Grŵp 1: Dyletswydd i ddarparu gofal plant a gyllidir (Gwelliannau 4, 4A, 4B, 20)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:00, 5 Rhagfyr 2018

Galwaf Aelodau i drefn. Dyma ni, felly, yn cyrraedd Cyfnod 3 o Fil Cyllido Gofal Plant (Cymru). Mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â'r dyletswydd i ddarparu gofal plant a gyllidir. Gwelliant 4 yw'r prif welliant yn y grŵp yma ac rydw i'n galw ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn a'r gwelliannau eraill yn y grŵp—Huw Irranca-Davies.