sylweddol, y mae modd dadlau. Mae gan Lywodraeth Cymru'r dystiolaeth. Comisiynodd adroddiad rhagorol gan y diweddar Athro Holmans, ac rwy'n credu bod angen iddi weithredu ar y data y cynhyrchodd yr adroddiad hwnnw. Mae Llywodraeth y DU wedi newid ei meddwl, rwy'n credu, o ran y math o uchelgais sydd ei angen arnom ni ar gyfer tai. Dydw i ddim yn gwybod a yw wedi derbyn gwaith sy'n cyfateb i'r hyn a gyhoeddwyd gan yr Athro Holmans, ond maen nhw wedi gosod targedau newydd a mwy uchelgeisiol ar gyfer adeiladu tai yn y 2020au, ac rwy'n credu y dylem ni adeiladu nifer cyfatebol neu hyd yn oed mwy na hynny.
Credaf y byddai'r her o adeiladu 100,000 o gartrefi newydd rhwng 2021 a 2031 yn darged priodol ac uchelgeisiol i ni, yn yr hyn sy'n debygol o fod yn ddegawd cyntaf Brexit. Credaf y bydd hynny'n anfon neges bwerus hefyd i'n partneriaid allweddol, y sector preifat, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol. Mae angen gweithio hyblyg iawn arnom—awdurdodau lleol i ddefnyddio eu pwerau benthyca, ac i weithio gyda'r sector preifat a'r sector annibynnol drwy gymdeithasau tai. Credaf y bydd rhai cynghorau lleol yn dechrau adeiladu tai cyngor ar raddfa fwy. Nid yw hyn yn broblem imi; credaf fod angen y cartrefi arnom ni. Ac mae'n bosibl y bydd rhai cynghorau yn datblygu arbenigeddau penodol ac yn gallu gwneud hynny ar gyfer meysydd allweddol. Ond credaf mai ein partneriaid allweddol yn y sector cymdeithasol fydd cymdeithasau tai, a hoffwn eu gweld yn cael hyd yn oed mwy o hyblygrwydd, cyllidebau tymor hwy, fel y gallant gynllunio'n effeithiol a hefyd codi'r safonau adeiladu cymdeithasol, ansawdd dylunio, a chreu cartrefi modiwlaidd newydd eco-gyfeillgar. Yn y 1950au a'r 1960au, roedd y gwelliannau mawr ym maes adeiladu tai yn aml wedi'u pennu gan y safonau yn y sector cymdeithasol, a dyna'r math o beth y gallwn ni weld y sector preifat wedyn yn ei efelychu, yn enwedig o ran cartrefi carbon isel, rwy'n credu.
Mae angen inni weld y sector busnesau bach a chanolig yn cael ei adfywio a sylfaen sgiliau, gan weithio drwy awdurdodau addysg bellach, i ganiatáu hynny. Ni allwn gynyddu o 6,000 i'r 12,000, 13,000, 14,000 y bydd eu hangen arnom yn yr 20 mlynedd nesaf yn gyflym. Dyna pam rwy'n credu bod targed 10 mlynedd o 100,000 yn realistig. Bydd yn rhoi amser inni, yn gyntaf, i adennill y duedd hanesyddol, ac yna, os oes angen, mynd ymhellach. A gaf i ddweud hyn: os yw'r Prif Weinidog yn gwneud y math hwnnw o addewid—neu'r Prif Weinidog newydd yn gwneud y math hwnnw o addewid—credaf y bydd yn cael cymeradwyaeth gynnes o amgylch y Siambr hon. Dyna'r math o addewid y mae angen inni ei roi i bobl Cymru.
Rwy'n bwriadu gwneud rhai sylwadau cyffredinol ar y gyllideb, yna rhai mwy manwl fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Ar y gyllideb, mae hon wedi'i phennu mewn sefyllfa o gyni parhaus. Dylem ni, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, fod yn cael o leiaf £800 miliwn yn fwy. Ond i'r Ceidwadwyr yn San Steffan, nid yw cyni yn bolisi economaidd, mae'n ideoleg—ymagwedd ddeublyg o doriadau a phreifateiddio. Ar hyn o bryd, mae gennym ni sefyllfa lle mae gan Jeremy Corbyn fwy yn gyffredin â llywodraethau ar ôl y rhyfel Churchill, Eden a Macmillan nag sydd gan Theresa May. Ar godi refeniw, mae incwm o dreth incwm yn cael ei ddiogelu yn y flwyddyn gyntaf, a byddwn yn gweld sut y mae'r incwm yn gysylltiedig â'r hyn a ragwelir, fel y trafododd Llyr Gruffydd yn gynharach.
Unwaith eto, rydym ni'n gweld cynnydd yn y gyllideb iechyd fel canran o gyllideb Cymru. Ni all hyn barhau am gyfnod amhenodol, os yw hynny dim ond oherwydd, ar ryw adeg, y bydd yn cyrraedd 100 y cant o gyllideb Cymru. Hefyd, mae'r gyfran o'r iechyd y mae'r gyllideb gofal sylfaenol yn ei chael yn peri pryder—pan yr ydym yn dweud 'iechyd', rydym yn golygu ysbytai, ac ni all hynny fod yn ffordd o wneud cenedl yn iachach. Ar gyfer iechyd da, mae angen tai o ansawdd da, deiet da ac ymarfer corff, peidio ysmygu a pheidio ag yfed llawer iawn o alcohol. Mae gwir angen inni wneud mwy ynghylch gwella iechyd a ffordd o fyw—un o'r pethau yr oedd Cymunedau yn Gyntaf yn arfer ei wneud cyn ei gau.
Mae Llywodraeth Leol wedi cael gostyngiadau termau real unwaith eto. Mae'r gyllideb ar gyfer Llywodraeth Leol wedi gwella ers y gyllideb ddrafft, a chroesawaf hynny. Mae addewid y bydd unrhyw arian pensiwn athrawon a dderbynnir yn mynd i lywodraeth leol i ariannu'r cynnydd mewn costau pensiwn. Unwaith eto, credaf fod yn rhaid i bawb groesawu hynny. Nid yw'n helpu bod Gweinidogion, yn hytrach na chefnogi gwasanaethau sylfaenol mewn llywodraeth leol, yn defnyddio cyllid ychwanegol ar gyfer ychwanegion—ychwanegion braf; nid oes dim o'i le â nhw—ond mae angen i'r gwasanaeth sylfaenol gael blaenoriaeth. Hefyd, ceir arian yn y cyllidebau, megis economi a thrafnidiaeth, y gellir ei ddefnyddio i gefnogi llywodraeth leol.
Gan droi at y gyllideb sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd a materion gwledig, eleni, bu'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn craffu ar gyllidebau drafft Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Yn gynharach eleni, penderfynodd Llywodraeth Cymru ychwanegu chweched flaenoriaeth at ei strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i bawb'. Y chweched flaenoriaeth newydd yw datgarboneiddio. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r pwyllgor yn ei groesawu, ac roeddem yn awyddus i weld y newidiadau yn y dull o ymdrin â'r gyllideb ddrafft o ganlyniad i'r newid hwn mewn blaenoriaethau. Fodd bynnag, nid ydym ni wedi canfod llawer o dystiolaeth o sut y mae cynnwys datgarboneiddio fel chweched flaenoriaeth wedi llywio penderfyniadau ynghylch dyrannu'r gyllideb eleni.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi cynigion i ddisodli systemau presennol o gymorth ariannol ar gyfer amaethyddiaeth â dau gynllun gwahanol: y cynllun cadernid economaidd a'r cynllun nwyddau cyhoeddus. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ei bod hi eisiau dechrau'r cyfnod pontio i'r cynlluniau newydd hyn yn 2021. Credwn fod hon yn fenter enfawr ac roedd gennym ni ddiddordeb yn y dyraniadau yn y gyllideb ddrafft i baratoi ar gyfer y newid hwn. Cawsom ein synnu, fodd bynnag, i weld nad oes dim dyraniadau ychwanegol yn y gyllideb i baratoi—dim arian ychwanegol ar gyfer treialu neu fodelu a dim arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cynghori ar gyfer y miloedd o ffermwyr y bydd y newidiadau yn effeithio arnyn nhw. Ni chawsom sicrwydd y gellid gwneud y paratoadau yn ddigonol o fewn y cyllidebau presennol. Mae hwn yn faes lle'r ydym wedi gwneud nifer o argymhellion.
