– Senedd Cymru am 5:00 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Galwaf Aelodau i drefn. Dyma ni, felly, yn cyrraedd Cyfnod 3 o Fil Cyllido Gofal Plant (Cymru). Mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â'r dyletswydd i ddarparu gofal plant a gyllidir. Gwelliant 4 yw'r prif welliant yn y grŵp yma ac rydw i'n galw ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn a'r gwelliannau eraill yn y grŵp—Huw Irranca-Davies.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o helpu i agor y trafodion yma ar ran y pwyllgor Cyfnod 3 ar gyfer y Bil pwysig hwn. Rwyf wedi ymateb i alwadau gan bwyllgorau craffu—y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—am ddyletswydd ar wyneb y Bil, ac rwyf wedi wedi cyflwyno gwelliant 4 fel sy'n briodol.
Er mwyn gweithredu'r ddyletswydd hon, bydd angen i Weinidogion Cymru nodi manylion ynghylch nifer yr oriau o ofal plant a nifer yr wythnosau o ddarpariaeth yn y rheoliadau a wneir o dan adran 1. Bydd y rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Yn ymarferol, mae gwelliant 4 gan y Llywodraeth yn cyflawni yn union yr un dibenion fel gwelliannau 4A a 4B, ond heb fod angen diwygio deddfwriaeth sylfaenol drwy reoliadau, pe bai angen amrywio faint o ofal plant sydd i'w sicrhau o dan adran 1 yn y dyfodol.
Mae gwelliant 4A a 4B yn ceisio cadarnhau pethau ar wyneb y Bil. Ni chredaf fod unrhyw amheuaeth ynglŷn â pha mor ymrwymedig yw'r Llywodraeth hon i gyflawni'r ymrwymiad maniffesto hwn. Eisoes rydym yn cyflawni ein dyletswydd mewn 14 o awdurdodau lleol ledled Cymru. Os gallwn osgoi'r angen i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol drwy reoliadau a chyflawni'r un diben, rwy'n credu mai dyna y dylem ei wneud. Ac am y rheswm hwn, ni fyddwn yn cefnogi gwelliannau 4A a 4B, a buaswn yn annog yr Aelodau i gefnogi gwelliant 4 y Llywodraeth yn lle hynny, sy'n cyflawni'r un diben yn union.
Mae gwelliant 20 yn ceisio diffinio'r hyn a olygwn wrth 'ofal plant' ar wyneb y Bil, drwy gyfeirio at ddeddfwriaeth arall. Nawr, cawsom drafodaeth ddefnyddiol iawn, ac rwy'n ddiolchgar amdani, yn ystod trafodion Cyfnod 2, a chyfarfûm wedyn â fy nghyd-Aelodau Suzy Davies a Janet Finch-Saunders yn gynnar ym mis Tachwedd i drafod hyn a materion cysylltiedig. Yr hyn a olygwn wrth 'ofal plant' at ddibenion y cynnig yw gofal plant wedi'i reoleiddio, sy'n cwmpasu amrywiaeth eang o wahanol fathau o ddarpariaeth, yn amodol ar set o safonau gofynnol cenedlaethol, ac sy'n cael eu rheoleiddio a'u harolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru neu'r Swyddfa Safonau mewn Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau. Mae gennym ddiffiniadau o 'ofal plant' eisoes mewn darnau eraill o ddeddfwriaeth, felly mae'n ddiangen cynnwys y lefel hon o fanylder yn y Bil ei hun.
Ond rwy'n cytuno ei bod yn bwysig gwneud y cysylltiad fel ei bod hi'n glir am beth rydym yn sôn pan siaradwn am 'ofal plant'. Nawr, mae'r cynllun gweinyddol fframwaith, a rennais gyda'r pwyllgor cyfrifol, yn egluro'r cysylltiad hwn, ac ynddo, rydym yn diffinio beth a olygwn wrth 'ofal plant'. Y fantais o gael diffiniad ynddo yw y gallwn ymdrin yn haws wedyn ag unrhyw newidiadau pe bai eu hangen yn y dyfodol gan sicrhau hefyd ein bod yn dryloyw ynghylch ystyr pethau. Diolch i chi, Lywydd.
