Part of the debate – Senedd Cymru am 6:44 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Diolch. Rwy'n arbennig o siomedig ynglŷn â hyn ac fe ddywedaf wrthych pam. Yn fy etholaeth i, ac rwy'n sicr fod hyn yn wir ledled Cymru, mae gennym lawer o bobl yn byw yn ein cymunedau gwledig, ynysig sydd â neiniau a theidiau sy'n Gymry sy'n addysgu eu plant ac yn darparu gofal plant yn awr, heddiw, drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n ffaith na fyddant yn gallu manteisio ar hynny ac rwy'n gweld amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, ac ni allaf ddeall o gwbl sut na allwch gefnogi'r gwelliant hwn.