Diogelu Gwasanaethau Lleol

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:33, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn. Rwy’n cynnal trafodaethau rheolaidd gyda fy holl gyd-Aelodau yn y Cabinet, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, er enghraifft, fe wnaethom fynychu cyfarfod o'r gweithgor llywodraeth leol ar y cyd, cyfarfod a fynychwyd hefyd gan aelodau o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac eraill.