Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:47, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Lywydd, rwyf ar fin gallu darparu ar gyfer bargen twf gogledd Cymru. Rwy'n gobeithio gallu gwneud hynny o fewn nifer fach o ddyddiau. Nid wyf wedi gallu gwneud hynny nes nawr oherwydd, yn wahanol i fargeinion dinesig Caerdydd ac Abertawe, lle y cytunwyd ar y symiau o arian i'w darparu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU cyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU, dewisodd Canghellor y Trysorlys gyhoeddi'r swm o arian gan Lywodraeth y DU yn annibynnol a heb ddod i gytundeb â ni.