O ran cyllideb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, hoffwn ganolbwyntio ar gronfa dyfodol yr economi a sut y mae'n gysylltiedig â datgarboneiddio. Ein prif bryder oedd y trefniadau monitro sy'n gysylltiedig â rhai rhannau o'r gronfa. Mewn egwyddor, rydym ni'n croesawu'r ffaith bod yn rhaid i fusnesau sy'n ceisio buddsoddiad yn rhan o'r contract economaidd ddangos eu cynnydd o ran lleihau eu hôl troed carbon. Credwn y dylai fod ymrwymiad clir, amlwg bod gan y busnes dan sylw bwyslais difrifol ar leihau ei ôl troed carbon. Mae'n debygol iawn y bydd angen mwy na dim ond cyfres o sgyrsiau ar hyn. Rydym ni hefyd wedi argymell y dylai Ysgrifennydd y Cabinet barhau i adolygu gweithrediad yr alwad i ddatgarboneiddio, gyda'r nod o annog mwy o fusnesau i wneud defnydd o'r cyllid i leihau eu hôl troed carbon.
Hoffwn ymateb i rai sylwadau. Rwy'n cytuno â David Melding fod angen inni adeiladu mwy o dai. Mae adeiladu mwy o dai yn syml iawn: caniatewch i gynghorau fenthyca arian i adeiladu tai cyngor yn erbyn gwerth y stoc tai presennol. Byddai'n golygu newid ym mholisi'r Trysorlys, ond byddai'n caniatáu adeiladu tai cyngor ar raddfa enfawr. Mae rhai ohonom ni a fagwyd mewn tai cyngor yn y 1960au yn ymwybodol iawn o'r nifer enfawr o ystadau a'r nifer fawr o dai a adeiladwyd ledled Cymru ar y pryd. Roedd hynny, rwy'n credu, yn bwysig iawn, ond mae angen inni ganiatáu i gynghorau adeiladu unwaith eto, a dim ond trwy newid rheolau'r Trysorlys y gellir gwneud hynny.
Ac mae'r rheolau hynny yn cael eu newid; mae'r terfyn benthyca am gael ei godi.
Ond nid yw rheolau'r Trysorlys ar fenthyca wedi'u codi'n llawn fel y gallwch chi fenthyg yn erbyn gwerth cyfan y stoc. Os dyna'r hyn y mae David Melding yn ei ddweud, gallaf ddweud wrthych y byddai tai yn cael eu hadeiladu ar raddfa fawr yng Nghymru nawr. Mae'r cap wedi'i godi ond nid yw wedi'i ddileu. Ond efallai gallwn ni drafod hyn mewn man arall.
Y peth arall yr oeddwn i am ei ddweud yw yr hoffwn i longyfarch barn Darren Millar bod gan Gordon Brown bŵer llwyr dros economi gyfan y byd. Fe achosodd y dirwasgiad yn Sbaen, fe achosodd y dirwasgiad yng Ngwlad Groeg; achosodd un yng Ngwlad yr Iâ, ac achosodd un yng Ngogledd America gyfan. Y gwledydd a lwyddodd i osgoi'r problemau mawr oedd Norwy, Sweden a'r Ffindir, a beth oedd ganddyn nhw? Roedd ganddyn nhw lywodraeth sosialaidd, yn gweithio ar ran y bobl.
Mae'n bleser i gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma ar y gyllideb, fel Cadeirydd y pwyllgor iechyd. Ac wrth gwrs, gyda chyllideb iechyd a gofal o ryw £9 biliwn, mae cryn her gan aelodau'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i graffu ar holl fanylion y gyllideb fawr yna. Ac felly, mi wnaf i olrhain ychydig bach o'r broses o gasglu tystiolaeth a'r craffu yna. Ym mis Gorffennaf eleni, buom yn craffu ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r adolygiad seneddol 'Cymru Iachach', cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Wedyn, ym mis Medi, cawsom dystiolaeth ysgrifenedig gan bob bwrdd iechyd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, i ychwanegu at y doreth o dystiolaeth. A wedyn, ym mis Tachwedd, buom yn craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon. Prif themâu: newid trawsnewidiol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn glir bod yn rhaid i drawsnewid gwasanaethau ddod yn weithgaredd prif ffrwd ar gyfer sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ac mai cyllid craidd y sefydliadau hyn fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud y newidiadau perthnasol.
Mae gennym bryderon dwfn o ran a fydd y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol yn gallu cyflawni hyn o ystyried y pwysau o ran galw a chostau a nodwyd a methiant parhaus mwyafrif y byrddau iechyd i fantoli'r cyfrifon. Rydym ni'n croesawu'r £100 miliwn sydd ar gael drwy'r gronfa trawsnewid ar gyfer y prosiectau braenaru, ond rydym ni wedi gofyn am sicrwydd y bydd y defnydd o'r gronfa hon a'i heffaith yn cael eu monitro’n effeithiol, yn enwedig o ran defnyddio'r gronfa i gefnogi prosiectau sy'n wirioneddol drawsnewidiol ac mae'n bosibl eu cynyddu mewn maint, a bod ceisiadau iechyd meddwl ac iechyd corfforol yn cael yr un ystyriaeth. Mae gennym bryder difrifol ynghylch lefel y cyllid ar gyfer gofal sylfaenol. O ystyried y ffocws polisi ar symud gofal allan o ysbytai, byddem wedi disgwyl gweld cynnydd sylweddol yn lefel y gwariant ar ofal sylfaenol, ac mae'r dystiolaeth a ddaeth i law yn dangos nad yw hyn yn digwydd. Credwn fod hyn yn dangos yr heriau sy'n wynebu byrddau iechyd wrth drawsnewid gwasanaethau, o ystyried y pwysau parhaus y maent yn ei wynebu yn y sector acíwt. O gofio mai'r bwriad a nodwyd yn 'Cymru Iachach' yw cynnig gwasanaethau ym maes gofal iechyd sylfaenol a chymunedol, rydym ni'n bryderus iawn na fydd yr arian arfaethedig ar gyfer gofal sylfaenol yn ddigonol i gefnogi'r amcan hwn.
Gan droi at y sefyllfa ariannol y bwrdd iechyd, fel rhan o graffu ar y gyllideb y llynedd, gwnaethom geisio archwilio'n fanwl sefyllfa ariannol y byrddau iechyd lleol yng Nghymru. Ar y pryd, gwnaethom nodi ein siom nad oedd holl gyrff y gwasanaeth iechyd wedi llwyr wireddu uchelgeisiau Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014, a bod pedwar o'r saith o fyrddau iechyd lleol wedi adrodd diffyg yn o leiaf un o'r tair blynedd blaenorol. Achos penodol o bryder oedd bod Betsi Cadwaladr a Hywel Dda wedi adrodd diffyg ym mhob un o'r blynyddoedd o 2014-15 i 2016-17.
Nodwn fod cynnydd wedi'i wneud gan fyrddau iechyd penodol. Fodd bynnag, cawsom ein siomi gan fethiant parhaus nifer o fyrddau iechyd i reoli eu cyllidebau, ac rydym ni am geisio deall y rhesymau y tu ôl i'r anawsterau parhaol mewn rhai byrddau iechyd. Credwn ei bod yn hynod bwysig deall i ba raddau y gallai hyn fod o ganlyniad i faterion rheoli ar lefel bwrdd iechyd unigol, neu i ba raddau y mae eu dyraniadau cyllid yn gyfrifol am hyn.
Wrth droi at iechyd meddwl, mae cynigion manwl cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 yn pwysleisio mai iechyd meddwl yw'r maes unigol mwyaf o wariant gan y gwasanaeth iechyd. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwario £675 miliwn ar wasanaethau iechyd meddwl yn 2019-20, ac mae £20 miliwn ychwanegol yn cael ei ddarparu yn y gyllideb ddrafft hon ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl fel rhan o'r cytundeb ar y cyllid dros ddwy flynedd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Gwyddom fod byrddau iechyd eisoes yn gwario mwy ar iechyd meddwl na'r dyraniad a neilltuwyd. Fodd bynnag, rydym ni'n ymwybodol o'r galw cynyddol am wasanaethau iechyd meddwl, ac rydym wedi ein hargyhoeddi gan awgrym conffederasiwn gwasanaeth iechyd Cymru y gall lefel y galw wasanaethau iechyd meddwl fod yn sylweddol uwch na'r lefelau gwariant presennol.