Diolch i chi, Lywydd, am roi inni'r cyfle i siarad am y gwelliannau hyn. Fel Ceidwadwyr Cymreig, rydym yn croesawu cyflwyno'r Bil a'r cynnig gofal plant, gan ein bod bob amser wedi addo i etholwyr Cymru y byddent yn cael cyllid ar gyfer gofal plant. Mae'n bwysig iawn, fodd bynnag, ein bod ni fel Aelodau etholedig, yn sicrhau nad oes unrhyw rwystr i gyflogaeth yn ein cymdeithas, ac yn wir mae helpu rhieni gyda gofal plant yn rhan allweddol o'r addewid hwn. Fel y cyfryw, rydym yn cefnogi egwyddor y Gweinidog sy'n sail i welliant 4, sy'n rhwymo Llywodraeth Cymru at ddyletswydd i ddarparu cyllid ar gyfer gofal plant. Fodd bynnag, mae'n dal yn siomedig fod y Gweinidog wedi methu gosod y cynnig gofal plant ar wyneb y Bil hwn.
Er ei bod yn ganmoladwy fod y Gweinidog am sicrhau hyblygrwydd yn y dyfodol drwy reoliadau, mae'r memorandwm esboniadol a'r cynllun gweinyddol drafft yn gosod nifer oriau o 30 awr yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn. Felly mae'n bwysig fod y nifer hon ar wyneb y Bil, a gellir ei newid yn nes ymlaen wrth gwrs. Clywsom hefyd yng Nghyfnod 2 fod y Gweinidog yn credu y byddai gosod y cynnig ar wyneb y Bil yn creu mwy o anawsterau i'w newid yn y dyfodol, ond rydym ni'n dadlau bod hyn yn caniatáu ar gyfer craffu priodol ar effeithiau’r cynnig. Fel y daw'n glir drwy gydol y gwelliannau a gyflwynais yng Nghyfnod 3, mae gennym bryderon ehangach nad yw'r Bil yn rhoi proses ddigonol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru archwilio'r effeithiau.
Newid technegol yw gwelliant 4B, ond mae hefyd yn creu pwynt y dylid pennu faint o ofal a roddir fel oriau ac wythnosau y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu'r cynnig.
Yn olaf, mae gwelliant 20, y bydd fy nghyd-Aelod, Suzy Davies AC yn siarad amdano'n fanylach, yn dangos efallai fod y diffiniad statudol o 'ofal plant' yn ymestyn ymhellach nag a fwriadwyd o dan y Bil hwn, gan gynnwys y taliadau ychwanegol. Byddaf yn siarad am y rheini o dan welliannau 13 a 21.
Gelwir y Bil hwn yn Fil Cyllido Gofal Plant Cymru, a bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw yng Nghyfnod 2 ac rydym wedi bod, wel, yn anhapus ynglŷn â'r ffaith bod gennym Fil caws Swistir arall eto wedi'i osod ger ein bron. Er fy mod yn ddiolchgar i chi am gyflwyno'r gwelliant yn y grŵp hwn, nid yw'n rhoi eich polisi o'ch maniffesto, a'r polisi o'n maniffesto ninnau yn wir, yn berffaith benodol ac amlwg ar wyneb y Bil. Felly yr hyn sydd gennym yw Bil sy'n dal i gynnwys elfennau ansicr, a dof atynt mewn grwpiau diweddarach yn ogystal.
