Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi hefyd yn cytuno â mi mai un ffordd o gynorthwyo dealltwriaeth trethdalwyr Cymru o'u didyniadau treth fyddai cael y gyfradd Gymreig wedi'i chynnwys ar slipiau cyflog, lle mae pobl yn cael cyflogau misol neu wythnosol, a'r ffurflen P60, lle y dylai'r didyniad diwedd blwyddyn mewn amgylchiadau lle mae pobl yn gweithio yn Lloegr ac yng Nghymru, ddangos beth a dynnwyd yn Lloegr a beth a dynnwyd ar gyfer Cymru? Felly, dyna wahaniaeth o ran casglu trethi mewn dau ranbarth gwahanol yn y wlad. Felly, pa drafodaethau a gafwyd ynglŷn â hyn, os gwelwch yn dda?