Gan droi at y gweithlu iechyd yn fyr, er bod systemau a gwasanaethau yn cynnig ffocws ar gyfer newid, y gweithlu yw'r ased mwyaf wrth roi gofal a gwneud y newidiadau sydd eu hangen. Fe wnaethom godi pryderon efo Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch lefelau absenoldeb oherwydd salwch yn y gweithlu iechyd, yn enwedig o fewn y gwasanaeth ambiwlans. Hefyd, gwnaethom ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a oedd e'n cydnabod gwahaniaethau o ran amodau gwaith a chyflog, a diffyg parch cydradd at staff gofal cymdeithasol a staff gofal iechyd. Credwn fod anghysondeb amlwg rhwng gweithwyr gofal iechyd a gweithwyr yn y sector gofal cymdeithasol, fel y mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym yn rheolaidd, ac mae hyn yn rhwystr sylweddol rhag cydlynu gwasanaethau yn llwyddiannus.
Rydym ni yn yr eiliadau olaf.
Ond yn amlwg ddim yn yr eiliadau olaf yn ôl y sgript hael yma sydd gan y clercod. [Chwerthin.]
Darllenwch yn gyflymach, felly, Dr Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Llywydd, am eich amynedd.
Jest i roi gair am ofal cymdeithasol. Yn 2017-18, roedd 23 y cant o wariant refeniw gros gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn mynd tuag at wasanaethau cymdeithasol. Dyma'r ail fwyaf o’r meysydd gwariant gan awdurdodau lleol ar ôl addysg. Yn ôl datganiad ar 9 Hydref, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus fod setliad llywodraeth leol ar gyfer 2019-20 yn cynnwys £20 miliwn ychwanegol i leddfu pwysau ar wasanaethau cymdeithasol. Mae £30 miliwn ychwanegol y tu hwnt i'r setliad llywodraeth leol hefyd ar gael ar gyfer gofal cymdeithasol i fynd i'r afael â materion cynaliadwyedd, gan gynnwys pwysau—
Reit. Nid yw'r darllen cweit yn ddigon cyflym, ac felly, fe fydd rhaid i'r Aelod ddod â'i sylwadau i ben.
Maen nhw'n dod i ben nawr, achos gwnawn ni anghofio am y gwariant digon pitw wir ar chwaraeon, o ddim ond £22 miliwn y flwyddyn.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cyfrifo bod gwasanaethau cymdeithasol yn wynebu bwlch cyllid o £67 miliwn unwaith i'r £50 miliwn ychwanegol gael ei ystyried heb unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor. Mae hynny yn fater o bryder. Diolch am eich amynedd, Llywydd.
Rwyf yn siarad heddiw ar ran y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Dyraniadau cyllideb yw un o'r ffyrdd pwysicaf i Lywodraeth Cymru ddangos ei hymrwymiadau datganedig i feysydd polisi a grwpiau poblogaeth. Nid yw dyraniadau a wnaed i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc yn eithriad. Un o'n swyddi fel pwyllgor yw craffu ar y flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ariannu gwasanaethau ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc. Nid yw hyn yn ddigwyddiad unwaith y flwyddyn i ni. Rydym yn ceisio cyflwyno craffu ariannol i'n holl waith drwy gydol y flwyddyn. Rydym ni'n gwneud hyn i sicrhau ein bod ni mor glir ag y gallwn ni fod ynghylch faint o arian a roddir i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc, at ba ddiben, ac a yw'n cyflawni gwerth am arian.
Nid yw'n gyfrinach, fod gennym ni yn y pwyllgor, rai pryderon ynghylch sut y dyrennir arian ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Rydym ni'n cydnabod bod cyllid ar gyfer plant a phobl ifanc yn croesi ffiniau nifer o feysydd polisi a phortffolios. Rydym ni'n deall yr heriau y gall hyn eu cyflwyno wrth amlinellu cyllideb ddrafft. Rydym ni'n credu, serch hynny, bod llawer o waith eto i'w wneud os yw'r wybodaeth a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru am fod mor dryloyw ag y mae angen iddi fod i alluogi'r ddeddfwrfa hon i ddwyn Gweinidogion Cymru i gyfrif am eu penderfyniadau.
Ar y sail hon, roeddem ni'n falch iawn o gymryd rhan mewn gwaith arloesi newydd eleni. Fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid eisoes, fe wnaethom ni gyfarfod ar yr un pryd gydag aelodau o'r Pwyllgor Cyllid a Chydraddoldeb, a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Chymunedau i graffu ar asesiad effaith integredig strategol y Llywodraeth. Bwriadwn gyflwyno adroddiad ar y cyd ar ein canfyddiadau yn y flwyddyn newydd, i helpu i lywio'r gyllideb y flwyddyn nesaf, felly ni wnaf sôn am hynny nawr.
Fodd bynnag, ar hyn o bryd, rwyf am dynnu sylw at y ffaith bod ein pwyllgor yn credu'n gadarn bod y gallu i ddangos sut y mae hawliau plant yn llunio polisi a phenderfyniadau ariannol o'r cychwyn cyntaf yn allweddol. Er gwaethaf ein hymdrechion gorau yn y blynyddoedd diwethaf, rydym ni'n dal yn siomedig na welsom ni gynnydd mwy pendant yn y cyswllt hwn.
Fe drof yn awr at rai meysydd manwl o graffu, gan ddechrau gyda'n meddyliau ynghylch addysg. Rydym ni'n croesawu bod Llywodraeth Cymru wedi gwyrdroi ei bwriad gwreiddiol i dorri gwariant ar adnoddau addysg yn 2019-20. Rydym ni hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad mwy diweddar y bydd arian ychwanegol yn cael ei roi i awdurdodau lleol i leddfu pwysau'r gost o weithredu tâl athrawon ysgol. Fodd bynnag, fe fyddem ni'n croesawu gwybodaeth fwy manwl am yr arian ychwanegol hwn, ac rydym ni'n ceisio sicrwydd gan Lywodraeth Cymru ei bod hi'n ffyddiog y bydd y gyllideb derfynol yn ddigonol i ariannu ein hysgolion yn ddigonol.
O ran cyllid ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch, cafodd llawer o'r naratif yn y maes hwn ei lunio gan adolygiadau diweddar Diamond a Reid. Mae cyflawni argymhellion y ddau adolygiad blaenllaw hyn yn dibynnu'n helaeth ar wireddu 'difidend Diamond' fel y'i gelwir. Yn 2016, dywedwyd wrthym y byddai Diamond yn sicrhau difidend yn y dyfodol ar gyfer y sector. Eleni, fe glywsom ni na fydd y sector dan anfantais a dyna'r cwbl. Er ein bod yn cydnabod disgrifiad Ysgrifennydd y Cabinet o'r difidend fel 'gwledd symudol', roedd y newid tiwn yn peri pryder i ni. O ganlyniad, rydym ni'n credu y dylai amcanestyniadau fod ar gael ar gyfer craffu. Rydym ni'n credu hefyd y dylai adnoddau digonol fod ar gael yn y gyllideb derfynol er mwyn galluogi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ariannu ei flaenoriaethau strategol yn llawn a dechrau ariannu argymhellion adolygiad Reid. Wedi'r cyfan, mae gan ymchwil ac arloesi le sylfaenol yn 'Ffyniant i Bawb', ac maen nhw angen cyllid digonol os ydyn nhw am ddod yn ddisgwyliadau realistig ar gyfer ein sectorau addysg bellach ac uwch.
Gan droi nawr at iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau i blant, ni fydd yn syndod i'r Siambr hon glywed bod iechyd meddwl ac emosiynol ein plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth allweddol i ni. Cyflwynodd ein hadroddiad 'Cadernid Meddwl' y dystiolaeth sy'n sail i'n galwadau am adnoddau digonol yn y maes hwn. Er ein bod ni'n croesawu'r camau a gymerwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i ddechrau gweithredu ein hargymhellion, roeddem ni'n bryderus o glywed bod cyllid wedi'i glustnodi sydd yn fawr ei angen i gyflawni gweddnewidiad yn y gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i blant a phobl ifanc, yn mynd i gael ei drosglwyddo i'r cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer iechyd meddwl pob oedran. Rydym ni'n credu y dylid diogelu'r cyllid hwn ar gyfer CAMHS tan fod cymorth yn cyrraedd y lefelau gofynnol a bod canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc yn amlwg wedi gwella.
