Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Gwnaf, Lywydd. Diolch i Julie Morgan am hynny, oherwydd gallaf gadarnhau yn union hynny—fod ein cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn cael ei ymestyn i ddarparu rhyddhad ardrethi 100 y cant i bob darparwr gofal plant cofrestredig yng Nghymru, a bydd y lefel uwch hon o ryddhad yn dechrau ar 1 Ebrill 2019. Mae'n enghraifft dda iawn o gysoni ein cyfrifoldebau trethiant â'n huchelgeisiau polisi, oherwydd mae gennym uchelgais, wrth gwrs, i ddarparu'r lefel orau o ofal plant i bobl yma yng Nghymru, a bwriad y penderfyniad ynglŷn â rhyddhad ardrethi yw cefnogi'r sector yr ydym yn dibynnu arno i gyflawni ein cynnig gofal plant.