Rhaglen Prentisiaeth Llywodraeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:06, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am hynny. Wrth gwrs rydym o ddifrif ynglŷn â safbwyntiau'r pwyllgor ac edrychaf ymlaen at eu hastudio'n fwy manwl i weld sut y gallwn ddweud ein stori ar brentisiaethau'n gliriach, oherwydd mae'n stori dda iawn yn wir, Lywydd. Fel Llywodraeth, byddem yn sicr yn dymuno gwneud yn siŵr nad oes unrhyw amheuaeth, er enghraifft, y byddwn yn buddsoddi £150 miliwn o arian Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf i'n helpu ar ein taith tuag at o leiaf 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed yn ystod y tymor Cynulliad hwn.