Yn olaf, Llywydd, fe drof i at blant sy'n derbyn gofal, sy'n rhai o'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Rydym ni'n ailadrodd y galwadau a wnaed yn ein hadroddiad ar gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol i sicrhau bod y grant datblygu disgyblion yn cael ei ariannu'n ddigonol i gefnogi plant wedi'u mabwysiadu a phlant sy'n derbyn gofal yn ddigonol. Rydym ni hefyd yn ceisio sicrwydd gan Lywodraeth Cymru bod y cyllid sydd ar gael i'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd yn ddigonol i gyflawni ei waith pwysig. Diolch.
Yn fy sylwadau heddiw, rwyf yn siarad ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Yn fy sylwadau, hoffwn ganolbwyntio ar effaith cyllideb Llywodraeth Cymru o ran cefnogaeth ar gyfer busnesau ac ar faterion trafnidiaeth hefyd. Er gwaethaf yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn ei ddatganiad agoriadol, ni fyddai buddsoddiadau mawr yng nghyllideb eleni, wrth gwrs, yn bosibl heb arian ychwanegol a ddyrannwyd gan Lywodraeth y DU, sy'n gwneud y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno toriadau mewn termau real ar gymorth busnes a seilwaith yng Nghymru hyd yn oed yn fwy siomedig, a byddaf yn dod at hynny yn y man.
Mae'n ymddangos bod cyllideb Llywodraeth Cymru'n gwrth-ddweud y strategaeth ar gyfer cefnogi economi Cymru. Mae gennym ni gynllun gweithredu economaidd ond dim manylion ynghylch sut y mae'r gyllideb hon yn cefnogi'r cynllun hwnnw, a dim manylion ynghylch sut y mae'r gyllideb yn cefnogi busnesau bach a chanolig neu'n tyfu cyflogaeth yng Nghymru. Cafodd ardrethi busnes eu crybwyll gan Darren Millar a Gareth Bennett. Mae rhyddhad ardrethi busnes yn parhau i fod y cynnig gwaethaf mewn unrhyw ran o'r DU, felly rwyf yn edrych ymlaen at y manylion yr wyf yn gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu eu cyflwyno i egluro sut y gellir unioni hyn.
Rwy'n pryderu'n arbennig bod cyllid refeniw Busnes Cymru ac arloesedd busnes wedi eu gostwng 41 y cant a 30 y cant, yn y drefn honno. Mae hynny yn ôl y gyllideb a gyhoeddwyd. Rydym ni ar y meinciau hyn yn credu bod angen cymorth ar y BBaCh yng Nghymru i gael cyngor ar sut i dyfu eu busnesau a chael buddsoddiad cyfalaf. Bydd y sector BBaCH, yn briodol yn fy marn i, yn iawn i fod yn siomedig fod cyllid refeniw ar gyfer dau gorff cefnogi BBaCH allweddol wedi'i dorri mor sylweddol. Yn ogystal â'r toriad o 18 y cant mewn termau real yn y cyllid refeniw ar gyfer datblygu busnes, bydd y ffydd sydd gan fusnesau bach a chanolig yn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau bach yng Nghymru yn dirywio ymhellach.
Llywydd, mae Cymru hefyd yn methu'n gyson ag arallgyfeirio ei marchnad allforion. Nawr, mae hynny'n neges yr wyf wedi ei mynegi fwy nag unwaith yn y Siambr hon, ond cafodd hyn ei grybwyll hefyd gan Paul Davies yn y ddadl yn gynharach heddiw. Bydd hyn yn cael effaith niweidiol, rwy'n credu, pan ystyriwch chi fod allforio, masnach a mewnfuddsoddi yn cael eu cwtogi mewn termau real yn ogystal â thoriad o 1.5 y cant gan y gyllideb hon. Yn dilyn Brexit, bydd yr angen i Gymru gael cyfres amrywiol o gyrchfannau ar gyfer allforio yn bwysicach nag erioed o'r blaen. Felly, dylai Cymru fod mewn sefyllfa i fanteisio ar gyfleoedd masnach ar ôl Brexit ac, o fewn y cyd-destun hwn, mae toriadau Llywodraeth Cymru i gydran hon o'r gyllideb yn ymddangos yn annoeth i mi.
Ac er gwaethaf cyhoeddiad Llywodraeth y DU o £120 miliwn ar gyfer bargen twf yn y gogledd, y soniodd Darren Millar amdani, ac ymrwymiad i gefnogi bargen twf yn y canolbarth, rwy'n pryderu bod y gyllideb ddrafft ar gyfer bargeinion dinesig a thwf wedi gostwng 1.6 y cant mewn termau real. A gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi sylwadau ynghylch hynny.
Y broblem amlwg sydd wedi’i hanwybyddu o ran y gyllideb drafnidiaeth, wrth gwrs, yw ffordd liniaru'r M4. Bydd y penderfyniad hwnnw yn creu goblygiadau difrifol ar gyfer cyllidebau yn y dyfodol ar draws amrywiaeth o bortffolios, ac nid yw wedi cael sylw o gwbl yn y gyllideb ddrafft, ac nid wyf i'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi sôn am hyn o gwbl yn ei sylwadau agoriadol, sy'n dweud llawer. Ond hwn yw'r prosiect seilwaith mwyaf y byddwn ni wedi'i weld gan Lywodraeth Cymru ac eto dim sôn amdano heddiw o gwbl.
Mae datblygu economaidd yng Nghymru yn parhau i gael ei lesteirio gan system drafnidiaeth gyhoeddus aneffeithiol. Bydd lleihau'r cyllid sydd ar gael ar gyfer datblygu seilwaith trafnidiaeth cenedlaethol yn gwneud dim ond gwaethygu'r sefyllfa. Rwy'n nodi bod toriad o 1.6 y cant i gardiau call a thoriad o 1.6 y cant i ddiogelwch ar y ffyrdd.
Felly, i gloi, Llywydd, mae'n ddrwg gennyf ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi gosod cyllideb sy'n siom fawr i ni ar yr ochr hon i'r Siambr i greu'r amodau economaidd cywir i hybu ffyniant a chynhyrchiant ledled Cymru ac adeiladu'r seilwaith sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Rydw i hefyd yn siarad fel Cadeirydd pwyllgor yma heddiw—Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
Cyfanswm y cyllidebau adnoddau yn y meysydd hyn yw £120 miliwn, ac mae cyfanswm y cyllidebau cyfalaf oddeutu £19.5 miliwn. Yn fras, mae cyllidebau adnoddau wedi aros yn wastad, tra bu rhywfaint o gynnydd yn y ddarpariaeth gyfalaf, er bod cyfanswm y symiau yn gymharol fach. Yn amlwg, nid yw'r symiau hyn mor fawr â'r rhai sy'n cael eu cwmpasu gan rai o bwyllgorau'r Cynulliad. Serch hynny, mae'r rhain yn symiau sylweddol o arian cyhoeddus ac maen nhw yr un mor bwysig.
O ran cymorth ar gyfer y celfyddydau, mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru, yr Amgueddfa a'r Llyfrgell Genedlaethol, ac mae'r cyllid hwn yn gostwng tua 2 y cant i £65.9 miliwn, tra bo cyllid cyfalaf yn cynyddu gan £5 miliwn i £10.5 miliwn. Mae hyn yn cynnwys £5 miliwn o'r cytundeb cyllideb â Phlaid Cymru i ddatblygu'r astudiaethau dichonoldeb ar gyfer oriel gelf gyfoes ac amgueddfa bêl-droed yn y gogledd, sydd eisoes wedi'i grybwyll heddiw. Ac yn y maes hwn, nid yw'r Pwyllgor wedi'i argyhoeddi bod nodau llesiant sy'n ofynnol dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn cael eu hadlewyrchu yn briodol yn y llythyrau cylch gwaith i'r prif gyrff sy'n cael eu hariannu, ac mae wedi gofyn am ragor o wybodaeth.
