1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 5 Rhagfyr 2018.
1. Yn sgil rhybuddion gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am effaith toriadau i gyllid llywodraeth leol, pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch diogelu gwasanaethau lleol? OAQ53050
Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn. Rwy’n cynnal trafodaethau rheolaidd gyda fy holl gyd-Aelodau yn y Cabinet, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, er enghraifft, fe wnaethom fynychu cyfarfod o'r gweithgor llywodraeth leol ar y cyd, cyfarfod a fynychwyd hefyd gan aelodau o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac eraill.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn amlwg, mae croeso mawr i'r arian ychwanegol a ddarparwyd yr wythnos diwethaf ar gyfer llywodraeth leol, ond o ran yr arian sy'n mynd i Gyngor Caerdydd, mae'n £1.5 miliwn yng nghyd-destun y ffaith bod Cyngor Caerdydd yn gorfod chwilio am doriadau posibl o £34 miliwn. Felly, mae'n parhau’n dirwedd heriol iawn i lywodraeth leol. Ac roeddwn yn meddwl tybed pa waith y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau ein bod yn gwneud yn siŵr fod gwasanaethau cyhoeddus yn ymuno â'i gilydd i geisio diogelu’r gwasanaethau ataliol hyn sydd mor bwysig i les y gymuned.
A gaf fi gytuno â Jenny Rathbone, Lywydd, ei bod yn parhau’n adeg heriol iawn i bob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru? Wedi naw mlynedd o gyni mae llywodraeth leol yn sicr yn y rhes flaen. Rwy'n ddiolchgar i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am yr hyn a ddywedasant. Pan gyhoeddasom yr adnoddau ychwanegol ar gyfer cynghorau, dywedodd CLlLC ei hun fod y cyhoeddiad yn arwydd o gynnydd sylweddol ac yn arddangos yr ymdrech gyfunol sydd ar y gweill i wrthbwyso effaith cyni yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n cymheiriaid llywodraeth leol i gryfhau'r ffordd y gallant weithredu ar y cyd ac yn rhanbarthol, ac i ddarganfod ffyrdd o symud arian ymhellach i fyny, fel ein bod yn gwario arian ar atal problemau rhag digwydd, yn hytrach na gorfod ymateb ar ôl i'r niwed gael ei wneud.
Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r holl awdurdodau lleol yn fy ardal yn cael eu harwain gan y Blaid Lafur, ac maent hwy hyd yn oed yn dechrau dweud na ellir diogelu ysgolion a gofal cymdeithasol, gydag un ohonynt yn dweud hyd yn oed na all Llywodraeth Cymru barhau i ddefnyddio cyni fel esgus dros beidio â chaniatáu i lywodraeth leol ddarparu gwasanaethau hanfodol i’r holl etholwyr. Gyda'r sylw hwnnw mewn cof, tybed a allwch ddweud wrthyf a ydych wedi trafod gyda'r cynghorau yn fy rhanbarth, yn uniongyrchol eich hun, ynglŷn ag a fyddai newidiadau i'r fformiwla ariannu yn gwneud gwahaniaeth. Ac yn y cyfamser, a ydych wedi trafod unrhyw ffyrdd penodol y gallant ddiogelu'r cyllidebau hynny ar yr arian rydych wedi'i roi iddynt eleni a'r flwyddyn nesaf. Ac os nad ydych wedi cael cyfle i wneud hynny, os ydych yn Brif Weinidog ymhen ychydig wythnosau, sut y byddwch yn cyfarwyddo eich cyd-Aelodau i wneud hynny ar eich rhan?
Diolch i Suzy Davies. Rwy’n ei llongyfarch, wrth gwrs, am fod yr holl awdurdodau lleol yn ei hardal yn rhai a arweinir gan y Blaid Lafur, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddant yn edrych ymlaen at gael Llywodraeth Lafur ar lefel y DU yn ogystal ag yma yng Nghymru, oherwydd dyna fyddai’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf posibl i'w hamgylchiadau ariannol. Trafodwyd y fformiwla ariannu yn y cyfarfod a fynychais gydag Alun Davies ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, gan gynnwys cynrychiolwyr o gynghorau yn ardal Suzy Davies. Rwy'n credu bod arweinwyr cynghorau’n cydnabod, yn y pen draw, fod y fformiwla ariannu’n tynnu sylw oddi ar y brif broblem. Mae'r fformiwla ariannu’n rhannu'r swm o arian sydd ar gael, ac mae’n eithriadol o anodd ei newid pan fo arian yn lleihau. Yr hyn y maent yn ei bwysleisio, ac rydym ninnau’n ei bwysleisio hefyd, yw bod angen i Lywodraeth y DU ddarparu cyllid priodol ar gyfer yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, fel mai maint y gacen sy'n tyfu yn hytrach na dadl ynglŷn â sut i rannu cacen sy’n lleihau.
Ysgrifennydd y Cabinet, pa asesiad a wnaethoch o ymchwil gan Brifysgol Caergrawnt, sy'n dangos bod toriadau i wariant ar wasanaethau gan gynghorau yn Lloegr, ar gyfartaledd, yn ddwbl yr hyn a welwyd yng Nghymru?
Diolch i Jane Hutt am y cwestiwn hwnnw. Cododd hyn yn ystod ein dadl ar y gyllideb ddrafft ddoe, gan dynnu sylw at y gwaith ymchwil gan Brifysgol Caergrawnt, a gyhoeddwyd fel y mae'n digwydd, fel y dywedais ddoe, ar yr un diwrnod ag y cyhoeddwyd y setliad dros dro ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Ac mae'n dangos yn bendant, fel y dywed yr adroddiad ei hun, fod Cymru a'r Alban wedi dilyn llwybr gwahanol o ran y ffordd y diogelwn wasanaethau lleol yma, a bod gennym, o fewn y cyfyngiadau a wynebwn, sy'n rhai real—ac nid yw ein gweithredoedd yn lliniaru'r holl anawsterau a wynebir gan awdurdodau lleol, rwy'n gwybod—ond o fewn y cyfyngiadau hynny, rydym wedi diogelu llywodraeth leol yng Nghymru rhag effeithiau gwaethaf naw mlynedd o gyni, tra bo llywodraeth leol yn Lloegr wedi cael ei thaflu i'r bleiddiaid.