– Senedd Cymru am 6:36 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 9. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â chategorïau o ddarparwyr gofal plant a gyllidir. Gwelliant 24 yw'r prif welliant. Rwy'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant ac i siarad am y gwelliant arall yn y grŵp. Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Rydym wedi ailgyflwyno gwelliannau 24 a 25 o Gyfnod 2 oherwydd, er ein bod yn cydnabod bod y Gweinidog wedi gwrando ar y pwyllgor a'r rhanddeiliaid ac wedi cynnwys perthnasau a gofrestrwyd yn warchodwyr plant o fewn y cynllun gweinyddol drafft a'r rheoliadau, mae hyn eto'n cael ei adael i is-ddeddfwriaeth a chynllun anstatudol ei benderfynu. Fel y gwnaethpwyd yn glir yng Nghyfnod 2, mae hyn yn ymwneud nid yn unig â'r mathau o ddarparwyr a gofrestrir, ond â'r broses gofrestru hefyd.
Rydym yn cytuno y dylai gwarchodwyr plant gael eu cofrestru, a chlywsom y Gweinidog yn rhoi sicrwydd ynglŷn ag ysgolion a neiniau a theidiau, ond mae hyn yn methu'r pwynt sylfaenol ynglŷn â'r broses gofrestru bresennol ar gyfer bod yn ddarparwr gofal plant. Nid yw neiniau a theidiau'n cael cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru os mai edrych ar ôl eu perthnasau eu hunain yn unig a wnânt. Rhaid imi ddweud, Weinidog, pan gawsom gyfarfod â chi, fe ddywedoch chi eich hun mai'r rhai nad ydynt yn manteisio ar y cynnig weithiau yw neiniau a theidiau sy'n edrych ar ôl eu plant. Fel y nododd PACEY Cymru, y Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar, yng Nghyfnod 1, caiff amrywiaeth helaeth o bobl sydd hefyd yn gofalu am eu perthnasau eu hepgor drwy hyn, gan arwain at bryderon ynghylch cynaliadwyedd y sector gofal plant, yn enwedig yn ein hardaloedd gwledig.
Mae hyn yn cysylltu i ryw raddau â'n pryderon parhaus ynghylch cynllunio'r gweithlu, a bydd hynny'n cael sylw o dan welliant 34. Nododd y Gweinidog yng Nghyfnod 2 nad oes unrhyw amod fod yn rhaid i berthnasau ofalu am blant eraill o dan y cynnig. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cael ei wneud yn glir ar wyneb y Bil nac o fewn y cynllun gweinyddol drafft. Yn yr un modd, un o sgil-effeithiau'r esemptiad ar gyfer ysgolion o dan y Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 yw bod hynny'n atal nod y Gweinidog o ofal cofleidiol, gan y byddai'n rhaid i ysgolion weithio mewn partneriaeth gyda gwarchodwr plant cofrestredig i ddarparu'r elfen gofal plant neu greu endid cyfreithiol ar wahân i gynrychiolwyr gofrestru. Er inni gael sicrwydd yng Nghyfnod 2 a Chyfnod 3 y caiff y rhain eu hadolygu, mae angen gwneud hyn yn glir yn ystod y broses ddeddfwriaethol. Dyna pam rydym ni yma heddiw. Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd yn dal i aros am ganlyniadau'r alwad am dystiolaeth i adolygu Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, a allai leddfu'r broses o gofrestru perthnasau ac ysgolion fel darparwyr gofal plant.
Mae'n hynod o siomedig fod y Gweinidog wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth yn ystod y camau olaf o daith y Bil, sy'n golygu na allwn ni fel Aelodau Cynulliad graffu ar y dystiolaeth hon cyn y caiff y Bil ei basio. Dyma lle mae prosesau'r Bil yn ddiffygiol. Rydym yn trafod Bil fframwaith, ac mae'r Gweinidog yn honni mai mater technegol yn unig ydyw, ond yn ei hanfod mae'n cyflawni rhan o'r cynnig gofal plant drwy CThEM. Roedd y Bil yng Nghyfnod 1 chwe mis ar ôl dechrau treialu'r ardaloedd peilot; yng Nghyfnod 2 cyn yr alwad am dystiolaeth ar gofrestru gofal plant; ac yng Nghyfnod 3 cyn cyhoeddi'r gwerthusiad cyntaf o weithredwyr cynnar y cynnig. Mae'n sicr yn teimlo fel pe baem yn mynd yn ôl at y Bil hwn ymhen blwyddyn pan gyhoeddir yr adroddiad gwerthuso nesaf, a'r flwyddyn ar ôl hynny, pan fydd wedi dechrau cael ei gyflwyno'n genedlaethol. Nid rhoi'r cert o flaen y ceffyl yn unig yw hynny, ond carafán cyfan. Lyw—. Iawn. Diolch. Bu bron i mi ddweud 'Llywydd'. [Chwerthin.]
Y Gweinidog i gyfrannu i'r ddadl—Huw Irranca-Davies.
Diolch Lywydd. Roeddwn yn deall beth oeddech chi'n ei feddwl—roeddwn yn deall.
