1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn i chi. Ysgrifennydd Cabinet, pa bwys neu ba werth ddylai gael ei roi i farn a sylwadau Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru pan fydd y Llywodraeth yn dod i benderfyniadau mawr ar bolisïau gwariant?
Wrth gwrs, rydym ni'n gwrando ar beth mae'r comisiynydd yn ei ddweud. Fe wnes i siarad â hi fwy nag unwaith pan oedd y gyllideb yn cael ei pharatoi dros y gwanwyn a'r haf. Mae hi wedi bod yn adeiladol, rydw i'n meddwl, yn y broses yna, ac rydym ni'n gwerthfawrogi'r gwaith mae hi'n ei wneud a'r cymorth mae hi'n ei roi i ni fel Llywodraeth.
Mae'n siŵr eich bod yn dyfalu o bosibl mai at yr M4 rydw i'n mynd i fod yn cyfeirio. Mae'r comisiynydd wedi gwneud sylwadau cryfion iawn dros beth amser erbyn hyn ynglŷn â chynlluniau ar gyfer llwybr du yr M4. Mi soniodd y llynedd y gallai cynllun yr M4 osod cynsail peryglus ar gyfer y dyfodol ac, yn fwy diweddar, mae hi wedi gwneud ei barn yn berffaith glir nad ydy hi'n credu bod y cynllun yma yn gymesur ag anghenion cenedlaethau'r dyfodol. A ddylai sylwadau mor gryf â hynny, gan gomisiynydd rydym ni wedi ymddiried yn fawr ynddi hi, fod yn ddigon mewn difrif i roi stop ar y cynllun yma?
Wel, wrth gwrs, mae'r comisiynydd wedi rhoi ei sylwadau hi i fewn i'r ymchwil sydd wedi cael ei wneud—ymchwil annibynnol ac adroddiad annibynnol, sydd wedi dod mas o'r gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf.
Lywydd, rhaid i mi ailadrodd yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod, arweinydd y tŷ ddoe. Mae proses gyfreithiol ar y gweill mewn perthynas â phenderfyniadau sydd i'w gwneud ar yr M4. Fel Gweinidog cyllid, mae gennyf ran i'w chwarae yn y broses honno, ac nid wyf am wneud sylwadau ar unrhyw agwedd o'r broses o wneud penderfyniadau a fyddai'n peri i mi dramgwyddo'r paramedrau cyfreithiol y mae'n rhaid i mi weithredu o'u mewn.
Yn briodol iawn, ceir disgwyliadau mawr o ran yr hyn y gall y comisiynydd ei wneud ar gyfer Cymru. Yn y prawf mawr cyntaf hwn o'r dylanwad sydd gan y comisiynydd, does bosibl na ddylai'r Llywodraeth ddangos eu bod o ddifrif ynglŷn â'i rôl. Mae'n codi cwestiynau difrifol a sylfaenol ynglŷn â gwerth am arian a beth y mae hynny'n ei olygu o ran yr arian a fydd ar gael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Fel deiliad y pwrs cyhoeddus yng Nghymru a rhywun sy'n gyfrifol am sicrhau ein bod yn cael y gwerth mwyaf am arian, a'r mwyaf o fudd o'r bunt Gymreig, tra byddwn yn dal i aros am benderfyniadau gan y Llywodraeth ar y camau nesaf ar gyfer y llwybr du, a allwch ymrwymo y byddwch yn archwilio pob posibilrwydd ar gyfer gwario'r swm sylweddol hwnnw o arian—hyd at £2 biliwn neu fwy hyd yn oed—mewn ffordd fwy synhwyrol, naill ai drwy wario llai i gael yr un canlyniadau drwy gryfhau'r rhwydwaith ffyrdd a buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, neu wario'r un faint o arian hyd yn oed a chael canlyniadau gryn dipyn yn well, a fyddai'n plesio nid yn unig cenedlaethau'r dyfodol, ond Ysgrifenyddion iechyd y dyfodol, Ysgrifenyddion trafnidiaeth y dyfodol, ac yn wir Gweinidogion cyllid y dyfodol yn ogystal?
Lywydd, deallaf y pwyntiau a wnaeth Rhun ap Iorwerth. Mae pob un ohonynt yn bwyntiau difrifol a chafodd pob un ohonynt eu gwneud ger bron yr ymchwiliad cyhoeddus annibynnol lleol. Heb amheuaeth, byddant oll yn cael sylw yn adroddiad yr arolygydd a luniwyd yn sgil yr ymchwiliad. Nid wyf eto wedi gweld adroddiad yr arolygydd ac rwyf am gadw unrhyw sylwadau y gallwn eu gwneud ar y mater hwn hyd nes y byddaf yn gallu gwneud hynny a gweld y cyngor a ddarperir gyda'r adroddiad.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Ysgrifennydd Cabinet, pa ddarpariaeth a wnaethoch yn eich cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf mewn perthynas â bargen twf gogledd Cymru?
