1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 5 Rhagfyr 2018.
5. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch ariannu rhaglen prentisiaeth Llywodraeth Cymru? OAQ53025
Diolch i'r Aelod. Byddaf yn cyfarfod â holl Ysgrifenyddion y Cabinet fel rhan o'n paratoadau cyllidebol ar gyfer trafod y modd y cyflawnwn y blaenoriaethau a nodwyd gennym yn 'Ffyniant i Bawb'. Mae hynny'n cynnwys ein hymrwymiad i ddarparu 100,000 o brentisiaethau safonol ar gyfer pobl o bob oed yn ystod y tymor Cynulliad hwn.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Weinidog. Yn ddiweddar, mynegodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ei siom ynghylch y diffyg tryloywder mewn perthynas â chyllid a gweithrediad y rhaglen brentisiaeth. Hefyd, mynegodd y pwyllgor bryder fod y diffyg tryloywder hwn yn creu her i graffu effeithiol ar y cynllun blaenllaw hwn gan Lywodraeth Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Weinidogion ynglŷn â'r mater hwn, a pha gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod pryderon y gymuned yn cael sylw ac yn cael eu datrys?
Diolch i'r Aelod am hynny. Wrth gwrs rydym o ddifrif ynglŷn â safbwyntiau'r pwyllgor ac edrychaf ymlaen at eu hastudio'n fwy manwl i weld sut y gallwn ddweud ein stori ar brentisiaethau'n gliriach, oherwydd mae'n stori dda iawn yn wir, Lywydd. Fel Llywodraeth, byddem yn sicr yn dymuno gwneud yn siŵr nad oes unrhyw amheuaeth, er enghraifft, y byddwn yn buddsoddi £150 miliwn o arian Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf i'n helpu ar ein taith tuag at o leiaf 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed yn ystod y tymor Cynulliad hwn.
Dengys ymchwil gan Gymdeithas Genedlaethol y Prentisiaid fod prentisiaid yn gwario 20 y cant o'u cyflog ar drafnidiaeth, sy'n sylweddol, o gofio mai £3.70 yr awr yn unig y bydd rhai prentisiaid yn ei gael. Roeddwn yn meddwl tybed pa gynlluniau—neu a oes gennych unrhyw gynlluniau, o bosibl, i annog cludiant am ddim i brentisiaid fel eu bod yn gallu cyrraedd eu man gwaith yn brydlon ac mewn modd fforddiadwy, fel nad oes yn rhaid iddynt gyllidebu ar gyfer trafnidiaeth pan fo'n rhaid iddynt gyllidebu ar gyfer cynifer o bethau eraill yn eu bywydau fel prentisiaid?
Lywydd, rwy'n llwyr gydnabod y pwynt a wnaeth Bethan Sayed am gost teithio i'r gwaith i bobl sy'n gorfod ymdopi ar incwm isel. Nid mater i mi yw'r polisi. Mater i fy nghyd-Aelod, Ken Skates, yw hwnnw ond fe wnaf yn siŵr ei fod yn cael clywed y pwyntiau y mae hi wedi'u gwneud y prynhawn yma.
A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno fod yr ardoll brentisiaethau y mae Llywodraeth y DU yn ymffrostio yn ei chylch bellach wedi'i datgelu am yr hyn ydyw: dim mwy na threth ar gyflogwyr, nad yw wedi gwneud fawr ddim i wella mynediad at brentisiaethau? A fyddai'n cytuno hefyd fod y colegau addysg bellach yng Nghymru yn gwneud gwaith hynod o dda'n hyfforddi prentisiaid er budd ein gwlad?
Wel, mae Mike Hedges yn iawn, wrth gwrs, Lywydd. Treth ym mhob ystyr arall yw'r ardoll brentisiaethau, a threth sydd wedi'i chynllunio'n wael iawn, ac un nad oes neb yn ei ffafrio, hyd y gallaf weld, o blith gwledydd y Deyrnas Unedig ac o blith cyflogwyr yn ogystal. Roedd yn garbwl o'r dechrau. Ni chafwyd unrhyw drafodaeth ymlaen llaw gyda'r Alban na Chymru. Gallem fod wedi helpu Canghellor y Trysorlys ar y pryd i wneud gwaith gwell ohoni pe bai wedi caniatáu i ni, fel oedd yn ofynnol ym mholisi'r datganiad cyllid, i fod yn rhan o'r gwaith o lunio'r hyn y bwriadai ei gyflawni.
Yn sicr, cytunaf â Mike Hedges fod colegau addysg bellach yng Nghymru yn gwneud gwaith rhagorol yn ymateb i anghenion economaidd lleol, a pharu pobl ifanc â'r gyrfaoedd y byddant yn gallu eu datblygu yn y tymor hir. Yn ddiweddar cyfarfûm â phrentisiaid yn Airbus ac yn Tata yn ne Cymru, ac roedd ganddynt oll straeon trawiadol i'w hadrodd am y cymorth a gawsant gan gyflogwyr mawr yng Nghymru, a sut yr ategwyd hynny gan ymagwedd wirioneddol ymatebol eu hawdurdodau addysg lleol a'r colegau addysg bellach y maent yn dibynnu arnynt.