1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 5 Rhagfyr 2018.
6. Pa newidiadau i ardrethi busnes yng Nghymru y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu eu cyflwyno yn dilyn cyhoeddiad cyllidebol Llywodraeth y DU ynghylch ardrethi busnes yn Lloegr? OAQ53035
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Fel y gŵyr, cyhoeddais ddoe fy mod yn bwriadu gwella ein cynllun rhyddhad ardrethi ar gyfer y stryd fawr yn 2019-20. Dywedais ddoe, Lywydd, y buaswn yn defnyddio'r arian canlyniadol llawn o £26 miliwn at y diben hwnnw, a gallaf ddweud heddiw fy mod yn bwriadu rhyddhau £24 miliwn yn uniongyrchol i'r cynllun stryd fawr ei hun ac y byddaf hefyd yn rhoi £2.4 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol i ariannu'r rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn y gallant ei ddarparu.
Gyda chyhoeddiad Llywodraeth y DU yn y gyllideb yn ôl ym mis Hydref, dywedai'r ffigurau a ddaeth allan o gyhoeddiad cyllidebol Llywodraeth y DU y byddai busnesau yn Lloegr yn derbyn tua £8,000 o ad-daliad ar eu hardrethi busnes hyd at werth ardrethol o £51,000 dros ddwy flynedd. O ystyried y gyfres o gyhoeddiadau rydych newydd eu gwneud, Ysgrifennydd y Cabinet, sydd i'w croesawu—arian ychwanegol yn mynd tuag at ardrethi busnes—pa fanteision diriaethol a deimlir ar ein strydoedd mawr yma yng Nghymru, o gofio mai dydd Sadwrn diwethaf oedd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, a dro ar ôl tro mae gweithredwyr busnesau ar y stryd fawr yn dweud mai ardrethi busnes yw'r maen melin mwyaf o amgylch eu gyddfau rhag gallu ehangu a chyflogi mwy o staff ar y strydoedd mawr hynny?
Lywydd, credaf ei bod hi'n bwysig i mi wneud yn siŵr fod yr Aelodau'n deall, pan archwiliwyd print mân yr hyn a ddywedodd y Canghellor ar 28 Hydref, mae'n ymddangos nad oes cynllun cenedlaethol yn mynd i fod yn Lloegr o gwbl. Yn syml, dim ond arian i awdurdodau lleol ddefnyddio eu pwerau disgresiynol a geir. Ni fydd unrhyw reolau cenedlaethol. Mater i'ch awdurdod lleol fydd defnyddio'r arian y mae'r Canghellor yn ei ddarparu fel y gwelant yn dda. Felly, mae'r ffigurau a ddefnyddiodd y Canghellor yn rhai enghreifftiol ar y gorau ac ni ddylid dibynnu arnynt fel rhai sy'n cynrychioli cynllun y gall busnesau ledled Lloegr ddibynnu arno. Ar y llaw arall, mae gan ein cynllun rhyddhad ar gyfer y stryd fawr gyfres o reolau ar gyfer Cymru gyfan. Mae yna ffordd y bydd busnesau'n gwybod faint yn union y bydd hawl ganddynt ei gael. Ac wrth gwrs, rwy'n cytuno â'r Aelod. Gwerir pob ceiniog a gawn o ganlyniad i'r cyhoeddiad hwnnw ar gynorthwyo busnesau yma yng Nghymru, ond byddwn yn llunio cynllun sy'n cyfateb i faint, dosbarthiad a gwerth y sylfaen drethiant yng Nghymru yn y maes hwn, sy'n wahanol i'r un yn Lloegr, a byddwn yn llunio cynllun sy'n sicrhau'r defnydd mwyaf effeithlon o'r arian.
Rwy'n ymwybodol fod llawer o fusnesau gofal plant yn fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd yn bryderus iawn ynghylch ardrethi busnes. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd pob darparwr gofal plant yn cael eu heithrio rhag talu ardrethi busnes yng Nghymru o fis Ebrill 2019?
Gwnaf, Lywydd. Diolch i Julie Morgan am hynny, oherwydd gallaf gadarnhau yn union hynny—fod ein cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn cael ei ymestyn i ddarparu rhyddhad ardrethi 100 y cant i bob darparwr gofal plant cofrestredig yng Nghymru, a bydd y lefel uwch hon o ryddhad yn dechrau ar 1 Ebrill 2019. Mae'n enghraifft dda iawn o gysoni ein cyfrifoldebau trethiant â'n huchelgeisiau polisi, oherwydd mae gennym uchelgais, wrth gwrs, i ddarparu'r lefel orau o ofal plant i bobl yma yng Nghymru, a bwriad y penderfyniad ynglŷn â rhyddhad ardrethi yw cefnogi'r sector yr ydym yn dibynnu arno i gyflawni ein cynnig gofal plant.