Lywydd, rwyf ar fin gallu darparu ar gyfer bargen twf gogledd Cymru. Rwy'n gobeithio gallu gwneud hynny o fewn nifer fach o ddyddiau. Nid wyf wedi gallu gwneud hynny nes nawr oherwydd, yn wahanol i fargeinion dinesig Caerdydd ac Abertawe, lle y cytunwyd ar y symiau o arian i'w darparu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU cyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU, dewisodd Canghellor y Trysorlys gyhoeddi'r swm o arian gan Lywodraeth y DU yn annibynnol a heb ddod i gytundeb â ni.
Rydych chi'n araf iawn yn bwrw iddi mewn perthynas â'r fargen hon, onid ydych, Ysgrifennydd y Cabinet? Oherwydd, fel y gwyddoch, rhoddwyd y cais hwn at ei gilydd a'i gyflwyno gan fwrdd uchelgais economaidd gogledd Cymru ar 23 Hydref. Llwyddodd Llywodraeth y DU i'w ystyried a rhoddodd ei llaw yn ei phoced a gosod £120 miliwn ar y bwrdd o fewn ychydig wythnosau'n unig. Pam eich bod chi wedi treulio cymaint o amser yn petruso ynglŷn â hyn?
Rwy'n sicr y byddai'n well gan yr Aelod weld ymagwedd adeiladol a thrawsbleidiol tuag at fargen twf gogledd Cymru. Deallaf fod Aelodau ar draws y Siambr yn ei chefnogi. Yn sicr bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae ein rhan, a byddaf yn gwneud penderfyniad ar y swm o arian y gallwn ei gyfrannu i'r fargen. Byddai'n well gennyf fod wedi gwneud hynny yn y ffordd y'i gwnaethom mewn perthynas ag Abertawe a Chaerdydd—drwy gytundeb ymlaen llaw â Llywodraeth y DU. Ar ôl i Lywodraeth y DU benderfynu rhoi ei llaw yn ei phoced, er nad aeth yn ddwfn iawn, rhaid imi ddweud, o gofio bod awdurdodau gogledd Cymru wedi gofyn am £170 miliwn, nid y £120 miliwn a gawsant yn y diwedd—. Ond byddaf yn gwneud yn siŵr fod cyfraniad gan Lywodraeth Cymru ac yna byddaf yn edrych ymlaen at y consensws trawsbleidiol a fu yn y Siambr hon, ar bwysigrwydd parhad y fargen dwf.
Nodais eich beirniadaeth o'r £120 miliwn, ond mae'n £120 miliwn yn fwy nag y llwyddoch chi i roi eich dwylo yn eich poced i'w roi hyd yma. Rydych chi'n hollol iawn i ddweud bod cytundeb trawsbleidiol ar y mater hwn. Cyn cyllideb Llywodraeth y DU, nodais fod Aelodau Seneddol ar sail drawsbleidiol, yn cynnwys Aelodau Seneddol Llafur, wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn iddi wneud cyhoeddiad yn y gyllideb ar fargen twf gogledd Cymru. Buaswn yn tybio eich bod chi hefyd wedi cael llythyrau tebyg. Efallai y gallwch ddweud wrthym a ydych wedi cael rhai, naill ai gan Aelodau Cynulliad neu Aelodau Seneddol Llafur mewn perthynas â'r rôl y gallech ei chwarae.
Credaf mai'r hyn y mae pobl yng ngogledd Cymru yn edrych amdano yw penderfyniadau cyflym ynglŷn â hyn. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru, yn gwbl briodol, yn awyddus iawn i gael cytundeb ar fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd a bargen ddinesig bae Abertawe, ond am ryw reswm, ymddengys eich bod wedi bod ychydig yn fwy swrth nag y buoch gyda'r ddwy fargen honno o ran ymgysylltu â'r bwrdd uchelgais economaidd ar fargen twf gogledd Cymru ac o ran rhoi arian ar y bwrdd. Rydych yn dweud yn awr y byddwch yn gwneud cyhoeddiad yn y dyddiau nesaf; rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi datgelu hynny inni heddiw. A allwch ddweud wrthym, cyn y cyhoeddiad hwnnw, pa un a fyddwch yn darparu digon o arian i allu cyflawni'r cais yn llawn?