Roedd y Pwyllgor hefyd yn pryderu y dylai'r buddsoddiad cyfalaf yn yr Amgueddfa Genedlaethol gael ei rannu ledled Cymru ac mae wedi gofyn am fwy o wybodaeth ynghylch sut y mae cyllid cyfalaf y maes hwn yn cael ei rannu'n ddaearyddol. O ran yr oriel gelf gyfoes newydd a'r amgueddfa bêl-droed yn y dyfodol, rydym ni'n aros am y dewisiadau a ffefrir gan y Gweinidog er mwyn i fuddsoddi ddechrau yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Mae'r cymorth ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yn cynnwys cyllid ar gyfer Cadw, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a'r Comisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru, lle mae refeniw yn wastad ar £13.1 miliwn, tra bo cyllid cyfalaf yn cynyddu i £6.2 miliwn. Y llynedd, dywedwyd wrthym fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i ddarparu grantiau i berchnogion adeiladau rhestredig a henebion, gan, yn hytrach, defnyddio'r arian hwn ar gyfer gwelliannau cyfalaf i rannau cynhyrchu incwm ystâd Cadw. Y gobaith eleni oedd, y gellid darparu mwy o arian i berchnogion adeiladau rhestredig. Fodd bynnag, nid yw'n eglur o hyd os yw hyn wedi digwydd, a hoffai'r pwyllgor weld mwy o eglurder ynghylch y mater hwn, gan gynnwys i ba raddau y bydd grantiau ar gael, a'r camau a gymerir i drosglwyddo gwybodaeth am y polisi hwn.
O ran y cyfryngau a chyhoeddi, mae cymorth ar gyfer y cyfryngau a chyhoeddi yn cael ei ariannu drwy Gyngor Llyfrau Cymru, ac mae'r cyllid adnoddau a'r cyllid cyfalaf ar ei gyfer yn aros yn wastad ar £3.6 miliwn a £300,000 yn y drefn honno. Yng nghytundeb cyllideb Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru y llynedd, dyrannwyd £100,000 dros ddwy flynedd ar gyfer grantiau cychwyn ar gyfer newyddion hyperleol. Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi comisiynu ymchwil ychwanegol i ganfod ble byddai cyllid ar gyfer newyddiaduraeth hyperleol yn cael yr effaith fwyaf ac yn rhoi'r gwerth mwyaf, ac mewn gwirionedd, fe fyddem ni wir yn hoffi cael gwybodaeth yn fuan ynghylch ble mae hwnnw'n mynd gan ein bod yn cael cwestiynau oddi wrth y sector ynghylch sut y gallan nhw wneud cais mewn gwirionedd am yr arian hwnnw.
O ran symud at y Gymraeg, nododd y pwyllgor nad yw’r cyllid cyffredinol ar gyfer y Gymraeg yn y prif grŵp gwariant addysg wedi newid, gyda £38.3 miliwn wedi ei ddyrannu yn y gyllideb ddrafft. Mae’r pwyllgor yn deall y cyfyngiadau presennol ar y gyllideb, fodd bynnag, rydym ni’n pryderu os bydd lefel y gyllideb yn aros yr un fath,na fydd modd gwneud digon o gynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru, sef 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn benodol, rydym ni'n pryderu nad yw targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu darpariaeth addysg Gymraeg y blynyddoedd cynnar yn ddigon uchelgeisiol i helpu i gyrraedd y targed cyffredinol erbyn 2050.
O ran cyllid i Gomisiynydd y Gymraeg, mae'r ffordd y mae dyraniad y gyllideb i Gomisiynydd y Gymraeg yn cael ei gyflwyno yn anfoddhaol, yn ein barn ni. Nid oedd yn glir a oedd arian ychwanegol wedi'i ddyrannu ar gyfer y broses o drosglwyddo'r awenau i'r comisiynydd newydd sy'n cael ei benodi. Yn yr un modd, hoffai'r pwyllgor gael ymrwymiadau mwy cadarn y bydd Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo unrhyw gostau sy'n codi o weithgarwch tribiwnlys na all y comisiynydd eu talu o gronfeydd wrth gefn. Roedd y broses o gytuno ar gynigion y gyllideb â'r comisiynydd hefyd yn bell o fod yn glir, ac rydym wedi gofyn am fanylion y negeseuon rhwng y Gweinidog, y swyddogion a'r comisiynydd. Yn benodol, hoffai'r pwyllgor wybod amseriad a natur diwygiadau'r comisiynydd i'w chyllideb.
Roedd y pwyllgor hefyd yn pryderu y gallai Bil newydd arfaethedig y Gymraeg fod yn rhwystro agweddau ar drefniadau safonau'r Gymraeg. Dyma pam yr hoffem gael ymrwymiad llawer mwy cadarn gan Lywodraeth Cymru ynghylch pryd y caiff Bil y Gymraeg ei gyflwyno, fel na fydd sefydliadau masnachol, megis cyfleustodau cyhoeddus, yn defnyddio diffyg safonau'r Gymraeg fel esgus i leihau neu ohirio eu darpariaeth Gymraeg.
Llywydd, rydym wedi mynd yn weddol glou drwy'r holl sgrwtini yn y fan hyn. Mae yna fwy o bethau, yn siŵr, sydd wedi dwyn golwg y pwyllgor, ond rydw i'n credu ei bod hi'n bwysig i ni roi beth oedd y pwyllgor wedi gwneud ger bron y Senedd. Er bod lot o bobl ddim, efallai, yn gweld gwerth diwylliant a'r celfyddydau ym myd y gyllideb, mae'n bwysig, bwysig iawn fod hynny yn cael ei flaenoriaethu, er mwyn sicrhau bod y pethau hynny sydd yn rhan annatod o'n cenedl ni yno yn parhau i'r dyfodol, ac yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru.
Rwy'n siarad fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ac fel yr ydym wedi clywed eisoes, yr oedd yn dda iawn i dri phwyllgor—fy mhwyllgor i; Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Lynne Neagle; a Phwyllgor Cyllid Llyr—gyfarfod ar y cyd ac ar yr un pryd i edrych ar ddull Llywodraeth Cymru o weithredu asesiadau effaith unigol ac integredig. Yr oedd yn ymarfer gwerthfawr, Llywydd, ac fe'i galluogodd inni dynnu ar waith craffu o wybodaeth a phrofiad y tri phwyllgor, a gobeithio y bydd cyhoeddiad ein canfyddiadau ar y cyd yn y flwyddyn newydd yn helpu i lywio paratoadau cyllideb nesaf y Llywodraeth yn 2019 a thu hwnt. Rwy'n gobeithio y bydd y cyntaf o lawer o enghreifftiau o bwyllgorau yn dod ynghyd i graffu ar faterion sy'n croesi ffiniau portffolios pwyllgorau.
Roedd llawer o'n gwaith craffu cyffredinol ar y gyllideb, Llywydd, yn canolbwyntio ar brif grŵp gwariant llywodraeth leol. Hwnnw yw'r prif grŵp gwariant mwyaf heblaw am brif grŵp gwariant iechyd, a bu'n bwyslais llawer iawn o ddiddordeb y tu mewn a'r tu allan i'r Siambr. Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn eglur yn ei thystiolaeth ar ôl cyfnod maith o gyni, y byddai rhagor o doriadau cyllid yn effeithio'n fwy amlwg ar wasanaethau statudol megis ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol, ac un o'r heriau penodol ar gyfer y gyllideb fyddai'r costau gweithlu cynyddol yn sgil dileu'r rhewi ar gyflogau'r sector cyhoeddus. Felly, rydym ni'n croesawu'r arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i helpu i dalu'r cynnydd mewn cyflogau athrawon, ond rydym yn dal i fod yn aneglur a fydd y £15 miliwn ychwanegol sy'n cael ei rannu yn y flwyddyn ariannol gyfredol a'r flwyddyn nesaf yn ddigon ar gyfer y cynnydd llawn.
Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl inni ddangos ein tystiolaeth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol. Roeddem ni'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn ymateb i alwadau gan awdurdodau lleol i godi'r cyllid gwaelodol ac i gynyddu'r cyllid i ddarparu setliad sefydlog arian parod. Ond er y croesewir yr arian ychwanegol hwn, rydym yn cydnabod bod hyn yn dal i fod yn ostyngiad mewn cyllid mewn termau real, ac mae awdurdodau lleol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn cydnabod pwysigrwydd trawsnewid gwasanaeth, i roi gwasanaethau ar sylfaen fwy cynaliadwy yn y cyfnod hir hwn o gyni. Rydym ni'n credu ei bod yn bwysig bod awdurdodau lleol yn cael eu cefnogi i helpu i gyflwyno'r ffyrdd newydd hyn o weithio a fydd, gobeithio, yn diogelu gwasanaethau pwysig a gwerthfawr.