Ond un o'r pethau canolog sy'n ansicr yw ystyr 'gofal plant'. Nid yw'r Bil yn ei ddiffinio yn unman, ac er eich bod yn dweud, Weinidog, y gall olygu gofal plant wedi'i reoleiddio, nid yw'n dweud hynny fel y cyfryw yn y Bil. Credaf y byddai'n eithaf hawdd, mewn gwirionedd, i bob un ohonom ddweud, 'Wel, fe wyddom beth a olygwch wrth 'ofal plant'. Nid oes angen diffiniad arnom', ond daeth yn amlwg iawn yng Nghyfnod 2 nad oedd hynny'n wir, ac nid oedd yn glir o gwbl a oedd yn cynnwys gweithgareddau megis darparu bwyd, mynd ar ymweliadau ac ati. Ceir anghysondeb llwyr ar hyn o bryd ynglŷn â sut y darperir y gweithgareddau hyn yn rhad ac am ddim gan ddarparwyr gofal plant yng Nghymru, neu'n wir pa un a fydd hynny'n digwydd hyd yn oed.
Weinidog, roeddech yn dadlau yng Nghyfnod 2 nad oes angen diffinio 'gofal plant' gan ei fod wedi'i gynnwys yn y cynllun gweinyddol sy'n dod gyda'r Bil, ac rydych newydd grybwyll hynny. At hynny, byddai ei roi ar wyneb y Bil yn llesteirio gallu Llywodraethau i addasu neu ddiweddaru'r hyn yr ystyriwn ei fod yn ofal plant dros amser. Rwyf am ddechrau gyda'r ail bwynt hwnnw.
Gofynnir i'r ddeddfwrfa hon basio Bil ar yr hyn y deallwn yw ystyr 'gofal plant' heddiw. Os ydych yn bwriadu newid ystyr cysyniad sydd mor sylfaenol i'r Bil hwn fel ei fod yn ymddangos yn ei enw, dylech ofyn i'r Cynulliad hwn gytuno i'r newidiadau hynny. Fan lleiaf, dylech geisio dod ag unrhyw newid gerbron y Siambr hon drwy'r weithdrefn gadarnhaol, oherwydd rydym yn pleidleisio i ganiatáu i chi wario arian trethdalwyr mewn ffordd benodol iawn, ac os ydych am newid hynny, rhaid i chi ddod i ofyn i'r lle hwn.
Ar y pwynt cyntaf, ynglŷn â'r angen am ddiffiniad ar wyneb y Bil, fel y dywedwch, mae'r cynllun gweinyddol yn cyfeirio at ddiffiniad o ofal plant fel, ac rwy'n dyfynnu,
'gofal neu weithgaredd arall o dan oruchwyliaeth ar gyfer plentyn y mae’n
ofynnol i’r darparwr gael ei gofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a
Theuluoedd (Cymru) 2010 neu Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006 mewn
perthynas ag ef;'
Mae adran 18 o'r olaf, fel y mae'n digwydd, yn cynnwys diffiniad o ofal plant sy'n cynnwys addysg y tu allan i'r ysgol ac yn hollbwysig, ac rwy'n dyfynnu eto,
'unrhyw... weithgaredd arall o dan oruchwyliaeth ar gyfer plentyn'.
Nid yw cynllun gweinyddol yn ddim mwy na hynny, wrth gwrs—canllawiau defnyddiol. Nid yw'n statudol, nid yw'n ddarostyngedig i broses graffu. Nid oes gan y Cynulliad unrhyw ddylanwad ar ei gynnwys, felly nid dyna'r lle i gael diffiniad y mae holl ddiben y Bil, a wneir drwy gyfraith yn y Cynulliad hwn, yn ddibynnol arno. Ac mae ei ddiben yn dibynnu arno, ac fe egluraf pam mewn munud.
