Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Diolch i Darren Millar am y cwestiwn. Roedd y gyllideb ddrafft, a gyhoeddwyd ar 2 Hydref, yn argymell bod cyfraddau Cymreig o dreth incwm yn aros yr un fath â Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2019-20, yn unol ag ymrwymiad maniffesto fy mhlaid i beidio â chodi lefelau treth incwm yn ystod y tymor Cynulliad hwn.