Llywydd, rydym ni'n croesawu hefyd y diffiniad newydd o atal yng nghylch cyllideb eleni, ond nid oedd yn glir o'r dystiolaeth a glywsom ynglŷn â sut yr oedd y diffiniad hwn wedi llywio dyraniadau'r gyllideb. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn gliriach mewn cylchoedd cyllideb yn y dyfodol.
Wrth symud ymlaen at dai, rydym yn falch, yn dilyn y gwerthusiad o'r prosiectau braenaru, bod y Llywodraeth wedi penderfynu peidio ag uno'r grantiau sy'n gysylltiedig â thai yn un grant ochr yn ochr ag arian ymyrryd yn gynnar arall. Rydym yn nodi bod y penderfyniad hwn yn ystyried y pryderon a godwyd gan randdeiliaid.
Rydym ni hefyd yn croesawu'r £10 miliwn ychwanegol a fydd ar gael yn y gyllideb hon i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc, ond rydym yn pryderu bod y gyllideb ddrafft yn cynnig dyraniadau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 yn unig, ac nid mewn cyllidebau dilynol. Rydym ni o'r farn, er mwyn dileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc, bod angen ymrwymiad cyllidebol amlwg ar gyfer blynyddoedd y dyfodol, o leiaf, sy'n cyfateb i'r lefelau cyllid yn y gyllideb hon. Llywydd, diolch yn fawr.
Nid wyf i'n credu bod y gyllideb hon yn diwallu anghenion Cymru. Dyma gyllideb arall lle mae'r Llywodraeth yn gwneud dim mwy na symud arian o gwmpas. Mae hon hefyd yn Llywodraeth sy'n fodlon—ac yn wir, Plaid Lafur Cymru sy'n fodlon—gadael y penderfyniadau mawr am Gymru i wleidyddion etholedig yn Lloegr yn Senedd San Steffan.
Yr hyn sydd gennym ni yma yw Llywodraeth Lafur sy'n defnyddio San Steffan, a gwleidyddion Ceidwadol yn arbennig, bron fel cerdyn gadael y carchar i fwrw bai, oherwydd nid ydych chi bobl eisiau'r pŵer, nid ydych chi eisiau'r cyfrifoldeb o newid Cymru mewn gwirionedd, ac eto rydych chi'n fodlon rhoi'r bai ar y Ceidwadwyr yn San Steffan.
Byddaf yn datgan buddiant yma yn awr fel cynghorydd sir, oherwydd rwyf i'n wirioneddol o'r farn bod llywodraeth leol yn cael ei thrin yn wael—yn wael gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Mae pwysau enfawr ar gynghorau. Toriadau gwirioneddol. Canolfannau ieuenctid gwirioneddol yn cau, swyddi gwirioneddol yn cael eu colli. Rwy'n ymddiheuro i'r Aelodau Cynulliad Llafur sy'n edrych ar eu ffonau symudol yn lle gwrando ar y ddadl hon. Efallai, Llywydd, y gallem ni gael ychydig mwy o gwrteisi yn y Siambr hon.
A phresenoldeb. [Chwerthin.]
Yn hollol. Mae pwysau enfawr, fel y dywedais i, ar lywodraeth leol. Pobl wirioneddol yn colli swyddi gwirioneddol, a beth sydd gennym ni yn y fan yma?
Beth sydd gennym ni mewn gwirionedd, Ysgrifennydd y Cabinet? Mae gennym ni haelioni Llafur. Mae gennym ni symiau enfawr o arian, rhai sylwadau craff, ond symiau enfawr o arian wedi'u colli i'r pwrs cyhoeddus. Bargen tir Llys-faen, £39 miliwn; Cylchdaith Cymru, £10 miliwn; dwy siop fach ym Mhontypridd, £1 miliwn wedi'i golli gan y Llywodraeth Lafur hon. Arian sydd wedi'i daflu at brosiectau heb eu bod nhw hyd yn oed yn digwydd. Nid ydyn nhw'n digwydd. Faint o arian sydd wedi'i wario ar y llwybr du? Enillodd Arup ei hun, rhwng 2010 a 2015, £7.5 miliwn. Mae hynny'n anghredadwy.
Mae'n anhygoel.
Y dreth ystafell wely. Cymru yw'r unig genedl ddatganoledig lle mae'n rhaid i'r rhai mwyaf agored i niwed dalu'r dreth ystafell wely. Cafodd yr SNP yn yr Alban wared arno. Yng Ngogledd Iwerddon nid ydyn nhw'n talu'r dreth ystafell wely. Ac mae'n gywilyddus. Ac rwy'n dweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet: ble mae eich sosialaeth yr unfed ganrif ar hugain pan fyddwch yn caniatáu i bobl Cymru dalu treth mor ofnadwy? Pam nad ydych chi'n diddymu'r dreth ystafell wely yng Nghymru? Gallech chi wneud hynny drwy beidio â gwneud penderfyniadau gwleidyddol gwael sy'n costio cymaint o arian i bawb. Mae'n costio ffortiwn.
Hoffwn i ychwanegu un syniad at y cymysgedd, sef y syniad o ddatganoli pŵer i lywodraeth leol i gyflwyno ardoll treth gwely ar gyfer twristiaid. Os ydych chi'n ymwelydd â'r ddinas hon, er enghraifft, ac rydych chi'n talu £150 y noson, fel y mae llawer yn ei wneud, am wely, am ystafell mewn gwesty, nid fydd £1 neu £2 yn gwneud gwahaniaeth mawr mewn gwirionedd. Ac rwy'n dweud wrth Aelodau'r Cynulliad i'r dde ohonof i—yn wleidyddol i'r dde ohonof i, yn fan yna, gyda llaw, y bobl Lafur—byddai ardoll o £2 yng Nghaerdydd yn codi £4 miliwn—£4 miliwn y flwyddyn. A'r hyn sydd gennym ni wedyn yw Llywodraeth â phŵer, a byddwn i'n dweud wrthych i'w ddefnyddio ac i alluogi llywodraeth leol i godi refeniw. Un peth y gellid ei wneud wedyn yw dileu'r dreth ystafell wely.
Yn gyffredinol, mae hon yn gyllideb luddedig mewn gwirionedd gan Lywodraeth luddedig iawn. Byddaf i'n pleidleisio yn ei herbyn.
Yn olaf, Rhianon Passmore.
Diolch, Llywydd. Mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru eleni yn gam hynod o bwysig yn y broses ddatganoli. Dyma'r flwyddyn gyntaf y bydd refeniw a godir o gyfraddau treth incwm newydd Cymru yn cael ei gynnwys yng nghyllideb Cymru, ar ôl cyflwyno'r trethi hynny ym mis Ebrill 2019. Fodd bynnag, mae'r cam pwysig hwn yn y broses ddatganoli yn digwydd yng nghyd-destun y cyni tywyllaf mewn Llywodraeth. Mae Llafur wedi gwneud pob dim yn ei gallu i amddiffyn Cymru rhag effeithiau gwaethaf y toriadau hyn, trwy ddiogelu gwasanaethau rheng flaen, a bydd yn parhau i wneud hyn. Mae hyn yn cynnwys y gyllideb Cefnogi Pobl, cynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor, bwrsarïau hyfforddi nyrsys, Dechrau'n Deg a llawer mwy yn wyneb Brexit a thynnu cyllid Ewropeaidd o Gymru. Nid yw'r gyllideb ddrafft hon yn eithriad.
