Rhaglen Prentisiaeth Llywodraeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:05, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod. Byddaf yn cyfarfod â holl Ysgrifenyddion y Cabinet fel rhan o'n paratoadau cyllidebol ar gyfer trafod y modd y cyflawnwn y blaenoriaethau a nodwyd gennym yn 'Ffyniant i Bawb'. Mae hynny'n cynnwys ein hymrwymiad i ddarparu 100,000 o brentisiaethau safonol ar gyfer pobl o bob oed yn ystod y tymor Cynulliad hwn.