– Senedd Cymru am 8:11 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, fe awn yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar y cytundeb ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a'r datganiad gwleidyddol. Mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Rydw i'n galw, felly, am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pump, un yn ymatal, 44 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.
Yr ail bleidlais yw gwelliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 2.
Yr bleidlais nesaf yw gwelliant 3. Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 3.
Galwaf am bleidlais felly ar y cynnig wedi'i ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Julie James.
Cynnig NDM6889 fel y’i diwygiwyd
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwrthod y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol am y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol a gytunwyd gan y Cyngor Ewropeaidd a Llywodraeth y DU.
2. Yn credu nad yw'r berthynas yn y dyfodol fel y’i rhagwelir gan y datganiad gwleidyddol yn mynd mor bell â’r model ar gyfer perthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol a nodwyd yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, sy'n darparu gwarantau cadarn mewn perthynas â hawliau gweithwyr, hawliau dynol, deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dinasyddion.
3. Yn nodi bod dadansoddiad economaidd hirdymor Llywodraeth y DU yn rhagweld y bydd economi'r DU yn gwaethygu 3.9 y cant dros 15 mlynedd o dan y cytundeb ymadael a’r datganiad gwleidyddol presennol.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i geisio aelodaeth y DU o’r farchnad sengl Ewropeaidd a'r undeb tollau.
5. Yn galw am estyniad i’r broses ar gyfer erthygl 50.
6. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU ddatgan yn awr ei bwriad i negodi ar y sail honno ac os yw’n methu â gwneud hynny, dylid naill ai cynnal Etholiad Cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus i benderfynu ar y telerau ar gyfer ymadawiad y DU, neu a ydy’n dymuno aros.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.
Yr eitem nesaf i bleidleisio arni yw Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018, sef eitem 5. Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig.
Yr eitem nesaf yw eitem 6: y Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig.
Eitem 7 yw'r eitem nesaf: y Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig.
Yr eitem nesaf yw eitem 8: y Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Rhyngwladol a Llongau Morgludiant) (Cymru) 2018. Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig.
Yr eitem nesaf yw eitem 9: y Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Cymru Net) (Cymru) 2018. Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig.
Felly, y bleidlais nesaf yw ar ddadl y gyllideb drafft 2019-20. Mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd gan Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, un yn ymatal, 33 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 1.
Y bleidlais nesaf ar y cynnig fel y'i ddiwygiwyd—heb ei ddiwygio—ac felly—. Pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, saith yn ymatal, 16 yn erbyn. Ac felly derbyniwyd y cynnig.
A dyna ddiwedd ar ein trafodion am y dydd.