Er gwaethaf y pwysau difrifol ar Lywodraeth Cymru, mae'n parhau i gyflenwi mwy na £500 miliwn yn ychwanegol ar gyfer ein gwasanaeth iechyd, £50 miliwn yn fwy ar gyfer gofal cymdeithasol, £15 miliwn ar gyfer ysgolion a £12.5 miliwn i helpu i fynd i'r afael â thlodi plant. Ond mae hi'n briodol pwysleisio pa mor anodd yn wir yw cyllidebau gwarchodedig yr awdurdodau lleol hyd yn oed, o ganlyniad i doriadau y DU i Gymru, a byddaf i'n parhau i groesawu symiau canlyniadol a blaenoriaethu llywodraeth leol a darpariaeth eu gwasanaethau rheng flaen. Serch hynny, mae buddsoddiad y Llywodraeth hon sydd gennym ni yng Nghymru yn parhau i ddiwallu anghenion pobl Cymru, er bod angen rhagor o gyllid tecach i Gymru arnom ni, a byddaf i'n parhau i alw am hyn. Rwy'n credu bod fy nghyfaill, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, wedi gwneud gwaith rhyfeddol i ddarparu cymorth mor hanfodol ledled ein gwasanaethau cyhoeddus dan amgylchiadau mor anodd.
O ran y Ceidwadwyr, yn wir maen nhw'n rhai da am eistedd yn y Siambr hon a mynnu mwy ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus, wrth i'w cyfeillion yn San Steffan orfodi toriadau ar ein cyllidebau yng Nghymru. Mae'n rhyfeddol. Mae yn fy syfrdanu i, o un wythnos i'r llall, maen nhw'n gofyn i ni wneud mwy gyda llawer llai, a rhagrith eithriadol yw hynny nad oes terfyn arno. Ymddengys fod y Torïaid wedi ymbellhau'n gwrtais o'u dewis gwleidyddol nhw eu hunain i gefnogi'r cyni honedig y mae eu cydweithwyr yn San Steffan yn ei wneud, ac y maen nhw'n ei osgoi, yn ei anwybyddu ac yn troi eu llygaid oddi arno yma yng Nghymru.
Ond rwy'n dymuno canolbwyntio ar y buddsoddiad cadarnhaol i Gymru y mae'r gyllideb hon yn ei ddarparu, yn ogystal â'r cyllid ychwanegol rwyf i wedi'i grybwyll eisoes. Hoffwn i groesawu'n arbennig y £7 miliwn a fuddsoddwyd ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd. Bydd hyn yn rhoi hwb hollbwysig i dwristiaeth, yn denu mwy o ymwelwyr i Gymoedd y de yr ydym ni mor falch ohonyn nhw, gan gynnwys safleoedd fel Coedwig Cwmcarn yn fy etholaeth i fy hun.
I gloi, Llywydd, mae'r gyllideb hon yn darparu cymorth y mae ei dirfawr angen ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus, ac wrth i ni ddathlu pen-blwydd ein GIG yn saith deg mlwydd oed, y gwrthwynebodd y Torïaid ei greu, rwy'n credu y byddai Nye Bevan yn falch ein bod ni yng Nghymru yn buddsoddi ynddo yn y fan yma'n awr. Yr hyn sy'n gwneud hyn fwy rhyfeddol yw ein bod yn cyflawni'r buddsoddiad hwn er gwaethaf y ffaith y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn parhau i fod 5 y cant yn llai yn 2019-20 nag yr oedd yn 2010-11, sy'n cyfateb i £850 miliwn—llawer iawn llai i'w wario ar ein holl wasanaethau cyhoeddus mewn termau real.
Ac er gwaethaf honiad y Canghellor, yn groes i'r holl dystiolaeth, fod cyni wedi dod i ben, ni fyddaf i byth yn derbyn darlithoedd neu wersi gan y Torïaid ar ein cyllideb wrth iddyn nhw barhau i dangyllido ein gwasanaethau cyhoeddus a'n cyllideb ar gyfer Llywodraeth Cymru. Ac wrth iddyn nhw droi eu pen ac wrth i ni lywodraethu â llai, ac wrth iddyn nhw ar yr un pryd ddod o hyd i £1,000 miliwn i'w daflu i Ogledd Iwerddon gan anwybyddu dinasyddion Cymru, rwyf yn cymeradwyo gwaith yr Ysgrifennydd dros gyllid i ddarparu cyllideb sy'n ymdrechu o dan yr amgylchiadau anoddaf i ddiwallu anghenion holl bobl Cymru. Mae'n bryd i'r Torïaid gamu i'r adwy a darparu i Gymru yr hyn y maen nhw wedi'i ddarparu i Ogledd Iwerddon. Rwy'n byw mewn gobaith, ac yn gobeithio am etholiad cyffredinol. Diolch.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddechrau trwy ddiolch yn arbennig i Gadeiryddion pwyllgorau'r Cynulliad am gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma.
Mae'n gam pwysig iawn wrth graffu ar y gyllideb ein bod yn clywed gan ein holl bwyllgorau, fel y dywedodd Bethan Sayed—cyfle i ganolbwyntio ar y rhannau hynny o'r gyllideb nad ydyn nhw'n cael llawer o sylw yn aml yma ar lawr y Cynulliad, ond sy'n wirioneddol bwysig iawn ym mywyd ehangach Cymru.
Rwyf am sôn am bedwar mater a gafodd eu crybwyll, rwy'n credu, dro ar ôl tro yn yr hyn a ddywedodd y Cadeiryddion. Yn gyntaf, pryder am gyflogau, rwy'n ei rannu. Polisi Llywodraeth Cymru, Llywydd, fu hyn: pryd bynnag gawn ni arian gan Lywodraeth y DU i gyfateb i setliadau cyflog y maen nhw wedi eu cytuno, rydym ni'n ei drosglwyddo ar unwaith i'r sefydliadau sy'n gyfrifol am dalu hynny. Yn sicr bu hynny'n wir am gyflogau athrawon, wedi'i ategu eleni a'r flwyddyn nesaf gan £7.5 miliwn ychwanegol o'n harian ni i wneud yn siŵr bod awdurdodau lleol yn gallu cyflawni eu cyfrifoldebau yn y maes hwnnw, a dyna'n union beth yr ydym ni'n disgwyl i'r arian hwnnw ei wneud.
Soniodd John Griffiths am bensiynau yn ei gyfraniad ef, ac o'r holl bethau yr ydym ni wedi'u crybwyll y prynhawn yma, Llywydd, dyna fy mhryder mwyaf fel eich Gweinidog Cyllid. Mae Llywodraeth y DU wedi newid y rheolau o ran cyfraniadau pensiwn, a bydd hynny'n golygu y bydd gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru yn cael bil mawr iawn y bydd yn rhaid iddyn nhw ei dalu yn ychwanegol at unrhyw beth yr oedden nhw'n cynllunio ar ei gyfer, neu wedi gallu dylanwadu arno. Mae Llywodraeth y DU yn dweud ei bod yn darparu arian i dalu'r costau hynny, ond nid ydym ni wedi gweld eto faint o hynny fydd yn dod i Gymru, ac nid ydym ni wedi gweld eto faint o'r biliau hynny sydd gennym ni i'w talu y bydd y cyllid hwnnw yn eu hariannu. Nawr, rwy'n dweud unwaith eto y prynhawn yma y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel blwch postio yn unig o dan yr amgylchiadau hynny. Bydd unrhyw arian a gawn ni yn mynd yn uniongyrchol i'r gwasanaeth iechyd, i awdurdodau lleol ar gyfer pensiynau athrawon, i'r gwasanaeth tân, i addysg bellach, ac ati. Ond os na fydd Llywodraeth y DU yn talu'r costau hynny y mae wedi'u creu, yna mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelodau yn y Siambr hon: nid oes unrhyw swm o arian wedi'i neilltuo yn ein cyllideb y byddwn yn gallu ei ddefnyddio i achub croen Llywodraeth y DU yn y sefyllfa honno. Yn wir, fel yr eglurais i'r Pwyllgor Cyllid wrth roi tystiolaeth yno, byddaf i'n mantoli'r gyllideb flwyddyn nesaf dim ond trwy ddefnyddio arian o gronfa wrth gefn Cymru. Rwy'n gallu gwneud hynny oherwydd ein bod ni wedi rheoli'r cronfeydd wrth gefn yn ofalus. Ond er mwyn parhau i wneud pob dim yr ydym ni'n dymuno ei wneud, i'r graddau y gallwn ni, rydym yn dibynnu ar wario mwy o arian nag sydd gennym ni flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac nid oes unman arall i fynd os cawn ni fil am bensiynau nad oes gennym ni unrhyw gyfrifoldeb drostyn nhw a heb allu gwneud darpariaeth.
