Part of the debate – Senedd Cymru am 7:31 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Rwyf yn siarad heddiw ar ran y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Dyraniadau cyllideb yw un o'r ffyrdd pwysicaf i Lywodraeth Cymru ddangos ei hymrwymiadau datganedig i feysydd polisi a grwpiau poblogaeth. Nid yw dyraniadau a wnaed i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc yn eithriad. Un o'n swyddi fel pwyllgor yw craffu ar y flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ariannu gwasanaethau ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc. Nid yw hyn yn ddigwyddiad unwaith y flwyddyn i ni. Rydym yn ceisio cyflwyno craffu ariannol i'n holl waith drwy gydol y flwyddyn. Rydym ni'n gwneud hyn i sicrhau ein bod ni mor glir ag y gallwn ni fod ynghylch faint o arian a roddir i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc, at ba ddiben, ac a yw'n cyflawni gwerth am arian.
Nid yw'n gyfrinach, fod gennym ni yn y pwyllgor, rai pryderon ynghylch sut y dyrennir arian ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Rydym ni'n cydnabod bod cyllid ar gyfer plant a phobl ifanc yn croesi ffiniau nifer o feysydd polisi a phortffolios. Rydym ni'n deall yr heriau y gall hyn eu cyflwyno wrth amlinellu cyllideb ddrafft. Rydym ni'n credu, serch hynny, bod llawer o waith eto i'w wneud os yw'r wybodaeth a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru am fod mor dryloyw ag y mae angen iddi fod i alluogi'r ddeddfwrfa hon i ddwyn Gweinidogion Cymru i gyfrif am eu penderfyniadau.
Ar y sail hon, roeddem ni'n falch iawn o gymryd rhan mewn gwaith arloesi newydd eleni. Fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid eisoes, fe wnaethom ni gyfarfod ar yr un pryd gydag aelodau o'r Pwyllgor Cyllid a Chydraddoldeb, a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Chymunedau i graffu ar asesiad effaith integredig strategol y Llywodraeth. Bwriadwn gyflwyno adroddiad ar y cyd ar ein canfyddiadau yn y flwyddyn newydd, i helpu i lywio'r gyllideb y flwyddyn nesaf, felly ni wnaf sôn am hynny nawr.
Fodd bynnag, ar hyn o bryd, rwyf am dynnu sylw at y ffaith bod ein pwyllgor yn credu'n gadarn bod y gallu i ddangos sut y mae hawliau plant yn llunio polisi a phenderfyniadau ariannol o'r cychwyn cyntaf yn allweddol. Er gwaethaf ein hymdrechion gorau yn y blynyddoedd diwethaf, rydym ni'n dal yn siomedig na welsom ni gynnydd mwy pendant yn y cyswllt hwn.
Fe drof yn awr at rai meysydd manwl o graffu, gan ddechrau gyda'n meddyliau ynghylch addysg. Rydym ni'n croesawu bod Llywodraeth Cymru wedi gwyrdroi ei bwriad gwreiddiol i dorri gwariant ar adnoddau addysg yn 2019-20. Rydym ni hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad mwy diweddar y bydd arian ychwanegol yn cael ei roi i awdurdodau lleol i leddfu pwysau'r gost o weithredu tâl athrawon ysgol. Fodd bynnag, fe fyddem ni'n croesawu gwybodaeth fwy manwl am yr arian ychwanegol hwn, ac rydym ni'n ceisio sicrwydd gan Lywodraeth Cymru ei bod hi'n ffyddiog y bydd y gyllideb derfynol yn ddigonol i ariannu ein hysgolion yn ddigonol.
O ran cyllid ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch, cafodd llawer o'r naratif yn y maes hwn ei lunio gan adolygiadau diweddar Diamond a Reid. Mae cyflawni argymhellion y ddau adolygiad blaenllaw hyn yn dibynnu'n helaeth ar wireddu 'difidend Diamond' fel y'i gelwir. Yn 2016, dywedwyd wrthym y byddai Diamond yn sicrhau difidend yn y dyfodol ar gyfer y sector. Eleni, fe glywsom ni na fydd y sector dan anfantais a dyna'r cwbl. Er ein bod yn cydnabod disgrifiad Ysgrifennydd y Cabinet o'r difidend fel 'gwledd symudol', roedd y newid tiwn yn peri pryder i ni. O ganlyniad, rydym ni'n credu y dylai amcanestyniadau fod ar gael ar gyfer craffu. Rydym ni'n credu hefyd y dylai adnoddau digonol fod ar gael yn y gyllideb derfynol er mwyn galluogi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ariannu ei flaenoriaethau strategol yn llawn a dechrau ariannu argymhellion adolygiad Reid. Wedi'r cyfan, mae gan ymchwil ac arloesi le sylfaenol yn 'Ffyniant i Bawb', ac maen nhw angen cyllid digonol os ydyn nhw am ddod yn ddisgwyliadau realistig ar gyfer ein sectorau addysg bellach ac uwch.
Gan droi nawr at iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau i blant, ni fydd yn syndod i'r Siambr hon glywed bod iechyd meddwl ac emosiynol ein plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth allweddol i ni. Cyflwynodd ein hadroddiad 'Cadernid Meddwl' y dystiolaeth sy'n sail i'n galwadau am adnoddau digonol yn y maes hwn. Er ein bod ni'n croesawu'r camau a gymerwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i ddechrau gweithredu ein hargymhellion, roeddem ni'n bryderus o glywed bod cyllid wedi'i glustnodi sydd yn fawr ei angen i gyflawni gweddnewidiad yn y gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i blant a phobl ifanc, yn mynd i gael ei drosglwyddo i'r cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer iechyd meddwl pob oedran. Rydym ni'n credu y dylid diogelu'r cyllid hwn ar gyfer CAMHS tan fod cymorth yn cyrraedd y lefelau gofynnol a bod canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc yn amlwg wedi gwella.
Yn olaf, Llywydd, fe drof i at blant sy'n derbyn gofal, sy'n rhai o'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Rydym ni'n ailadrodd y galwadau a wnaed yn ein hadroddiad ar gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol i sicrhau bod y grant datblygu disgyblion yn cael ei ariannu'n ddigonol i gefnogi plant wedi'u mabwysiadu a phlant sy'n derbyn gofal yn ddigonol. Rydym ni hefyd yn ceisio sicrwydd gan Lywodraeth Cymru bod y cyllid sydd ar gael i'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd yn ddigonol i gyflawni ei waith pwysig. Diolch.