Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Diolch i Jane Hutt am y cwestiwn hwnnw. Cododd hyn yn ystod ein dadl ar y gyllideb ddrafft ddoe, gan dynnu sylw at y gwaith ymchwil gan Brifysgol Caergrawnt, a gyhoeddwyd fel y mae'n digwydd, fel y dywedais ddoe, ar yr un diwrnod ag y cyhoeddwyd y setliad dros dro ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Ac mae'n dangos yn bendant, fel y dywed yr adroddiad ei hun, fod Cymru a'r Alban wedi dilyn llwybr gwahanol o ran y ffordd y diogelwn wasanaethau lleol yma, a bod gennym, o fewn y cyfyngiadau a wynebwn, sy'n rhai real—ac nid yw ein gweithredoedd yn lliniaru'r holl anawsterau a wynebir gan awdurdodau lleol, rwy'n gwybod—ond o fewn y cyfyngiadau hynny, rydym wedi diogelu llywodraeth leol yng Nghymru rhag effeithiau gwaethaf naw mlynedd o gyni, tra bo llywodraeth leol yn Lloegr wedi cael ei thaflu i'r bleiddiaid.