Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Lywydd, rhaid i mi ailadrodd yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod, arweinydd y tŷ ddoe. Mae proses gyfreithiol ar y gweill mewn perthynas â phenderfyniadau sydd i'w gwneud ar yr M4. Fel Gweinidog cyllid, mae gennyf ran i'w chwarae yn y broses honno, ac nid wyf am wneud sylwadau ar unrhyw agwedd o'r broses o wneud penderfyniadau a fyddai'n peri i mi dramgwyddo'r paramedrau cyfreithiol y mae'n rhaid i mi weithredu o'u mewn.