– Senedd Cymru am 6:29 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 7, ac mae'r grŵp yma yn ymwneud â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Gwelliant 1 yw'r prif welliant, ac rwy'n galw ar y Gweinidog i gynnig y prif welliant, ac i siarad i'r gwelliant hwnnw a'r gwelliant arall yn y grŵp. Huw Irranca-Davies.
Diolch, Lywydd. Geiriau olaf enwog, ond gobeithio na fydd y gwelliannau hyn yn rhai dadleuol. Dau welliant technegol ydynt. Eu diben yn syml yw ei gwneud yn glir fod rheoliadau o dan adran 1 ac adran 10 y Bil yn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
Nid oes neb i siarad ar y gwelliannau yma. Rwy'n cymryd bod y Gweinidog ddim eisiau ymateb. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly derbynnir gwelliant 1.
Gwelliant 22.
Gwelliant 22, Janet Finch-Saunders.
Gan ddilyn ymlaen o—. Diolch i chi, Lywydd.
A yw wedi'i gynnig? Rydych wedi siarad am y gwelliant eisoes.
Rwy'n cynnig.
Mae wedi'i gynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 22? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid, 17, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 22.