Grŵp 1: Dyletswydd i ddarparu gofal plant a gyllidir (Gwelliannau 4, 4A, 4B, 20)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 5:05, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Gelwir y Bil hwn yn Fil Cyllido Gofal Plant Cymru, a bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw yng Nghyfnod 2 ac rydym wedi bod, wel, yn anhapus ynglŷn â'r ffaith bod gennym Fil caws Swistir arall eto wedi'i osod ger ein bron. Er fy mod yn ddiolchgar i chi am gyflwyno'r gwelliant yn y grŵp hwn, nid yw'n rhoi eich polisi o'ch maniffesto, a'r polisi o'n maniffesto ninnau yn wir, yn berffaith benodol ac amlwg ar wyneb y Bil. Felly yr hyn sydd gennym yw Bil sy'n dal i gynnwys elfennau ansicr, a dof atynt mewn grwpiau diweddarach yn ogystal.

Ond un o'r pethau canolog sy'n ansicr yw ystyr 'gofal plant'. Nid yw'r Bil yn ei ddiffinio yn unman, ac er eich bod yn dweud, Weinidog, y gall olygu gofal plant wedi'i reoleiddio, nid yw'n dweud hynny fel y cyfryw yn y Bil. Credaf y byddai'n eithaf hawdd, mewn gwirionedd, i bob un ohonom ddweud, 'Wel, fe wyddom beth a olygwch wrth 'ofal plant'. Nid oes angen diffiniad arnom', ond daeth yn amlwg iawn yng Nghyfnod 2 nad oedd hynny'n wir, ac nid oedd yn glir o gwbl a oedd yn cynnwys gweithgareddau megis darparu bwyd, mynd ar ymweliadau ac ati. Ceir anghysondeb llwyr ar hyn o bryd ynglŷn â sut y darperir y gweithgareddau hyn yn rhad ac am ddim gan ddarparwyr gofal plant yng Nghymru, neu'n wir pa un a fydd hynny'n digwydd hyd yn oed.

Weinidog, roeddech yn dadlau yng Nghyfnod 2 nad oes angen diffinio 'gofal plant' gan ei fod wedi'i gynnwys yn y cynllun gweinyddol sy'n dod gyda'r Bil, ac rydych newydd grybwyll hynny. At hynny, byddai ei roi ar wyneb y Bil yn llesteirio gallu Llywodraethau i addasu neu ddiweddaru'r hyn yr ystyriwn ei fod yn ofal plant dros amser. Rwyf am ddechrau gyda'r ail bwynt hwnnw.

Gofynnir i'r ddeddfwrfa hon basio Bil ar yr hyn y deallwn yw ystyr 'gofal plant' heddiw. Os ydych yn bwriadu newid ystyr cysyniad sydd mor sylfaenol i'r Bil hwn fel ei fod yn ymddangos yn ei enw, dylech ofyn i'r Cynulliad hwn gytuno i'r newidiadau hynny. Fan lleiaf, dylech geisio dod ag unrhyw newid gerbron y Siambr hon drwy'r weithdrefn gadarnhaol, oherwydd rydym yn pleidleisio i ganiatáu i chi wario arian trethdalwyr mewn ffordd benodol iawn, ac os ydych am newid hynny, rhaid i chi ddod i ofyn i'r lle hwn.

Ar y pwynt cyntaf, ynglŷn â'r angen am ddiffiniad ar wyneb y Bil, fel y dywedwch, mae'r cynllun gweinyddol yn cyfeirio at ddiffiniad o ofal plant fel, ac rwy'n dyfynnu,

'gofal neu weithgaredd arall o dan oruchwyliaeth ar gyfer plentyn y mae’n

ofynnol i’r darparwr gael ei gofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a

Theuluoedd (Cymru) 2010 neu Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006 mewn

perthynas ag ef;'

Mae adran 18 o'r olaf, fel y mae'n digwydd, yn cynnwys diffiniad o ofal plant sy'n cynnwys addysg y tu allan i'r ysgol ac yn hollbwysig, ac rwy'n dyfynnu eto,

'unrhyw... weithgaredd arall o dan oruchwyliaeth ar gyfer plentyn'.

Nid yw cynllun gweinyddol yn ddim mwy na hynny, wrth gwrs—canllawiau defnyddiol. Nid yw'n statudol, nid yw'n ddarostyngedig i broses graffu. Nid oes gan y Cynulliad unrhyw ddylanwad ar ei gynnwys, felly nid dyna'r lle i gael diffiniad y mae holl ddiben y Bil, a wneir drwy gyfraith yn y Cynulliad hwn, yn ddibynnol arno. Ac mae ei ddiben yn dibynnu arno, ac fe egluraf pam mewn munud.