Trydedd thema y mae Cadeiryddion y pwyllgorau wedi sôn amdani yw atal. Rwy'n ddiolchgar am yr hyn y mae'r Aelodau wedi'i ddweud am ddefnyddioldeb y diffiniad ac rwy'n cytuno â'r hyn sydd wedi'i ddweud am wneud yn siŵr ein bod ni nawr yn symud ymlaen i fireinio'r diffiniad a'i ddefnyddio yn fwy wrth dynnu gwariant i lawr yr hierarchaeth y mae'r diffiniad yn ei darparu, er mwyn i ni wario mwy, yn y pen draw, ar drefniadau atal sylfaenol nag yr ydym ni'n ei wneud heddiw.
Rwy'n falch iawn o glywed yr hyn a ddywedodd y Cadeirydd am gyfarfodydd pwyllgor ar y cyd. Mae arweinydd y tŷ a minnau wedi bod i gyfarfod o'r fath, a oedd yn craffu ar faterion cydraddoldeb yn y gyllideb, ac rwy'n edrych ymlaen at dderbyn canlyniad y gwaith hwnnw.
Llywydd, a gaf i ddweud, mewn ffordd mor hynaws ag y gallaf, fod pawb yn fy myd i yn dymuno siarad â mi ynghylch cyllidebau trawsbynciol; mae pawb yn eithaf awyddus i wneud yn siŵr bod eu cyllideb eu hunain wedi ei hamddiffyn. Synhwyrais eithaf tipyn o hynny yn yr hyn yr oedd Cadeiryddion y pwyllgorau yn ei ddweud unwaith eto. Mae'n ddealladwy—mae Cadeiryddion pwyllgorau yn gyfrifol am faes, maen nhw wedi ymrwymo'n angerddol i'r maes hwnnw, a gall pawb weld bod mwy y gallem ei wneud, ond yr unig ffordd o gael cyllidebau trawsbynciol yw os bydd pawb yn fodlon rhoi ychydig o'r hyn sydd ganddyn nhw i allu gwneud y gwaith ehangach hwnnw.
A gaf i droi at beth ddywedodd Llyr Huws Gruffydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid? Roedd e'n cyfeirio at yr anawsterau yn ein proses ni pan mae cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn torri ar draws y broses o graffu ar ein cyllideb ni yma yn y Cynulliad. Ond fel mae'r pwyllgor wedi awgrymu ac rydym ni i gyd wedi cytuno, mae'n well inni ddelio gyda'r anawsterau yna a rhoi'r wythnosau rydym ni'n gallu eu rhoi i'r pwyllgorau i wneud y gwaith craffu pwysig yma. Diolch i Llyr am beth y dywedodd e am y gwaith ar hyn o bryd rydym ni wedi'i wneud i baratoi am dalu treth incwm yma yng Nghymru fel trethdalwyr Cymreig. Wrth gwrs, mae'r broses yn heriol, fel y dywedodd yr OBR wrth y pwyllgor, ond rydym ni'n gwneud ein gorau glas i baratoi'r tir am y cyfrifoldebau newydd yma yng Nghrymu.
Gadewch i mi droi, os caf i, Llywydd, at yr hyn y mae llefarwyr pleidiau unigol wedi'i ddweud. Rwy'n ddiolchgar i Rhun ap Iorwerth am y gwaith yr ydym yn parhau i'w wneud ar y cyd ar y cytundeb a wnaed rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru. Rwy'n falch o allu gwneud rhagor o fuddsoddiadau ar y cyd-agenda honno heddiw. Canolbwyntiodd Llyr ar lywodraeth leol, a siaradwyr eraill hefyd. Rwy'n credu y byddwn i'n disgrifio £140 miliwn yn ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Leol fel ychydig yn fwy na newid bach i'w cyllideb, er fy mod i'n cydnabod, wrth gwrs, bod pwysau gwirioneddol iawn yn ein hawdurdodau lleol yn y nawfed flwyddyn o gyni parhaus.
Cyfeiriodd Jane Hutt at waith Prifysgol Caergrawnt a ddywedodd, ar y diwrnod y cyflwynodd fy nghyd-Aelod Alun Davies y setliad dros dro, ein bod ni wedi defnyddio dull gwahanol iawn yma yng Nghymru o geisio amddiffyn llywodraeth leol rhag effeithiau gwaethaf cyni.
Dylwn i droi at yr hyn a ddywedodd Darren Millar. Yn anffodus, roedd y cyfraniad yn llawn cyfraniadau a oedd ymhell o'r ffeithiau. Rhoddais ffigurau—[Torri ar draws.] Rhoddais ffigurau i'w gyd-Aelod Nick Ramsay—hynny yw, dewch â Nick Ramsay yn ôl—a oedd yn dangos, mewn termau real, mai £17,169 miliwn oedd ein cyllideb yn 2010-11, a £16,357 miliwn fydd ein cyllideb mewn termau real y flwyddyn nesaf. Dyna pam y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol fod y gyllideb sydd ar gael i'r gyllideb hon £850 miliwn yn llai nag y byddai wedi bod pe bai ein cyllideb wedi cadw'r—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
A ydych chi'n derbyn mai hon yw'r gyllideb fwyaf mewn termau arian parod y mae eich Llywodraeth wedi'i chael i'w gwario erioed yn hanes datganoli?
Darren, yn union fel y mae'r gyllideb ar gyfer llywodraeth leol y fwyaf erioed mewn termau arian parod, yn union fel y mae'r gyllideb ar gyfer y gwasanaeth iechyd y fwyaf erioed mewn termau arian parod, yn union fel y mae'r gyllideb ar gyfer tai y fwyaf erioed mewn termau arian parod—pob un y gwnaethoch chi ddweud wrthyf i eu bod wedi'u torri mewn termau real. Felly, rydych chi'n gwybod, ac mae'r Aelodau o amgylch y Siambr yn gwybod bod ein cyllideb, mewn termau real, yn llai nag yr oedd ddegawd yn ôl, er gwaethaf yr holl anghenion ychwanegol yr ydym ni'n gwybod sydd yng Nghymru.
Mae gan unrhyw Aelod o'r Cynulliad hwn, Llywydd, yr hawl i ofyn am wario mwy o arian ar unrhyw faes, ond ar adeg pan fo'n holl arian wedi'i ymrwymo, does dim awdurdod gwirioneddol gan y ceisiadau hynny oni bai pan fo rhywun yn fodlon dweud o ble y byddai'r arian hwnnw'n dod, oherwydd nid oes unrhyw arian heb ei ymrwymo i'w ddefnyddio. Felly, pan ddywedodd Darren wrthyf i nad oeddem ni wedi gwneud digon ar gyfer ardrethi busnes, nad oeddem ni wedi gwneud digon ar gyfer prynwyr tai tro cyntaf, nad oeddem ni wedi gwneud digon ar gyfer iechyd, nad oeddem ni wedi gwneud digon ar gyfer llywodraeth leol, nad oeddem ni wedi gwneud digon ar gyfer addysg bellach—ac mae hynny cyn i'w gyd-Aelodau ddweud nad oeddwn i wedi gwneud digon ar gyfer tai, nad oeddwn i wedi gwneud digon ar gyfer trafnidiaeth, ac nad oeddwn i wedi gwneud digon ar gyfer seilwaith—o ble maen nhw'n credu y mae'r arian yn dod ar gyfer yr holl bethau hynny y bydden nhw'n hoffi i ni eu gwneud? Wel, gallaf i ddweud wrthych chi y bydd yn dod gan y Llywodraeth Lafur nesaf yn y DU, ac wedyn bydd gennym ni gyllideb o'r fath y byddwn yn gallu ei defnyddio i roi sylw i anghenion Cymru.
Llywydd, cyllideb ddrafft yw hon sy'n diwallu anghenion pobl Cymru. Mae'n gyllideb ddrafft sy'n rhoi dewis amgen gwirioneddol i'r polisi cyni niweidiol sy'n trechu ei fwriad ei hun. Mae'n gyllideb ddrafft sy'n rhoi sefydlogrwydd yn wyneb yr ansicrwydd ynghylch Brexit. Mae'n gyllideb sy'n pwysleisio ein nod o greu Cymru ffyniannus, iach, uchelgeisiol ac unedig. Mae'n gyllideb rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad yn ei chymeradwyo y prynhawn yma, ac rwy'n cyflwyno cynnig y gyllideb i chi.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.