Grwp 7: Rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru (Gwelliannau 1, 3)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 6:30, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Geiriau olaf enwog, ond gobeithio na fydd y gwelliannau hyn yn rhai dadleuol. Dau welliant technegol ydynt. Eu diben yn syml yw ei gwneud yn glir fod rheoliadau o dan adran 1 ac adran 10 y Bil yn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.