Mae'r Gweinidog yn hyderus ynglŷn â'r diffiniad o 'ofal plant', yn amlwg. Caiff ei gynnwys yn y cynllun gweinyddol oherwydd hynny. Ac fel deddfwrfa ni ddylem fod yn fodlon iddo newid heb graffu trylwyr. Nid yw'n briodol gwrthod rhoi'r diffiniad ar wyneb y Bil hwn ar sail yr angen i fod yn hyblyg ynglŷn â'r diffiniad o 'ofal plant'. Dyna yw hanfod y Bil hwn mewn gwirionedd, felly rhowch ef ar wyneb y Bil os ydych chi'n hyderus yn ei gylch, neu o leiaf rhowch ddiffiniad ohono ar wyneb y Bil drwy gyfeirio at y ddau ddarn arall o ddeddfwriaeth. Prin ei fod yn newydd, os nad yn ysbryd y Bil—beth y'i galwaf—y Bil cydgrynhoi, os gwnaiff y Cwnsler Cyffredinol adael i mi ei ddisgrifio felly.

Felly, rwyf wedi cyflwyno'r gwelliant hwn oherwydd y byddai diffiniad o 'ofal plant' yn ddi-os yn gwella ansawdd y Bil. Ond wrth wneud hynny, rwy'n cydnabod bod hyn yn creu cur pen mawr i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â diben y Bil hwn, sef darparu gofal plant am ddim. Os ydym yn mabwysiadu'r diffiniad, fel y mae'r Gweinidog ar hyn o bryd yn gofyn i awdurdodau lleol a darparwyr ei wneud drwy'r cynllun gweinyddol, mae'n derbyn bod, ac rwy'n dyfynnu, 'gweithgaredd o dan oruchwyliaeth'—darparu cinio, mynd ar ymweliadau, ac ati—o fewn y diffiniad o 'ofal plant '. A bwriedir i ofal plant, o dan y Bil hwn, fod am ddim. Ni all fod tâl am unrhyw beth sy'n gyfystyr â gofal plant. Ond yng Nghyfnod 2 fe wnaethoch yn glir, Weinidog, eich bod yn gweld yr hyn a oedd yn eich barn chi yn ofal plant a'r gweithgareddau hyn, y gweithgareddau o dan oruchwyliaeth hyn, fel pethau gwahanol. Fe ddywedoch chi nad

30 awr o ofal plant ynghyd â phopeth arall gyda'i gilydd oedd y cynnig, ac egluro y gallai hynny wneud y cynllun yn anfforddiadwy—ac rwy'n cytuno—ond rwy'n edrych ar Fesur 2010 a Deddf 2006, ac maent yn dweud bod gweithgareddau o'r fath yn rhan o ofal plant. Ac rydych yn dweud bod gofal plant yn rhad ac am ddim. Felly, mae angen i'r Bil hwn wahaniaethu rhwng gweithgareddau y gellir codi tâl amdanynt a'r rhai na ddylid codi tâl amdanynt ac sy'n rhaid eu cynnig am ddim. Drwy gyfeirio at y ddau ddarn o ddeddfwriaeth yn eich cynllun gweinyddol, rydych chi eisoes wedi cymylu'r dyfroedd drwy ganiatáu codi tâl am weithgareddau o dan oruchwyliaeth.

Pe bai'r gwelliant hwn yn cael ei gynnig a'i basio, ni fyddai'r diffiniad hwn yn hwyluso eich nod polisi, ac eto rydych yn dibynnu ar yr union ddiffiniad hwnnw i gyflawni eich polisi. Felly, rwy'n gobeithio y gwelwch fy mhwynt: yn gyntaf, mae angen newid y diffiniad yn eich cynllun gweinyddol fel nad yw'n cynnwys canllawiau anghyson; ac yn ail, fel y mae hyn yn ei ddangos, nid yw'r Bil yn gwneud dim i ddweud wrthym beth sydd am ddim a beth na fydd am ddim—gan fethu cyflawni un o'i brif ddibenion.

Felly, nid wyf am gynnig y gwelliant, oherwydd byddai hynny'n ymgorffori eich camgymeriad mewn cyfraith, ond rwy'n gobeithio y dowch yn ôl i'r Siambr hon cyn Cyfnod 4 a dweud wrthym sut y byddwch yn goresgyn y camgymeriad hwnnw ac yn ei gwneud yn glir, mewn cyfraith y gallwn ei chraffu, beth yn union y gall teuluoedd ddibynnu ar ei gael am ddim o dan y gyfraith neu fel arall. Diolch.