Wel, Lywydd, rwyf wedi cael gohebiaeth mewn perthynas â bargen twf gogledd Cymru wrth gwrs. Ar y cyfan, roedd yn fy annog i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i benderfynu ynglŷn â'r fargen. Hon oedd y drydedd gyllideb. Sylwaf fod yr Aelod yn siarad am wneud penderfyniadau'n gyflym. Hwn oedd y trydydd achlysur blynyddol y bu i Ganghellor y Trysorlys gyfeirio at fargen twf gogledd Cymru. Ddwy flynedd yn ôl, dywedodd wrthym ei fod yn meddwl am y peth; flwyddyn yn ôl, dywedodd wrthym ei fod wedi meddwl ychydig mwy amdano; ac eleni, roeddwn yn falch iawn o weld ei fod wedi gwneud penderfyniad o ran ariannu. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad cyn gynted ag y gallaf, fel rwy'n dweud. Bydd yn fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n credu ei bod hi'n llawer gwell inni ganolbwyntio ar wneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda'n gilydd, Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, partneriaid sector preifat ac eraill, i sicrhau cymaint o lwyddiant â phosibl i'r fargen, yn hytrach na phoeni gormod pa un a wnaed penderfyniad wythnos neu bythefnos yn ddiweddarach na rhywun arall.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf fi gymeradwyo prif economegydd Llywodraeth Cymru am y ddogfen a gyhoeddwyd yr wythnos hon, sy'n crynhoi'r dadansoddiadau economaidd a wnaed gan Lywodraeth y DU o effeithiau Brexit mewn senarios gwahanol? Ond mae'r ddogfen yn cynnwys rhai o'r amcanestyniadau mwy chwerthinllyd, gan gynnwys y rhai a gyhoeddwyd gan Fanc Lloegr yr wythnos hon—gan barhau prosiect ofn—a honnai y gallai cynnyrch domestig gros yn y DU erbyn diwedd 2023, yn y senario waethaf, fod rhwng 7.75 y cant a 10 y cant yn is na'r hyn ydoedd ym mis Mai 2016, rhywbeth a fyddai'n gwbl syfrdanol, oherwydd nid yn unig y byddai'n grebachu llawer mwy difrifol na'r hyn a brofwyd gennym yn nirwasgiad 2008, mae'n uwch mewn gwirionedd na'r cwymp mewn allbwn a ddigwyddodd yn ystod dirwasgiad mawr y 1930au, rhywbeth a welir yn unig mewn gwledydd fel Venezuela, sydd wedi cael dos lawn o bolisïau economaidd Corbynaidd, a lle mae crebachu o 16 y cant yn y cynnyrch domestig gros mewn un flwyddyn yn norm bellach. Felly, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod y math o senarios gwaethaf a gynhyrchir gan sefydliadau swyddogol fel Banc Lloegr yn anghyfrifol tu hwnt yn yr hinsawdd bresennol o ansicrwydd ynglŷn â Brexit, gan eu bod yn chwyddo ofnau'n ddiangen ac felly'n gwneud yr ansicrwydd hwnnw hyd yn oed yn waeth, ac mae hynny'n cael effaith go iawn ar fusnesau a bywydau a bywoliaeth pobl gyffredin?
Wel, Lywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod, yn gyntaf oll, am dynnu sylw at y ddogfen a gyhoeddwyd gan y prif economegydd ddoe. Mae'n annibynnol ar y Llywodraeth yn y farn y mae'n ei rhoi, a gwn ei fod yn awyddus i gyhoeddi ei asesiad ochr yn ochr â'r ddadl a gawsom ddoe, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau eraill wedi cael cyfle i ddarllen yr hyn a ddywedodd.
Rwy'n meddwl bod ei ddadansoddiad yn gytbwys. Credaf ei fod wedi'i fynegi'n fwriadol mewn iaith nad yw'n codi bwganod, ac ni allaf gytuno â'r Aelod, fel y gŵyr, a diystyru amcanestyniadau a wneir gan ddaroganwyr cwbl prif ffrwd a pharchus, nid yn unig Banc Lloegr, ond y Trysorlys ei hun, a dadansoddwyr ar y tu allan i'r Llywodraeth hefyd, ac mae pob un ohonynt yn rhannu consensws cyffredinol ar effaith bosibl Brexit caled digyfaddawd ar ein heconomi. Ac ni allaf fforddio diystyru'r amcanestyniadau hynny yn y ffordd y mae ef yn ei wneud, oherwydd mewn Llywodraeth, mae arnaf ofn fod yn rhaid i chi baratoi ar gyfer y gwaethaf, hyd yn oed pan fyddwch yn gweithio mor galed ag y gallwch i'w osgoi.
