Part of the debate – Senedd Cymru am 8:11 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, fe awn yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar y cytundeb ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a'r datganiad gwleidyddol. Mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Rydw i'n galw, felly, am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pump, un yn ymatal, 44 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.