Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Rwy'n sicr y byddai'n well gan yr Aelod weld ymagwedd adeiladol a thrawsbleidiol tuag at fargen twf gogledd Cymru. Deallaf fod Aelodau ar draws y Siambr yn ei chefnogi. Yn sicr bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae ein rhan, a byddaf yn gwneud penderfyniad ar y swm o arian y gallwn ei gyfrannu i'r fargen. Byddai'n well gennyf fod wedi gwneud hynny yn y ffordd y'i gwnaethom mewn perthynas ag Abertawe a Chaerdydd—drwy gytundeb ymlaen llaw â Llywodraeth y DU. Ar ôl i Lywodraeth y DU benderfynu rhoi ei llaw yn ei phoced, er nad aeth yn ddwfn iawn, rhaid imi ddweud, o gofio bod awdurdodau gogledd Cymru wedi gofyn am £170 miliwn, nid y £120 miliwn a gawsant yn y diwedd—. Ond byddaf yn gwneud yn siŵr fod cyfraniad gan Lywodraeth Cymru ac yna byddaf yn edrych ymlaen at y consensws trawsbleidiol a fu yn y Siambr hon, ar bwysigrwydd parhad y fargen dwf.