Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Diolch, Lywydd. Diolch i Suzy a Janet am y sylwadau ac maent yn ailadrodd rhai o'r pwyntiau a drafodwyd yn y cyfarfodydd, ond hefyd mewn cyfnod cynharach o'r Bil yn ogystal.
Fe nodais yn fy sylwadau agoriadol pam y credaf fod yr hyn sydd gennym o'n blaenau, yn enwedig gyda gwelliant 4, yn rhoi'r cydbwysedd cywir rhwng yr eglurder sydd ei angen arnom ar wyneb y Bil a'r dyletswyddau, a'r hyblygrwydd i ymestyn y cynnig yn y dyfodol, sy'n rhywbeth yr oedd y pwyllgorau hefyd eisiau ei weld o fewn hyn, rhaid i mi ddweud—y gallu i beidio â mynd yn ôl at ddeddfwriaeth sylfaenol, ond i'w ailystyried yn y modd y mae'r cynllun yn gweithredu mewn gwirionedd, ac mae hynny'n rhan bwysig o benderfynu lle rydym yn gosod rhai o fanylion hyn.
Ond gadewch i mi ddweud eto: er mwyn gweithredu'r ddyletswydd yr ydym yn ei hargymell, byddwn ni fel Gweinidogion Cymru, fi fy hun neu unrhyw un arall, yn gorfod manylu ar nifer yr oriau o ofal plant a nifer yr wythnosau o ddarpariaeth yn y rheoliadau a wnaed o dan adran 1. Ac nid oes modd celu beth yw'r cynnig: mae eisoes ar waith yn cael ei dreialu yn yr awdurdodau sy'n weithredwyr cynnar, mewn 14 o awdurdodau lleol ar hyn o bryd, a phob un ohonynt erbyn yr adeg y byddwn yn ei gyflwyno'n gyffredinol. Felly, mae'n eithaf clir, a bydd y rheoliadau'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.
Ac ar gwestiwn gofal plant ei hun, wel, fel y dywedais o'r blaen—ac rydym wedi trafod hyn yn y pwyllgor—at ddibenion y cynnig, gofal plant wedi'i reoleiddio yw hwn, gofal plant wedi'i reoleiddio a'i arolygu o dan yr arolygiaethau—gan Arolygiaeth Gofal Cymru neu gan Ofsted—ac fe drof at y diffiniadau a grybwyllwch o ofal plant mewn deddfau eraill.
Ond o ran materion megis pan geir costau ychwanegol, boed yn gludiant neu gostau eraill, gwn y byddwn yn troi at hynny mewn gwelliannau eraill, ac rydym wedi eu trafod o'r blaen yng Nghyfnod 2 ac yn y pwyllgor yn ogystal, a byddwn yn ymdrin â'r rheini yno. Ond rydym yn glir iawn yn y canllawiau a ddosbarthwyd gennym, mewn perthynas â chludiant a chostau eraill, beth yn union a ganiateir a beth na chaiff ei ganiatáu a beth yw gofal plant. Byddai rhoi diffiniad o 'ofal plant' ar wyneb y Bil yn ein rhoi mewn sefyllfa lle byddem o reidrwydd yn gorfod dychwelyd i ailystyried hyn mewn deddfwriaeth sylfaenol pe bai diffiniadau o 'ofal plant' yn newid mewn mannau eraill.