Mae'r Gweinidog yn hyderus ynglŷn â'r diffiniad o 'ofal plant', yn amlwg. Caiff ei gynnwys yn y cynllun gweinyddol oherwydd hynny. Ac fel deddfwrfa ni ddylem fod yn fodlon iddo newid heb graffu trylwyr. Nid yw'n briodol gwrthod rhoi'r diffiniad ar wyneb y Bil hwn ar sail yr angen i fod yn hyblyg ynglŷn â'r diffiniad o 'ofal plant'. Dyna yw hanfod y Bil hwn mewn gwirionedd, felly rhowch ef ar wyneb y Bil os ydych chi'n hyderus yn ei gylch, neu o leiaf rhowch ddiffiniad ohono ar wyneb y Bil drwy gyfeirio at y ddau ddarn arall o ddeddfwriaeth. Prin ei fod yn newydd, os nad yn ysbryd y Bil—beth y'i galwaf—y Bil cydgrynhoi, os gwnaiff y Cwnsler Cyffredinol adael i mi ei ddisgrifio felly.
Felly, rwyf wedi cyflwyno'r gwelliant hwn oherwydd y byddai diffiniad o 'ofal plant' yn ddi-os yn gwella ansawdd y Bil. Ond wrth wneud hynny, rwy'n cydnabod bod hyn yn creu cur pen mawr i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â diben y Bil hwn, sef darparu gofal plant am ddim. Os ydym yn mabwysiadu'r diffiniad, fel y mae'r Gweinidog ar hyn o bryd yn gofyn i awdurdodau lleol a darparwyr ei wneud drwy'r cynllun gweinyddol, mae'n derbyn bod, ac rwy'n dyfynnu, 'gweithgaredd o dan oruchwyliaeth'—darparu cinio, mynd ar ymweliadau, ac ati—o fewn y diffiniad o 'ofal plant '. A bwriedir i ofal plant, o dan y Bil hwn, fod am ddim. Ni all fod tâl am unrhyw beth sy'n gyfystyr â gofal plant. Ond yng Nghyfnod 2 fe wnaethoch yn glir, Weinidog, eich bod yn gweld yr hyn a oedd yn eich barn chi yn ofal plant a'r gweithgareddau hyn, y gweithgareddau o dan oruchwyliaeth hyn, fel pethau gwahanol. Fe ddywedoch chi nad
30 awr o ofal plant ynghyd â phopeth arall gyda'i gilydd oedd y cynnig, ac egluro y gallai hynny wneud y cynllun yn anfforddiadwy—ac rwy'n cytuno—ond rwy'n edrych ar Fesur 2010 a Deddf 2006, ac maent yn dweud bod gweithgareddau o'r fath yn rhan o ofal plant. Ac rydych yn dweud bod gofal plant yn rhad ac am ddim. Felly, mae angen i'r Bil hwn wahaniaethu rhwng gweithgareddau y gellir codi tâl amdanynt a'r rhai na ddylid codi tâl amdanynt ac sy'n rhaid eu cynnig am ddim. Drwy gyfeirio at y ddau ddarn o ddeddfwriaeth yn eich cynllun gweinyddol, rydych chi eisoes wedi cymylu'r dyfroedd drwy ganiatáu codi tâl am weithgareddau o dan oruchwyliaeth.
Pe bai'r gwelliant hwn yn cael ei gynnig a'i basio, ni fyddai'r diffiniad hwn yn hwyluso eich nod polisi, ac eto rydych yn dibynnu ar yr union ddiffiniad hwnnw i gyflawni eich polisi. Felly, rwy'n gobeithio y gwelwch fy mhwynt: yn gyntaf, mae angen newid y diffiniad yn eich cynllun gweinyddol fel nad yw'n cynnwys canllawiau anghyson; ac yn ail, fel y mae hyn yn ei ddangos, nid yw'r Bil yn gwneud dim i ddweud wrthym beth sydd am ddim a beth na fydd am ddim—gan fethu cyflawni un o'i brif ddibenion.
Felly, nid wyf am gynnig y gwelliant, oherwydd byddai hynny'n ymgorffori eich camgymeriad mewn cyfraith, ond rwy'n gobeithio y dowch yn ôl i'r Siambr hon cyn Cyfnod 4 a dweud wrthym sut y byddwch yn goresgyn y camgymeriad hwnnw ac yn ei gwneud yn glir, mewn cyfraith y gallwn ei chraffu, beth yn union y gall teuluoedd ddibynnu ar ei gael am ddim o dan y gyfraith neu fel arall. Diolch.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl—Huw Irranca-Davies.
