Part of the debate – Senedd Cymru am 6:31 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
Mi fydd Aelodau'n gwybod, wrth gwrs, fy mod i wedi cael fy mhenodi'n Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn gynharach y tymor yma, ac felly mae hwn wedi bod yn brofiad newydd i fi, ac mae craffu ar y gyllideb ddrafft wedi bod yn gyflwyniad diddorol iawn, gawn ni ddweud, i waith y Pwyllgor Cyllid.
Wrth gwrs, mi newidiwyd y ffordd y mae'r gyllideb ddrafft yn cael ei chraffu arni y llynedd, a dyma'r ail dro i'r Pwyllgor Cyllid gynnal gwaith craffu ar lefel uwch a strategol, gan edrych ar gynlluniau cyffredinol o ran gwariant a chodi refeniw. Fel rhan o'n gwaith craffu, fe wnaethon ni ystyried amseriad y gyllideb ddrafft, fel rŷm ni wedi clywed yn sylwadau agoriadol yr Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r pwyllgor yn cydnabod y gallai cyhoeddi cyllideb ddrafft Cymru cyn cyllideb y Deyrnas Unedig achosi anawsterau. Unwaith y mae cyllideb y Deyrnas Unedig yn cael ei chyhoeddi, gall arwain at newidiadau yn y dyraniadau rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, ac at fwy o newidiadau yn ystod y flwyddyn—in-year changes. Fodd bynnag, fe gytunwyd bod yr arfer presennol o gyhoeddi'r gyllideb ddrafft yng Nghymru cyn datganiad yr hydref gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn well er mwyn osgoi oedi yn y gwaith craffu. Rwy'n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn ein hargymhelliad ni, ond wrth gwrs mi fyddwn ni yn parhau i adolygu'r trefniadau wrth fynd yn ein blaenau.
Mae ein hadroddiad ni yn gwneud cyfres o argymhellion, a byddaf yn ymdrin yn fyr â rhai o'r rhai amlycaf yn fy nghyfraniad i'r ddadl yma y prynhawn yma. Dyma, wrth gwrs, y gyllideb ddrafft gyntaf ar ôl cyflwyno cyfraddau treth incwm Cymru, sy'n foment gyffrous a moment hanesyddol i ddatganoli. Fe glywon ni gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi am y gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau y byddan nhw'n barod erbyn 1 Ebrill, ac ar y cyfan, mae'n ymddangos bod y gwaith ar amser ac yn symud ymlaen yn dda. Erbyn hyn, dylai pawb sydd yma heddiw fod wedi derbyn llythyr yn rhoi gwybod iddyn nhw am eu statws fel trethdalwyr Cymreig, ond rŷm ni yn cydnabod ar yr un pryd, wrth gwrs, fod gan Gymru ffin ddeinamig, gyda thua 100,000 o bobl yn mudo yn ôl ac ymlaen bob blwyddyn. Felly, bydd monitro trethdalwr Cymru yn effeithiol yn hanfodol, ac rŷm ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn monitro'r cynnydd sy'n cael ei wneud yn y broses yna o nodi trethdalwyr Cymreig wrth inni fynd yn ein blaenau. Mi gafodd y pwyllgor sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet fod Llywodraeth Cymru yn talu am y gwaith yma, a'i fod e'n glir ynghylch y gwasanaeth a ddisgwylir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Roedd y pwnc o ragweld—'forecast-io'—refeniw treth yn y dyfodol hefyd yn peri pryder i'r pwyllgor. Yn yr Alban, wrth gwrs, rŷm ni wedi clywed sut roedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yr OBR, a Chomisiwn Cyllidol yr Alban wedi goramcangyfrif yr incwm o £700 miliwn a £500 miliwn, yn y drefn honno. Mi ofynnwyd i'r OBR a allai hyn ddigwydd yng Nghymru, ac fe ddywedwyd y bydd mwy yn cael ei ddysgu pan fydd y wybodaeth o'r arolwg cyntaf o incwm personol ar gael, tra dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthym ni fod y rhesymau dros y goramcangyfrif yn yr Alban yn parhau yn anhysbys.