Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
A gaf fi gytuno â Jenny Rathbone, Lywydd, ei bod yn parhau’n adeg heriol iawn i bob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru? Wedi naw mlynedd o gyni mae llywodraeth leol yn sicr yn y rhes flaen. Rwy'n ddiolchgar i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am yr hyn a ddywedasant. Pan gyhoeddasom yr adnoddau ychwanegol ar gyfer cynghorau, dywedodd CLlLC ei hun fod y cyhoeddiad yn arwydd o gynnydd sylweddol ac yn arddangos yr ymdrech gyfunol sydd ar y gweill i wrthbwyso effaith cyni yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n cymheiriaid llywodraeth leol i gryfhau'r ffordd y gallant weithredu ar y cyd ac yn rhanbarthol, ac i ddarganfod ffyrdd o symud arian ymhellach i fyny, fel ein bod yn gwario arian ar atal problemau rhag digwydd, yn hytrach na gorfod ymateb ar ôl i'r niwed gael ei wneud.