Diolch, Lywydd. Diolch i Suzy a Janet am y sylwadau ac maent yn ailadrodd rhai o'r pwyntiau a drafodwyd yn y cyfarfodydd, ond hefyd mewn cyfnod cynharach o'r Bil yn ogystal.
Fe nodais yn fy sylwadau agoriadol pam y credaf fod yr hyn sydd gennym o'n blaenau, yn enwedig gyda gwelliant 4, yn rhoi'r cydbwysedd cywir rhwng yr eglurder sydd ei angen arnom ar wyneb y Bil a'r dyletswyddau, a'r hyblygrwydd i ymestyn y cynnig yn y dyfodol, sy'n rhywbeth yr oedd y pwyllgorau hefyd eisiau ei weld o fewn hyn, rhaid i mi ddweud—y gallu i beidio â mynd yn ôl at ddeddfwriaeth sylfaenol, ond i'w ailystyried yn y modd y mae'r cynllun yn gweithredu mewn gwirionedd, ac mae hynny'n rhan bwysig o benderfynu lle rydym yn gosod rhai o fanylion hyn.
Ond gadewch i mi ddweud eto: er mwyn gweithredu'r ddyletswydd yr ydym yn ei hargymell, byddwn ni fel Gweinidogion Cymru, fi fy hun neu unrhyw un arall, yn gorfod manylu ar nifer yr oriau o ofal plant a nifer yr wythnosau o ddarpariaeth yn y rheoliadau a wnaed o dan adran 1. Ac nid oes modd celu beth yw'r cynnig: mae eisoes ar waith yn cael ei dreialu yn yr awdurdodau sy'n weithredwyr cynnar, mewn 14 o awdurdodau lleol ar hyn o bryd, a phob un ohonynt erbyn yr adeg y byddwn yn ei gyflwyno'n gyffredinol. Felly, mae'n eithaf clir, a bydd y rheoliadau'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.
Ac ar gwestiwn gofal plant ei hun, wel, fel y dywedais o'r blaen—ac rydym wedi trafod hyn yn y pwyllgor—at ddibenion y cynnig, gofal plant wedi'i reoleiddio yw hwn, gofal plant wedi'i reoleiddio a'i arolygu o dan yr arolygiaethau—gan Arolygiaeth Gofal Cymru neu gan Ofsted—ac fe drof at y diffiniadau a grybwyllwch o ofal plant mewn deddfau eraill.
Ond o ran materion megis pan geir costau ychwanegol, boed yn gludiant neu gostau eraill, gwn y byddwn yn troi at hynny mewn gwelliannau eraill, ac rydym wedi eu trafod o'r blaen yng Nghyfnod 2 ac yn y pwyllgor yn ogystal, a byddwn yn ymdrin â'r rheini yno. Ond rydym yn glir iawn yn y canllawiau a ddosbarthwyd gennym, mewn perthynas â chludiant a chostau eraill, beth yn union a ganiateir a beth na chaiff ei ganiatáu a beth yw gofal plant. Byddai rhoi diffiniad o 'ofal plant' ar wyneb y Bil yn ein rhoi mewn sefyllfa lle byddem o reidrwydd yn gorfod dychwelyd i ailystyried hyn mewn deddfwriaeth sylfaenol pe bai diffiniadau o 'ofal plant' yn newid mewn mannau eraill.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Mae'n ddrwg gennyf, er eglurder yn unig. A ydych yn dweud felly fod y diffiniad o 'ofal plant' yn Neddf 2006 yn anghywir?
