Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymateb hwnnw. Rwyf wedi gwrando'n ofalus arnoch yn ymateb i gwestiynau tebyg hefyd yn ystod y sesiwn gwestiynau hon, a'r hyn na wnaethoch ei nodi oedd beth fyddai eich cynlluniau neu gynlluniau eich plaid y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol nesaf. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi sicrwydd inni ynglŷn â'ch ymrwymiad personol i beidio â chynyddu cyfraddau treth incwm cyn etholiad nesaf y Cynulliad, gan gynnwys yn y blynyddoedd wedi 2019-20.