Mae arnaf ofn fod Ysgrifennydd y Cabinet, drwy anghytuno â mi, yn anghytuno hefyd â chyn-lywodraethwr Banc Lloegr, Mervyn King, ac enillydd gwobr Nobel Paul Krugman, y mae eu safbwyntiau gwleidyddol ymhell iawn o fy rhai i a heb fod yn rhy bell o rai Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd dywedodd Mervyn King ei fod yn drist wrth weld Banc Lloegr yn cael ei dynnu'n ddiangen i mewn i ymarfer prosiect ofn o'r math hwn. Ac mae Paul Krugman—nad yw'n hoff o Brexit—yn disgrifio amcangyfrifon y banc fel 'rhifau blwch du' sy'n 'amheus' ac yn 'codi cwestiynau'. Felly, pan fo ystod mor eang o ddadansoddwyr economaidd byd-enwog yn gallu diystyru'r mathau hyn o broffwydoliaethau hysterig, ni allaf ddeall pam na all Ysgrifennydd y Cabinet ei hun, er mwyn sicrhau dadansoddiadau a dadleuon cytbwys—ac rwy'n cytuno gydag ef fod y prif economegydd wedi ychwanegu'r rheini at ein trafodaethau ddoe—dawelu pethau drwy gytuno â mi nad yw'n gwneud unrhyw les o gwbl inni gael rhagolygon ar gyfer y dyfodol sydd ymhell bell o'r hyn sy'n digwydd yn y byd go iawn.
Wel, Lywydd, hoffwn geisio dawelu pethau yn y ffordd hon drwy ddweud bod dau beth wedi digwydd ddoe sy'n gwneud y rhagolygon ar gyfer Brexit 'dim cytundeb' yn llai tebygol, ac rwy'n falch iawn o hynny. Y ffordd orau oll o dawelu pryderon fyddai i Lywodraeth y DU gymryd y cyngor a nodwyd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' a negodi ffurf ar Brexit sy'n rhoi cefnogaeth ddilys i economi Cymru a swyddi, fel na fyddai'n rhaid inni osod arbenigwyr yn erbyn ei gilydd i ymdrin â'r posibilrwydd damcaniaethol ond trychinebus y gallem adael yr Undeb Ewropeaidd ar y telerau sy'n gwneud y niwed mwyaf.
Hoffwn gyfeirio'n ôl at adroddiad y prif economegydd, oherwydd mae'n dweud ynddo fod consensws cryf ymhlith economegwyr ynglŷn â phrif egwyddorion darogan, ac un ohonynt yw bod pellter ei hun yn rhwystr a masnach yn gyffredinol yn fwy bywiog gyda phartneriaid sy'n agos, yn ddaearyddol ac o ran eu cam datblygu economaidd. Mae model y Trysorlys a'r rhan fwyaf o'r modelau eraill y cyfeirir atynt yn y ddogfen hon yn defnyddio'r hyn a elwir yn fodel disgyrchedd o ddarogan, a'r egwyddor sylfaenol yw bod swm y fasnach a gyflawnir rhwng dwy wlad yn lleihau gyda sgwâr y pellter rhyngddynt. Ond lluniwyd yr holl ddata y seiliwyd y model darogan braidd yn amheus hwn arno yn yr 1980au a chyn hynny—byd heb ryngrwyd, heb FaceTime, heb e-bost, heb Google Translate, heb amlwythiant safonedig, cyn i wladwriaethau Marcsaidd blaenorol, fel Tsieina, gael eu hagor, heb Sefydliad Masnach y Byd, hyd yn oed—ac felly, o ystyried bod masnach mewn gwasanaethau bellach yn llawer iawn pwysicach i'n heconomi ac yn wir, i economi ein cymdogion Ewropeaidd na'r pryd hwnnw, a symudedd byd-eang yn llawer mwy a'r chwyldro digidol wedi digwydd, mae'r rhagdybiaethau y seiliwyd y modelau darogan hyn yn affwysol o hen ffasiwn, a dyna pam y maent yn cynhyrchu'r rhagfynegiadau brawychus o anghytbwys hyn, y profir bob amser wedi'r digwyddiad eu bod yn gwbl anghywir.
Lywydd, yn gyffredinol disgrifir y dadansoddiad disgyrchedd, fel y dywedodd yr Aelod, fel hyn: 'mae masnach yn haneru wrth i'r pellter ddyblu', ac mae hynny'n dweud rhywbeth wrthych sy'n synnwyr cyffredin at ei gilydd: eich bod yn fwy tebygol o gael perthynas economaidd fwy bywiog gyda'r rhai sydd agosaf atoch, a pho bellaf y bydd eich marchnad oddi wrthych, y lleiaf tebygol y byddwch o gael masnach sydd yr un mor fywiog. Yr anhawster gwirioneddol i'r Aelod yw bod yr holl bethau y mae'n tynnu sylw atynt er mwyn ceisio tanseilio dadansoddiad disgyrchedd yn berthnasol pa un a ydym yn yr Undeb Ewropeaidd ai peidio. Ac nid yw gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ffaith berthnasol yn y dadansoddiad y mae newydd geisio'i nodi.