Part of the debate – Senedd Cymru am 7:25 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Mae gennym bryderon dwfn o ran a fydd y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol yn gallu cyflawni hyn o ystyried y pwysau o ran galw a chostau a nodwyd a methiant parhaus mwyafrif y byrddau iechyd i fantoli'r cyfrifon. Rydym ni'n croesawu'r £100 miliwn sydd ar gael drwy'r gronfa trawsnewid ar gyfer y prosiectau braenaru, ond rydym ni wedi gofyn am sicrwydd y bydd y defnydd o'r gronfa hon a'i heffaith yn cael eu monitro’n effeithiol, yn enwedig o ran defnyddio'r gronfa i gefnogi prosiectau sy'n wirioneddol drawsnewidiol ac mae'n bosibl eu cynyddu mewn maint, a bod ceisiadau iechyd meddwl ac iechyd corfforol yn cael yr un ystyriaeth. Mae gennym bryder difrifol ynghylch lefel y cyllid ar gyfer gofal sylfaenol. O ystyried y ffocws polisi ar symud gofal allan o ysbytai, byddem wedi disgwyl gweld cynnydd sylweddol yn lefel y gwariant ar ofal sylfaenol, ac mae'r dystiolaeth a ddaeth i law yn dangos nad yw hyn yn digwydd. Credwn fod hyn yn dangos yr heriau sy'n wynebu byrddau iechyd wrth drawsnewid gwasanaethau, o ystyried y pwysau parhaus y maent yn ei wynebu yn y sector acíwt. O gofio mai'r bwriad a nodwyd yn 'Cymru Iachach' yw cynnig gwasanaethau ym maes gofal iechyd sylfaenol a chymunedol, rydym ni'n bryderus iawn na fydd yr arian arfaethedig ar gyfer gofal sylfaenol yn ddigonol i gefnogi'r amcan hwn.
Gan droi at y sefyllfa ariannol y bwrdd iechyd, fel rhan o graffu ar y gyllideb y llynedd, gwnaethom geisio archwilio'n fanwl sefyllfa ariannol y byrddau iechyd lleol yng Nghymru. Ar y pryd, gwnaethom nodi ein siom nad oedd holl gyrff y gwasanaeth iechyd wedi llwyr wireddu uchelgeisiau Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014, a bod pedwar o'r saith o fyrddau iechyd lleol wedi adrodd diffyg yn o leiaf un o'r tair blynedd blaenorol. Achos penodol o bryder oedd bod Betsi Cadwaladr a Hywel Dda wedi adrodd diffyg ym mhob un o'r blynyddoedd o 2014-15 i 2016-17.
Nodwn fod cynnydd wedi'i wneud gan fyrddau iechyd penodol. Fodd bynnag, cawsom ein siomi gan fethiant parhaus nifer o fyrddau iechyd i reoli eu cyllidebau, ac rydym ni am geisio deall y rhesymau y tu ôl i'r anawsterau parhaol mewn rhai byrddau iechyd. Credwn ei bod yn hynod bwysig deall i ba raddau y gallai hyn fod o ganlyniad i faterion rheoli ar lefel bwrdd iechyd unigol, neu i ba raddau y mae eu dyraniadau cyllid yn gyfrifol am hyn.
Wrth droi at iechyd meddwl, mae cynigion manwl cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 yn pwysleisio mai iechyd meddwl yw'r maes unigol mwyaf o wariant gan y gwasanaeth iechyd. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwario £675 miliwn ar wasanaethau iechyd meddwl yn 2019-20, ac mae £20 miliwn ychwanegol yn cael ei ddarparu yn y gyllideb ddrafft hon ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl fel rhan o'r cytundeb ar y cyllid dros ddwy flynedd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Gwyddom fod byrddau iechyd eisoes yn gwario mwy ar iechyd meddwl na'r dyraniad a neilltuwyd. Fodd bynnag, rydym ni'n ymwybodol o'r galw cynyddol am wasanaethau iechyd meddwl, ac rydym wedi ein hargyhoeddi gan awgrym conffederasiwn gwasanaeth iechyd Cymru y gall lefel y galw wasanaethau iechyd meddwl fod yn sylweddol uwch na'r lefelau gwariant presennol.
Gan droi at y gweithlu iechyd yn fyr, er bod systemau a gwasanaethau yn cynnig ffocws ar gyfer newid, y gweithlu yw'r ased mwyaf wrth roi gofal a gwneud y newidiadau sydd eu hangen. Fe wnaethom godi pryderon efo Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch lefelau absenoldeb oherwydd salwch yn y gweithlu iechyd, yn enwedig o fewn y gwasanaeth ambiwlans. Hefyd, gwnaethom ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a oedd e'n cydnabod gwahaniaethau o ran amodau gwaith a chyflog, a diffyg parch cydradd at staff gofal cymdeithasol a staff gofal iechyd. Credwn fod anghysondeb amlwg rhwng gweithwyr gofal iechyd a gweithwyr yn y sector gofal cymdeithasol, fel y mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym yn rheolaidd, ac mae hyn yn rhwystr sylweddol rhag cydlynu gwasanaethau yn llwyddiannus.
Rydym ni yn yr eiliadau olaf.