Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Lywydd, rwy'n llwyr gydnabod y pwynt a wnaeth Bethan Sayed am gost teithio i'r gwaith i bobl sy'n gorfod ymdopi ar incwm isel. Nid mater i mi yw'r polisi. Mater i fy nghyd-Aelod, Ken Skates, yw hwnnw ond fe wnaf yn siŵr ei fod yn cael clywed y pwyntiau y mae hi wedi'u gwneud y prynhawn yma.