Buddsoddi Cyfalaf yng Nghwm Cynon

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:02, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn wir, mae arddangosfa ar gyfer y ganolfan gofal sylfaenol honno yn cael ei chynnal yn Aberpennar heddiw. Ond yn benodol, rwy'n awyddus i'r gwaith deuoli ar adrannau 5 a 6 o ffordd Blaenau'r Cymoedd gael ei gwblhau, gwaith a fydd mor bwysig i fy etholaeth. Nodais sylwadau'r Ysgrifennydd llywodraeth leol yr wythnos diwethaf ynglŷn â sicrhau'r budd mwyaf o'r buddsoddiad yng nghoridor yr A465 ar gyfer cymunedau lleol. Roedd hwn wedi'i osod yn erbyn ffrâm amser o 12 mis, felly gyda'r gwaith ar adrannau 5 a 6 i fod i ddechrau ar ddiwedd 2019, sut y bydd y buddsoddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i sicrhau'r budd mwyaf i gymunedau Cwm Cynon?