Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Diolch i Mohammad Asghar am yr awgrymiadau hynny, ac rwy'n hapus iawn i fynd ar eu trywydd gyda CThEM i weld a fyddent yn ffordd ymarferol o barhau i esbonio'r newidiadau y mae datganoli cyllidol wedi'u cyflwyno i ddinasyddion yng Nghymru. Mae'n iawn i dynnu sylw at y ffaith bod trafodaethau manwl wedi digwydd, a dadansoddiadau manwl, yn wir, gan CThEM o'r 98 cod post trawsffiniol, lle y gallai pobl fod yn byw yn Lloegr neu yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod llythyrau hysbysu yn mynd i drethdalwyr sy'n byw yng Nghymru yn unig. Credwn fod llai na 900 o bobl yn y sefyllfa honno, ond bydd y gwaith manwl ychwanegol y mae CThEM wedi'i wneud yn golygu y bydd llythyrau i'r dinasyddion sy'n weddill wedi'u dosbarthu erbyn 10 Rhagfyr.