Na, na, mae'r diffiniadau o 'ofal plant' yn gywir mewn gwirionedd, a'r hyn sy'n deillio o'r cynnig gofal plant sy'n cael ei dreialu ar hyn o bryd yw mai'r diffiniad hwnnw yw sail y diffiniad o 'ofal plant' a ddefnyddiwn. Ac mae canllawiau ynddo hefyd sy'n atodol i hyn, ac sydd wedi'i rannu gyda'r pwyllgor yn ogystal, sy'n dangos beth y mae'r canllawiau yn ei ddweud ynglŷn ag unrhyw gostau ychwanegol, er enghraifft. Ond gofal plant yw gofal plant, ac mae'n ddealladwy iawn ac nid oes angen inni ei ailddiffinio ar flaen y Bil hwn.
Felly, edrychwch, wrth gyflwyno gwelliant 4, rydym wedi darparu mwy o eglurder a sicrwydd ynglŷn ag ymrwymiad y Llywodraeth i gyflawni ei hymrwymiad maniffesto, ac rwy'n croesawu'r ffaith na fyddwch yn gwthio'r gwelliannau eraill sy'n ymwneud â hynny oherwydd rydym yn ceisio cyflawni'r un peth yma. A gadewch i ni beidio ag anghofio, fel rwy'n dweud, y bydd gofyn i Weinidogion Cymru nodi manylion y cynnig yn fanwl, o ran nifer yr oriau, faint o wythnosau, ac ati, mewn rheoliadau.
Felly, mae gwelliant 4, ochr yn ochr â gwelliant arall y Llywodraeth, sy'n ymgorffori gofyniad yn y Bil, Suzy a Janet, i adolygu effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth, yn golygu bod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo'n llwyr nid yn unig i ymrwymiad y maniffesto, ond hefyd i dryloywder ynghylch effeithiolrwydd y cynnig hwn yn ogystal.
Ac un pwynt pwysig i'w ystyried, Lywydd, ar ddechrau'r trafodion Cyfnod 3 hyn, yw ei bod yn bwysig myfyrio eto ar ddiben y ddeddfwriaeth hon. Ei diben yw rhoi'r mecanwaith deddfwriaethol sydd ei angen arnom i ymgysylltu â Chyllid a Thollau EM ar gyfer gweinyddu'r broses ymgeisio a gwirio cymhwysedd ar gyfer y cynnig. Nid yw'n ymwneud â'r cynnig fel y cyfryw, er fy mod yn cydnabod bod yr Aelodau, yn ddealladwy, wedi canolbwyntio llawer ar y cynnig ehangach yn fwy cyffredinol drwy gydol y cyfnodau craffu, ac rydym wedi bod yn hapus i fynd i'r afael â'r materion hynny. Ac fel y Gweinidog cyfrifol, rwyf wedi ceisio mynd i'r afael â'r materion ehangach hynny ym mhob ffordd bosibl.
Ond mewn perthynas â'r set hon o welliannau, buaswn yn annog yr Aelodau yng ngoleuni fy sylwadau i wrthod y gwelliannau eraill hynny—ond os yw'r Aelod yn dewis peidio â'u gwthio, credaf y byddai hynny'n ardderchog oherwydd rydym yn ceisio cyrraedd yr un nod yma—a chefnogi gwelliant 4 y Llywodraeth fel y gwelliant sy'n taro'r cydbwysedd cywir rhwng darparu gwell eglurder a sicrwydd, a rhoi disgresiwn i'r weinyddiaeth hon a gweinyddiaethau'r dyfodol o ran sut y diffinnir y ddyletswydd honno yn y dyfodol.
Gwelliant 4 yw'r prif welliant yng ngrŵp 1. Fel gwelliannau i welliant 4, caiff gwelliannau 4A a 4B eu gwaredu yn gyntaf. Janet Finch-Saunders, gwelliant 4A.
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4A? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn felly i bleidlais electronig ar welliant 4A. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd y gwelliant.
Janet Finch-Saunders, gwelliant 4B.
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4B? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 4B.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.