Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Lywydd, deallaf y pwyntiau a wnaeth Rhun ap Iorwerth. Mae pob un ohonynt yn bwyntiau difrifol a chafodd pob un ohonynt eu gwneud ger bron yr ymchwiliad cyhoeddus annibynnol lleol. Heb amheuaeth, byddant oll yn cael sylw yn adroddiad yr arolygydd a luniwyd yn sgil yr ymchwiliad. Nid wyf eto wedi gweld adroddiad yr arolygydd ac rwyf am gadw unrhyw sylwadau y gallwn eu gwneud ar y mater hwn hyd nes y byddaf yn gallu gwneud hynny a gweld y cyngor a ddarperir gyda'r adroddiad.