Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Fel y gŵyr, cyhoeddais ddoe fy mod yn bwriadu gwella ein cynllun rhyddhad ardrethi ar gyfer y stryd fawr yn 2019-20. Dywedais ddoe, Lywydd, y buaswn yn defnyddio'r arian canlyniadol llawn o £26 miliwn at y diben hwnnw, a gallaf ddweud heddiw fy mod yn bwriadu rhyddhau £24 miliwn yn uniongyrchol i'r cynllun stryd fawr ei hun ac y byddaf hefyd yn rhoi £2.4 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol i ariannu'r rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn y gallant ei ddarparu.