Un o'r manteision o dreialu'r cynnig, lle rydym wedi symud o saith i 14, a byddwn yn symud i fyny o ran nifer yr awdurdodau lleol, yw ein bod yn dysgu wrth inni fynd ac rydym yn datblygu ac yn addasu'r cynllun. Ond y cwestiwn yma yw beth i'w roi ar wyneb y ddeddfwriaeth sylfaenol. Rwy'n deall, oherwydd mae'n her barhaol gyda hyn, ond mae hwn yn Fil technegol cul i ganiatáu i CThEM gyflawni'r cynnig gofal plant, a bydd y gweddill yn cael ei ddisgrifio yn y rheoliadau neu yn y cynllun gweithredol ac yn y blaen a'r cynllun gweinyddol. Rwyf wedi dweud yn glir y byddaf yn dod â'r cynllun gweinyddol gerbron y pwyllgor a byddaf yn hapus i'w gael wedi'i adolygu a'i drafod a'i ddadansoddi. Ond edrychwch, rydym wedi bod yn glir iawn o'r cychwyn ynglŷn â phwy all ddarparu gofal plant o dan delerau'r cynnig hwn. Darparwyr cofrestredig yn unig a gaiff ddarparu'r cynnig gofal plant hwn. Rheoleiddir y darparwyr hyn a chânt eu harolygu—i ni, mae hynny'n bwysig fel mesur o ansawdd a safonau. Mae'n rhoi sicrwydd i ni fod yr arian a ddefnyddir ar gyfer y cynnig gofal plant yn cael ei wario ar ofal plant sy'n bodloni nifer o ofynion.
Nawr, bydd darparwyr sy'n ymrwymo i bethau fel cynlluniau cymeradwyo gwirfoddol, sydd i'w croesawu'n fawr iawn, fel yr un a weithredir ar gyfer nanis gan Arolygiaeth Gofal Cymru—maent yn gynlluniau defnyddiol iawn wir, ond nid ydynt wedi'u cofrestru, ni chânt eu harolygu, ac felly ni chânt ddarparu'r cynnig hwn. Fodd bynnag—i egluro—rydym wedi ystwytho'r rheolau, wedi dysgu o flwyddyn gyntaf y cynllun gweithredydd cynnar, er mwyn sicrhau y gellir ariannu gwarchodwyr plant drwy'r cynnig i ofalu am blant sydd hefyd yn berthnasau. Clywsom gan y pwyllgor, cawsom sgyrsiau uniongyrchol wyneb yn wyneb â neiniau a theidiau a oedd yn dweud, 'Wel, rwy'n warchodwr plant cofrestredig mewn gwirionedd, hoffwn wneud hyn.' Rydym wedi siarad am hyn yn fewnol, daethom gerbron y pwyllgor a'i drafod, ac rydym wedi newid yr hyn rydym yn ei wneud ar sail dysgu'n fyw ar lawr gwlad.
Ond rydym yn sylweddoli bod y ddeddfwriaeth bresennol yn cynnwys rhai gwaharddiadau mewn perthynas â'r trefniant hwn yn y cyd-destun ehangach, ac am y rheswm hwn rwyf eisoes wedi ymrwymo i adolygu'r agwedd honno ar y ddeddfwriaeth bresennol, fel y gallwn edrych ar bwy a all ddarparu. Ond mantais y cynlluniau peilot yw y byddaf yn parhau i ddychwelyd at y Cynulliad a dweud, 'Rydym wedi dysgu hyn bellach—a ydych yn credu ei bod hi'n syniad da i ni ei addasu eto cyn ei gyflwyno'n llawn?' Nawr, mae'n bwysig cadw hynny mewn cof. Diffiniwyd gwarchod plant a gofal dydd eisoes mewn darnau eraill o ddeddfwriaeth. Nid oes angen ei ailadrodd yn y cyd-destun hwn—rwyf wedi dweud hynny eisoes. Mae'n creu risg y gallai'r diffiniadau hynny dyfu'n fwyfwy anghyson yn y dyfodol, gan arwain at ddryswch neu orfod ailedrych ar ddeddfwriaeth sylfaenol.
I fod yn glir hefyd, fel Llywodraeth rydym yn gwerthfawrogi'n fawr—mawredd, fel rhiant sydd wedi cael tri o blant, rwy'n sicr yn gwerthfawrogi cyfraniad llawer o neiniau a theidiau drwy ofalu am eu hwyrion a'u hwyresau. Ond ni fyddai fy nonno a fy nonna wedi gallu manteisio ar y cynnig gofal plant hwn fel darparwyr am nad oeddent wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru; ni chawsant eu harchwilio. Rwy'n eu caru'n fawr, ac roeddent yn darparu gofal plant gwych, ond ni fyddent wedi gallu manteisio ar y cynllun ac mae hynny'n iawn. Felly, dyna lle mae'r eglurder.
Nawr, ni allaf weld beth fyddai i'w ennill o'r pwerau hyn i wneud rheoliadau yng ngwelliannau 24 a 25, ac i bob pwrpas ni fyddent ond yn datgan ac yn diffinio categorïau o ddarparwyr sydd eisoes wedi'u datgan a'u diffinio mewn deddfwriaeth arall. Felly, ar y sail honno, er fy mod yn deall eich rhesymau, ni allwn gefnogi'r gwelliannau hyn.
Janet Finch-Saunders i ymateb.
Diolch. Rwy'n arbennig o siomedig ynglŷn â hyn ac fe ddywedaf wrthych pam. Yn fy etholaeth i, ac rwy'n sicr fod hyn yn wir ledled Cymru, mae gennym lawer o bobl yn byw yn ein cymunedau gwledig, ynysig sydd â neiniau a theidiau sy'n Gymry sy'n addysgu eu plant ac yn darparu gofal plant yn awr, heddiw, drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n ffaith na fyddant yn gallu manteisio ar hynny ac rwy'n gweld amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, ac ni allaf ddeall o gwbl sut na allwch gefnogi'r gwelliant hwn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 24? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn at bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid, 18, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 24.
Y gwelliant nesaf yw gwelliant 25. Janet Finch-Saunders.
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 25? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 25.