Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:43, 5 Rhagfyr 2018

Mae'n siŵr eich bod yn dyfalu o bosibl mai at yr M4 rydw i'n mynd i fod yn cyfeirio. Mae'r comisiynydd wedi gwneud sylwadau cryfion iawn dros beth amser erbyn hyn ynglŷn â chynlluniau ar gyfer llwybr du yr M4. Mi soniodd y llynedd y gallai cynllun yr M4 osod cynsail peryglus ar gyfer y dyfodol ac, yn fwy diweddar, mae hi wedi gwneud ei barn yn berffaith glir nad ydy hi'n credu bod y cynllun yma yn gymesur ag anghenion cenedlaethau'r dyfodol. A ddylai sylwadau mor gryf â hynny, gan gomisiynydd rydym ni wedi ymddiried yn fawr ynddi hi, fod yn ddigon mewn difrif i roi stop ar y cynllun yma?